Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn gwahodd pobl ym Mhowys i sesiwn holi ac ateb ddydd Iau 12 Hydref.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd digwyddiad Cyfarfod Carwyn yn gyfle i bobl yr ardal gyfarfod â’r Prif Weinidog a gofyn cwestiynau iddo am unrhyw fater sy’n effeithio arnyn nhw neu ar eu cymuned.

Cynhelir y sesiwn rhwng 6pm a 7:30pm yn Theatr Brycheiniog yn Aberhonddu (Canal Wharf, Aberhonddu, LD3 7EW).

Mae’r digwyddiadau hyn am ddim, ond anogir pobl i gofrestru eu diddordeb ar-lein drwy ddilyn y ddolen hon: Eventbrite

Mae sawl ffordd o ofyn cwestiwn. Gallwch ei gyflwyno pan fyddwch yn cyrraedd y lleoliad pan fydd y drysau’n agor am 5:30pm; neu gallwch ei anfon ymlaen llaw drwy e-bostio cabinetcommunications@wales.gsi.gov.uk neu drwy Twitter gan ddefnyddio @fmwales a’r hashnod #cyfarfodcarwyn.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones:

“Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, dw i wedi teithio ar hyd a lled Cymru i glywed barn pobl yn eu cymunedau lleol ac i ateb eu cwestiynau.

“Mae’n bleser gen i gyhoeddi y bydd y digwyddiad nesaf yn cael ei gynnal yn Aberhonddu. Dw i eisiau gweld cynifer o bobl â phosibl yn Theatr Brycheiniog. Felly, os oes gennych chi gwestiwn i mi, os ydych eisiau codi ymwybyddiaeth am broblem sy’n effeithio ar eich cymuned, neu os oes gennych syniad fyddai’n gwneud eich ardal leol yn lle gwell i fyw ynddi – dewch draw!

“Rydyn ni wedi cael amrywiaeth eang o bynciau’n codi yn nigwyddiadau’r gorffennol. Cewch ofyn unrhyw beth – o gwestiynau am faterion lleol fel ysgolion neu ysbytai, i gwestiynau am faterion mawr fel Brexit neu bolisïau’r Llywodraeth.

“Dyma’ch cyfle chi i gwrdd â mi a chael sgwrs wyneb yn wyneb. Dw i wir yn edrych ymlaen at gwrdd â phawb ohonoch.”