Neidio i'r prif gynnwy

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn gwahodd pobl Abertawe i sesiwn holi ac ateb, a fydd yn cael ei chynnal ddydd Iau 16 Chwefror yng Ngorseinon.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd digwyddiad Cyfarfod Carwyn yn gyfle i bobl yr ardal gyfarfod â’r Prif Weinidog a gofyn cwestiynau iddo am unrhyw fater sy’n effeithio arnyn nhw neu ar eu cymuned.

Cynhelir y sesiwn rhwng 6pm a 7.30pm yn Ysgol Gyfun Pen yr Heol (Gorseinon, SA4 4FG).

Does dim rhaid talu i ddod i’r digwyddiadau hyn, ond anogir pobl i gofrestru eu diddordeb ar-lein.

Rydym yn derbyn cwestiynau mewn nifer o wahanol ffyrdd – cewch eu cyflwyno pan fyddwch yn cyrraedd (mae’r drysau’n agor am 5.30pm); neu cewch eu hanfon ymlaen llaw drwy e-bost: cabinetcommunications@wales.gsi.gov.uk neu drwy Twitter gan ddefnyddio @fmwales gyda’r hashnod #cyfarfodcarwyn.

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones:

"Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rwy wedi teithio ar hyd a lled y wlad i wrando ar farn cymunedau lleol ac ateb cwestiynau llosg  pobl Cymru.

“Mae’n bleser gen i gyhoeddi y bydd y digwyddiad nesaf yn cael ei gynnal yng Ngorseinon. Rwy’n awyddus i gyfarfod â chynifer o bobl â phosibl, felly os oes gennych chi gwestiwn imi, os ydych chi am godi mater sy’n effeithio ar eich cymuned, neu os oes gennych chi syniad gwych a fyddai’n gwneud eich tref yn lle gwell i fyw, dewch draw!

“Mae amrywiaeth fawr o bynciau wedi codi mewn digwyddiadau yn y gorffennol – o gwestiynau sy’n lleol iawn eu naws i rai am bolisïau ehangach y Llywodraeth.

“Dyma’ch cyfle i gael sgwrs â mi wyneb yn wyneb. Rwy’n edrych ymlaen at gyfarfod â chi bob un.”