Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn gwahodd pobl Bro Morgannwg i sesiwn holi ac ateb ddydd Llun 3 Ebrill yn y Barri.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd digwyddiad Cyfarfod Carwyn yn gyfle i bobl yr ardal gyfarfod â’r Prif Weinidog a gofyn cwestiynau iddo am unrhyw fater sy’n effeithio arnyn nhw neu ar eu cymuned.

Cynhelir y sesiwn rhwng 6pm a 7:30pm yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Memo [Heol Gladstone, y Barri, CF62 8NA].

Mae’r digwyddiadau hyn am ddim, ond anogir pobl i gofrestru eu diddordeb ar-lein drwy ddilyn y ddolen hon: https://www.eventbrite.co.uk/e/cyfarfod-carwyn-carwyn-connect-tickets-29821069622  

Mae sawl ffordd o ofyn cwestiwn. Gallwch ei gyflwyno pan fyddwch yn cyrraedd y lleoliad pan fydd y drysau’n agor am 5:30pm; neu gallwch ei anfon ymlaen llaw drwy e-bostio cabinetcommunications@cymru.gsi.gov.uk neu drwy Twitter gan ddefnyddio @fmwales a’r hashnod #cyfarfodcarwyn.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones:

“Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydw i wedi teithio ar hyd a lled Cymru i glywed barn pobl yn eu cymunedau lleol ac i ateb y cwestiynau y maen nhw’n ysu am eu gofyn.

“Rwy’ eisiau gweld cynifer o bobl â phosibl yn dod i’r cyfarfod yn y Barri. Felly, os oes gennych chi gwestiwn i mi, os ydych eisiau codi ymwybyddiaeth am broblem sy’n effeithio ar eich cymuned, neu os oes gennych syniad fyddai’n gwneud eich ardal leol yn lle gwell i fyw ynddi – dewch draw!

“Ry’n ni wastad yn trafod amrywiaeth o gwestiynau yn y digwyddiadau hyn, o gwstiynau am faterion lleol i drafodaethau am bolisïau’r Llywodraeth.  

“Dyma’ch cyfle chi i gwrdd â mi a chael sgwrs wyneb yn wyneb. Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â phob un ohonoch.”