Neidio i'r prif gynnwy

Eitem 1 ar yr Agenda: croeso/sylwadau agoriadol

  1. Rhoddodd y Prif Weinidog ei chroeso i’r rhai a oedd yn bresennol yn chweched cyfarfod y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol. Rhoddodd drosolwg o’r agenda, gan gadarnhau y byddai’n gadael ar ôl eitem 2 ac mai’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol fyddai’n cadeirio gweddill y cyfarfod. 

Eitem 2 ar yr Agenda: ymgynghoriad ar flaenoriaethau deddfwriaethol Gweinidogion Cymru

  1. Diben yr eitem hon oedd trafod blaenoriaethau deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer gweddill tymor y Senedd, ac i gasglu barn aelodau’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol am ddeddfwriaeth bosibl yn y dyfodol. Gan nad oedd yr wybodaeth a roddwyd i’r aelodau yn gyhoeddus, ni ellid ei datgelu.
     
  2. Rhoddodd y Prif Weinidog amlinelliad o sefyllfa’r rhaglen ddeddfwriaethol o ystyried tymor presennol y Senedd, ac o bwysigrwydd ymgysylltu â phartneriaid cymdeithasol yn y broses hon. Gofynnodd i Charlie Thomas, Pennaeth Is-adran Deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, am ragor o wybodaeth am y Biliau nad oeddent, hyd yma, wedi’u cyflwyno gerbron y Senedd, a’r disgwyliadau o ran pryd y cânt eu cyflwyno.
     
  3. Cyfeiriodd Charlie Thomas (Llywodraeth Cymru) at yr ymgynghoriad blaenorol a gynhaliwyd gyda’r aelodau yng nghyfarfod y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ar 4 Mehefin 2024. Rhoddodd Charlie amlinelliad o ba Filiau sydd i’w cyflwyno gerbron y Senedd yn y misoedd i ddod, gan egluro pryd y cânt eu cyflwyno ynghyd â phryd y bydd Datganiad Deddfwriaethol blynyddol y Prif Weinidog. Wedi diweddariad Charlie, mynegodd aelodau eu barn ynghylch y rhaglen ddeddfwriaethol. Byddai’r sylwadau a gafwyd yn cael eu rhoi i’r Gweinidogion perthnasol, ond oherwydd natur gyfrinachol y drafodaeth, cytunwyd na ddylid eu cynnwys yn y cofnodion.
     
  4. Dywedodd y Prif Weinidog pryd y byddai gwaith ymgysylltu â’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ar flaenoriaethau deddfwriaethol yn digwydd yn y dyfodol. Gofynnodd i’r aelodau ddweud wrth Ysgrifenyddiaeth y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol os oedd ganddynt unrhyw syniadau am filiau technegol a oedd yn debygol o ennyn cefnogaeth drawsbleidiol ar ôl diwedd tymor presennol y Senedd. 

Cam Gweithredu: Rhoi papur ysgrifenedig cyfrinachol i’r aelodau ynghylch y rhaglen ddeddfwriaethol.

Cam Gweithredu: Yr aelodau i ddweud wrth Ysgrifenyddiaeth y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol os oes ganddynt syniadau am filiau technegol sy’n debygol o ennyn cefnogaeth drawsbleidiol y gellid eu cynnig i’w trafod yn y dyfodol ar ôl tymor presennol y Senedd. 

Eitem 3 ar yr Agenda: Adroddiad Blynyddol Drafft Partneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru

  1. Ar ôl ymadawiad y Prif Weinidog, cadeiriwyd y cyfarfod gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, a chroesawodd y cadeirydd Sian Boyles (PCS) a Russell Greenslade (CBI) i’w cyfarfod Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol cyntaf, a hwythau wedi cymryd lleoedd Darren Williams ac Ian Price, yn y drefn honno.
     
  2. Eglurodd y Gweinidog mai diben yr eitem hon oedd i gael y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol i gytuno ar Adroddiad Blynyddol Drafft Gweinidogion Cymru sy’n dangos sut y cydymffurfiodd y Cabinet â’r ddyletswydd a roddwyd ar Weinidogion dan Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) ar gyfer 2024–25. Atgoffodd yr aelodau eu bod eisoes wedi cytuno y dylid ymgynghori â hwy bob blwyddyn ar y tri dull cyffredinol o gyflawni’r Rhaglen Lywodraethu yn strategol, sef: yr adolygiad o amcanion Llesiant, y rhaglen ddeddfwriaethol, a’r blaenoriaethau cyllidebol. Dywedodd y Gweinidog, os cytunai’r aelodau ar yr adroddiad, y byddai’r Ysgrifenyddiaeth yn gwneud y trefniadau angenrheidiol i’w gyhoeddi a’i gyflwyno gerbron y Senedd.  
     
  3. Roedd Helen Whyley (RCN Wales) o’r farn bod cyfnod amser yr adroddiad yn aneglur, ac nad oedd digon o wybodaeth wedi’i gynnwys ar gyfer y tri dull cyffredinol yr oedd yr adroddiad yn cyfeirio atynt. Gofynnodd Helen am i farn aelodau gael ei chynnwys mewn mwy o fanylder, er mwyn i’r adroddiad fod yn fwy cynhwysfawr. Roedd hi hefyd o’r farn bod angen mwy o eglurder o gylch y broses ymgynghori gyffredinol ar gyfer ymgysylltu â’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol.
     
  4. Roedd Shavanah Taj (TUC Cymru) yn croesawu lefel gyffredinol yr ymgynghori a gafwyd, ond eiliodd gais Helen Whyley am gael rhagor o fanylion yn yr adroddiad. Pwysleisiodd Shavanah hefyd pa mor bwysig ydoedd i gefnogi amser cyfleuster ar draws y cyrff cyhoeddus, er mwyn i gynrychiolwyr undebau llafur gael cyfle i ystyried goblygiadau’r Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol yn llawn wrth iddynt drafod â chyflogwyr.  
     
  5. Dywedodd Sian Boyles (PCS) ei bod hi’n croesawu lefel y gwaith ymgynghori a wnaeth y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol, ond cyfeiriodd hefyd at y prosesau ymgysylltu gwael a oedd ar waith gyda rhai cyflogwyr datganoledig.
     
  6. Soniodd Ben Cottam (Busnes) am yr angen i sicrhau bod lefel manylder yr adroddiad yn gywir, gan y gallai mwy o fanylder olygu mwy o waith craffu. Gallai hynny wedyn rwystro aelodau rhag gallu mynegi eu hunain yn rhydd, yn enwedig ar faterion cyfrinachol. Hefyd, dywedodd Ben y gallai gorfanylder lethu darllenwyr adroddiadau.  
     
  7. Fe wnaeth y Gweinidog gydnabod y sylwadau a wnaed gan yr aelodau am yr adroddiad drafft, a dywedodd y byddai’r swyddogion yn eu hystyried cyn cyflwyno fersiwn ddiwygiedig iddynt gytuno arni cyn cyfarfod nesaf y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol. Eglurodd ei fod wedi anfon llythyr at bob corff cyhoeddus a oedd yn pwysleisio pwysigrwydd amser cyfleuster undebau llafur, ac y byddai copi o’r llythyr hwn yn cael ei roi i’r aelodau.
     
  8. Cafwyd egwyl fer o 10 munud ar ôl yr eitem hon.

Cam Gweithredu: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol i rannu Adroddiad Blynyddol diwygiedig Gweinidogion Cymru i’r aelodau gytuno arno cyn cyfarfod nesaf y Cyngor.

Cam Gweithredu: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol i rannu copïau o lythyr y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol i gyrff cyhoeddus, gan bwysleisio pwysigrwydd amser cyfleuster undebau llafur i’r aelodau. 

Eitem Agenda 4: Y Newid Sgiliau, Paratoi ar gyfer Economi sy'n cael ei Gyrru gan Ddeallusrwydd Artiffisial

  1. Eglurodd y Gweinidog y byddai gwella sgiliau a rhoi sgiliau newydd i’r gweithlu yn hollbwysig wrth fynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd a achosir gan Ddeallusrwydd Artiffisial (AI). Dywedodd fod y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn cefnogi sector cyhoeddus Cymru i fabwysiadu AI mewn ffordd gyfrifol, ac y byddai ei Grŵp Llywio yn galluogi gweithwyr y gwasanaethau cyhoeddus i drafod y buddion, y peryglon, a’r heriau y mae’n eu hachosi. Cadarnhaodd y Gweinidog fod Llywodraeth Cymru eisoes yn ymateb i effeithiau posibl AI mewn nifer o ffyrdd. Roedd hyn yn cynnwys creu elfen sgiliau digidol o fewn y Rhaglen Sgiliau Hyblyg hirsefydlog, a hynny er mwyn cefnogi cyflogwyr i wella sgiliau eu staff er mwyn bodloni anghenion economaidd y dyfodol.  
     
  2. Dywedodd y Gweinidog y byddai’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ymgysylltu â chyflogwyr ac â darparwyr addysg a hyfforddiant, a hynny er mwyn nodi pa anghenion sgiliau sy’n dod i’r amlwg. Rhoddodd grynodeb o weithgarwch y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol ynghylch AI yng ngorllewin Cymru, gan ychwanegu y byddai darparwyr addysg sy’n cael nawdd gan Lywodraeth Cymru yn mynd ati i ystyried sut gallai’r dechnoleg hon newid y modd y mae sgiliau’n cael eu datblygu. Estynnodd wahoddiad i aelodau roi eu barn ynghylch a ddylai’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol edrych ar alluoedd sgiliau mewn perthynas ag AI, a sut y gellid bwrw ymlaen â’r gwaith hwn. Fe wnaeth y Gweinidog wahodd Ruth Brady, cadeirydd cyn-Grŵp Llywio AI Cyngor Partneriaeth y Gweithlu, i agor y drafodaeth trwy sôn am ei phrofiadau.
     
  3. Roedd Ruth Brady (GMB) yn gefnogol o’r papur ac o’r sylw a roddai i ddatblygu sgiliau AI ar gyfer y gweithlu, a dywedodd y byddai’n falch o weld yr undebau llafur yn gwneud mwy gyda’r gwaith hwn. Pwysleisiodd Ruth pa mor bwysig ydoedd i ddeall peryglon AI, gan gynnwys y camddefnydd o dechnoleg algorithmig mewn swyddi ansefydlog, cyflog isel, megis gofal cymdeithasol.
     
  4. Roedd Jess Turner yn cefnogi sylwadau Ruth, a phwysleisiodd yr angen i ddatblygu ffordd Gymreig o ddefnyddio AI yn foesegol, a hynny gan gydnabod y manteision y mae’r dechnoleg yn eu cynnig. Cytunodd Jess ei bod yn bwysig canolbwyntio ar wella sgiliau’r gweithlu, ond roedd yn bryderus ynghylch cyflymder datblygiad AI a’r ffaith ei fod eisoes yn peryglu swyddi. Dywedodd fod y rhan fwyaf o feddalwedd AI yn cael ei ddatblygu gan gwmnïau preifat, a bod grymoedd y farchnad o’r herwydd yn effeithio ar wasanaethau cyhoeddus. Er mwyn mynd i’r afael â hyn, amlygodd Jess y ffaith fod angen i’r sector cyhoeddus ddatblygu ei arbenigedd AI ei hun, a hynny er mwyn gwella dealltwriaeth sefydliadau o’r dechnoleg sydd ar gael iddynt.  
     
  5. Roedd Wendy Larner (Addysg Uwch) yn cytuno â’r heriau y soniwyd amdanynt, yn ogystal â’r angen i Gymru ddatblygu ei dull ei hun o ymdrin ag AI. Eglurodd Wendy fod AI yn rhan o gwricwla prifysgolion ar draws llu o wahanol bynciau, ac roedd hi’n cefnogi’r angen i gryfhau addysg ar sgiliau AI. Fe wnaeth hi dynnu sylw at y pwysau cyllidebol sydd yn ei sector hi ar hyn o bryd a allai gael effaith ar yr uchelgais hwn.
     
  6. Pwysleisiodd Gareth Lloyd (UCU) bwysigrwydd sicrhau mai’r egwyddor sy’n llywio’r defnydd o AI yw y byddai’n helpu i reoli llwythi gwaith heb gwtogi ar y gweithlu. Dywedodd Gareth fod rhai enghreifftiau da eisoes o weithio mewn partneriaeth gymdeithasol i’w gweld yn y maes, ond pwysleisiodd yr angen i sectorau ddatblygu eu harbenigedd eu hunain er mwyn sicrhau bod y defnydd o AI yn foesegol.  
     
  7. Dywedodd Neil Butler (NASUWT), mewn ymateb i gwestiwn a ofynnwyd yn y papur ar gyfer yr eitem hon, bod gwaith NASUWT ei hun wedi datgelu bod dros 70% o athrawon cyfrifiadureg ysgolion uwchradd o’r farn nad oedd digon o gapasiti nac arbenigedd i addasu i dechnoleg AI, a bod y ffigwr yn cynyddu’n sylweddol ar gyfer y rhai sydd ddim yn arbenigo yn y maes. Roedd yn teimlo nad oedd unrhyw gydweithio’n digwydd ar hyn o bryd i ystyried y mater hwn, a thynnodd sylw at bryderon ychwanegol ynghylch capasiti/arbenigedd ar lefel ysgolion cynradd.  
     
  8. Cyfeiriodd Ben Cottam at ddiffyg sylweddol o ran sgiliau AI o fewn Busnesau Bach a Chanolig (BBaCh) ledled Cymru. Eglurodd Ben fod BBaCh yn ceisio defnyddio AI mewn ffyrdd dyfeisgar, ond oherwydd y cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol, roedd rhai yn ystyried defnyddio’r dechnoleg i gwtogi ar niferoedd staff, ac roedd y duedd honno’n peri pryder. Amlinellodd yr amrywiaeth o waith sy’n cael ei wneud ar draws y DU i ystyried AI, a’r angen i’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol sicrhau ei fod yn ychwanegu gwerth at y gwaith hwn heb ddyblygu gwaith.  
     
  9. Roedd Russell Greenslade (Busnes) yn cydnabod y pryderon moesegol ynghylch y defnydd o AI, ond eglurodd fod llawer o’i aelodau’n canfod ffyrdd dyfeisgar o ddefnyddio’r dechnoleg hon a lliniaru ei heffeithiau negyddol ar yr un pryd. Cyfeiriodd Russell at arolwg diweddar a wnaed gan y CBI a ganfu bod busnesau mwy yn llwyddo i integreiddio AI i’w gweithrediadau ac yn croesawu mwy o gyfranogiad yn y gwaith hwn.
     
  10. Eglurodd Janis Richards (Busnes) fod gweithgynhyrchwyr yn ystyried gwahanol oblygiadau’r defnydd o AI ac o awtomeiddio. Rhoddodd Janis sylw i’r holl ffactorau sy’n gyrru datblygiad AI, a pha mor bwysig ydyw i geisio lliniaru unrhyw effeithiau negyddol ar gyflogaeth.  
     
  11. Pwysleisiodd Wendy Larner bwysigrwydd datblygu gwaith ar asesiadau o sgiliau AI, a chynigiodd gysylltu ag aelodau y tu allan i’r cyfarfod er mwyn trafod hyn ymhellach.
     
  12. Dywedodd Shavanah Taj ei bod hi’n bwysig gwneud gwaith cydraddoldeb wrth ddatblygu dull moesegol o ddefnyddio AI, a bod angen deall goblygiadau’r dechnoleg hon ar grwpiau penodol sy’n tueddu i weithio mewn swyddi sy’n fwy bregus.
     
  13. Cadarnhaodd y Gweinidog y byddai Ysgrifenyddiaeth y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol yn parhau â’r opsiynau a amlinellwyd yn y papur ar gyfer yr eitem hon ar fyrder, gan bwysleisio pa mor bwysig ydoedd i osgoi dyblygu gwaith fforymau eraill. Estynnodd wahoddiad i Glyn Jones, Prif Swyddog Digidol Llywodraeth Cymru, rannu rhai sylwadau i gloi.
     
  14. Rhoddodd Glyn Jones (Llywodraeth Cymru) ei ddiolchiadau i’r aelodau am eu cyngor, ac roedd yn cytuno y dylid datblygu opsiynau’r papur ar frys, rhag i Gymru fod ar ei hôl hi o ran datblygu ei dull penodol ei hun o ymdrin ag AI. Roedd Glyn yn edrych ymlaen at wneud gwaith pellach gyda’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol yn hyn o beth.

Cam Gweithredu: Swyddogion Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â'r gwaith pellach ar AI a awgrymwyd yn y papur (SPC06-04), a hynny gan ystyried barn yr aelodau.

Eitem 5 ar yr Agenda: Diweddariad ar y Gweithgor ar Grantiau Gwaith Teg mewn Busnes

  1. Eglurodd y Gweinidog fod cyfarfod cychwynnol y Gweithgor ar Grantiau Gwaith Teg mewn Busnes (a oedd wedi’i drefnu ar gyfer 25 Chwefror) wedi’i ohirio oherwydd diffyg cworwm, a’u bod yn ceisio trefnu dyddiad arall ar ei gyfer. Nododd fod y mater hwn wedi denu sylw y tu allan i’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol, gan gynnwys gan Bwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd. Gofynnodd y Gweinidog i gyd-gadeiryddion y Gweithgor, Ben Cottam a Peter Hughes, roi’r newyddion diweddaraf i’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol.
     
  2. Rhoddodd Ben Cottam ei ddiolch i’r aelodau hynny a wirfoddolodd i ymuno â’r Gweithgor, a chadarnhaodd fod dyddiad newydd yn cael ei drefnu ar gyfer y cyfarfod cychwynnol. Eglurodd Ben mai’r bwriad oedd sefydlu cylch o chwe chyfarfod hyd at yr haf. Ychwanegodd fod y Grŵp yn bwriadu cwrdd â Thîm Gwerthuso Contractau Economaidd Llywodraeth Cymru ac â Llywodraeth yr Alban er mwyn trafod eu gwaith ar amodau grant.
     
  3. Eglurodd Peter Hughes mai diffyg cworwm oedd y rheswm pam na chyfarfu’r Gweithgor, a dywedodd fod gwaith bellach yn cael ei baratoi er mwyn caniatáu i waith ddigwydd ar fyrder pan fydd y cyfarfod wedi cael ei alw.  

Cam Gweithredu: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol i gael diweddariad pellach gan y Grŵp Grantiau Gwaith Teg mewn Busnes i’w rannu yng nghyfarfod nesaf y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol.

Eitem 6 ar yr Agenda: Partneriaeth Gymdeithasol mewn Addysg Bellach ac Uwch

  1. Cadarnhaodd y Gweinidog fod y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch a James Owen, Prif Swyddog Gweithredu Medr, yn bresennol er mwyn rhoi’r newyddion diweddaraf ynghylch gwaith partneriaeth gymdeithasol ym maes Addysg Uwch ac Addysg Bellach. Eglurodd y byddai’r eitem hon yn gyfle i drafod heriau ar lefel y sector, a gofynnodd i aelodau beidio â thrafod materion penodol a oedd yn ymwneud â sefydliadau unigol. Yna estynnodd wahoddiad i’r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch siarad.
     
  2. Dywedodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ei bod yn awyddus i drafod sut gellid sefydlu diwylliant o bartneriaeth gymdeithasol gynaliadwy o fewn Addysg Uwch ac Addysg Bellach. Cadarnhaodd y Gweinidog fod TUC Cymru wedi ysgrifennu ati ar y mater hwn, a’i bod yn falch o gael cyfle i drafod hyn gyda’r Cyngor. Rhoddodd amlinelliad o’r cynnydd a wnaed o ran datblygu partneriaeth gymdeithasol o fewn Addysg Bellach, gan egluro bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn cydweithio’n agos â Chyd-undebau Llafur ac â cholegau er mwyn cefnogi datblygiad gwirfoddol dulliau partneriaeth gymdeithasol.
     
  3. Cyfeiriodd y Gweinidog at bwysigrwydd partneriaethau cymdeithasol ar lefel leol, a’u bod yn sylfeini cadarn ar gyfer mynd i’r afael â heriau traws-sector a hefyd wedi bod yn gymorth wrth osgoi gweithredu diwydiannol. Eglurodd ei bod, ar 18 Chwefror, wedi rhestru’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi Addysg Uwch ac i hyrwyddo uchelgeisiau’r llywodraeth ar gyfer dysgwyr. Dywedodd y Gweinidog fod llythyr diweddar TUC Cymru ati yn dweud eu bod yn cydnabod bod y sector Addysg Uwch yn hanfodol i bob rhan o’r gwasanaethau cyhoeddus ac i’r economi yn ehangach, pwynt yr oedd hi hefyd wedi’i wneud yn ei Datganiad Ysgrifenedig diweddar i’r Senedd.
     
  4. Cadarnhaodd y Gweinidog ei bod wedi cwrdd ag Is-gangellorion, â Phrifysgolion Cymru, ac â’r undebau llafur yn ystod yr wythnosau diwethaf, gan bwysleisio ei disgwyliadau y byddent yn gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol i archwilio'r holl opsiynau cyn ystyried diswyddiadau gorfodol. Pwysleisiodd y Gweinidog bwysigrwydd cael 'Ffordd Gymreig' o weithio tuag at bartneriaeth gymdeithasol wirioneddol, a hynny o fewn ac ar draws lleoliadau addysg drydyddol. Yna, gwahoddodd James Owen i siarad am rôl Medr o ran annog cydweithrediad, cyfranogiad a phartneriaeth gymdeithasol mewn Addysg Uwch ac Addysg Bellach.
     
  5. Eglurodd James Owen (Medr) fod y sefydliad wedi dod yn weithredol y llynedd, gan etifeddu swyddogaethau sy’n ymwneud ag Addysg Uwch ac Addysg Bellach gan Lywodraeth Cymru a chan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Eglurodd James fod prif swyddogaeth Medr yn ymwneud â chyllido a rheoleiddio’r sectorau Addysg Bellach/Addysg Uwch ac ymchwil yng Nghymru. Dywedodd fod Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 wedi rhoi partneriaeth gymdeithasol wrth wraidd gweithrediadau Medr ac wedi dylanwadu ar ddatblygiad cynllun strategol eu sefydliad. Dywedodd James hefyd fod y Cynllun yn cydnabod y dyletswyddau a grëwyd gan Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.
     
  6. Amlinellodd James fanteision ehangach sefydliadau Addysg Uwch/Addysg Bellach i gymunedau lleol, y tu hwnt i greu swyddi, gan fyfyrio ar yr ymdeimlad o genhadaeth ddinesig sydd ganddynt. Siaradodd am sut y mae Medr yn cydweithio’n agos â hwy ar eu cynlluniau ariannol, a hynny er mwyn sicrhau cynaliadwyedd dros y tymor hwy, ac ar y camau lliniaru sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r pwysau sydd ar y sector ar hyn o bryd. Pwysleisiodd James y disgwyliad sydd ar ddarparwyr Addysg Uwch/Addysg Bellach i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol ag undebau llafur er mwyn rheoli newid, a rhoddodd amlinelliad o’r pecyn cymorth sy’n cael ei ddatblygu i’w cefnogi.
     
  7. Dywedodd Gareth Lloyd fod y berthynas rhwng undebau llafur a sefydliadau Addysg Uwch/Addysg Bellach yn well yn sgil sefydlu Medr. Roedd Gareth yn cydnabod pwysigrwydd y cyllid ychwanegol a roddwyd i Addysg Uwch/Addysg Bellach gan Lywodraeth Cymru, ond cyfeiriodd at yr ymgyrch barhaus i lobïo Llywodraeth y DU ar newidiadau i'w model cyllido presennol. Pwysleisiodd fod angen cydweithrediad rhwng addysg orfodol a thrydyddol er mwyn llenwi bylchau yn y ddarpariaeth, a dywedodd fod ar y sector Addysg Uwch/Addysg Bellach angen ysbaid i ystyried yr heriau yr oedd yn eu hwynebu. I gefnogi hyn, gofynnodd Gareth i bob prifysgol ymrwymo i beidio â gwneud diswyddiadau gorfodol yn y flwyddyn academaidd bresennol nac yn yr un nesaf, a gofynnodd i’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol gyhoeddi datganiad cadarn i’r perwyl hwnnw, gan bwysleisio pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol.
     
  8. Dywedodd Helen Whyley nad oedd y cysyniad hwnnw o genhadaeth ddinesig y cyfeiriodd James Owen ato wastad yn trosi’n llwyr i ddulliau gweithio o fewn Addysg Uwch/Addysg Bellach. Roedd Helen yn cefnogi’r galw am ddatganiad, ond credai y gallai Llywodraeth Cymru fynd ymhellach trwy osod amod grant ar brifysgolion ac ar ddarparwyr hyfforddiant eraill sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt ymgysylltu ag undebau llafur.
     
  9. Pwysleisiodd Wendy Larner fod sefydliadau Addysg Uwch yn ystyried yr holl opsiynau er mwyn osgoi unrhyw ddiswyddiadau gorfodol, ond atgoffodd yr aelodau mai sefydliadau ymreolaethol ydynt sy’n atebol i’w cynghorau eu hunain am y penderfyniadau a wnânt. Roedd hi’n croesawu gwaith Medr i ddatblygu partneriaeth gymdeithasol a fyddai’n galluogi pob parti i gydweithio mewn ffyrdd adeiladol.
     
  10. Tynnodd Sian Boyles sylw at y berthynas dda rhwng PCS a Medr, ond mynegodd ei phryder fod cyfyngiadau cyllid wedi golygu bod llai o gyrsiau yn cael eu cynnig, a'r effaith y gallai hyn ei chael ar fyfyrwyr.
     
  11. Dywedodd Russell Greenslade mai dim ond yn hwyr y diwrnod cynt y gwelodd lythyr TUC Cymru, ac nad oedd wedi cael cyfle i roi ystyriaeth fanwl iddo o’r herwydd.
     
  12. Roedd Jess Turner yn cytuno y dylai’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol gyhoeddi datganiad cadarn ynghylch Addysg Uwch/Addysg Bellach, a phwysleisiodd pa mor bwysig oedd hi i flaenoriaethu’r rhai o fewn y sector sydd mewn swyddi mwy bregus, megis staff cynorthwyol.
     
  13. Roedd Shavanah Taj yn gefnogol o gael datganiad yn galw am ddim diswyddiadau gorfodol. Cyfeiriodd at bwysigrwydd Addysg Uwch/Addysg Bellach er mwyn cyflawni Strategaeth Ddiwydiannol Cymru, ac at yr angen i’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol fod yn fan lle gall y materion traws-sector pwysicaf gael eu trafod er mwyn gwneud newid gwirioneddol.
     
  14. Roedd Ben Cottam yn rhannu’r un pryderon â’r aelodau eraill o ran yr heriau sy’n wynebu Addysg Uwch/Addysg Bellach. Eglurodd Ben nad y sector hwn oedd prif ganolbwynt sylw FSB, ac felly nid oeddent yn deall digon ar resymeg sefydliadau penodol dros wneud penderfyniadau ailstrwythuro. Oherwydd hyn, nid oedd yn credu y gallai’r FSB, ar hyn o bryd, gytuno y dylid gwneud datganiad a fyddai’n cefnogi galwadau am ddim diswyddiadau gorfodol o fewn Addysg Bellach/Addysg Uwch.  
     
  15. Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol fod cytundeb cyffredinol ar bwysigrwydd partneriaeth gymdeithasol wedi bod yn y cyfarfod hwn, ond pwysleisiodd y byddai angen cytundeb pob aelod cyn i’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol allu cyhoeddi datganiad.
     
  16. Roedd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch yn cydnabod pwysigrwydd gwaith yr undebau llafur i lobïo Llywodraeth y DU ar newidiadau i’r model cyllido Addysg Bellach/Addysg Uwch. Fe wnaeth y Gweinidog hefyd egluro ei bod hi mewn trafodaethau â’i Gweinidog cyfatebol yn Llywodraeth y DU er mwyn cyfrannu safbwyntiau ar gyfer eu hadolygiad o drefniadau cyllido’r sector Addysg Uwch/Addysg Bellach. Pwysleisiodd pa mor bwysig oedd y sector yn economaidd, a chyfeiriodd at yr angen i gynyddu’r niferoedd sy’n cyfranogi. Dywedodd y Gweinidog fod adroddiadau diweddar y wasg ar ddiswyddiadau yn tueddu i ganolbwyntio ar academyddion, ond roedd hi’n cydnabod rôl hanfodol staff cynorthwyol o fewn sefydliadau Addysg Bellach/Addysg Uwch.
     
  17. Roedd y Gweinidog yn cydnabod y galw am ddatganiad i gefnogi dim diswyddiadau gorfodol, ond pwysleisiodd fod sefydliadau Addysg Uwch/Addysg Bellach yn ymreolaethol. Eglurodd mai dim ond 10% o’u cyllid blynyddol a roddir gan Lywodraeth Cymru, a bod hynny’n cyfyngu ar eu gallu i ddylanwadu ar eu penderfyniadau ailstrwythuro. Eglurodd y Gweinidog fod y cyllid ychwanegol a roddwyd i Addysg Bellach/Addysg Uwch wedi deillio o danwariant ar draws adrannau’r llywodraeth, a bod y Cabinet wedi cytuno y byddai hyn yn cael ei roi fel cyllid cyfalaf. Dywedodd ei bod yn anodd, felly, i’r arian hwn gael ei ddefnyddio i dalu am gostau staffio gan mai ei ddiben oedd talu am gynnal a chadw ac am wella’r seilwaith digidol.  
     
  18. Cadarnhaodd y Gweinidog ei bod wedi gofyn i Medr ddadansoddi sut yr oedd rhaglenni Llywodraeth Cymru ar gyfer Addysg Uwch/Addysg Bellach yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus a’r cysyniad o genhadaeth ddinesig. Pwysleisiodd pa mor bwysig oedd tegwch yn y ddarpariaeth o gyrsiau, a rhoddodd amlinelliad o’r gwaith yr oedd hi’n ei wneud i sicrhau bod y model cyllido presennol yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd orau i hyrwyddo cyrsiau galwedigaethol yn y sector cyhoeddus. Nododd y Gweinidog fod yr Is-gangellorion yn gweithio’n galed i osgoi unrhyw ddiswyddo gorfodol, a bod y gwersi a ddysgir yn y sefyllfa hon yn cael eu cofnodi.
     
  19. Eglurodd y Gweinidog fod Medr yn edrych ar fylchau yn y ddarpariaeth o gyrsiau ar draws Cymru, a hynny er mwyn sicrhau y gall staff addysgu ar draws sawl sefydliad a pharhau i ddarparu ystod amrywiol o bynciau i ddisgyblion. Roedd hi’n cydnabod pa mor bwysig oedd prifysgolion yn y gwaith o gyflawni Strategaeth Ddiwydiannol Cymru, yn ogystal â’r rhan y mae Addysg Bellach/Addysg Uwch yn ei chwarae yn yr economïau cenedlaethol a rhanbarthol. Cadarnhaodd y Gweinidog y byddai hi’n cwrdd ag ysgolion busnes er mwyn helpu i hyrwyddo eu gwaith ac er mwyn creu dull cynaliadwy o gefnogi’r strategaeth.
     
  20. Cadarnhaodd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol y byddai Ysgrifenyddiaeth y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol yn paratoi drafft cyntaf o ddatganiad yn tynnu sylw at bwysigrwydd partneriaeth gymdeithasol o fewn Addysg Uwch/Addysg Bellach er mwyn i’r Cyngor gael ei ystyried.

Cam Gweithredu: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol i ddarparu drafft o ddatganiad gan y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ar bwysigrwydd partneriaeth gymdeithasol yn y sector Addysg Uwch/Addysg Bellach er mwyn i’r aelodau gael ei ystyried. Byddai’n rhaid i’r holl aelodau gytuno arno cyn y gellid ei fabwysiadu. 

Eitem 7 ar yr Agenda: cofnodion/camau gweithredu sy’n codi

  1. Dywedodd y Gweinidog bod saith o gamau gweithredu a gododd o gyfarfodydd blaenorol y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol yn dal i fynd rhagddynt, a rhoddodd amlinelliad ohonynt. Gofynnodd a oedd yr aelodau yn fodlon cytuno arnynt.
     
  2. Roedd Jess Turner o’r farn y gallai’r Bil Hawliau Cyflogaeth fod wedi’i gynnwys ar yr agenda er mwyn cael trafodaeth ffurfiol ar y mater, yn hytrach na’i gynnwys fel papur i’w nodi. Roedd Shavanah Taj yn cefnogi hyn.
     
  3. Cadarnhaodd y Gweinidog y byddai’n cael ei roi ar agenda cyfarfod nesaf y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol.

Cam Gweithredu: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol i sicrhau bod y Bil Hawliau Cyflogaeth ar agenda cyfarfod nesaf y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol.

 

Eitem 8 ar yr Agenda: Materion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sy'n Codi

  1. Dywedodd y Gweinidog fod cytundeb blaenorol y byddai’r aelodau yn cael cyfle i godi unrhyw faterion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yng nghyfarfodydd y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol os nad oeddent wedi’u cwmpasu eisoes o dan eitemau eraill. Gofynnodd i’r aelodau a oedd ganddynt unrhyw faterion i’w codi.
     
  2. Dywedodd Shavanah nad mater Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant penodol oedd ganddi, ond ei bod yn pryderu ynghylch cyhoeddiadau diweddar am fwriad Llywodraeth y DU i leihau maint y Gwasanaeth Sifil. Er y cafwyd gwarant na fyddai yna unrhyw ddiswyddo gorfodol, pwysleisiodd berygl colli pobl werthfawr yn sgil y broses hon.
     
  3. Roedd Sian Boyles, ar ran PCS, yn cefnogi sylwadau Shavanah.

Eitem 9 ar yr Agenda: Y cyfarfod nesaf, dyddiad a lleoliad

  1. Fe wnaeth y Gweinidog atgoffa’r aelodau mai cyfarfod ar-lein fyddai cyfarfod nesaf y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol, ac y byddai’n cael ei gynnal ar 4 Mehefin. Eglurodd y byddai’r Ysgrifenyddiaeth yn ceisio barn yr aelodau ar y lleoliadau gorau i gynnal cyfarfod mis Medi’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol.

Presenoldeb Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol: 12 Mawrth 2025

Llywodraeth Cymru

Eluned Morgan AS, Prif Weinidog
Jack Sargeant AS, Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol
Vikki Howells AS, Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch
Charlie Thomas, Yr Is-adran Deddfwriaeth
Zenny Saunders, Is-adran Profiad Dysgwyr
Jo Salway, Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg
Glyn Jones, Prif Swyddog Digidol

Cynrychiolwyr Gweithwyr 

Ruth Brady, GMB
Neil Butler, NASUWT
Gareth Lloyd, UCU
Shavanah Taj, TUC Cymru  
Jess Turner, UNISON
Helen Whyley, RCN Wales
Peter Hughes, Unite
Sian Boyles, PCS

Cynrychiolwyr Cyflogwyr 

Pippa Britton, Sector Gwirfoddol
Y Fonesig Elan Closs-Stephens, Cyrff Cyhoeddus
Nicola Prygodzicz, Iechyd
Kathryn Robson, Addysg Bellach
Janis Richards, Busnes
Ben Cottam, Busnes 
Yr Athro Wendy Larner, Addysg Uwch
Russell Greenslade, Busnes

Siaradwr Gwadd

James Owen, Prif Swyddog Gweithredu, Medr