Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarfod 7: 4 Mehefin 2025

Eitem 10 ar yr agenda: dyddiad a lleoliad y cyfarfod nesaf

Ysgrifenyddiaeth y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (y Cyngor) i gadarnhau manylion cyfarfod y Cyngor ar 15 Medi i'r aelodau maes o law.  

Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor.    

Cwblhawyd: nodyn yn y dyddiadur wedi'i gyhoeddi i'r aelodau ar 11 Mehefin.

Eitem 8 ar yr agenda: Deallusrwydd Artiffisial (AI) 

Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i sicrhau bod papur yn cael ei ddarparu ar gyfer cyfarfod nesaf y Cyngor ar y camau nesaf posibl ynghylch y defnydd moesegol o AI.  

Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor.       

Cwblhawyd: papur wedi'i gyflwyno ar gyfer cyfarfod mis Medi (SPC 08-05).

Eitem 7 ar yr agenda: datganiadau’r Cyngor    

Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i drefnu gweithdy i drafod y mater o sut i gael consensws ar gyngor mewn partneriaeth gymdeithasol.    

Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor.       

Cwblhawyd: e-bost wedi'i anfon at aelodau ar 16 Gorffennaf.

Eitem 5 ar yr agenda: Y Ddeddf Hawliau Cyflogaeth    

Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i roi gwybod i'r aelodau am amserlen y Senedd ar gyfer trafod y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Hawliau Cyflogaeth.   

Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor.      

Cwblhawyd: e-bost wedi’i anfon at aelodau ar 2 Gorffennaf. 

Eitem 5 ar yr agenda: Y Ddeddf Hawliau Cyflogaeth   

Swyddogion Llywodraeth Cymru i roi sesiwn friffio ysgrifenedig i aelodau'r cyngor ar y sefyllfa bresennol mewn perthynas â threfniadau ar gyfer tâl ac amodau ar gyfer staff cefnogi ysgolion yng Nghymru.    

Perchennog: Swyddogion Llywodraeth Cymru.    

Cwblhawyd: e-bost wedi'i anfon at aelodau ar 16 Gorffennaf.

Eitem 4 ar yr agenda: Is-grŵp caffael a diweddariad ar weithredu caffael cymdeithasol gyfrifol   

Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i roi eglurhad ar y broses mynegi diddordeb.    

Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor.       

Cwblhawyd: e-bost wedi'i anfon at aelodau ar 20 Mehefin.

Eitem 4 ar yr agenda: Is-grŵp caffael a diweddariad ar weithredu caffael cymdeithasol gyfrifol  

Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i gynnig sesiwn friffio i aelodau’r Cyngor a'u cydweithwyr ar ganllawiau adran 9(5) a materion cysylltiedig wedi’u cynnwys ym mhapur SPC 07-04.    

Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor.      

Cwblhawyd: e-bost wedi'i anfon at aelodau ar 20 Mehefin.

Eitem 3 ar yr agenda: cytuno ar Adroddiad Blynyddol drafft Partneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru    

Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i drefnu i Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru gael ei osod gerbron y Senedd a'i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.    

Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor.        

Cwblhawyd: gosodwyd a chyhoeddwyd yr adroddiad ar 4 Awst.

Eitem 2 ar yr agenda: ymgynghoriad ar yr adolygiad blynyddol o amcanion llesiant Llywodraeth Cymru   

Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i sicrhau bod Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU yn cael ei thrafod mewn cyfarfod o'r Cyngor yn y dyfodol ar ôl iddi gael ei chyhoeddi.    

Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor.    

Cwblhawyd: papur wedi'i gyflwyno ar gyfer cyfarfod mis Medi (SPC 08-02). 

Cyfarfod 6: 12 Mawrth 2025

Eitem 4 ar yr agenda: newid sgiliau, Paratoi ar gyfer economi wedi'i llywio gan Ddeallusrwydd Artiffisial (AI)    

Swyddogion Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â'r gwaith pellach ar AI a awgrymwyd mewn papur (SPC06-04) gan ystyried barn yr aelodau.    

Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor.    

Parhaus: mae papur pellach wedi'i gyflwyno ar gyfer cyfarfod mis Medi (SPC 08-05).

Eitem 2 ar yr agenda: cyfrinachol, aelodau yn unig, Ymgynghoriad ar flaenoriaethau deddfwriaethol Gweinidogion Cymru    

Aelodau i ddarparu syniadau ar unrhyw filiau technegol sy'n debygol o gael cefnogaeth drawsbleidiol y gellid eu cynnig i'w hystyried yn y dyfodol y tu hwnt i dymor presennol y Senedd, at Ysgrifenyddiaeth y Cyngor.    

Perchennog: Aelodau’r Cyngor.    

Parhaus.

Cyfarfod 5: 5 Rhagfyr 2024

Eitem 7 ar yr agenda: cyfarfod nesaf, dyddiad a lleoliad

Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i archwilio opsiynau ar gyfer cynnal cyfarfod 8 Hydref yn y Gogledd.    

Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor.    

Cwblhawyd: dewisodd yr aelodau gynnal y cyfarfod yn Abertawe.

Eitem 4 ar yr agenda: Deallusrwydd Artiffisial (AI) a'r Gweithlu

Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i ddatblygu opsiynau (mewn ymgynghoriad â Gweithgor AI Cyngor Partneriaeth y Gweithlu) ar gyfer sut y gallai'r Cyngor fwrw ymlaen â gwaith AI.    

Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor.    

Parhaus: papur pellach wedi'i gyflwyno ar gyfer cyfarfod mis Medi (SPC 08-05).

Eitem 4 ar yr agenda: Deallusrwydd Artiffisial (AI) a'r Gweithlu

Gweithgor AI Cyngor Partneriaeth y Gweithlu i ddarparu'r fersiynau hawdd eu deall o'u hadroddiadau i'r Cyngor ar ôl eu cwblhau.    

Perchennog: Gweithgor AI Cyngor Partneriaeth y Gweithlu.    

Parhaus: mae fersiynau hawdd eu darllen wedi'u cyfieithu ac mae'r gwaith yn mynd rhagddo ar frandio cyn eu cyhoeddi.

Eitem 2 ar yr agenda: Bil Hawliau Cyflogaeth

Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i sicrhau bod diweddariadau rheolaidd yn cael eu darparu i'r Cyngor ar hynt y Bil Hawliau Cyflogaeth.       

Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor.    

Parhaus: diweddariad wedi'i ddarparu ar gyfer cyfarfodydd Mawrth a Mehefin.  Diweddariad pellach wedi’i ddarparu ar gyfer cyfarfod mis Medi.

Cyfarfod 1: 1 Chwefror 2024

Eitem 4 ar yr agenda: dull arfaethedig o ddarparu gwybodaeth a chyngor gan y Cyngor i Weinidogion Cymru    

Cytunodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol i rannu pob un o'r 56 adroddiad partneriaeth gymdeithasol gan gyrff cyhoeddus (pan fyddant ar gael) gyda'r adroddiad cryno ar gyfer 2024/25 os bydd aelodau'r Cyngor yn dymuno eu gweld.    

Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor.    

Parhaus: mae dolenni i'r holl adroddiadau cyhoeddedig wedi'u rhannu gyda'r aelodau.

Eitem 6 ar yr agenda: darpariaethau caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023      

SH i ystyried y ffordd orau o sicrhau bod y Cyngor yn cael ei ddiweddaru trwy friffiau technegol ar faterion caffael yn ogystal â datblygu'r Is-grŵp Caffael.

Perchennog: Swyddog Llywodraeth Cymru.    

Parhaus: darparwyd diweddariad pellach yng nghyfarfod mis Medi, yn dilyn papurau mewn cyfarfodydd blaenorol. Cynhaliwyd sesiwn friffio technegol ar gaffael ar 24 Medi 2024 ac mae sesiwn arall wedi'i chynnig i'r aelodau eleni.