Cyfarfod Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol, 3 Rhagfyr 2025: cofnodion
Cyfarfod Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol, 3 Rhagfyr 2025: 10am i 12pm, cyfarfod rhithwir.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Eitem 1 ar yr agenda: croeso/sylwadau agoriadol
- Croesawodd y Prif Weinidog y rhai oedd yn bresennol yn nawfed cyfarfod y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol. Eglurodd y byddai'n gadael ar ôl eitem 2, ac y byddai'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol yn cadeirio gweddill y cyfarfod wedi hynny. Diolchodd y Prif Weinidog i'r Fonesig Elan Closs Stephens (Cyrff Cyhoeddus) am ei gwaith â'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol, gan gadarnhau y byddai'n gadael y Cyngor yn sgil ei dewis i ymddiswyddo fel cadeirydd y Fforwm Arweinwyr Cyhoeddus (PLF). Diolchodd hefyd i Helen Whyley (RCN) am ei chyfraniad i’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol cyn ei hymddeoliad yn y flwyddyn newydd.
Eitem 2 ar yr agenda: Y Gronfa Twf Lleol
- Cadarnhaodd y Prif Weinidog fod Uwchgynhadledd Buddsoddi Cymru wedi ei chynnal ar 1 Rhagfyr, gan ddenu ystod eang o fuddsoddwyr byd-eang, arweinwyr busnes a chwmnïau o Gymru. Disgrifiodd lwyddiant y digwyddiad i ddenu buddsoddiad, a dywedodd ei bod wedi pwysleisio pa mor bwysig yw hi i fusnesau weithredu mewn partneriaeth gymdeithasol.
- Eglurodd y Prif Weinidog gefndir yr ymgynghoriad ar y Cynigion ar gyfer cyflwyno Cronfa Twf Lleol y DU yng Nghymru sy’n cael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru. Eglurodd y byddai'r Gronfa Twf Lleol (LGF) yn buddsoddi £547 miliwn yng Nghymru dros dair blynedd, gan ychwanegu gwerth at fuddsoddiadau presennol, e.e. pedair Bargen Ddinesig a Thwf Rhanbarthol Cymru, Parthau Buddsoddi, Porthladdoedd Rhydd a mentrau eraill i gefnogi economïau rhanbarthol/lleol. Dywedodd y Prif Weinidog y byddai'r Gronfa yn sbarduno twf economaidd trwy adeiladu seilwaith, ehangu busnes a datblygu sgiliau. Anogodd aelodau i ddefnyddio eu rhwydweithiau i rannu’r ymgynghoriad.
- Dywedodd y Prif Weinidog eu bod wedi cytuno ar gael blwyddyn bontio, o ystyried byrder yr amserlen cyn y deuai cyllid ar gael o dan y Gronfa (Ebrill 2026), pan fyddai Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Leol i gynnal capasiti allweddol o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF). Cadarnhaodd fod Llywodraeth Cymru yn rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU i gael mwy o hyblygrwydd o ran rhaniad cyfalaf-refeniw arfaethedig y Gronfa Twf Lleol, ond y byddai'r Gronfa yn canolbwyntio mwy ar wariant cyfalaf na chyllid yr UE na'r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Disgrifiodd y Prif Weinidog yr ymgynghoriad ar y Gronfa Twf Lleol, a dywedodd y byddai’n croesawu barn ar amcanion ac egwyddorion craidd y Gronfa yn ogystal ag unrhyw feysydd y dylid eu blaenoriaethu, ym marn y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol, er mwyn cael yr effaith mwyaf o’r cyllid.
- Roedd Joshua Miles (Ffederasiwn Busnesau Bach) yn cefnogi cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gronfa Twf Lleol. Cytunodd Joshua fod y diffyg hyblygrwydd o ran y rhaniad refeniw/cyfalaf yn broblem, ond cynigiodd gefnogaeth y Ffederasiwn Busnesau Bach wrth ymdrin â hyn. Pwysleisiodd pa mor bwysig ydyw i sicrhau bod busnesau bach a chanolig yn gallu cael gafael ar y cyllid yn rhwydd, a phwysigrwydd yr angen i dynnu ar arbenigedd Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru wrth dargedu'r Gronfa Twf Lleol.
- Roedd Shavanah Taj (TUC Cymru) hefyd yn cefnogi cynnig Llywodraeth Cymru, a soniodd am bwysigrwydd datblygu sgiliau ar gyfer twf economaidd a chyfraniad undebau llafur trwy Gronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF). Pwysleisiodd yr angen i yrru economïau rhanbarthol i ddatblygu seilwaith busnes lleol ac i ddefnyddio'r cyfleoedd sy’n deillio o’r sector economi werdd/effeithlonrwydd ynni i greu swyddi medrus. Cadarnhaodd Shavanah y byddai'r ymgynghoriad yn cael ei ledaenu trwy rwydweithiau’r undebau llafur.
- Tynnodd Ruth Brady (GMB) sylw at ddiffyg gwaith ymgysylltu ag undebau llafur cyn Uwchgynhadledd Buddsoddi Cymru. Gofynnodd am well ymdrech i ymgysylltu cyn digwyddiadau mawr yn y dyfodol, er mwyn caniatáu cyfraniad sylweddol gan yr undebau llafur.
- Cadarnhaodd Russell Greenslade (CBI) y byddan nhw’n hyrwyddo’r ymgynghoriad ymhlith busnesau ac y byddai CBI hefyd yn ymateb. Tynnodd Russell sylw at y cyfraniad pwysig y gallai busnesau ei gynnig wrth helpu i ddeall anghenion sgiliau ac i ddatblygu'r seilwaith buddsoddi i greu swyddi.
- Roedd y Prif Weinidog yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod cymorth o dan y Gronfa Twf Lleol yn hawdd ei gael (lleihau biwrocratiaeth) yn ogystal â'r angen i osgoi dyblygu gwaith presennol. Disgrifiodd y cyfle a gafodd Cymru i lunio'r agenda sgiliau a'i deilwra i fodloni anghenion busnes, gan ei fod wedi’i ddatganoli. Soniodd y Prif Weinidog am bwysigrwydd hyn mewn rhai meysydd, megis AI, lle byddai angen gwella sgiliau gweithwyr yn gyson trwy ddysgu gydol oes. Roedd hi'n cydnabod cyfraniad gwerthfawr yr undebau llafur i'r agenda sgiliau, pwysigrwydd cadw talent leol a'r angen i ryddhau cyllid yn gyflym.
- Roedd Shavanah Taj yn cefnogi’r galw i gadw talent, gan nodi bod colli gweithwyr medrus yn sgil toriadau cyllidebol yn fater allweddol a godwyd gydag undebau llafur.
- Cadarnhaodd y Prif Weinidog y byddai Uwchgynhadledd Prydain ac Iwerddon (5 Rhagfyr) yn cael ei chynnal yng Nghymru, a'i bod wedi dewis canolbwyntio ar y sector creadigol er mwyn pwysleisio ei bwysigrwydd i economi Cymru. Pwysleisiodd fod Uwchgynhadledd Buddsoddi Cymru yn targedu busnesau penodol i’w hannog i fuddsoddi yng Nghymru, ac er mwyn cynnig profiad wedi'i deilwra iddynt bu’n rhaid cyfyngu ar nifer y gwahoddiadau. Cadarnhaodd y Prif Weinidog fod Shavanah Taj wedi cynrychioli'r undebau llafur, a bod pwysigrwydd partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru wedi cael ei bwysleisio trwy gydol yr uwchgynhadledd.
- Roedd Shavanah Taj yn gefnogol o’r digwyddiad, gan ddweud ei fod yn gyfle pwysig i arddangos cyfleoedd i fuddsoddi yng Nghymru (gan gynnwys y rhai yn y sector creadigol), ac roedd yn edrych ymlaen at drafod y digwyddiad â swyddogion er mwyn dod i ddeall sut y gallai'r undebau llafur chwarae rhan lawn ynddynt.
- Diolchodd Ruth Brady i'r Prif Weinidog am yr adborth. Awgrymodd y gellid cynnal digwyddiad arall gyda phartneriaid cymdeithasol ar y Bil Hawliau Cyflogaeth.
- Cadarnhaodd y Prif Weinidog y gellid ystyried hyn, ond pwysleisiodd nad oedd llawer o gyfle i drefnu digwyddiad o'r fath o ystyried yr etholiad sydd i ddod yn 2026.
- Llongyfarchodd Russell Greenslade y Prif Weinidog a'r swyddogion am drefnu'r Uwchgynhadledd Fuddsoddi. Soniodd Russell am y ganmoliaeth a roddwyd gan y rhai a oedd yn bresennol, a dywedodd ei fod wedi hyrwyddo cyfleoedd newydd i fusnesau nad oeddent wedi gweithredu yng Nghymru o'r blaen.
- Dywedodd y Prif Weinidog ei bod yn bwysig i Gymru wneud y mwyaf o'i photensial i fuddsoddwyr, a soniodd eto am yr angen i aelodau ddefnyddio eu rhwydweithiau i hyrwyddo’r ymgynghoriad ar y Gronfa Twf Lleol.
Cam gweithredu: Aelodau’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol i rannu ymgynghoriad y Gronfa Twf Lleol (LGF) gyda'u rhwydweithiau/rhanddeiliaid.
Eitem 3 ar yr agenda: cyfrinachol/aelodau yn unig: aelodaeth o'r Is-grŵp Caffael
- Diben yr eitem oedd rhoi cyfle i’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol nodi'r cynnydd a wnaed wrth ddatblygu Is-grŵp Caffael y Cyngor yn ogystal â chymeradwyo ei aelodaeth arfaethedig. Byddai hyn yn caniatáu iddyn nhw gyhoeddi penodiadau ffurfiol ac i’r Is-grŵp gwrdd yn gynnar yn 2026. Gwahoddodd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol gyd-gadeiryddion yr Is-grŵp i roi diweddariad i’r Cyngor.
- Rhoddodd cyd-gadeiryddion yr Is-grŵp, y Cynghorydd Anthony Hunt (CLlLC) a Ruth Brady y newyddion diweddaraf i’r Cyngor. Cymeradwyodd y Cyngor aelodaeth arfaethedig yr Is-grŵp Caffael. Roedd yr eitem hon yn gyfrinachol gan fod yr aelodau yn trafod gwybodaeth bersonol, felly nid yw'r drafodaeth wedi’i chynnwys yn y cofnod.
Cam gweithredu: Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol i ysgrifennu at y Prif Weinidog i’w hysbysu bod y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar aelodaeth Is-grŵp Caffael y Cyngor.
Eitem 4 ar yr agenda: diweddariad am y Gweithgor ar Waith Teg mewn Grantiau Busnes
- Eglurodd y Gweinidog fod y Gweithgor ar Waith Teg mewn Grantiau Busnes wedi symud o'r cam casglu tystiolaeth i ddechrau trafod materion sylweddol, ac mai'r bwriad oedd datblygu adroddiad i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ei ystyried. Gofynnwyd a allai Shavanah Taj, a gadeiriodd cyfarfod diwethaf y Gweithgor, roi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cyngor ar y gwaith a wnaed.
- Cadarnhaodd Shavanah fod y Gweithgor wedi cyfarfod ddwywaith, a bod cyfarfod arall wedi'i gynllunio ar gyfer dechrau'r flwyddyn newydd. Cyfeiriodd at y trafodaethau llawn ac agored a gafwyd ar amodoldeb grantiau, a oedd wedi arwain at sefydlu egwyddorion craidd a blaengynllun gwaith ar gyfer y Grŵp. Dywedodd Shavanah eto y byddai adroddiad yn cael ei baratoi ar gyfer y Cyngor, a gwahoddodd Joshua Miles (a fu yng nghyfarfod diwethaf y Grŵp) i gynnig unrhyw farn ychwanegol i'r Cyngor.
- Cefnogodd Joshua Miles sylwadau Shavanah, ac roedd yn cytuno ar bwysigrwydd cael trafodaethau agored i gynhyrchu adroddiad cytbwys i'r Cyngor ei ystyried.
- Roedd y Gweinidog yn falch o glywed am y cynnydd a wnaed gan y Grŵp mewn partneriaeth gymdeithasol, ac edrychai ymlaen at ystyried yr adroddiad yn y flwyddyn newydd.
Eitem 5 ar yr agenda: diweddariad gan y Grŵp Cyflawni AI
- Cadarnhaodd y Gweinidog fod y Grŵp Cyflawni AI wedi cyfarfod am y tro cyntaf ar 17 Tachwedd i drafod blaenoriaethau uniongyrchol ar gyfer ei raglen waith. Dywedodd fod y cyfarfod nesaf yn cael ei drefnu ac y byddai diweddariadau pellach yn cael eu darparu i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol o hyn ymlaen. Gwahoddodd y Gweinidog gyd-gadeiryddion y Grŵp Cyflawni, Russell Greenslade a Jessica Turner, i roi diweddariad i’r Cyngor. Cadarnhaodd ei fod wedi cwrdd â'r ddau y diwrnod cynt i gael diweddariad personol ar waith y Grŵp.
- Dywedodd Russell Greenslade fod cyfarfod cyntaf y Grŵp Cyflawni wedi ystyried cynnig i gefnogi busnesau i wella sgiliau AI. Eglurodd mai'r cynnig oedd cynhyrchu peilot tymor byr i gynyddu cynhyrchiant a pha mor gystadleuol yw busnesau trwy bontio bylchau mewn sgiliau AI. Pwysleisiodd Russell bwysigrwydd cynnwys undebau llafur wrth lunio'r gwaith hwn a'r angen i sicrhau bod y canlyniad yn cefnogi dull moesegol o ddefnyddio AI. Soniodd am bwysigrwydd symleiddio'r cynnig ar gyfer busnesau bach a chanolig er mwyn annog mwy o ddefnydd, ac ailadroddodd y byddai diweddariadau pellach yn cael eu rhoi i’r Cyngor.
- Pwysleisiodd Jess Turner (Unsain) pa mor bwysig oedd deall sut roedd y Cyngor yn ychwanegu gwerth i faes prysur sgiliau AI. Eglurodd Jess fod y Grŵp, ar gais y Gweinidog, wedi edrych ar sut i ddefnyddio Cronfa Sgiliau Hyblyg Llywodraeth Cymru i ddatblygu dull moesegol o wella sgiliau AI o fewn busnesau. Cadarnhaodd mai canlyniad hyn fyddai’r cyngor a fydd yn cael ei roi i’r Cyngor. Dywedodd Jess fod y gwaith hwn yn gysylltiedig â’r eitem flaenorol, gan fod y ddau’n canolbwyntio ar bwysigrwydd defnyddio amodoldeb grantiau i ddatblygu dull moesegol o roi cymorth i fusnesau. Awgrymodd y byddai'n bwysig i'r ddau Grŵp gyfathrebu yn y dyfodol.
- Diolchodd y Gweinidog i Russell a Jess am eu diweddariad, a phwysleisiodd bod angen gwerthuso'r gwaith hwn er mwyn datblygu gwersi i’w dysgu ar gyfer rhaglenni eraill. Pwysleisiodd bwysigrwydd datblygu dull moesegol o weithredu AI sy'n diogelu gweithwyr yn ogystal â chefnogi busnesau i wynebu heriau'r dechnoleg hon. Roedd y Gweinidog yn edrych ymlaen at gael rhagor o ddiweddariadau yn y dyfodol.
Cam gweithredu: Grŵp Cyflawni AI y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol i roi diweddariadau pellach ar ei waith i'r Cyngor.
Eitem 6 ar yr agenda: canfyddiadau cynnar yr adroddiadau Partneriaeth Gymdeithasol a gyhoeddwyd
- Cadarnhaodd y Gweinidog mai dim ond 20 o'r 55 adroddiad Partneriaeth Gymdeithasol ar gyfer 2024–25 oedd wedi'u cyhoeddi, ac nad oedd hynny’n ddigon i ddarparu dadansoddiad ystyrlon. Roedd yn meddwl bod amlinellu rhai o'r canfyddiadau cynnar o'r adroddiadau yn y papur cysylltiedig ar gyfer yr eitem hon wedi bod yn ddefnyddiol, ond pwysleisiodd fod Llywodraeth Cymru yn dibynnu ar yr wybodaeth a gaiff gan sefydliadau. Dywedodd y Gweinidog fod yr ymatebion yn ddienw gan na fyddai enwi sefydliadau yn ystod blwyddyn gyntaf y broses adroddiadau, pan fo pawb yn dal i ddysgu, yn beth da i Bartneriaeth Gymdeithasol.
- Dywedodd y Gweinidog ei fod yn falch o weld cynifer o adroddiadau am arfer da ledled Cymru, ac na fyddai wedi bod yn realistig disgwyl i bob un o'r 55 corff cyhoeddus lwyddo i ymgorffori partneriaeth gymdeithasol yn llwyr ar y lefel strategol yn y flwyddyn gyntaf o gyflwyno adroddiadau. Roedd yn cydnabod cyfraniad gwerthfawr yr undebau llafur wrth iddyn nhw ymgysylltu â'r broses gyda chyflogwyr, a chadarnhaodd nad oedd dyddiad cau penodol ar gyfer cyflwyno'r adroddiadau gan fod y ddeddfwriaeth yn hyblyg yn hyn o beth er mwyn caniatáu i gyrff cyhoeddus sicrhau bod eu hymatebion yn cyd-fynd â’u gofynion adrodd eraill. Dywedodd ei fod yn rhagweld y byddai dadansoddiad llawn yn cael ei ddarparu yn gynnar yn 2026, ar ôl i'r adroddiadau sy'n weddill gael eu cyhoeddi. Cadarnhaodd y Gweinidog y byddai llythyr atgoffa yn cael ei anfon at y cyrff cyhoeddus nad oeddent wedi darparu ymateb eto.
- Awgrymodd Shavanah Taj y byddai'n ddefnyddiol i'r undebau llafur perthnasol wybod pa gyrff cyhoeddus nad oedd wedi darparu ymatebion ac i wybod am unrhyw broblemau, gan y gallent gynorthwyo gyda'r broses adrodd ar lefel leol.
- Cynigiodd Nicola Prygodzicz (GIG) fynd ar drywydd ymatebion gan unrhyw fyrddau iechyd sy'n weddill.
- Awgrymodd y Fonesig Elan Closs Stephens y byddai'n ddefnyddiol gwahodd rhywun i siarad yn y Fforwm Arweinwyr Cyhoeddus ar bwysigrwydd y broses adrodd.
- Cynigiodd y Cynghorydd Anthony Hunt (Llywodraeth Leol) ei gefnogaeth i sicrhau bod unrhyw awdurdodau lleol sy'n weddill yn cyflwyno eu hadroddiadau.
- Diolchodd y Gweinidog i'r aelodau am eu cynigion o gefnogaeth, a chydnabuwyd cynnig y Fonesig Closs Stephens. Cadarnhaodd y byddai'n ysgrifennu at y cyrff cyhoeddus sy'n weddill i’w hatgoffa o bwysigrwydd cyflwyno eu hadroddiadau, a byddai’n darparu copi i'r aelodau. Cadarnhaodd y Gweinidog y byddai'r llythyr atgoffa yn tynnu sylw at barodrwydd yr undebau llafur i helpu yn y broses adrodd.
Cam gweithredu: Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol i ysgrifennu at y cyrff cyhoeddus nad oeddent wedi cyflwyno eu hadroddiadau Partneriaeth Gymdeithasol ar gyfer 2024–25 eto, ac i rannu copi o'r llythyr gydag aelodau’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol.
Eitem 7 ar yr agenda : cyfarfod nesaf y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol
- Eglurodd y Gweinidog fod y papur ar gyfer yr eitem hon yn nodi'r gwaith y gallai'r Cyngor ei ystyried mewn cyfarfod yn y gwanwyn, a chadarnhaodd nad oedd unrhyw gyfarfodydd pellach wedi'u trefnu. Holodd a oedd yr Aelodau’n meddwl y byddai cyfarfod yn y gwanwyn yn werthfawr. Dywedodd na fyddai dyddiad ar ôl 23 Chwefror yn caniatáu digon o amser i Ysgrifenyddiaeth y Cyngor gyflawni unrhyw gamau a allai godi cyn y cyfnod cyn-etholiadol. Awgrymodd y Gweinidog, os oedd yr aelodau eisiau cyfarfod, y gallai fod yn fyrrach nag arfer, ac y gallai gael ei gynnal ar-lein yn hytrach nag yn bersonol. Cytunodd yr aelodau y dylid trefnu cyfarfod arall o'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ar gyfer y gwanwyn.
Cam gweithredu: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol i drefnu cyfarfod pellach o'r Cyngor ar gyfer gwanwyn 2026.
Eitem 8 ar yr agenda: cofnodion/materion sy'n codi
- Dywedodd y Gweinidog fod saith o gamau gweithredu a gododd o gyfarfodydd blaenorol y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol yn dal i fynd rhagddynt, a rhoddodd amlinelliad ohonynt. Gofynnodd a oedd yr aelodau yn fodlon cytuno arnynt.
- Mynegodd Jess Turner, Shavanah Taj a Helen Whyley (RCN) siom yr undebau llafur na allai'r Cyngor gytuno ar ddatganiad ynglŷn â phwysigrwydd pasio Cyllideb Llywodraeth Cymru.
- Roedd y Gweinidog yn cydymdeimlo â’i siom, a dywedodd y byddai'n gofyn i swyddogion edrych ar ffyrdd o osgoi hyn yn y dyfodol.
Cam gweithredu: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol i edrych ar ffyrdd o ymdrin â datganiadau gan y Cyngor yn y dyfodol.
Presenoldeb Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol: 3 Rhagfyr 2025
Llywodraeth Cymru
Eluned Morgan AS, Prif Weinidog Cymru (Cadeirydd)
Jack Sargeant AS, Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol (Cyd-gadeirydd)
Cynrychiolwyr Gweithwyr
Shavanah Taj, TUC Cymru (Ddim yn bresennol ar gyfer Eitem 3)
Jess Turner, UNISON
Mike Walker, USDAW
Helen Whyley, RCN Wales
Ruth Brady, GMB
Sian Boyles, PCS
Cynrychiolwyr Cyflogwyr
Y Fonesig Elan Closs Stephens, Cyrff Cyhoeddus
Y Cynghorydd Anthony Hunt, Llywodraeth Leol
Nicola Prygodzicz, Iechyd
Kathryn Robson, Addysg Bellach
Janis Richards, Busnes
Russell Greenslade, Busnes
Joshua Miles, Busnes
Swyddogion Cefnogol
Jo Salway, Cefnogaeth gyffredinol i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ac eitemau 6–8
Tom Smithson, Eitem 2 yn unig
Stephen Layne/Aimee Dietrich, Eitem 3 yn unig
Chris Hartwell, Eitem 4 yn unig
Andrew Granville, Eitem 5 yn unig
Arsylwyr
Aled Edwards, Llywodraeth Cymru
Mark Turner (yn absenoldeb Peter Hughes)
Sara Stephens (yn absenoldeb Wendy Larner)
Ymddiheuriadau
Neil Butler (NASUWT)
Gareth Lloyd (UCU)
Peter Hughes (Unite)
Yr Athro Wendy Larner (Addysg Uwch)
Pippa Britton (Sector Gwirfoddol)
