Neidio i'r prif gynnwy

Eitem 1: croeso/sylwadau agoriadol

  1. Croesawodd y Prif Weinidog y rhai a oedd yn bresennol i bedwerydd cyfarfod y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (y Cyngor). Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol a chadarnhaodd y byddai'n gadael y cyfarfod ar ôl eitem 3 ar yr agenda gyda'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol yn cadeirio gweddill y Cyngor. Amlinellodd yr arweinwyr ar gyfer pob eitem ar yr agenda a chadarnhaodd fod aelodau wedi derbyn un papur i'w nodi ar gaffael cyfrifol yn gymdeithasol. 

Eitem 2: cyflawni, cynhyrchiant, a chyllideb blaenoriaethau atebolrwydd

  1. Rhoddodd y Prif Weinidog drosolwg o'r ymarfer gwrando cyhoeddus a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru drwy gydol yr haf. Eglurodd fod hyn wedi rhoi golwg heb ei hidlo o'r hyn yr oedd pobl yn eu hystyried yn flaenoriaethau i'r llywodraeth. I gefnogi hyn, eglurodd y Prif Weinidog bwysigrwydd deall barn y Cyngor ar flaenoriaethau cyllideb Llywodraeth Cymru am weddill tymor y Senedd. Pwysleisiodd ei ffocws ar gyflawni wedi'i seilio ar yr angen i rymuso staff ar bob lefel i ryddhau eu potensial heb ei gyffwrdd (pocedi o ddisgleirdeb) a herio aneffeithlonrwydd i gynyddu cynhyrchiant.
     
  2. Pwysleisiodd y Prif Weinidog bwysigrwydd bod pawb yn y gadwyn atebolrwydd yn cymryd cyfrifoldeb am eu penderfyniadau i sbarduno gwelliannau. Eglurodd ei bod wedi gofyn i'w chydweithwyr yn y Cabinet gynhyrchu cynlluniau cyflawni unigol ar gyfer eu portffolios y byddent yn uniongyrchol atebol amdanynt; yn eu tro, byddent yn dwyn sefydliadau'r sector cyhoeddus i gyfrif am eu rhan yn y gwaith o’u cyflawni. Amlinellodd y Prif Weinidog y cyd-destun ariannol anodd, gan egluro bod y penderfyniadau anodd a wnaed yn y gorffennol wedi caniatáu i Gymru osgoi rhai o'r toriadau mwy llym sy'n cael eu gwneud yn yr Alban ond bod heriau'n parhau.
     
  3. Cadarnhaodd y Prif Weinidog y byddai'r Canghellor yn cyhoeddi cyllideb blwyddyn ar 30 Hydref a byddai adolygiad cynhwysfawr o wariant yn cael ei gynnal yn y gwanwyn. Yn y cyfamser, byddai Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi cyllideb ddrafft ar 10 Rhagfyr a fersiwn derfynol ar 25 Chwefror. Eglurodd nad oedd y setliad gan Lywodraeth y DU wedi'i gwblhau ond y byddai'n heriol ac o ganlyniad byddai'r ymarfer blaenoriaethu cyllidebol yn hanfodol. Nododd y Prif Weinidog fod sefydliadau’n dda am flaenoriaethu fel arfer ond nid dadflaenoriaethu a dywedodd ei bod yn arbennig o bwysig bellach i aelodau herio hyn.
     
  4. Dywedodd Jess Turner (UNSAIN) bod pobl, wrth ddarparu adborth, yn tueddu i ganolbwyntio'n bennaf ar y gwasanaethau maen nhw'n eu defnyddio gan gynhyrchu darlun rhagfarnllyd. Cododd Jess bryderon am yr iaith a ddefnyddiwyd ynghylch cynhyrchiant gan egluro bod angen newid hyn i ffurf oedd yn osgoi camddealltwriaeth nad oedd y gweithlu yn gweithio'n ddigon caled a'u cynnwys yn sut i weithio'n wahanol. Cyfeiriodd Jess at adroddiad Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ar ddeallusrwydd artiffisial (AI) fel maes ffocws i'r Cyngor gan egluro ei fod yn gyfle defnyddiol i ddefnyddio AI mewn ffordd foesegol i wella effeithlonrwydd.
     
  5. Diolchodd y Cynghorydd Anthony Hunt (CLlLC) i'r Prif Weinidog am y cyhoeddiad am gyflog a phwysleisiodd bwysigrwydd unigolion wrth ddatgloi cynhyrchiant. Eglurodd fod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru wedi datblygu traddodiad o greu canlyniadau sy'n cael eu gyrru gan brosesau yn hytrach na phrosesau sy'n cael eu gyrru gan ganlyniadau; y byddai angen i'r dull hwn newid ar lefel genedlaethol a lleol pe bai cynhyrchiant yn gwella. Ailadroddodd bryderon bod sgyrsiau am wasanaethau cyhoeddus yn canolbwyntio ar y rhai a ddefnyddir fwyaf ar draul meysydd mwy arbenigol. Pwysleisiodd alwadau a wnaed mewn fforymau eraill i ystyried iechyd a gofal cymdeithasol gyda'i gilydd, gan leihau problemau systemau deuol, i ddatblygu gwell gwasanaethau.
     
  6. Eglurodd Ian Price (CBI) fod yr iaith ynglŷn â'r hinsawdd economaidd yn effeithio ar fuddsoddiad yng Nghymru. Er ei fod yn cydnabod pwysau'r gyllideb, dywedodd Ian fod angen creu naratif mwy cadarnhaol, gan dynnu sylw at straeon llwyddiant fel Banc Datblygu Cymru, i wrthweithio adroddiadau negyddol yn y cyfryngau.  
     
  7. Roedd Neil Butler (NASUWT) yn cefnogi'r syniad bod pocedi o ddisgleirdeb yn y sector cyhoeddus ond yn teimlo bod strwythur presennol y system ysgolion, (a ategir gan Ddeddf Diwygio Addysg 1988) yn cyflwyno diwylliant o gystadleuaeth o fewn ysgolion a oedd yn tanseilio gwaith partneriaeth gymdeithasol. Roedd Neil yn teimlo y byddai angen newid hyn pe bai ysgolion yn cael eu grymuso i ryddhau potensial eu staff.
     
  8. Gofynnodd Helen Whyley (RCN) i'r Prif Weinidog a allai ddarparu mwy o wybodaeth am ddatganiad cyllideb Llywodraeth Cymru ym mis Hydref. Cododd Helen bwysigrwydd peidio â chanolbwyntio gormod ar amseroedd aros y GIG ac eithrio gofal heb ei drefnu, gan egluro y gallai nawr fod yn amser da i ailystyried blaenoriaethu gwasanaethau. Cyfeiriodd at barodrwydd undebau iechyd i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol ond pwysleisiodd eu siom ynglŷn ag argymhellion y Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol yn ymwneud â staff Agenda ar gyfer Newid yn Lloegr; eglurodd fod ymarfer ymgynghori ar hyn yn parhau yng Nghymru.
     
  9. Pwysleisiodd Ben Cottam (FSB) yr angen i ystyried effeithlonrwydd ar draws y sectorau preifat a chyhoeddus. Eglurodd Ben y byddai themâu tebyg ar draws y ddau yn ymwneud â phrosesau, defnyddio sgiliau a graddio'r gweithlu. Pwysleisiodd bwysigrwydd defnyddio'r gyllideb ddrafft i gynnig negeseuon cadarnhaol i fusnesau a chynigiodd weithio gyda swyddogion ar hyn. Cyfeiriodd Ben at effaith barhaus pandemig Covid-19, y pwysau sy'n wynebu'r economi sylfaenol a'r angen am gefnogaeth barhaus drwy'r system rhyddhad Ardrethi Annomestig . Roedd yn rhagweld clywed mwy am gynlluniau'r llywodraeth i ddatblygu'r economi, gan gynnwys sut y gallai partneriaeth gymdeithasol gefnogi hyn a'r angen i bennu'r blaenoriaethau ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin.
     
  10. Ailadroddodd Darren Williams (PCS) sylwadau cynharach ar bwysigrwydd sicrhau bod sefydliadau’n deall iaith cynhyrchiant a darpariaeth. Tynnodd Darren sylw at y camsyniad bod gweithwyr rheng flaen yn bwysicach na staff ystafell gefn a phwysleisiodd y toriadau sylweddol a oedd eisoes wedi'u profi gan rai cyrff cyhoeddus. Dywedodd y byddai gostyngiadau pellach yn peryglu eu gallu i gynnal y ddarpariaeth.  
     
  11. Roedd Gareth Lloyd (UCU) yn cefnogi'r dull partneriaeth gymdeithasol ond eglurodd ei bod yn aneglur yn aml pwy ddylai arwain ym maes Addysg Bellach (AB). Cadarnhaodd Gareth fod nifer y bobl sy'n manteisio ar addysg bellach wedi cynyddu ond nad oedd hyn yn cyfateb yn y sector Addysg Uwch (AU). Tynnodd sylw at werth defnyddio partneriaeth gymdeithasol i ddatblygu dull cydgysylltiedig mewn AB/AU i hyrwyddo llwybrau o fewn ysgolion a chroesawodd unrhyw ddatganiadau yn y dyfodol gan Lywodraeth Cymru ar gyflogau.
     
  12. Cynigiodd Pippa Britton (Sector Gwirfoddol) gefnogaeth i farn y Cynghorydd Hunt y dylid ystyried iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd ac amlinellodd i ba raddau yr oedd y sector gwirfoddol yn cefnogi'r ddau. Ailadroddodd Pippa bryderon cynharach hefyd bod angen i'r iaith ynghylch cynhyrchiant a darpariaeth fod yn ystyrlon i bobl ledled y sector.
     
  13. Nododd Nicola Prygodzicz (Prif Weithredwyr y GIG) bwysigrwydd gweithgarwch cyfredol i leihau'r pwysau o fewn y GIG ond pwysleisiodd hefyd yr angen i ddatblygu mesurau ataliol ar gyfer y dyfodol er mwyn osgoi ôl-groniad hyd yn oed yn fwy. Soniodd Nicola am yr angen i fabwysiadu dull hyblyg a oedd yn cynnwys defnyddio gweithwyr asiantaeth i leihau pwysau a gwella morâl staff. Rhybuddiodd yn erbyn canoli trafodaethau ar gyflawni, gan bwysleisio pwysigrwydd grymuso staff ar bob lefel i ddatblygu atebion i'r problemau presennol.
     
  14. Pwysleisiodd Wendy Larner (Addysg Uwch) bwysigrwydd prifysgolion ledled Cymru o ran cyflawni symudedd cymdeithasol a thwf economaidd. Eglurodd Wendy fod prifysgolion yn ffynhonnell bwysig o feddwl arloesol ac mai nhw oedd un o asedau mwyaf Cymru wrth ddarparu pocedi o ddisgleirdeb i ateb heriau’r presennol a’r dyfodol.
     
  15. O ystyried cymhlethdod y drafodaeth, awgrymodd Shavanah Taj (TUC Cymru) y gallai sefydlu is-grŵp o’r Cyngor i ystyried ffyrdd o wella'r ddarpariaeth ar draws sectorau fod yn fuddiol. Gofynnodd Shavanah am fwy o fanylion am amserlen y gyllideb gan deimlo y byddai'n ddefnyddiol cael eglurder pellach ynghylch lefelau cyllid canlyniadol sy'n cael eu darparu i Gymru fel y gellid deall yn well yr effaith ar sectorau unigol.
     
  16. Eglurodd Ian Price (CBI) nad oedd Cymru wedi bod yn arbennig o effeithiol wrth gasglu arfer gorau a hyrwyddo hyn ar draws sectorau. Awgrymodd Ian y gellid gwneud darn o waith i ddal arfer gorau i wella'r ddarpariaeth yn y dyfodol.
     
  17. Diolchodd y Prif Weinidog i Ian Price am ei holl gyfraniadau i'r Cyngor a fforymau eraill cyn iddo ymddeol.
     
  18. Eglurodd y Prif Weinidog fod grymuso pobl yn y gweithle yn ganolog i gyflawni ac y byddai'n cynyddu effeithlonrwydd a boddhad swydd. Roedd hi'n cydnabod y toriadau ar draws gwahanol sectorau ond dywedodd bod aneffeithlonrwydd yn parhau yn y system. Pwysleisiodd y Prif Weinidog bwysigrwydd yr angen i newid diwylliant o fewn gwasanaethau cyhoeddus i newid y diddordeb gormodol mewn prosesau ar draul canlyniadau. Cydnabu bwysigrwydd ystyried y GIG a gofal cymdeithasol gyda'i gilydd, gan bwysleisio pwysigrwydd cael y gweithlu olaf i ymuno ag undeb. Cefnogodd y Prif Weinidog yr angen i ddatblygu negeseuon mwy cadarnhaol i hyrwyddo buddsoddiad.
     
  19. Pwysleisiodd y Prif Weinidog y potensial i bartneriaeth gymdeithasol wella perfformiad ysgolion ond dywedodd nad oedd cynlluniau i ailystyried rheolaeth leol ysgolion fel y'i sefydlwyd gan Ddeddf Diwygio Addysg 1988. Cyfeiriodd at berthnasedd gwaith blaenorol ynghylch dad-flaenoriaethu yn y GIG a chefnogodd y gostyngiad mewn gwariant ar nyrsys asiantaeth. Cefnogodd y Prif Weinidog yr angen am iaith glir ynghylch cyflawni, pwysigrwydd dylanwadu ar y strategaeth ddiwydiannol sy'n cael ei datblygu gan Lywodraeth y DU a'r duedd gadarnhaol o ran pobl ifanc yn manteisio ar addysg bellach ond i’r gwrthwyneb gydag AU. Amlinellodd enghreifftiau o'r oedi ynghylch cyllid canlyniadol gan Lywodraeth y DU ond teimlai y byddai hyn yn gwella wrth symud ymlaen.
     
  20. Cydnabu'r Prif Weinidog y byddai’n werth i’r Cyngor archwilio'r syniad o is-grŵp i ystyried yr iaith yn ymwneud â chynhyrchiant ac effeithlonrwydd.

Gweithredu: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i ddatblygu cynnig i is-grŵp y Cyngor i archwilio'r iaith yn ymwneud â chynhyrchiant ac effeithlonrwydd.

Eitem 3: gwella gwaith teg drwy gymorth ariannol Llywodraeth Cymru

  1. Esboniodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio fod TUC Cymru wedi gwneud cynigion yng nghyfarfod y Cyngor ym mis Gorffennaf ar gyfer sut y gellid datblygu cam nesaf polisi gwaith teg drwy ddefnyddio cymorth ariannol Llywodraeth Cymru. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet mai bwriad yr eitem hon oedd cytuno ar fan cychwyn ar gyfer bwrw ymlaen â hyn. Eglurodd fod dau fater i'w hystyried: a fyddai Gweithgor y Cyngor yn cael ei sefydlu, neu a ddylid ystyried y mater trwy sianeli ymgysylltu mewn Polisi Economaidd. Ac (os cytunir ar Weithgor) penderfynu ar bwrpas y grŵp.
     
  2. Amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet sut y gellid defnyddio'r sianeli ymgysylltu polisi economaidd sydd ar waith. Fel dewis arall, dywedodd y gallai is-grŵp ddod â strwythur a ffocws mwy ffurfiol, gan sefydlu sylfaen o brofiad i’w gynnwys mewn sectorau eraill. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod elfennau o bapur y TUC yn destun gwerthusiad parhaus o'r Contract Economaidd. Eglurodd fod yr adroddiad interim (gan gynnwys argymhellion dros dro) bron wedi'i gwblhau ac y gallai fod yn fan cychwyn da i'r is-grŵp.
     
  3. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, pe bai cytundeb i sefydlu gweithgor, y cynigiwyd y dylai cadeirio ac aelodaeth gael eu rheoli y tu allan i'r cyfarfod gan Ysgrifenyddiaeth y Cyngor. Ychwanegodd pe bai'r pwrpas, y fformat a'r camau cyntaf yn cael eu cytuno, yna gellid ystyried y cylch gorchwyl mewn cyfarfod cychwynnol o'r gweithgor.
     
  4. Dywedodd Pippa Britton (Sector Gwirfoddol) ei bod yn bwysig egluro ai sefydlu is-grŵp parhaol neu grŵp gorchwyl a gorffen oedd y cynnig.
     
  5. Cydnabu Ben Cottam (FSB) y berthynas waith dda sydd ar waith gyda swyddogion polisi economaidd a'i bod yn synhwyrol defnyddio'r rhain. Dywedodd Ben y byddai'r adroddiad sy'n cael ei gynhyrchu ar y Contract Economaidd yn fater pwysig i unrhyw is-grŵp ei ystyried.
     
  6. Roedd Ian Price (CBI) yn teimlo bod is-grŵp yn opsiwn gwell, gan deimlo y byddai'n caniatáu i arbenigedd gael ei gyflwyno i drafodaethau a allai fodoli y tu allan i'r Cyngor. Cefnogodd Ian y syniad bod y grŵp yn ystyried yr adroddiad ar y Contract Economaidd.
     
  7. Dywedodd Darren Williams (PCS) fod papur y TUC wedi gwneud cynnig cymedrol a'i bod bellach yn bwysig symud y mater hwn yn ei flaen yn gyflym. Pwysleisiodd yr angen i gytuno ar y ddwy egwyddor yn y papur ac os oedd grŵp i gael ei sefydlu yna roedd angen iddo fod ar sail gorchwyl a gorffen.
     
  8. Eglurodd Shavanah Taj (TUC Cymru) y dylai ffocws y grŵp nid yn unig fod ar y Contract Economaidd ond hefyd ar sbarduno gwelliannau mewn gwaith teg e.e. mewn gofal cymdeithasol, gan ddefnyddio dull Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru ar draws pob sector.
     
  9. Cefnogodd y Cynghorydd Anthony Hunt (CLlLC) sefydlu is-grŵp ond pwysleisiodd fod angen iddo weithredu'n gyflym gan ganolbwyntio ar ganlyniadau. Pwysleisiodd y Cynghorydd Hunt bwysigrwydd ymgysylltu â phob sector yn ei drafodaethau i sicrhau bod gwaith teg yn cael ei ystyried yn briodol.
     
  10. Cydnabu Ysgrifennydd y Cabinet y gefnogaeth i sefydlu is-grŵp ar sail gorchwyl a gorffen. Cyfeiriodd at y pwyslais yr oedd aelodau wedi'i roi ar ddatblygu gwaith yn gyflym a'r angen i gael arbenigedd perthnasol i lywio trafodaethau. Cyfeiriodd at y dirwedd gymhleth yn y maes hwn ac, yn dilyn trafodaethau yn y cyfarfod hwn, byddai'n ystyried yn ofalus yr iaith a ddefnyddir yn ei datganiad ar flaenoriaethau i'r Senedd.  

Gweithredu: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i ystyried y Contract Economaidd mewn ymgynghoriad ag aelodau.

(Roedd egwyl o ddeng munud yn dilyn yr eitem hon a gadawodd y Prif Weinidog y cyfarfod.)

Eitem 4: cylch cyfarfodydd y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol

  1. Eglurodd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol fod gofyn i aelodau gytuno ar gylch o bedwar cyfarfod ar gyfer 2025. Ymddiheurodd y Gweinidog am nifer y newidiadau a wnaed i gyfarfodydd drwy gydol y flwyddyn a dywedodd y byddai mwy o sefydlogrwydd yn 2025. Cynigiodd ddau gyfarfod wyneb yn wyneb ar gyfer 2025, gan awgrymu mai dim ond un ddylai gael ei gynnal yng Nghaerdydd.
     
  2. Cefnogodd Darren Williams (PCS) y dull arfaethedig ond teimlai y dylid cynnal cyfarfod arall yn 2024 oherwydd nifer y materion yr oedd angen eu trafod.
     
  3. Cefnogodd y Cynghorydd Anthony Hunt (CLlLC) y cynnig ond awgrymodd y gallai'r pedwar cyfarfod fod yn hybrid.
     
  4. Dywedodd y Gweinidog fod adborth o'i drafodaethau ei hun gydag aelodau yn awgrymu bod cymysgedd o gyfarfodydd wyneb yn wyneb a hybrid yn gweddu'n well i ofynion pobl.
     
  5. Ystyriodd Jess Turner (UNSAIN) y byddai cyfarfodydd personol yn caniatáu i'r undebau llafur ymgysylltu a rhwydweithio'n fwy effeithiol gyda phartneriaid cymdeithasol.
     
  6. Teimlai Pippa Britton (Sector Gwirfoddol) y dylai unrhyw gyfarfodydd is-grwpiau o'r Cyngor fod yn gymysgedd o wyneb yn wyneb a rhithwir.
     
  7. Cefnogodd Ben Cottam (FSB) ddefnyddioldeb cyfarfodydd wyneb yn wyneb fel dull o ymgysylltu â phartneriaid cymdeithasol eraill.
     
  8. Cadarnhaodd y Gweinidog y byddai cyfarfod arall o'r Cyngor yn cael ei drefnu ar gyfer 2024. Oherwydd yr amserlen dan sylw, byddai hyn yn rhithwir ond byddai rhai o gyfarfodydd y Cyngor yn 2025 yn cael eu trefnu fel rhai wyneb yn wyneb.  

Gweithredu: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i drefnu cyfarfod pellach o'r Cyngor yn 2024.

Eitem 5: dull o ymdrin â materion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

  1. Eglurodd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol fod gofyn i aelodau gytuno ar y dull 3 cham a amlinellir yn y papur ar gyfer yr eitem hon er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn ymgorffori ystyriaethau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI) yn ei gyngor. Dywedodd y Gweinidog fod y papur yn cynnig dull cyfunol fel yr argymhellwyd gan aelodau yn y cyfarfod diwethaf ac amlinellodd y tri cham. Eglurodd pe bai'r aelodau'n cytuno ar y papur, yna byddai ei gynigion yn cael eu cynnwys yn y trefniadau gweithredu ar gyfer cyfarfod nesaf y Cyngor gydag adolygiad o'r dull yn digwydd ymhen 12 mis.
     
  2. Cynigiodd Darren Williams (PCS) gefnogaeth eang i'r papur ond argymhellodd y dylai’r Cyngor gael is-grŵp sefydlog i ystyried materion EDI.
     
  3. Roedd Kathryn Robson (Addysg Bellach) yn cefnogi'r papur ond eglurodd nad oedd y Cyngor yn ddigon amrywiol. Pwysleisiodd Kathryn bwysigrwydd sicrhau bod profiad byw yn cael ei gynrychioli mewn trafodaethau yn y Cyngor a phwysigrwydd dod â chyngor arbenigol i mewn yn ôl yr angen.
     
  4. Roedd Helen Whyley (RCN) yn cefnogi'r dull a amlinellir yn y papur ond awgrymodd y dylid defnyddio'r gair tegwch yn lle cydraddoldeb i ddal anghenion amrywiol gwahanol grwpiau yn well.
     
  5. Cytunodd Pippa Britton (Sector Gwirfoddol) gyda'r defnydd o'r gair tegwch wrth symud ymlaen gan deimlo y byddai'n fwy effeithiol wrth herio rhwystrau presennol. Rhybuddiodd Pippa yn erbyn peryglon creu dull blwch ticio o ran EDI a thynnodd sylw at yr angen i ystyried pobl ag anghenion gwahanol y tu hwnt i rai o'r categorïau a oedd yn cael sylw mwy nodweddiadol.
     
  6. Cefnogodd Shavanah Taj (TUC Cymru) y sylwadau a wnaed gan Pippa Britton. Pwysleisiodd Shavanah nifer y cynlluniau gweithredu a fforymau cydraddoldeb sydd eisoes mewn bodolaeth a'r angen i sicrhau nad oedd unrhyw is-grŵp o’r Cyngor yn dyblygu gwaith.
     
  7. Gofynnodd y Gweinidog i'r Cyngor a oeddent yn fodlon newid cydraddoldeb i degwch yng ngwaith y Cyngor wrth symud ymlaen. Derbyniwyd hyn.  
     
  8. Roedd Shavanah Taj (TUC Cymru) yn cefnogi'r newid ond eglurodd fod llawer o gynlluniau Llywodraeth Cymru eisoes yn cynnwys cydraddoldeb, gan godi pryderon ynghylch cysondeb.
     
  9. Cadarnhaodd y Gweinidog y byddai Ysgrifenyddiaeth y Cyngor yn gweithio gydag aelodau i sefydlu cadeirydd ac aelodaeth ar gyfer is-grŵp EDI sefydlog y gellid ei roi ar waith yn ôl yr angen.  

Gweithredu: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i ymgysylltu ag aelodau i sefydlu cadeirydd ac aelodaeth ar gyfer is-grŵp Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant sefydlog y gellid ei roi ar waith yn ôl yr angen.

Eitem 6: cymeradwyo gweithdrefnau’r Cyngor

  1. Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol fod Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru nodi a chyhoeddi 'r cworwm ar gyfer cyfarfodydd y Cyngor, a'r gweithdrefnau i'w dilyn gan y Cyngor. Atgoffodd y Gweinidog yr aelodau eu bod wedi ystyried y gweithdrefnau yn eu cyfarfod cyntaf o'r Cyngor a cheisio eglurder pellach ar sut y byddai peidio â mynychu gan aelodau (gan gynnwys y broses adael) bellach yn cael ei drin. Eglurodd fod polisi presenoldeb ac ymddygiad wedi'i ddatblygu oedd yn adlewyrchu sylwadau cynharach gan aelodau (Atodiad A yn y ddogfen gweithdrefnau). Gofynnodd y Gweinidog i'r aelodau a oeddent yn fodlon cytuno ar y gweithdrefnau.
     
  2. Cadarnhaodd Shavanah Taj (TUC Cymru) fod yr undebau llafur wedi cyflwyno rhai sylwadau technegol ar y gweithdrefnau cyn y cyfarfod hwn. Er mwyn arbed amser, awgrymodd Shavanah y gellid cytuno ar y gweithdrefnau mewn egwyddor yn amodol ar gytundeb terfynol i'r testun trwy e-bost y tu allan i'r cyfarfod.
     
  3. Dywedodd Darren Willaims (PCS) fod angen egluro'r gweithdrefnau ond o ystyried bod y sylwadau gan y undebau llafur yn eithaf manwl roedd yn cefnogi'r farn y gellid eu hystyried y tu allan i'r cyfarfod.  
     
  4. Cadarnhaodd Nicola Prygodzicz (Prif Weithredwyr y GIG) ei bod wedi codi materion yn ymwneud â chyfrinachedd o'r blaen ond bod y rhain wedi'u cynnwys. O ran presenoldeb, esboniodd Nicola y byddai angen prif weithredwr GIG arall arni weithiau i arsylwi arni oherwydd pwysau gwaith ond ei bod yn fodlon cytuno ar y gweithdrefnau.  
     
  5. Roedd Kathryn Robson (Addysg Bellach) yn teimlo bod digon o amser wedi bod i ystyried y gweithdrefnau ac y dylid eu cymeradwyo yn awr.
     
  6. Ailadroddodd Darren Williams (PCS) fod angen ystyried rhai o'r sylwadau a ddarparwyd gan yr undebau llafur o hyd.  
     
  7. Dywedodd y Gweinidog fod y gweithdrefnau wedi’u cytuno mewn egwyddor gan dderbyn bod yna ychydig o fanylion i'w datrys. Pwysleisiodd nad oedd am oedi eu clirio ymhellach a'i fod yn fodlon iddynt gael eu cwblhau drwy e-bost.

Gweithredu: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i gyflwyno gweithdrefnau diwygiedig ar gyfer cytundeb gan aelodau erbyn 14 Hydref. 

Eitem 7: cofnodion/gweithredoedd yn codi

  1. Eglurodd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol fod pedwar cam gweithredu ar ôl o gyfarfodydd blaenorol y Cyngor ac fe’u rhestrodd. Gofynnodd y Gweinidog i'r aelodau a oeddent yn fodlon cytuno ar y rhain.
     
  2. Gofynnodd Jess Turner (UNSAIN) a oedd adroddiad Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ar AI ar y trywydd iawn i'w gyflwyno i'r Cyngor yn fuan.
     
  3. Eglurodd Sharon West (Llywodraeth Cymru) fod Cyngor Partneriaeth y Gweithlu yn bwriadu cymeradwyo'r adroddiad yn ei gyfarfod nesaf ar 13 Tachwedd ond os nad oedd hyn yn bosibl, gellid cytuno ar adroddiad interim i'w rannu gyda'r Cyngor.
     
  4. Cadarnhaodd y Gweinidog fod is-grŵp cyflawni Cyngor Partneriaeth y Gweithlu y Cyd-bwyllgor Gweithredol yn ymwybodol o'r angen i gwblhau'r adroddiad.

Eitem 8: sylwadau cloi

  1. Diolchodd y Gweinidog Diwylliant , Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol i'r aelodau am eu safbwyntiau a gofynnodd a oedd unrhyw faterion eraill yr oeddent am eu codi.
     
  2. Diolchodd Jess Turner (UNSAIN) i Darren Williams (PCS) am ei gyfraniadau i’r Cyngor gan egluro mai hwn fyddai ei gyfarfod olaf yn dilyn newid rôl.
     
  3. Diolchodd y Gweinidog i Darren Williams ac Ian Price. Ailadroddodd bwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol, y statws a roddodd y Cabinet ar y Cyngor a chadarnhaodd y byddai swyddogion yn bwrw ymlaen â'r camau y cytunwyd arnynt gydag aelodau.

Presenoldeb y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (y Cyngor): 30 Medi 2024

Llywodraeth Cymru

Eluned Morgan AS, Prif Weinidog Cymru (Cadeirydd)
Jack Sargeant AS, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol (Cyd-gadeirydd)
Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio (Eitem 3)
Jo Salway, Cyfarwyddwr, Partneriaeth Gymdeithasol, Cyflogadwyedd a Gwaith Teg
Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru 
Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllideb a Busnes y Llywodraeth 
Sharon West, Diwygio Partneriaeth Gymdeithasol 
Chris Hartwell, Pennaeth Polisi, Gwerth Cymdeithasol a Chysylltiadau Rhynglywodraethol

Cynrychiolwyr Gweithwyr 

Neil Butler, Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau (Rhithwir) 
Gareth Lloyd, Undeb Prifysgolion a Cholegau
Shavanah Taj, TUC Cymru  
Jess Turner, UNSAIN
Darren Williams, Undeb Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol
Mike Walker, Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol 
Helen Whyley, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru
Peter Hughes, Undeb Unite yng Nghymru (Rhithwir)

Cynrychiolwyr Cyflogwyr 

Pippa Britton, Trydydd Sector
Y Cynghorydd Anthony Hunt, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Ian Price, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain Cymru
Nicola Prygodzicz, Prif Weithredwyr y GIG (Rhithwir) 
Kathryn Robson, Addysg Oedolion Cymru
Ben Cottam, Ffederasiwn Busnesau Bach
Yr Athro Wendy Larner, Prifysgol Caerdydd
Janis Richards, Make UK Ltd

Ysgrifenyddiaeth y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol

Zoe Holland, Llywodraeth Cymru 
Mark Lewis, Llywodraeth Cymru
Gerwyn David, Llywodraeth Cymru
Gavin Jenkins, Llywodraeth Cymru

Ymddiheuriadau

Ruth Brady, GMB
Y Fonesig Elan Closs-Stephens, Fforwm Arweinwyr Cyhoeddus