Cyfarfod Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol, 4 Mehefin 2025: gweithredoedd y cyfarfod diwethaf
Gweithredoedd yn codi o'r cyfarfod blaenorol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyfarfod 6: 12 Mawrth 2025
Eitem 7 ar yr agenda: cofnodion/camau gweithredu sy'n codi
Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i sicrhau bod y Bil Hawliau Cyflogaeth ar agenda nesaf y Cyngor.
Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor.
Cwblhawyd: cyflwyno papur ar gyfer cyfarfod mis Mehefin (SPC 07-05).
Eitem 6 ar yr agenda: Partneriaeth Gymdeithasol mewn Addysg Bellach ac Uwch
Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i ddarparu datganiad drafft gan y Cyngor ar bwysigrwydd partneriaeth gymdeithasol yn y sector AU/AB i'w ystyried gan aelodau. Byddai angen cytundeb gan yr holl aelodau er mwyn iddo gael ei fabwysiadu.
Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor.
Cwblhawyd: wedi e-bostio datganiad drafft at aelodau ar 14 Mawrth 2025. Ni chafwyd cytundeb gan bob aelod.
Eitem 5 ar yr agenda: diweddariad ar y Gweithgor ar Grantiau Gwaith Teg mewn Busnes
Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i sicrhau bod diweddariad pellach gan y Grŵp Grantiau Gwaith Teg mewn Busnes yn cael ei ddarparu yng nghyfarfod nesaf y Cyngor.
Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor.
Cwblhawyd: diweddariad gan y Cadeiryddion ar agenda mis Mehefin.
Eitem 4 ar yr agenda: newid sgiliau, Paratoi ar gyfer economi wedi'i llywio gan Ddeallusrwydd Artiffisial (AI)
Swyddogion Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â'r gwaith pellach ar AI a awgrymwyd mewn papur (SPC06-04) gan ystyried barn yr aelodau.
Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor.
Parhaus: mae cyfarfod yn cael ei drefnu gydag Amber Courtney o Unsain i drafod y camau nesaf.
Eitem 3 ar yr agenda: cyfrinachol, aelodau yn unig, Adroddiad Drafft Blynyddol Partneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru
Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i ddarparu copi o'r llythyr gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol i gyrff cyhoeddus yn pwysleisio pwysigrwydd amser cyfleuster undebau llafur i aelodau.
Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor.
Cwblhawyd: wedi anfon llythyr drwy e-bost at aelodau ar 13 Mawrth 2025.
Eitem 3 ar yr agenda: cyfrinachol, aelodau yn unig, Adroddiad Drafft Blynyddol Partneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru
Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i ddosbarthu Adroddiad Blynyddol diwygiedig Gweinidogion Cymru i'r aelodau er mwyn cytuno arno cyn cyfarfod nesaf y Cyngor.
Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor.
Cwblhawyd: wedi anfon adroddiad drafft diwygiedig at aelodau ar 22 Ebrill 2025.
Eitem 2 ar yr agenda: cyfrinachol, aelodau yn unig, Ymgynghoriad ar flaenoriaethau deddfwriaethol Gweinidogion Cymru
Aelodau i ddarparu syniadau ar unrhyw filiau technegol sy'n debygol o gael cefnogaeth drawsbleidiol y gellid eu cynnig i'w hystyried yn y dyfodol y tu hwnt i dymor presennol y Senedd, at Ysgrifenyddiaeth y Cyngor.
Perchennog: Cyngor.
Parhaus.
Eitem 2 ar yr agenda: cyfrinachol, aelodau yn unig, Ymgynghoriad ar flaenoriaethau deddfwriaethol Gweinidogion Cymru
Darparu papur ysgrifenedig cyfrinachol i'r Aelodau ar y rhaglen ddeddfwriaethol.
Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor.
Cwblhawyd: wedi e-bostio papur at aelodau ar 20 Mawrth.
Cyfarfod 5: 5 Rhagfyr 2024
Eitem 7 ar yr agenda: cyfarfod nesaf, dyddiad a lleoliad
Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i archwilio opsiynau ar gyfer cynnal cyfarfod 8 Hydref yn y Gogledd.
Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor.
Parhaus: gofynnwyd i'r aelodau ddewis lleoliad y cyfarfod.
Eitem 4 ar yr agenda: Deallusrwydd Artiffisial (AI) a'r Gweithlu
Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i ddatblygu opsiynau (mewn ymgynghoriad â Gweithgor AI Cyngor Partneriaeth y Gweithlu) ar gyfer sut y gallai'r Cyngor fwrw ymlaen â gwaith AI.
Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor.
Parhaus: cyflwyno papur ar gyfer cyfarfod 12 Mawrth (SPC 06-04) a threfnu cyfarfod gydag Amber Courtney i drafod y camau nesaf.
Eitem 4 ar yr agenda: Deallusrwydd Artiffisial (AI) a'r Gweithlu
Gweithgor AI Cyngor Partneriaeth y Gweithlu i ddarparu'r fersiynau hawdd eu deall o'u hadroddiadau i'r Cyngor ar ôl eu cwblhau.
Perchennog: Gweithgor AI Cyngor Partneriaeth y Gweithlu.
Parhaus: nid yw'r fersiynau hawdd eu deall wedi'u cwblhau eto.
Eitem 2 ar yr agenda: Bil Hawliau Cyflogaeth
Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i sicrhau bod diweddariadau rheolaidd yn cael eu darparu i'r Cyngor ar hynt y Bil Hawliau Cyflogaeth.
Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor.
Parhaus: wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer cyfarfod 12 Mawrth.
Cyfarfod 2: 4 Mehefin 2024
Eitem 3 ar yr agenda: cyfrinachol, aelodau yn unig, Ymgynghoriad ar flaenoriaethau deddfwriaethol Gweinidogion Cymru
Ysgrifenyddiaeth y Cyngor i roi gwybod i'r aelodau pan fydd ymgynghoriad Cam 1 ar y Bil Bysiau yn cael ei lansio.
Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor.
Cwblhawyd: wedi e-bostio dolen at aelodau ar 3 Ebrill.
Cyfarfod 1: 1 Chwefror 2024
Eitem 4 ar yr agenda: dull arfaethedig o ddarparu gwybodaeth a chyngor gan y Cyngor i Weinidogion Cymru
Cytunodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol i rannu pob un o'r 56 adroddiad partneriaeth gymdeithasol gan gyrff cyhoeddus (pan fyddant ar gael) gyda'r adroddiad cryno ar gyfer 2024/25 os bydd aelodau'r Cyngor yn dymuno eu gweld.
Perchennog: Ysgrifenyddiaeth y Cyngor.
Parhaus: I'w weithredu pan fydd yr adroddiadau wedi'u cyhoeddi.
Eitem 6 ar yr agenda: darpariaethau caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023
SH i ystyried y ffordd orau o sicrhau bod y Cyngor yn cael ei ddiweddaru trwy friffiau technegol ar faterion caffael yn ogystal â datblygu'r Is-grŵp Caffael.
Perchennog: Swyddog Llywodraeth Cymru.
Parhaus: cyflwyno papur ar gyfer cyfarfod mis Mehefin (SPC 07-04. Darparwyd papurau i'w nodi yng nghyfarfod mis Mawrth, yn ogystal â chyfarfodydd Gorffennaf a 30 Medi y llynedd. Cynhaliwyd sesiwn friffio dechnegol ar gaffael ar 24 Medi.
