Neidio i'r prif gynnwy

Agenda

1. Cyflwyniad a chyd-destun

Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru - Ar lafar

2. Gweledigaeth, Cenhadaeth, a Blaenoriaethau Strategol Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ar gyfer 2019-2020

Karen Higgins, Pennaeth Cydysgrifenyddiaeth y Cyngor Partneriaeth, Y Cydbwyllgor Gweithredol - Papur (Eitem 2 y Cyngor Partneriaeth) Tudalen 3

3. Cytundebau’r Cyngor Partneriaeth - (Atodiad i Ddogfen Fframwaith Strategol y Cyngor)

Karen Higgins, Pennaeth Cydysgrifenyddiaeth y Cyngor Partneriaeth, Y Cydbwyllgor Gweithredol - Papur (Eitem 3 y Cyngor Partneriaeth) Tudalen 10

4. Partneriaeth a Rheoli Newid yny Cyngor Partneriaeth

Karen Higgins, Pennaeth Cydysgrifenyddiaeth y Cyngor Partneriaeth, Y Cydbwyllgor Gweithredol - Papur (Eitem 4 y Cyngor Partneriaeth) Tudalen 19

5. Strategaeth y Gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Ymgynghoriad

Joanne Oak, Cyfarwyddwr Strategaeth a Gwasanaethau Corfforaethol, Gofal Cymdeithasol Cymru - Ar lafar

6. Cynllun Cyfathrebu’r Cyngor Partneriaeth

Karen Higgins, Pennaeth Cydysgrifenyddiaeth y Cyngor Partneriaeth, Y Cydbwyllgor Gweithredol - Papur (Eitem 6 y Cyngor Partneriaeth) Tudalen 28

7. Absenoldeb â thâl i Staff sy’n wynebu cam-drin domestig

Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru - Ar lafar

8. Papurau i’w nodi:

8.1 Adroddiad blynyddol – egwyddorion a chanllawiau sy’n ymwneud â defnyddio trefniadau oriau heb eu gwarantu yn briodol mewn gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Papur (Eitem 8.1 y Cyngor Partneriaeth) Tudalen 36. Y Cydbwyllgor Gweithredol - i’w nodi

8.2 Adroddiad blynyddol – cod ymarfer ar gyfer materion sy’n ymwneud â’r gweithlu (cod dwy haen). Papur (Eitem 8.2 y Cyngor Partneriaeth) Tudalen 49. Y Cydbwyllgor Gweithredol - i’w nodi.

8.3 Adroddiad cynnydd – ymuno â siarter ‘Marw i Weithio’ y TUC. Papur (Eitem 8.3 y Cyngor Partneriaeth) Tudalen 60. Y Cydbwyllgor Gweithredol - i’w nodi.

8.4 Adroddiad cynnydd - casglu data agored ar weithlu’r sector cyhoeddus. Papur (Eitem 8.4 y Cyngor Partneriaeth) Tudalen 67. Llywodraeth Cymru - i’w nodi.

1. Cyflwyniad a chyd-destun

1.1 Croesawodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol aelodau i’r cyfarfod. Diolchodd i’r Cyd-bwyllgor Gweithredol (JEC) am lunio cynllun gwaith mewn partneriaeth gymdeithasol. Croesawodd y ffaith fod ysgrifenyddiaeth amser llawn y Cyd-Bwyllgor Gweithredol yn cael ei sefydlu, a rhoddodd ddiweddariad fel a ganlyn:

1.2 Mae adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg yn darparu cyd-destun hanfodol i waith Cyngor Partneriaeth y Gweithlu (WPC). Fe’i cyhoeddwyd ym mis Mai, ochr yn ochr â datganiad ar lafar gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriadau parhaus gyda phartneriaid cymdeithasol ar y camau nesaf. Mae wedi derbyn chwe blaenoriaeth yr adroddiad, ac mae cynhadledd Gwaith Teg wedi’i threfnu ar gyfer yr haf. Bydd hyn yn sbarduno trafodaeth ehangach am gyflawni’r argymhellion.

1.3 Bydd disgwyl i’r Prif Weinidog roi datganiad ar lafar ar 9 Gorffennaf i ymateb i adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg. Bydd yr ymateb yn ystyried ble gellir a ble na ellir defnyddio deddfwriaeth. Fodd bynnag, mae’r ymrwymiad i Waith Teg yn mynd y tu hwnt i ddeddfwriaeth ac yn cynnwys y contract economaidd gyda busnes ac ysgogiadau eraill Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru eisiau i Gymru fod yn wlad gyfartal, deg a chymdeithasol gyfiawn – ac mae hyn yn berthnasol i weithleoedd hefyd.

Gweledigaeth, Cenhadaeth a Blaenoriaethau Strategol Cyngor Partneriaeth y Gweithlu, 2019-2020

2.1 Gwahoddwyd Karen Higgins i gyflwyno’r papur ar gyfer yr eitem hon gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol. Gofynnodd am i dair eitem gael eu hystyried, cydnabod trefniadau newydd Cyngor Partneriaeth y Gweithlu sydd bellach ar waith, cadarnhau gweledigaeth, cenhadaeth a blaenoriaethau strategol arfaethedig Cyngor Partneriaeth y Gweithlu a chytundeb y bydd y Cyd-bwyllgor Gweithredol yn datblygu a chyflwyno rhaglen waith Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ymhellach.

2.2 Rhoddodd drosolwg o benderfyniadau allweddol a wnaed yng nghyfarfod diwethaf Cyngor Partneriaeth y Gweithlu, a ddechreuodd drefniadau newydd ar gyfer eu cyflawni gan Gyngor Partneriaeth y Gweithlu. Roedd hyn yn cynnwys mabwysiadu dogfen Fframwaith Strategol Cyngor Partneriaeth y Gweithlu, ffurfio’r Cyd-bwyllgor Gweithredol a’r Gyd-ysgrifenyddiaeth (JS) a gofyniad i ddatblygu rhaglen waith flynyddol ar gyfer Cyngor Partneriaeth y Gweithlu.

2.3 Esboniodd fod gweledigaeth, cenhadaeth a blaenoriaethau strategol Cyngor Partneriaeth y Gweithlu wedi cael eu datblygu ar y cyd trwy bartneriaeth gymdeithasol gan y Cyd-bwyllgor Gweithredol i ddarparu ffocws ar y cyd ar gyfer Cyngor Partneriaeth y Gweithlu a’i raglen waith. Amlinellodd bedwar nod strategol ar gyfer y rhaglen waith, sef: gwaith teg, dyfodol gwaith, tegwch yn y gweithlu a symudedd yn y gweithlu. Diffinnir bob un o’r rhain gan uchelgais ac amcanion cysylltiedig.

2.4 Esboniodd y byddai’r rhaglen waith yn ddogfen fyw a fyddai’n esblygu dros gyfnod i ystyried datblygiadau newydd a datblygiadau sy’n dod i’r amlwg. Gofynnodd fod y Cyd-bwyllgor Gweithredol yn cael ei gymeradwyo i barhau i ddatblygu’r manylion a chyflwyno rhaglen waith Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ar gyfer 2019-2020.

2.5 Gofynnodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol i Gyngor Partneriaeth y Gweithlu a oeddent yn fodlon cadarnhau’r cynigion ar gyfer gweledigaeth, cenhadaeth, blaenoriaethau strategol a rhaglen waith. Cytunodd Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ar bob un o’r eitemau hyn ac awdurdododd y Cyd-bwyllgor Gweithredol i ddatblygu rhaglen waith Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ymhellach, a’i chyflwyno.

2.6 Cododd Margaret Phelan bwynt ynghylch statws y sectorau addysg bellach ac addysg uwch yng nghyd-destun Cyngor Partneriaeth y Gweithlu. Gofynnodd i aelodau gytuno ar ffurf geiriau a fyddai’n galluogi’r sectorau addysg bellach/addysg uwch i gymryd rhan yng Nghyngor Partneriaeth y Gweithlu. Byddai hynny’n cyfleu eu bod, er gwaethaf eu statws NPISH, yn cael eu cydnabod a’u rhwymo gan y cytundebau a luniwyd yng nghyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gweithlu. Cytunodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol fwrw ymlaen â hyn ar ran Llywodraeth Cymru.

Cam gweithredu

Cytunodd Llywodraeth Cymru i archwilio p’un a ellid cytuno ar ffurf geiriau gyda’r sectorau addysg bellach ac addysg uwch er mwyn gallu cyfranogi yng Nghyngor Partneriaeth y Gweithlu.

Cytundebau Cyngor Partneriaeth y Gweithlu – (Atodiad i Ddogfen Fframwaith Strategol Cyngor Partneriaeth y Gweithlu)

3.1 Cyflwynwyd y papur gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, gan ddweud mai ei ddiben yw sicrhau bod gennym ddealltwriaeth ar y cyd o sut caiff cytundebau Cyngor Partneriaeth y Gweithlu eu creu, eu cymeradwyo a sut dylid eu rhoi ar waith. Cadarnhaodd na fydd yr holl allbynnau o Gyngor Partneriaeth y Gweithlu yn gytundebau ffurfiol.

3.2 Wedyn, cyflwynodd Karen Higgins y papur gan ddweud ei fod wedi cael ei lunio fel atodiad pellach i Ddogfen Fframwaith Strategol Cyngor Partneriaeth y Gweithlu a’i fod yn angenrheidiol gan fod penderfyniadau blaenorol Cyngor Partneriaeth y Gweithlu wedi cael eu dehongli’n wahanol gan randdeiliaid gan sbarduno cais am eglurhad.

3.3 Er mwyn i unrhyw benderfyniad arwain at gytundeb ffurfiol, rhaid i bob un o’r tri phartner cymdeithasol ei gytuno a’i dderbyn felly. Mae gwahaniaeth yn bodoli, er enghraifft, rhwng eitem 4 ar agenda Cyngor Partneriaeth y Gweithlu, sef ‘Partneriaeth a Rheoli Newid’, a ddatblygwyd ar y cyd rhwng partneriaid, sy’n cael ei pherchnogi a’i chyhoeddi fel cytundeb ffurfiol Cyngor Partneriaeth y Gweithlu gyda disgwyliadau ynglŷn â’i rhoi ar waith, ac eitem 5, y Strategaeth Gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol, nad yw’n cael ei datblygu, ei pherchnogi na’i chyhoeddi gan Gyngor Partneriaeth y Gweithlu, ond gall Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ddewis cefnogi a chytuno cymryd camau i ymateb iddi, ond na fydd unrhyw rwymedigaeth ynglŷn â’i rhoi ar waith.

3.4 Caiff tri math o ddogfen eu nodi yn yr atodiad, sef cytundebau, canllawiau ac arfer gorau. Gallai pob math o ddogfen fod ar ei phen ei hun, neu gellid eu defnyddio gyda’i gilydd i gefnogi un pwnc. Mae’r atodiad yn rhoi manylion am y broses a’r meini prawf ar gyfer eu datblygu a’u cyhoeddi fel dogfennau Cyngor Partneriaeth y Gweithlu. Cyfeiriwyd at siart llif y broses, a oedd yn cynnig trosolwg.

3.5 Cadarnhaodd y bydd yr holl ddogfennau’n cael eu llunio mewn cydweithrediad rhwng partneriaid cymdeithasol, ac ar ôl eu derbyn ar gyfer eu datblygu, byddai Cyngor Partneriaeth y Gweithlu yn cytuno ar amserlenni a cherrig milltir ar y cychwyn. Bydd angen i bob un o’r tri phartner dderbyn y dogfennau, a chytuno arnynt, a bydd yr holl ddogfennau’n dod i Gyngor Partneriaeth y Gweithlu i’w hystyried a’u cymeradwyo cyn eu cyhoeddi o dan faner Cyngor Partneriaeth y Gweithlu gyda pherchnogaeth ar y cyd.

3.6 Croesawyd y papur gan bob ochr. Dywedodd Martin Mansfield fod y papur yn cadarnhau statws Cyngor Partneriaeth y Gweithlu a rôl ei aelodau fel cynrychiolwyr eu sectorau. Esboniodd fod cytundebau a wnaed gan Gyngor Partneriaeth y Gweithlu yn debyg i gytundebau tâl gan nad ydynt yn statudol ond yn rhwymedig ac yn cael eu rhoi ar waith heb eithriad. Yn hynny o beth, dylid newid y cyfeiriad i ‘eang’ ar dudalen 12 y papur i ‘cyffredinol’.

3.7 Trafodwyd pwysigrwydd cyfathrebu effeithiol ymhlith aelodau Undeb Llafur Cyngor Partneriaeth y Gweithlu. Argymhellwyd y dylid cyfeirio’r mater hwn at aelodau Undeb Llafur y Cyd-bwyllgor Gweithredol.

3.8 Amlygwyd y dylid newid ‘sector cyhoeddus’ i ‘gwasanaethau cyhoeddus’ yn y ddogfen, ac y dylai pob aelod sicrhau bod unrhyw gyfeiriadau at Gyngor Partneriaeth y Gweithlu fod yn ‘gwasanaethau cyhoeddus’ yn hytrach na ‘sector cyhoeddus’, fel ei bod yn glir fod cylch gwaith Cyngor Partneriaeth y Gweithlu yn cynnwys rhanddeiliaid ehangach, fel colegau addysg bellach a phrifysgolion, sy’n sefydliadau nid er elw sy’n gwasanaethu aelwydydd. Cytunwyd ar hyn.

3.9 Awgrymwyd y dylai’r broses adlewyrchu ymgysylltu ag aelodau o Gyngor Partneriaeth y Gweithlu fel rhan o’r siart llif.

3.10 Cadarnhawyd y ddogfen yn amodol ar y diwygiadau cytûn.

Cam gweithredoedd

1. Dylai Cyd-ysgrifenyddiaeth Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ddileu cyfeiriad at ‘eang’ ar dudalen 12 papur Cytundebau Cyngor Partneriaeth y Gweithlu, a’i newid i ‘cyffredinol’.

2. Dylai’r aelodau Undeb Llafur drafod cyfathrebu â’u cynrychiolwyr ar y Cyd-bwyllgor Gweithredol.

3. Dylai Cyd-ysgrifenyddiaeth Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ddiwygio dogfen Cytundebau Cyngor Partneriaeth y Gweithlu fel bod yr holl gyfeiriadau yn dweud ‘gwasanaethau cyhoeddus’, nid ‘sector cyhoeddus’.

4. Dylai Cyd-ysgrifenyddiaeth Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ddiwygio’r siart llif i amlygu ymgysylltiad ag aelodau Cyngor Partneriaeth y Gweithlu o fewn y broses.

4. Partneriaeth Cyngor Partneriaeth y Gweithlu a Rheoli Newid

4.1 Esboniodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol mai diben y papur hwn yw cytuno ar ddiwygiadau i’r ddogfen Partneriaeth a Rheoli Newid fel ei bod yn cyd-fynd â’r trefniadau newydd yn dilyn Adolygiad Cyngor Partneriaeth y Gweithlu. Wedyn, trosglwyddodd yr awenau i Karen Higgins a esboniodd fod y ddogfen Partneriaeth a Rheoli Newid eisoes yn gytundeb sefydledig Cyngor Partneriaeth y Gweithlu, a ddatblygwyd ar y cyd gan bartneriaid cymdeithasol ac a gyhoeddwyd gan Gyngor Partneriaeth y Gweithlu yn 2012.

4.2 Esboniodd Karen Higgins fod y ddogfen yn gyfoes o ganlyniad i’r diwygiadau, ond nad ydynt yn newid y cytundeb ei hun yn ei hanfod, ac nid yw hyn yn destun trafod. Esboniodd fod y cyflwyniad wedi’i ddisodli i adlewyrchu trefniadau newydd Cyngor Partneriaeth y Gweithlu, gydag adrannau sy’n diffinio statws Cyngor Partneriaeth y Gweithlu a’r ddogfen Partneriaeth a Rheoli Newid. Cadarnhaodd hefyd fod yr adran ar anghydfod wedi’i diweddaru i adlewyrchu strwythurau newydd Cyngor Partneriaeth y Gweithlu.

4.3 Roedd Tanya Palmer yn cefnogi defnyddio’r ddogfen, ond gofynnodd sut gallai aelodau sicrhau y byddai ei hegwyddorion yn cael eu mabwysiadu a’u rhoi ar waith gan ochr y Cyflogwr Datganoledig.

4.4 Cadarnhaodd Richard Tompkins o safbwynt y GIG eu bod eisoes yn cydymffurfio oherwydd aethpwyd i’r afael â’r cytundeb trwy eu dogfen Polisi Newid Sefydliadol, a gellid darparu’r ddogfen i’r Cyd-bwyllgor Gweithredol pe bai angen.

4.5 Esboniodd y Cynghorydd David Poole y byddai’n ymdrechu i sefydlu cefnogaeth i’r ddogfen o fewn llywodraeth leol.

4.6 Amlygodd Reg Kilpatrick y bydd gan sectorau fel llywodraeth leol eu mecanweithiau eu hunain ar waith ar gyfer unrhyw anghydfod mewn perthynas â Phartneriaeth a Rheoli Newid, a rhaid caniatáu i’r rhain ddigwydd yn gyntaf cyn codi unrhyw anghydfod, a mynd yn ôl at y Cyd-bwyllgor Gweithredol.

4.7 Cadarnhaodd Chris Llewelyn gefnogaeth i’r ddogfen a theimlai y byddai CLlLC a’r ochr Undeb Llafur eisiau i Bartneriaeth a Rheoli Newid weithio’n effeithiol.

4.8 Pwysleisiodd yr Undebau Llafur ar y cyd eu disgwyliadau y byddai’r ddogfen, fel dogfen Cyngor Partneriaeth y Gweithlu, yn cael ei mabwysiadu gan Gyflogwyr Datganoledig.

4.9 Gofynnodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol i Gyngor Partneriaeth y Gweithlu a oeddent yn fodlon cadarnhau’r diwygiadau a gynigiwyd gan y Cyd-bwyllgor Gweithredol i’r ddogfen Partneriaeth a Rheoli Newid. Cafodd y diwygiadau arfaethedig eu derbyn a’u cadarnhau gan aelodau Cyngor Partneriaeth y Gweithlu.

5. Strategaeth y Gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymgynghoriad

5.1 Dywedodd Joanne Oak fod Strategaeth ddrafft ddeng mlynedd y Gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cael ei datblygu i ymateb i Cymru Iachach, sef y cynllun tymor hir ar gyfer gwasanaethau iechyd a chymdeithasol yng Nghymru. Ymgysylltwyd yn helaeth ar draws yr holl sectorau, a bydd ymgynghoriad ffurfiol yn cael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf. Bydd y strategaeth derfynol yn cael ei lansio ym mis Tachwedd. Pwysleisiodd bwysigrwydd sicrhau bod y strategaeth yn ychwanegu at waith Cyngor Partneriaeth y Gweithlu.

6. Cynllun Cyfathrebu Cyngor Partneriaeth y Gweithlu

6.1 Cyflwynodd y Dirprwy Weinidog yr eitem, a gofynnodd i Karen Higgins gyflwyno’r papur. Esboniwyd bod Cynllun Cyfathrebu Cyngor Partneriaeth y Gweithlu wedi cael ei ddatblygu i gynyddu ei welededd, cynnig didwylledd a thryloywder a hyrwyddo’r rhaglen waith.

6.2 Roedd y Cynllun Cyfathrebu yn cynnwys gwefan Cyngor Partneriaeth y Gweithlu; roedd datblygu gwefan gychwynnol eisoes wedi rhoi presenoldeb sylfaenol i Gyngor Partneriaeth y Gweithlu ar y we. Bydd ymarferoldeb yn cael ei ddatblygu ymhellach i gynnwys cylchlythyr ar-lein erbyn mis Medi 2019 a ffrwd Twitter erbyn mis Mawrth 2020.

6.3 Bydd y cylchlythyr yn cael ei gyhoeddi ddwywaith y flwyddyn rhwng cyfarfodydd Cyngor Partneriaeth y Gweithlu i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid am ei fusnes. Bydd bwletin yn cael ei gyhoeddi ar gyfer unrhyw eitemau brys neu rai sydd â chyfyngiadau amser, a bydd erthyglau newyddion yn cael eu paratoi i’w defnyddio mewn gohebiaeth â phartneriaid. Bydd pecyn cyflwyno gyda negeseuon allweddol ar gael i gefnogi cyflwyniadau Cyngor Partneriaeth y Gweithlu mewn digwyddiadau.

6.4 Cadarnhaodd Karen Higgins fod cyllid ar gyfer y wefan a’r cylchlythyr wedi cael eu cymeradwyo yn ddiweddar, ac yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru. Cadarnhaodd y bydd cynnwys cylchlythyr cyntaf Cyngor Partneriaeth y Gweithlu yn cael ei drafod yng nghyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor Gweithredol.

6.5 Cytunodd Cyngor Partneriaeth y Gweithlu fod cyfathrebu yn bwysig i hyrwyddo’i bresenoldeb, gan amlygu ei nodau craidd a’r cytundebau mae wedi eu gwneud. Nodwyd pwysigrwydd hyn i’r eitem agenda gynharach ar gytundebau gan Gyngor Partneriaeth y Gweithlu.
6.6 Gwnaed cais i gynnwys trefniadau ar gyfer cyfathrebu mewnol, amlygwyd y darpariaethau o fewn trefniadau newydd Cyngor Partneriaeth y Gweithlu a chyfeiriwyd y sylw yn ôl at y Cyd-bwyllgor Gweithredol i’w ystyried.

6.7 Esboniodd Shavanah Taj fod angen i weithgarwch cyfathrebu ystyried nad oes cyfrifiadur gan bawb o fewn y gweithlu, ac na allant fynd at gynnwys ar-lein. Amlygodd fod angen tegwch, ac awgrymodd y dylid cynnig cyhoeddiadau neu gopïau caled yn lle. Gofynnodd hefyd am i unrhyw weithgarwch cyfathrebu fod yn ymwybodol o’r angen i barchu amrywiaeth mewn unrhyw gynnwys, delweddau neu gyflwyniad allanol. Cadarnhaodd Karen Higgins y byddai’r sylwadau’n cael eu cyfeirio’n ôl at y Cyd-bwyllgor Gweithredol i’w hystyried.

6.8 Gofynnodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol i Gyngor Partneriaeth y Gweithlu a oeddent yn fodlon cadarnhau eu Cynllun Cyfathrebu. Cadarnhawyd Cynllun Cyfathrebu Cyngor Partneriaeth y Gweithlu gan aelodau.

Cam gweithredu

Dylai’r Cyd-bwyllgor Gweithredol ystyried ac ymateb i adborth gan aelodau Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ar ei Gynllun Cyfathrebu.

7. Absenoldeb â thâl ar gyfer staff sy’n profi cam-drin domestig

7.1 Esboniodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol fod Llywodraeth Cymru eisiau annog cyflogwyr i gynnig absenoldeb â thâl i’r rheiny sydd wedi eu heffeithio gan gam-drin domestig. Gofynnodd am roi’r mater hwn ar agenda’r Cyd-bwyllgor Gweithredol i’w ystyried, a chytunwyd i wneud hyn.

Cam gweithredu

Dylai Cyd-ysgrifenyddiaeth Cyngor Partneriaeth y Gweithlu roi ‘absenoldeb â thâl i’r rheiny sydd wedi eu heffeithio gan gam-drin domestig’ ar agenda’r Cyd-bwyllgor Gweithredol yn y dyfodol i’w ystyried.

8. Papurau i’w nodi

8.1 Cytunodd aelodau Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ar y papurau i’w nodi.

8.2 Gofynnodd Shavanah Taj ai hwn yw’r tro olaf y byddai Papur 8.1 Adroddiad Blynyddol – Egwyddorion a Chanllawiau ar Ddefnydd Priodol o’r Trefniadau Oriau Heb eu Gwarantu mewn Gwasanaethau Cyhoeddus Datganoledig yng Nghymru yn cael ei ystyried gan Gyngor Partneriaeth y Gweithlu. Cadarnhaodd Karen Higgins y byddai’r canllawiau ar drefniadau oriau heb eu gwarantu yn aros ar raglen waith Cyngor Partneriaeth y Gweithlu, ond y cytunwyd na fyddai’r dull arolwg a oedd yn ategu’r papur presennol ar drefniadau oriau heb eu gwarantu yn cael ei ddilyn mwyach. Gofynnodd a oedd gan unrhyw aelodau unrhyw bryderon neu awgrymiadau ynglŷn â’r hyn y dylent eu codi gyda’u cynrychiolwyr Cyd-bwyllgor Gweithredol gan y bydd yr eitem hon yn cael ei thrafod yn ei gyfarfod nesaf.

9. Cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol y byddai cyfarfod nesaf Cyngor Partneriaeth y Gweithlu yn cael ei gynnal ar 18 Tachwedd 2019.

Rhestr o’r bobl oedd yn bresennol

Cabinet

  • Cadeirydd - Hannah Blythyn AC – Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol

Undebau Llafur

  • Martin Mansfield – TUC Cymru
  • Mike Payne – GMB
  • Tanya Palmer – UNSAIN
  • Dominic MacAskill - UNSAIN
  • Shavanah Taj – PCS
  • Helen Whyley – RCN Cymru
  • Richard Munn – Unite
  • Margaret Phelan – UCU Cymru
  • Kelly Andrews – GMB
  • Neil Butler - NASUWT

Cyflogwyr Datganoledig

  • Y Cynghorydd David Poole – Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
  • Richard Tompkins – Cyflogwyr GIG Cymru
  • Chris Llewelyn – CLlLC
  • Michelle Morris – SOLACE Cymru
  • Jonathan Lloyd – CLlLC
  • Joanne Oak – Gofal Cymdeithasol Cymru
  • Julie Rowles – Gweithlu’r GIG/Grŵp Cyfarwyddwyr OD
  • Katie Antippas (ar ran Peter Kennedy) – AD – Llywodraeth Cymru

Llywodraeth Cymru

  • Reg Kilpatrick – Cyfarwyddiaeth Llywodraeth Leol
  • Steve Davies – Cyfarwyddiaeth Addysg
  • Helen Arthur – Cyfarwyddiaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Judith Cole - Is-adran Cyllid a Pholisi Llywodraeth Leol
  • Rachel Garside-Jones – Is-adran Cyflogadwyedd a Sgiliau
  • Andrea Street – Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio – Is-adran Gwella

Cyngor Partneriaeth y Gweithlu – Cyd-ysgrifenyddiaeth

  • Karen Higgins – Pennaeth Cyd-ysgrifenyddiaeth Cyngor Partneriaeth y Gweithlu

Sylwedyddion

  • Nisreen Mansour – TUC Cymru
  • Mark Pruce – Llywodraeth Cymru
  • Charlotte Cosserat – Llywodraeth Cymru
  • Katherine Hatch – Llywodraeth Cymru
  • Natalie Priday – Llywodraeth Cymru
  • Sarah Abraham – Cyd-ysgrifenyddiaeth Cyngor Partneriaeth y Gweithlu
  • Mark Lewis – Cyd-ysgrifenyddiaeth Cyngor Partneriaeth y Gweithlu
  • Ceri Williams – Cyd-ysgrifenyddiaeth Cyngor Partneriaeth y Gweithlu

Ymddiheuriadau

  • Donna Hutton – UNSAIN
  • David Evans - NUT
  • Albert Heaney – Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio – Llywodraeth Cymru
  • Peter Kennedy – AD – Llywodraeth Cymru
  • Simon Smith – Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
  • Tracy Myhill – Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Cofnod o gamau gweithredu

1. Cytunodd Llywodraeth Cymru i archwilio p’un a ellid cytuno ar ffurf geiriau gydag addysg bellach ac addysg uwch, i alluogi cyfranogiad yng Nghyngor Partneriaeth y Gweithlu (Llywodraeth Cymru).

2. Dylai Cyd-ysgrifenyddiaeth Cyngor Partneriaeth y Gweithlu gyfeirio at ‘eang’ ar dudalen 12 papur Cytundebau Cyngor Partneriaeth y Gweithlu, a’i newid i ‘cyffredinol’ (Cyd-ysgrifenyddiaeth Cyngor Partneriaeth y Gweithlu).

3. Dylai’r aelodau Undeb Llafur drafod cyfathrebu â’u cynrychiolwyr ar y Cyd-bwyllgor Gweithredol (Undebau Llafur).

4. Dylai Cyd-ysgrifenyddiaeth Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ddiwygio dogfen Cytundebau Cyngor Partneriaeth y Gweithlu fel bod yr holl gyfeiriadau yn dweud ‘gwasanaethau cyhoeddus’ nid ‘sector cyhoeddus’ (Cyd-ysgrifenyddiaeth Cyngor Partneriaeth y Gweithlu).

5. Dylai Cyd-ysgrifenyddiaeth Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ddiwygio’r siart llif i amlygu ymgysylltiad aelod Cyngor Partneriaeth y Gweithlu o fewn y broses (Cyd-ysgrifenyddiaeth Cyngor Partneriaeth y Gweithlu).

6. Dylai’r Cyd-bwyllgor Gweithredol ystyried ac ymateb i adborth ar Gynllun Cyfathrebu Cyngor Partneriaeth y Gweithlu (Cyd-bwyllgor Gweithredol Cyngor Partneriaeth y Gweithlu).

7. Dylai Cyd-ysgrifenyddiaeth Cyngor Partneriaeth y Gweithlu roi ‘absenoldeb â thâl i’r rheiny sydd wedi eu heffeithio gan gam-drin domestig’ ar agenda’r Cyd-bwyllgor Gweithredol yn y dyfodol i’w hystyried (Cyd-ysgrifenyddiaeth Cyngor Partneriaeth y Gweithlu).