Neidio i'r prif gynnwy

1. Cyflwyniad a sylwadau cychwynnol

1.1 Croesawodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol aelodau Cyngor Partneriaeth y Gweithlu i'r cyfarfod a chadarnhaodd y byddai ymddiheuriadau'n cael eu nodi yn y cofnodion.

1.2 Rhoddodd y Dirprwy Weinidog yr wybodaeth ddiweddaraf i’r cyfarfod ar yr ymgyrch 'Gwybod eich Hawliau fel Gweithlu'. Gofynnwyd i bartneriaid rannu gwybodaeth am yr ymgyrch gyda'u hetholwyr.

2. Diweddariad ar y fforwm gofal cymdeithasol

2.1 Cyflwynodd Andrea Street, y dirprwy gyfarwyddwr gwella yng chyfarwyddiaeth gwasanaethau cymdeithasol ac integreiddio Llywodraeth Cymru, y papur ar y fforwm gofal cymdeithasol.

2.2 Croesawyd sefydlu’r fforwm gan Kelly Andrews a Helen Whyley o ochr yr undebau llafur. Mynegodd y ddwy bryder nad oedd cyllid rheoli heintiau yn cael ei ôl-ddyddio. Cyfeiriodd Helen Whyley at bwysigrwydd strategaeth y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol a holodd am y berthynas rhwng hon a'r fforwm. Gofynnwyd am bapur manylach ar y Fforwm Gofal Cymdeithasol ar gyfer y cyfarfod nesaf.

2.3 Wrth ymateb, cytunodd Andrea Street ei bod yn bwysig cysylltu'r fforwm â datblygiadau ehangach.  Cytunodd i ddarparu papur manylach i gyfarfod yn y dyfodol.

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i ddarparu papur manylach ar y fforwm gofal cymdeithasol ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol

3. Yr wybodaeth ddiweddaraf am sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig

3.1 Croesawodd y Dirprwy Weinidog fewnbwn gan yr undebau llafur a llywodraeth leol ar y mater hwn.

3.2 Cyflwynodd Claire Germaine, dirprwy gyfarwyddwr llywodraeth Cymru ar gyfer trawsnewid a phartneriaethau llywodraeth leol, y cyd-bwyllgorau corfforedig a'r papur ymgynghori cyhoeddus diweddar.

3.3 Gan siarad ar ran yr undebau, dywedodd Dominic MacAskill eu bod yn croesawu cyd-bwyllgorau corfforedig yn gyffredinol. Fodd bynnag, hoffai gael mwy o fanylion ynghylch sut y gallai undebau llafur ymgysylltu â hwy ac awgrymodd gynnwys statws sylwedydd i'r undebau llafur ynglŷn â’r cyd-bwyllgorau corfforedig. Dywedodd Claire Germaine y byddai'n ystyried mater ymgysylltu ag undebau llafur.

4. Adroddiad Cyngor Partneriaeth y Gweithlu – 'Effaith Technoleg Arloesol ar y Gweithlu’

4.1 Cyflwynodd Shavanah Taj y papur ar ran y cyd-bwyllgor gweithredol (JEC)

4.2 Gan siarad ar ran yr undebau, dywedodd Margaret Phelan ei bod wedi cael profiad o ymarfer ymgysylltu diweddar gan Lywodraeth Cymru am y sector addysg uwch nad oedd yn cynnwys yr undebau llafur. Gofynnodd a allai'r Dirprwy Weinidog ysgrifennu i atgoffa cydweithwyr ar draws Llywodraeth Cymru y dylid cynnwys undebau bob amser mewn ymgyngoriadau a oedd yn effeithio ar y gweithlu. Ymatebodd y Dirprwy Weinidog gan ddweud ei bod yn fodlon rhoi adborth i gydweithwyr.

4.3 Cytunwyd ar yr adroddiad a'i argymhellion a'u cymeradwyo i'w cyhoeddi.

Cam gweithredu

Y Dirprwy Weinidog i gyfathrebu â chydweithwyr ar draws Llywodraeth Cymru i dynnu sylw at bwysigrwydd cynnwys undebau llafur wrth gynnal ymarferion ymgysylltu ar faterion sy'n effeithio ar y gweithlu

Cam gweithredu

Cyhoeddi adroddiad Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ar 'Effaith Technoleg Arloesol ar y Gweithlu' a bwrw ymlaen â'i argymhellion. (Bydd argymhellion yn cael eu cynnwys yn rhaglen waith y Cyngor Partneriaeth ar gyfer 2021.)

5. Papur Cyngor Partneriaeth y Gweithlu - Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru: 'Argymhellion gan Grŵp Cyfeirio Arbenigol Symudedd y Gweithlu'

5.1 Diolchodd y Dirprwy Weinidog i aelodau'r grŵp cyfeirio arbenigol am eu gwaith ar y papur hwn.

5.2 Cyflwynodd Richard Tompkins y papur ar ran y JEC.

5.3 Ar ran yr undebau llafur, croesawodd Bethan Thomas yr adroddiad a'r argymhellion. Pwysleisiodd mor bwysig oedd hi i bartneriaid ymrwymo i nod strategol Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru. Mynegodd Helen Whyley siom na fu'n bosibl cymryd camau gweithredu a oedd â ‘mwy o frath’.

5.4 Dywedodd Richard Tompkins y byddai'r JEC yn adlewyrchu yn ei gyfarfod nesaf ar y sylwadau a godwyd.

5.5 Cymeradwywyd yr holl argymhellion i’w gweithredu.

Cam gweithredu

Datblygu pob un o dri argymhelliad Grŵp Cyfeirio Arbenigol Symudedd y Gweithlu. (Bydd argymhellion yn cael eu cynnwys yn rhaglen waith y Cyngor Partneriaeth ar gyfer 2021.)

6. Diweddariad ar y Rhaglen Waith

6.1 Cyflwynodd Reg Kilpatrick y papur hwn ar ran y JEC. Soniodd am yr uchelgais, am effaith y pandemig Covid-19 ac am y gwaith a gyflawnwyd yn y rhaglen waith bresennol. Dywedodd fod y Cyngor Partneriaeth bellach yn fwy hyblyg nag yn y gorffennol, gan esblygu'r rhaglen waith mewn ymateb i amgylchiadau sy'n newid. Gofynnodd i’r partneriaid gynnig awgrymiadau o flaenoriaethau ar gyfer rhaglen waith 2021.

6.2 Dywedodd y Dirprwy Weinidog y byddai'n edrych ymlaen at glywed y syniadau hyn.

Cam gweithredu

Pob partner i ddarparu blaenoriaethau ar gyfer rhaglen waith y flwyddyn nesaf drwy eu cynrychiolwyr ar y JEC i'w trafod yn ei gyfarfod ar 21 Ionawr 2021.

7. Cynnig ar gyfer rhaglen hyfforddiant partneriaeth gymdeithasol

7.1 Dywedodd Jo Salway, cyfarwyddwr partneriaeth gymdeithasol a gwaith teg Llywodraeth Cymru fod ei hadran yn falch o ariannu a chyflwyno rhaglen hyfforddi partneriaeth gymdeithasol drwy ddarparwr hyfforddiant. Byddai'n adeiladu ar y rhaglen flaenorol a gyflwynwyd gan y Cyngor Partneriaeth a'r papur diweddar i'r JEC ar y pwnc.

7.2 Croesawodd Darren Williams hyn ar ran yr undebau llafur. Gofynnodd pryd y byddai'r hyfforddiant yn dechrau; a fyddai'n blaenoriaethu rhai sectorau ac a fyddai'n cael ei ddarparu ar y cyd â phartneriaid cymdeithasol.

7.3 Wrth ateb, dywedodd Jo Salway y byddai'r rhaglen yn dechrau yn y flwyddyn newydd ac y byddai'n cael ei chyflwyno mewn partneriaeth gymdeithasol. Dywedodd y Dirprwy Weinidog y byddai’r partneriaid yn parhau i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Cam gweithredu

Llywodraeth Cymru i ddarparu gwybodaeth i bartneriaid ynglŷn â dechrau’r rhaglen hyfforddiant partneriaeth gymdeithasol

8. Trosglwydd cyfiawn at economi werdd

8.1 Dywedodd y Dirprwy Weinidog ei bod wedi mwynhau siarad mewn sesiwn gan TUC Cymru yn ddiweddar fel rhan o wythnos hinsawdd Cymru lle gwnaed y cysylltiad â chyfiawnder cymdeithasol. Gobeithiai y gallai partneriaid gydweithio ar y materion hyn.

8.2 Tynnodd Shavanah Taj sylw at y ffaith bod y JEC wedi cytuno i gefnogi'r gwaith hwn a'i fod yn cael ei gynnwys yn rhaglen waith y Cyngor Partneriaeth ar gyfer 2021.  Cyfeiriodd hefyd at adroddiad gan y TUC ar y pwnc hwn.

8.3 Croesawodd y Dirprwy Weinidog hyn.

8.4 Wrth siarad ar ran yr undebau, dywedodd Dominic MacAskill ei bod yn bwysig bod cyrff cyhoeddus yn ystyried darparu amser cyfleuster i gynrychiolwyr gwyrdd, yn enwedig er mwyn cael hyfforddiant.

8.5 Wrth siarad ar ran cyflogwyr, croesawodd y Cynghorydd Philippa Marsden y ffaith fod trosglwyddo cyfiawn wedi’i gynnwys yn rhaglen waith y Cyngor Partneriaeth, a thynnodd sylw at ei bwysigrwydd.

8.6 Dywedodd y Dirprwy Weinidog fod consensws bod hwn yn fater pwysig a'i bod yn edrych ymlaen at weld Cyngor Partneriaeth y Gweithlu yn bwrw ymlaen ag ef.

Cam gweithredu

Y Cyngor Partneriaeth i ychwanegu trosglwyddo cyfiawn at economi werdd i'w raglen waith ar gyfer 2021.

9. Cyfyngu ar daliadau ymadael yn y sector cyhoeddus

9.1 Cyflwynodd Richard Mulcahy, o uned cyrff cyhoeddus Llywodraeth Cymru, y papur a rhoddodd ddiweddariad ar y sefylfa bresennol.

9.2 Roedd y cap wedi dod i rym. Mae asesiad effaith wedi'i gyhoeddi ar wefan llywodraeth y DU. Mae CLlLC wedi darparu tystiolaeth ddefnyddiol sy'n dangos sut y bydd y cap yn effeithio ar staff ar incwm canolig ac is sy’n gwasanaethu ers cyfnod hir. Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried ffyrdd o gyflwyno hawlildiad (waiver) i amddiffyn y gweithwyr hyn.

9.3 Ar ran yr undebau, croesawodd Karen Loughlin gamau gweithredu Llywodraeth Cymru a gofynnodd am yr amserlenni. Dywedodd Dominic MacAskill ei bod yn bwysig bod trafodaethau manwl yn digwydd rhwng yr undebau a Llywodraeth Cymru ar y meini prawf posibl ar gyfer hawlildiad.

9.4 Dywedodd y Dirprwy Weinidog fod Llywodraeth Cymru yn awyddus i ddeall yr effaith ar weithwyr y sector cyhoeddus a diolchodd i bartneriaid am yr astudiaethau achos.

9.5 Dywedodd Richard Mulcahy y byddai'n parhau i gysylltu ag undebau a chyflogwyr i fynd ar drywydd penderfyniad.

10. Adolygu cofnodion y Cyngor Partneriaeth a materion yn codi

10.1 Nododd y Dirprwy Weinidog fod y cofnodion wedi'u derbyn yn ffurfiol a bod camau gweithredu o'r cyfarfod ym mis Gorffennaf wedi'u cyflawni.

10.2 Nodwyd y bu rhywfaint o gynnydd o ran cynhyrchu geiriad a fyddai'n caniatáu i gynrychiolwyr addysg uwch fod yn bresennol. Croesawodd Louise Casella i’r cyfarfod ar ran y maes addysg uwch.  Byddai trafodaethau'n parhau ar y mater hwn.

10.3 Ar ran yr undebau, croesawodd Shavanah Taj Ms Casella i'r cyfarfod hefyd a dywedodd ei bod yn edrych ymlaen at groesawu cynrychiolydd ar ran y maes addysg bellach yn y dyfodol.

10.4 Daeth y Dirprwy Weinidog a’r cyfarfod i ben a chadarnhau y byddai cyfarof nesaf y Cyngor Partneriaeth yn cael ei gynnal ar 25 Mawrth 2021.

Rhestr o’r mynychwyr

Cabinet

Cadeirydd - Hannah Blythyn AS – Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol

Undebau Llafur

Kelly Andrews – GMB
Neil Butler – NASUWT
David Evans - NEU
Dominic MacAskill – UNISON
Richard Munn – Unite 
Margaret Phelan - UCU
Shavanah Taj – TUC Cymru
Bethan Thomas - Unsain
Helen Whyley - RCN
Darren Williams - PCS
Karen Loughlin – Unsain

Cyflogwyr Datganoledig 

Graham Jones - CLlLC
Chris Llewelyn – CLlLC
Cllr Philippa Marsden - CLlLC
Michelle Morris – SOLACE
Julie Rowles – Grŵp Gweithlu’r GIG a Datblygu Sefydliadol
Richard Tompkins – Cyflogwyr GIG Cymru

Llywodraeth Cymru 

Judith Cole - Yr Is-adran Cyllid a Pholisi Llywodraeth Leol
Andrew Clark – Cyflogadwyedd a Sgiliau 
Karen Higgins – Pennaeth Cyd-Ysgrifenyddiaeth Cyngor Partneriaeth y Gweithlu 
Jo Salway – Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg
Peter Kennedy – Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol
Reg Kilpatrick – Y Gyfarwyddiaeth Llywodraeth Leol
Andrea Street – Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio 
Neil Surman – Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg

Sylwedyddion a Siaradwyr 

Sarah Abraham – Cyd-ysgrifenyddiaeth y Cyngor Parteriaeth, Llywodraeth Cymru
Joe Allen – TUC Cymru
Louise Casella – Y Brifysgol Agored
Sue Evans – Gofal Cymdeithasol Cymru
Sara Faye – Cynghorydd Arbennig, Llywodraeth Cymru
Claire Germain – Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru
Audrey Johns – Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru
Mark Lewis – Cyd-Ysgrifenyddiaeth y Cyngor Partneriaeth, Llywodraeth Cymru
Nisreen Mansour – TUC Cymru 
Richard Mulcahy – Uned Cyrff Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru
Natalie Priday – Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru
Mark Pruce – Uned Cyrff Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru
Jo Rees – TUC Cymru
Natalie Stewart – Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru
Ceri Williams – Cyd-Ysgrifenyddiaeth y Cyngor Partneriaeth, Llywodraeth Cymru
David Willis – Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

Ymddiheuriadau

Steve Davies – Y Gyfarwyddiaeth Addysg, Llywodraeth Cymru
Sam Huckle – Cyflogadwyedd a Sgiliau, Llywodraeth Cymru
David Evans - NEU
Albert Heaney – Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru
Tracy Myhill – y GIG
Mike Payne – GMB
Simon Smith – Y Gwasanaethau Tân ac Achub

Actions log

Rhif Cam gweithredu Perchennog
1 Llywodraeth Cymru i ddarparu papur manylach ar y fforwm gofal cymdeithasol ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol Llywodraeth Cymru
2 Y Dirprwy Weinidog i gyfathrebu â chydweithwyr ar draws Llywodraeth Cymru i dynnu sylw at bwysigrwydd cynnwys undebau llafur wrth gynnal ymarferion ymgysylltu ar faterion sy'n effeithio ar y gweithlu Llywodraeth Cymru
3 Cyhoeddi adroddiad Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ar 'Effaith Technoleg Arloesol ar y Gweithlu' a bwrw ymlaen â'i argymhellion. (Bydd argymhellion yn cael eu cynnwys yn rhaglen waith y Cyngor Partneriaeth ar gyfer 2021.) Cyd-bwyllgor gweithredol y Cyngor Partneriaeth
4 Datblygu pob un o dri argymhelliad Grŵp Cyfeirio Arbenigol Symudedd y Gweithlu. (Bydd argymhellion yn cael eu cynnwys yn rhaglen waith y Cyngor Partneriaeth ar gyfer 2021.) Cyd-bwyllgor gweithredol y Cyngor Partneriaeth
5 Pob partner i ddarparu blaenoriaethau ar gyfer rhaglen waith y flwyddyn nesaf drwy eu cynrychiolwyr ar y JEC i'w trafod yn ei gyfarfod ar 21 Ionawr 2021. Yr holl bartneriaid
6 Llywodraeth Cymru i ddarparu gwybodaeth i bartneriaid ynglŷn â dechrau’r rhaglen hyfforddiant partneriaeth gymdeithasol. Llywodraeth Cymru
7 Y Cyngor Partneriaeth i ychwanegu trosglwyddo cyfiawn at economi werdd i'w raglen waith ar gyfer 2021. Cyd-bwyllgor gweithredol y Cyngor Partneriaeth