Neidio i'r prif gynnwy

Agenda

1. Cyflwyniad a chyd-destun

Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru - Ar lafar

2. Darpar Cytundeb ar y defnydd priodol o drefniadau oriau heb eu gwarantu

Cyd-Bwyllgor Gwaith (CBG) - papur

3. Adroddiad Cyngor Partneriaeth y Gweithlu (CPG): Symudedd y Gweithlu

CBG - papur

4. Adroddiad CPG: Gwaith teg (y bwlch cyflog rhwng y rhywiau a data graddfa tâl lefel uwch)

CBG - papur

5. Papur CPG ar Gymorth Mislif yn y Gweithle

CBG - papur

6. CPG: cyd-ddatganiad ar absenoldeb â chyflog i staff sy'n dioddef cam-drin domestig

CBG - papur

7. Datganiad CPG ar y cyd am Rheoli Asbestos mewn Adeiladau Cyhoeddus

CBG - papur

8. Adolygu cofnodion CPG

Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru - papur

1. Cyflwyniad a Sylwadau Agoriadol

1.1 Croesawodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol aelodau CPG i'r cyfarfod a chadarnhaodd y byddai ymddiheuriadau yn cael eu nodi yn y cofnodion. Croesawodd hi’r Cynghorydd Barbara Jones, Arweinydd Dros Dro Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i'w chyfarfod CPG cyntaf yn lle'r Cynghorydd David Poole. Yna diolchodd i'r Cyd-bwyllgor Gweithredol, Cyd-Ysgrifenyddiaeth CPG a'r holl sefydliadau y maent wedi gweithio gyda nhw wrth gynhyrchu'r papurau a gyflwynwyd gerbron CPG i'w hystyried.

1.2 Cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog y bwriad i gyflwyno'r Bil Partneriaeth Gymdeithasol o fewn tymor hwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru a bod y Papur Gwyn cyfatebol wedi'i gyhoeddi ar gyfer ymgynghori â dyddiad cau o 2 Ionawr 2020. Cadarnhaodd hefyd fod Jo Salway wedi'i phenodi i arwain y Gyfarwyddiaeth Partneriaeth Gymdeithasol newydd o fewn Llywodraeth Cymru ac yr hoffai iddi siarad yng nghyfarfod nesaf CPG ar 11 Mai 2020.

Cam gweithredu

Cyd-ysgrifenyddiaeth CPG i gysylltu â Jo Salway i drefnu iddi ddod i gyfarfod nesaf CPG ar 11 Mai 2020. 

2. Cytundeb Arfaethedig CPG ar Ddefnyddio Trefniadau Oriau Heb eu Gwarantu mewn ffordd Dderbyniol

2.1 Amlinellodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol uchelgais ar y cyd CPG i greu amgylchedd gwaith teg ac i frwydro yn erbyn arferion cyflogaeth ecsbloetiol. Yna gofynnodd i Martin Mansfield gyflwyno'r papur fel arweinydd y Cyd-bwyllgor Gweithredol ar gyfer yr eitem hon.

2.2 Esboniodd Martin Mansfield ei fod yn cyflwyno’r papur hwn yn ei rôl ddeuol fel aelod o Gydbwyllgor Gweithredol CPG ond hefyd fel Ysgrifennydd ochr yr Undebau Llafur. Cadarnhaodd fod cynnig y Cytundeb Trefniadau Oriau Heb eu Gwarantu (‘y cytundeb’) i CPG yn cynrychioli sefyllfa y cytunwyd arni a ddatblygwyd gan y Cyd-bwyllgor Gweithredol i osgoi defnyddio trefniadau oriau heb eu gwarantu mewn ffordd annerbyniol. Fodd bynnag, fel cynrychiolydd yr Undebau Llafur, roedd arno eisiau disgwyl i weld beth fyddai canlyniad yr etholiad cyffredinol sydd ar y gweill i weld i ba raddau fyddai’n rhaid i unrhyw lywodraeth newydd ddarparu cyd-destun ychwanegol ar gyfer y cytundeb. Roedd yn cynnig y dylai'r cytundeb gael ei gadarnhau gan y rheini sy'n bresennol ond y dylid gohirio ei gyhoeddi er mwyn caniatáu ystyriaeth bellach oherwydd hyn. Gofynnodd i lythyr eglurhad y Gweinidog ddarparu cyd-destun a oedd yn cynnwys cwmpas y ddogfen a'i pherthynas â pholisïau a chytundebau eraill.

2.3 Wrth ddeall cyd-destun gwleidyddol yr etholiad cyffredinol, eglurodd Reg Kilpatrick fod y tri phartner wedi cytuno ar y cytundeb arfaethedig, ac roedd yn cwestiynu buddion aros tan ar ôl cael canlyniad yr etholiad. Mynegodd ei bryder ynglŷn â phosibilrwydd colli’r gwaith a oedd eisoes wedi’i wneud i lunio'r cytundeb pe byddai oedi â’r cytundeb a’r dyddiad cyhoeddi terfynol. Awgrymodd y dylai'r cytundeb gael ei gyhoeddi cyn pen wythnos ar ôl yr etholiad.

2.4 Roedd Shavanah Taj yn cefnogi'r gwaith da a oedd wedi’i gyflawni wrth ddatblygu’r cynnig, ond roedd yn teimlo na fyddai oedi am wythnos yn caniatáu digon o amser i ystyried bwriad llawn y llywodraeth newydd.

2.5 Pwysleisiodd Martin Manselfield nad oedd yn cynnig y dylai’r cytundeb gael ei aildrafod, dim ond y dylai aelodau ddisgwyl i weld canlyniad yr etholiad ac ystyried unrhyw oblygiadau'r canlyniad.

2.6 Wrth ddeall cyd-destun gwleidyddol pwysig yr etholiad, roedd Chris Llewelyn yn cefnogi pryderon Reg Kilpatrick ynghylch posibilrwydd colli gwaith pe byddai gormod o oedi cyn cyhoeddi'r cytundeb.

2.7 Gofynnodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol i CPG a oedd yn fodlon cadarnhau'r ddogfen ond gohirio ei chyhoeddi tan ar ôl y Cyd-bwyllgor Gweithredol ar 16 Ionawr 2020 ac yna ei chyhoeddi yn gynnar ar ôl hynny, ond dim hwyrach na diwedd mis Ionawr. Byddai ei llythyr eglurhad yn egluro cyd-destun ehangach y cytundeb. Cafodd y cynigion hyn eu derbyn gan CPG.

Cam gweithredoedd

1. Cyd-Ysgrifenyddiaeth CPG i drefnu cyhoeddi Cytundeb CPG ar Ddefnydd Derbyniol o Oriau Heb eu Gwarantu yn dilyn cyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweithredu ar 16 Ionawr 2020 ac erbyn diwedd Ionawr 2020 fan bellaf.

2. Cyd-Ysgrifenyddiaeth CPG i sicrhau bod drafft llythyr eglurhad y Gweinidog ar gyfer Cytundeb CPG ar Ddefnydd Derbyniol o Oriau Heb eu Gwarantu yn egluro cyd-destun ehangach y cytundeb.

3. Adroddiad CPG ar Symudedd y Gweithlu

3.1 Cyflwynodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol y papur yn amlinellu rhai o'r canfyddiadau allweddol. Yna gofynnodd i Chris Llewelyn gyflwyno'r papur fel arweinydd y Cyd-bwyllgor Gweithredol ar gyfer yr eitem hon.

3.2 Esboniodd Chris Llewelyn fod y papur yn adlewyrchu'r gwaith ymchwil a gafodd ei wneud i ddangos sut y gellir cyflawni “un gwasanaeth cyhoeddus”. Aeth trwy brif ganfyddiadau'r adroddiad gan nodi’r rhwystrau allweddol i symudedd, sef: gwahaniaethau o ran telerau ac amodau, methu trosglwyddo pensiynau a diffyg cyfleoedd. Gofynnodd i CPG a oeddent yn fodlon ar y cynnig yn y papur bod Cyd-Ysgrifenyddiaeth CPG bellach yn symud ymlaen gyda gwaith i archwilio camau i oresgyn rhwystrau i symudedd gweithlu llwyddiannus ac ailddatblygu porth Cyfnewid Pobl Cymru (CPC), gydag arbenigwyr enwebedig gan y partneriaid.

3.3 Cadarnhaodd Richard Tompkins ei bod yn bwysig bod y Cyd-bwyllgor Gweithredu yn cynnwys rhywfaint o ddadansoddiad yn y gwaith hwn ynghylch camsyniadau ynglŷn â symudedd y gweithlu gan nodi fel enghraifft y gellid dadlau bod trosglwyddo pensiynau yn llai o rwystr nag o'r blaen.

3.4 Cytunodd Donna Hutton â'r argymhellion yn yr adroddiad a chadarnhaodd y byddai'r Undebau Llafur yn darparu enwau pobl arbenigol sydd wedi'u henwebu i weithio gyda Chyd-Ysgrifenyddiaeth CPG. Pwysleisiodd bwysigrwydd gwaith sy’n canolbwyntio ar bensiynau, cydraddoldeb, cyflog teg ac amodau a thelerau.

3.5 Gan ateb Donna Hutton, dywedodd Reg Kilpatrick fod y meysydd hyn yn gymhleth yn gyfreithiol, ac yn ddrud iawn i’w datrys. Fodd bynnag, roedd y Cyd-bwyllgor Gweithredu wedi cytuno i drafod y materion hyn pan fydd yn cyfarfod yn nes ymlaen yn ystod yr wythnos ar 22 Tachwedd.

3.6 Gofynnodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol i CPG a oeddent yn fodlon cytuno ar y cynigion a nodwyd yn y papur gan gynnwys cyhoeddi'r adroddiad, ac fe gafodd y rhain eu derbyn.

Cam gweithredoedd

1. Cyd-Ysgrifenyddiaeth CPG i drefnu cyhoeddi Adroddiad CPG ar Symudedd y Gweithlu o fewn y Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru.

2. Cyd-Ysgrifenyddiaeth CPG i weithio gydag arbenigwyr perthnasol o bob partner i ddatblygu cynnig i gefnogi symudedd y gweithlu gan gynnwys ailddatblygu porth Cyfnewid Pobl Cymru (CPC) a chamau i oresgyn y rhwystrau i symudedd y gweithlu.

4. Adroddiad CPG ar Waith Teg (Tryloywder Cyflog a’r Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau)

4.1 Amlinellodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol gynigion allweddol y papur, ac egluro bod y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip Jane Hutt AC yn awyddus i'w symud ymlaen. Yna gwahoddwyd Tanya Palmer i gyflwyno'r papur fel arweinydd y Cyd-bwyllgor Gweithredol ar gyfer yr eitem hon. Esboniodd hi fod y papur yn nodi cysondeb, hygyrchedd a chyflwyniad fel materion allweddol yng nghyhoeddiad y data ynglŷn â thâl gan sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus. Yna gofynnodd i CPG a oeddent yn derbyn argymhellion y papur a oedd yn cynnwys bod Cyflogwyr ac Undebau Llafur yn cymryd rhan yn ffurfiol yn adolygiad Llywodraeth Cymru o ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, bod data ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau a chyflog uwch yn cael eu cynnwys yn y gyfres o ddata agored sydd ar gael ar dudalen we StatsCymru a bod Llywodraeth Cymru yn ystyried camau pellach i wella cysondeb a hygyrchedd data tâl.

4.2 Diolchodd Margaret Phelan i’r partneriaid am symud ymlaen gyda’r gwaith hwn. Nododd yr hoffai Ochr yr Undebau Llafur weld Archwiliadau Cyflog Statudol yn ymwneud â nodweddion gwarchodedig hil, rhyw ac anabledd.

4.3 Gofynnodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol i CPG a oedd yn fodlon cytuno a chyhoeddi Adroddiad CPG ar Waith Teg (Tryloywder Cyflog a Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau). Derbyniwyd hyn gan CPG.

Cam gweithredoedd

1. Cyd-Ysgrifenyddiaeth CPG i drefnu cyhoeddi Adroddiad CPG ar Waith Teg (Tryloywder Cyflog a’r Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau).

2. Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â'r argymhellion a nodwyd yn Adroddiad GPC ar Waith Teg (Tryloywder Cyflog a Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau).

5. Papur CPG ar Gefnogaeth Menopos yn y Gweithle

5.1 Amlinellodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol fater allweddol y papur, sef penderfynu a oedd aelodau CPG yn teimlo bod angen gweithredu ymhellach i annog cefnogaeth menopos ar draws sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus.

5.2 Yna gofynnwyd i Tanya Palmer gyflwyno'r papur fel arweinydd y Cyd-bwyllgor Gweithredol ar gyfer yr eitem hon. Eglurodd bod gan y rhan fwyaf o sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus (42 allan o 50 ohonynt) rhyw fath o gefnogaeth ar gael. Argymhellodd y dylai'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, yn ei rôl fel Cadeirydd CPG, ysgrifennu at yr 8 sefydliad sy'n weddill i ddatblygu rhyw fath o gefnogaeth yn y gweithle yn eu sefydliadau.

5.3 Roedd Reg Kilpatrick yn cefnogi'r cynnig hwn.

5.4 Er mwyn cryfhau'r gefnogaeth a gynigir ymhellach i staff sy'n profi'r menopos, awgrymodd Tanya Palmer hefyd fod CPG yn argymell bod sefydliadau yn defnyddio pecyn cymorth TUC Cymru fel canllaw arferion gorau.

5.5 Argymhellodd Shavanah Taj hefyd becyn cymorth TUC Cymru Y Menopos yn y Gweithle ac y dylid adolygu’r pwnc hwn mewn cyfarfodydd CPG sydd i ddod.

5.6 Yn seiliedig ar y trafodaethau hyn, awgrymodd Richard Tompkins y dylai Cyd-Ysgrifenyddiaeth CPG nawr ddod â’r arferion gorau o’r gwaith maent wedi'i wneud at ei gilydd (gan gynnwys Pecyn Cymorth TUC Cymru) a’i roi i'r Cyd-bwyllgor Gweithredu i gael ei gymeradwyo. Os cytunir arno, gellid ei roi i sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus.

5.7 Gofynnodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol i CPG a oeddent yn fodlon â’r cynigion hyn, ac fe wnaethant eu derbyn.

Cam gweithredoedd

1. Cyd-Ysgrifenyddiaeth CPG i ysgrifennu llythyr Gweinidogol drafft yn annog yr 8 sefydliad gwasanaeth cyhoeddus sy'n weddill i ddarparu cefnogaeth yn y gweithle i staff sy'n profi'r menopos.
 
2. Cyd-Ysgrifenyddiaeth CPG i sicrhau bod y pwnc hwn yn cael ei adolygu a'i drafod mewn cyfarfod CPG yn y dyfodol.

3. Cyd-Ysgrifenyddiaeth CPG i ddatblygu dogfen arferion gorau i'w hystyried gan y Cyd-bwyllgor Gweithredu gan dynnu ar ganfyddiadau eu gwaith ymchwil eu hunain, a chynnwys Pecyn Cymorth TUC Cymru ar gefnogaeth menopos yn y gweithle.

6. Datganiad ar y Cyd CPG ar Ddarparu Absenoldeb â Thâl i Staff sy'n Profi Cam-drin Domestig

6.1 Diolchodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol i'r aelodau am eu cefnogaeth wrth ddatblygu'r papur ar gyfer yr eitem hon a gododd yng nghyfarfod diwethaf CPG ar 1 Gorffennaf 2019. Yna, gofynnodd i Reg Kilpatrick gyflwyno'r papur i CPG fel arweinydd y Cyd-bwyllgor Gweithredol a enwebwyd.

6.2 Pwysleisiodd Reg Kilpatrick bwysigrwydd y pwnc hwn i bawb y mae CPG yn eu cynrychioli, a'r gwaith da a oedd eisoes ar gael. Cyfeiriodd at ganllawiau a ddatblygwyd gan UNSAIN, GMB a Chyd-Gyngor Cymru. Cyfeirir at bob un ohonynt yn Natganiad ar y Cyd CPG a gafodd ei roi i aelodau. Teimlai y dylid cyhoeddi'r Cyd-ddatganiad fel blaenoriaeth gyda llythyr eglurhad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol.

6.3 Pwysleisiodd Shavanah Taj y gwaith y mae tîm Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) Llywodraeth Cymru yn ei wneud a’i bod hi’n bwysig bod y Cyd-bwyllgor Gweithredol yn gweithio'n agos gyda nhw wrth symud ymlaen. Teimlai hefyd y dylid adolygu'r eitem hon a'i hystyried mewn cyfarfod CPG yn y dyfodol.

6.4 Cadarnhaodd Reg Kilpatrick fod y Cyd-bwyllgor Gweithredol wedi ymrwymo i weithio gyda'r VAWDASV i archwilio pa faterion eraill y gellir eu nodi wrth gefnogi staff yn y gweithle sy'n profi cam-drin domestig.

6.5 Cadarnhaodd Richard Tompkins fod y GIG wedi cynnwys darpariaeth absenoldeb â thâl ar gyfer staff sy'n profi cam-drin domestig yn ei bolisïau perthnasol.

6.6 Pwysleisiodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol bwysigrwydd sicrhau bod Datganiadau ar y Cyd a phapurau cysylltiedig yn cael cyhoeddusrwydd effeithiol er mwyn hyrwyddo’r gwaith da sy'n digwydd. Yna gofynnodd i CPG a oeddent yn fodlon â'r cynigion a drafodwyd, ac fe gafodd y rhain eu derbyn.

Cam gweithredoedd

1. Cyd-Ysgrifenyddiaeth CPG i gysylltu â Llywodraeth Cymru ynglŷn â chyhoeddi Datganiad ar y Cyd CPG ar gyfer Darparu Absenoldeb â Thal i Staff sy’n Profi Cam-drin Domestig gyda llythyr eglurhad Gweinidogol.

2. Cyd-Ysgrifenyddiaeth CPG i gysylltu â thîm Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) Llywodraeth Cymru i drafod pa faterion eraill y gellir eu nodi i gynorthwyo staff sy'n profi cam-drin domestig ac i ddod â'r rhain yn ôl i gael eu hystyried gan y Cyd-bwyllgor Gweithredu.

3. Cyd-Ysgrifenyddiaeth CPG i sicrhau bod y pwnc hwn yn cael ei adolygu a'i drafod mewn cyfarfod CPG yn y dyfodol.

7. Datganiad ar y Cyd CPG ar Reoli Asbestos mewn Adeiladau Cyhoeddus

7.1 Cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol fod datganiad ar y cyd CPG ar Reoli Asbestos mewn Adeiladau Cyhoeddus wedi cael ei gytuno gan y Cyd-bwyllgor Gweithredol a oedd hefyd wedi ysgrifennu at Ystadau Cymru i ofyn iddynt fwrw ymlaen â gwaith pellach ar y pwnc hwn. Yna, gofynnodd i Reg Kilpatrick gyflwyno'r papur i CPG fel arweinydd y Cyd-bwyllgor Gweithredol a enwebwyd.

7.2 Dywedodd Reg Kilpatrick fod y Cyd-bwyllgor Gweithredol yn cytuno bod angen set gyfunol o warantiau ar y mater hwn. Dywedodd fod Ystadau Cymru wedi derbyn hyn fel darn o waith ac wedi ymateb i'r llythyr gan y Cyd-bwyllgor Gweithredol. Yn seiliedig ar hyn, dylid nawr ystyried bod y mater o reoli asbestos mewn adeiladau cyhoeddus yn fater i Ystadau Cymru ac nid i CPG.

7.3 Cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol y gofynnwyd i Mike Payne ddarparu rhagor o fanylion i Ystadau Cymru ynghylch ei bryderon ynglŷn â'r mater hwn ac y byddai'n dod i'r cyfarfod nesaf ym mis Ionawr.

7.4 Dywedodd Martin Mansfield fod ochr yr Undebau Llafur yn cytuno y dylai Ystadau Cymru ddelio â'r mater.  Fodd bynnag, roedd yn bryderus ynghylch tôn llythyr a ddaeth i law CPG gan Richard Baker o Ystadau Cymru ar 15 Tachwedd 2019. Roedd yn nodi nad oedd iechyd a diogelwch wedi'i ddatganoli, gan awgrymu na allent gymryd unrhyw gamau pellach yn y maes, a nododd fod yr undebau llafur o'r farn bod hwn yn fater iechyd cyhoeddus, sydd wedi'i ddatganoli. Croesawodd y cynnig i gael cyfarfod brys rhwng Mike Payne a Richard Baker i egluro'r mater hwn. Cadarnhaodd fod ochr yr Undebau Llafur yn fodlon gweld sut mae'r trafodaethau hyn yn datblygu, ond yn dibynnu ar y canlyniad, efallai y bydd angen dychwelyd y mater i CPG.

7.5 Ymddiheurodd Reg Kilpatrick fod y llythyr wedi rhoi'r fath argraff, ac wrth drafod â Richard Barker, rhoddodd sicrwydd i aelodau nad hynny oedd ei fwriad. Dywedodd fod cyfrifoldeb dros weithwyr yn amlwg yn fater datganoledig.

7.6 Awgrymodd Helen Whyley y dylid adolygu cyhoeddi Datganiad ar y Cyd CPG yn dilyn y trafodaethau hyn, a derbyniwyd hyn gan CPG.

Cam gweithredu

Cyd-bwyllgor Gweithredol CPG i ailystyried Datganiad ar y Cyd CPG ar Reoli Asbestos mewn Adeiladau Cyhoeddus yn dilyn trafodaethau rhwng Mike Payne ac Ystadau Cymru.

8. Adolygu Cofnodion CPG/Materion yn Codi

8.1 Gofynnodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i'r aelodau a oeddent yn fodlon clirio cofnodion y cyfarfod CPG blaenorol.

8.2 Derbyniwyd hyn gan CPG.

8.3 Gofynnodd Margaret Phelan am ddiweddariad cynnydd ar yr un weithred a oedd yn weddill o'r cyfarfod blaenorol yn ymwneud â chytuno ar fath o eiriau gydag AB/AU a fyddai'n galluogi iddynt gymryd rhan yn CPG.

8.4 Ymddiheurodd Judith Cole am yr oedi wrth symud ymlaen â'r cam hwn. Roedd Karen Higgins bellach yn bwrw ymlaen â hyn gydag AB ac AU a byddai'n darparu diweddariad maes o law.

8.5 Karen Higgins i fynd i'r afael â'r gweithredu rhagorol mewn perthynas ag aelodaeth AB ac AU ac adrodd yn ôl i CPG maes o law.

Rhestr presenoldeb

Cabinet

  • Cadeirydd – Hannah Blythyn AC – Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol

Undebau Llafur

  • Martin Mansfield – TUC Cymru
  • Tanya Palmer – UNSAIN
  • Shavanah Taj – PCS 
  • Helen Whyley – RCN Cymru
  • Donna Hutton – UNSAIN
  • Richard Munn – Unite
  • Margaret Phelan – UCU Cymru
  • Neil Butler – NASUWT

Cyflogwyr Datganoledig

  • Y Cynghorydd Barbara Jones – CLlLC (Deiliad Portffolio Gwleidyddol)
  • Richard Tompkins – Cyflogwyr GIG Cymru
  • Chris Llewelyn – CLlLC
  • Michelle Morris – SOLACE Cymru
  • Jonathan Lloyd – CLlLC
  • Alex Howells – AaGIC

Llywodraeth Cymru

  • Reg Kilpatrick – Cyfarwyddiaeth Llywodraeth Leol
  • Steve Davies – Cyfarwyddiaeth Addysg
  • Judith Cole – Yr Is-adran Polisi Cyllid Llywodraeth Leol
  • Andrea Street – Y Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio – Yr Is-adran Gwella

Cyngor Partneriaeth y Gweithlu – Cyd-ysgrifenyddiaeth

  • Karen Higgins – Pennaeth Cyd-ysgrifenyddiaeth CPG

Arsylwyr

  • Nisreen Mansour – TUC Cymru
  • Joe Allen – TUC Cymru
  • Mark Pruce – Llywodraeth Cymru
  • Richard Mulcahy –  Llywodraeth Cymru
  • Charlotte Cosserat –  Llywodraeth Cymru
  • Katherine Hatch – Llywodraeth Cymru
  • Natalie Priday –  Llywodraeth Cymru
  • Natalie Stewart –  Llywodraeth Cymru
  • Sarah Abraham – Cyd-ysgrifenyddiaeth CPG
  • Mark Lewis – Cyd-ysgrifenyddiaeth CPG
  • Ceri Williams – Cyd-ysgrifenyddiaeth CPG

Ymddiheuriadau

  • Mike Payne – GMB
  • Dominic MacAskill – UNSAIN Kelly Andrews – GMB
  • David Evans - NEU
  • Joanne Oak – Gofal Cymdeithasol Cymru
  • Julie Rowles – Grŵp Cyfarwyddwyr Datblygu Sefydliadol/Gweithlu'r GIG
  • Albert Heaney – Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio –  Llywodraeth Cymru
  • Helen Arthur – Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol –  Llywodraeth Cymru
  • Peter Kennedy – Adnoddau Dynol – Llywodraeth Cymru
  • Sam Huckle – Cyflogadwyedd a Sgiliau –  Llywodraeth Cymru
  • Simon Smith – Gwasanaethau Tân ac Achub
  • Tracy Myhill – Prif Weithredwr y GIG

Log Camau Gweithredu

1. Cyd-ysgrifenyddiaeth CPG i gysylltu â Jo Salway i drefnu iddi ddod i gyfarfod nesaf CPG ar 11 Mai 2020 (Cyd-ysgrifenyddiaeth CPG).

2. Cyd-Ysgrifenyddiaeth CPG i drefnu cyhoeddi Cytundeb CPG ar Ddefnydd Derbyniol o Oriau Heb eu Gwarantu yn dilyn cyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweithredu ar 16 Ionawr 2020 ac erbyn diwedd Ionawr 2020 fan bellaf (Cyd-ysgrifenyddiaeth CPG).

3. Cyd-Ysgrifenyddiaeth CPG i sicrhau bod drafft llythyr eglurhad y Gweinidog ar gyfer Cytundeb CPG ar Ddefnydd Derbyniol o Oriau Heb eu Gwarantu yn egluro cyd-destun ehangach y cytundeb (Cyd-ysgrifenyddiaeth CPG).

4. Cyd-Ysgrifenyddiaeth CPG i drefnu cyhoeddi Adroddiad CPG ar Symudedd y Gweithlu o fewn y Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru (Cyd-ysgrifenyddiaeth CPG).

5. Cyd-Ysgrifenyddiaeth CPG i weithio gydag arbenigwyr perthnasol o bob partner i ddatblygu cynnig i gefnogi symudedd y gweithlu gan gynnwys ailddatblygu porth Cyfnewid Pobl Cymru (CPC) a chamau i oresgyn y rhwystrau i symudedd y gweithlu (Cyd-ysgrifenyddiaeth CPG).

6. Cyd-Ysgrifenyddiaeth CPG i drefnu cyhoeddi Adroddiad CPG ar Waith Teg (Tryloywder Cyflog a’r Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau)Cyd-Ysgrifenyddiaeth CPG i drefnu cyhoeddi Adroddiad CPG ar Waith Teg (Tryloywder Cyflog a’r Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau) (Cyd-ysgrifenyddiaeth CPG).

7. Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â'r argymhellion a nodwyd yn Adroddiad GPC ar Waith Teg (Tryloywder Cyflog a Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau) (Llywodraeth Cymru).

8. Cyd-Ysgrifenyddiaeth CPG i ysgrifennu llythyr Gweinidogol drafft yn annog yr 8 sefydliad gwasanaeth cyhoeddus sy'n weddill i ddarparu cefnogaeth yn y gweithle i staff sy'n profi'r menopos (Cyd-ysgrifenyddiaeth CPG).

9. Cyd-Ysgrifenyddiaeth CPG i sicrhau bod y pwnc hwn yn cael ei adolygu a'i drafod mewn cyfarfod CPG sydd i ddod (Cyd-ysgrifenyddiaeth CPG).

10. Cyd-Ysgrifenyddiaeth CPG i ddatblygu dogfen arferion gorau i'w hystyried gan y Cyd-bwyllgor Gweithredu gan dynnu ar ganfyddiadau eu gwaith ymchwil eu hunain, a chynnwys Pecyn Cymorth TUC Cymru ar gefnogaeth menopos yn y gweithle (Cyd-ysgrifenyddiaeth CPG).

11. Cyd-Ysgrifenyddiaeth CPG i gysylltu â Llywodraeth Cymru ynglŷn â chyhoeddi Datganiad ar y Cyd CPG ar gyfer Darparu Absenoldeb â Thal i Staff sy’n Profi Cam-drin Domestig gyda llythyr eglurhad Gweinidogol (Cyd-ysgrifenyddiaeth CPG).

12. Cyd-Ysgrifenyddiaeth CPG i gysylltu â thîm Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDA) Llywodraeth Cymru i drafod pa faterion eraill y gellir eu nodi i gynorthwyo staff sy'n profi cam-drin domestig ac i ddod â'r rhain yn ôl i gael eu hystyried gan y Cyd-bwyllgor Gweithredu (Cyd-ysgrifenyddiaeth CPG).

13. Cyd-Ysgrifenyddiaeth CPG i sicrhau bod y pwnc hwn yn cael ei adolygu a'i drafod mewn cyfarfod CPG sydd i ddod (Cyd-ysgrifenyddiaeth CPG).

14. Cyd-bwyllgor Gweithredol CPG i ailystyried Datganiad ar y Cyd CPG ar Reoli Asbestos mewn Adeiladau Cyhoeddus yn dilyn trafodaethau rhwng Mike Payne ac Ystadau Cymru (Cyd-bwyllgor Gweithredol).