Neidio i'r prif gynnwy

Agenda

1. Cyflwyniad a sylwadau agoriadol

I’w drafod. Llywodraeth Cymru - Llafar

2. COVID-19 (coranafeirws)

I’w drafod. Llywodraeth Cymru - Llafar

3. Partneriaeth Cymdeithasol a Gwaith Teg yng nghyd-destun COVID-19

I’w drafod. Llywodraeth Cymru - Llafar

1. Cyflwyniad a sylwadau agoriadol

1.1 Gan i’r cyfarfod gael ei gynnal drwy Skype, ac er mwyn helpu i’w reoli’n effeithiol, cyflwynodd Karen Higgins yr aelodau a oedd yn bresennol gan amlinellu’r protocol iddynt godi cwestiynau yn ystod y trafodaethau. Wedyn trosglwyddodd yr awenau i’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol i gadeirio cyfarfod y Cyngor Partneriaeth yn ffurfiol.

2. COVID-19 (coranafeirws)

2.1 Cafodd Fliss Bennee, Dirprwy Gyfarwyddwr Technoleg a Digidol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru ei gwahodd gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol i roi ei chyflwyniad ar COVID-19 (y coronafeirws) i’r Cyngor Partneriaeth. Rhoddodd yr wybodaeth ddiweddaraf am ledaeniad y feirws yng Nghymru, gan amlinellu rhai o’r pwysau rhanbarthol sy’n wynebu’r GIG, a’r mesurau sy’n cael eu rhoi ar waith ar gyfer ymateb iddynt. Ar ôl y cyflwyniad, gofynnodd Mike Payne dri chwestiwn:

  1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i atal cwmnïau preifat rhag gwneud gwaith a oedd yn cael ei wneud gan staff awdurdodau lleol nad ydynt yn gweithio ar hyn o bryd, heb ddefnyddio’r cynllun ffyrlo?
  2. Pa fesurau sy’n cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) ar gael i staff rheng flaen, gan fod y cyfarpar mor gwbl hanfodol iddynt?
  3. Beth mae’r awdurdodau lleol yn ei wneud i sicrhau bod y mesurau cadw pellter yn cael eu gweithredu er mwyn diogelu staff sy’n gweithio yn agos i’w gilydd megis gyrwyr cerbydau a gweithwyr depo?

2.2 Atebodd Judith Cole gwestiwn 1. Gofynnodd i Mike Payne a allai roi enghreifftiau penodol iddi y tu allan i’r cyfarfod hwn, er mwyn iddynt allu trafod ymhellach. Dywedodd Chris Llewelyn y byddai’n hoffi bod yn rhan o’r trafodaethau hyn.

2.3 Atebodd Fliss Bennee gwestiwn 2. Eglurodd fod y gwaith o ddarparu PPE i staff rheng flaen wedi cael ei ddwysáu a bod Prif Swyddog Meddygol Llywodraeth Cymru wedi neilltuo pobl i weithio gyda nhw i sicrhau eu bod yn cael y cyfarpar angenrheidiol. Eglurodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol fod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar y pwnc hwn heddiw, ac y byddai Cyd- ysgrifenyddiaeth y Cyngor Partneriaeth yn sicrhau bod y datganiad hwnnw’n cael ei anfon at yr aelodau.

2.4 Atebodd Chris Llewelyn gwestiwn 3. Cadarnhaodd fod hwn yn fater a oedd wedi codi eisoes, ac unwaith yn rhagor cynigiodd ei drafod gyda Mike Payne y tu allan i’r cyfarfod, gan gynnig y dylid cynnwys y mater yn y drafodaeth y byddent yn ei chynnal i roi sylw i gwestiwn 1.

2.5 Eglurodd Shavanah Taj bod yr oedi wrth ddarparu PPE a’r diffyg cymorth digonol gyda gofal plant yn destun pryder mawr i weithwyr rheng flaen, a bod llawer ohonynt yn dangos arwyddion o ddioddef iselder a phryder oherwydd effeithiau COVID 19. Roedd darparu PPE yn fater i bob bwrdd iechyd yn unigol, ac roedd yn teimlo y gallai’r sefyllfa bresennol ddylanwadu ar bobl, a fu’n aelodau o staff y GIG yn y gorffennol, wrth iddynt benderfynu a fyddent yn dychwelyd i helpu yn y frwydr yn erbyn y feirws.

2.6 Cadarnhaodd Helen Arthur y byddai Fforwm Partneriaeth Iechyd Cymru yn cyfarfod yfory ac y byddai’n trafod yn benodol effeithiau tymor hir a thymor byr COVID-19 ar iechyd meddwl gweithwyr y GIG, yn enwedig y rheini a oedd yn dioddef Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD). Ychwanegodd nad oedd rhai o’r canllawiau ar COVID-19, a oedd wedi cael eu dosbarthu, yn adlewyrchu’r sefyllfa glinigol gydnabyddedig. Mae canllawiau swyddogol yn cael eu paratoi i roi sylw i hyn, a dylai’r canllawiau hynny fod yn barod o fewn y dyddiau nesaf.

2.7 Cyfeiriodd Kelly Andrews at achosion lle nad oedd gweithwyr gofal cymdeithasol yn y sector annibynnol yn cael eu talu os oeddent yn gorfod hunanynysu neu gymryd absenoldeb salwch. Gofynnodd beth a allai Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi’r gweithwyr hyn. Cynigiodd Judith Cole edrych yn fanylach ar y pwynt hwn a’i drafod gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru, gan roi adborth i’r Cyngor Partneriaeth.

Camau gweithredu

1. Judith Cole, Chris Llewellyn a Mike Payne i fwrw ymlaen â’r syniad o gynnal trafodaeth dros y ffôn ar faterion sydd wedi codi ynglŷn â’r gweithlu llywodraeth leol.

2. Cyd-ysgrifenyddiaeth Cyngor Partneriaeth y Gweithlu i anfon Datganiad Ysgrifenedig y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Cyfarpar Diogelu Personol at aelodau’r Cyngor Partneriaeth.

3. Judith Cole, ar y cyd â chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru, i ymchwilio i’r sefyllfa o ran darparu tâl yn ystod absenoldeb salwch i weithwyr gofal cymdeithasol, gan roi adborth i’r Cyngor Partneriaeth.

3. Partneriaeth Cymdeithasol a Gwaith Teg yng nghyd-destun COVID-19

3.1 Eglurodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol y byddai’r eitem hon yn caniatáu i’r aelodau gael trafodaeth fer ar yr hyn y gallai partneriaeth gymdeithasol ei gyflawni yn ystod cyfnod yr argyfwng COVID-19, sef sefyllfa sy’n newid yn gyflym iawn.

3.2 Cadarnhaodd Jo Salway y byddai llinell amser hirach ar waith ar gyfer darparu’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol oherwydd effeithiau COVID-19, ac y byddai fersiwn ddrafft yn cael ei llunio erbyn diwedd y flwyddyn galendr. Ychwanegodd fod trafodaethau ar lefel y sectorau’n parhau, ac y byddai’n ddiolchgar am unrhyw gymorth y gallai’r Cyngor Partneriaeth ei gynnig o ran helpu i symud y gwaith hwn yn ei flaen.

3.3 Cyfeiriodd Shavanah Taj yn ôl at yr eitem flaenorol ar yr agenda gan fynegi pryderon ynghylch faint o fanylion y mae Llywodraeth y DU yn eu darparu ynglŷn â’r diwydiant adeiladu a COVID-19. Dywedodd fod angen mwy o eglurder a bod disgwyl i ganllawiau pellach gael eu cyhoeddi, er nad oedd hynny wedi digwydd eto. Yn benodol, cyfeiriodd at y diffyg manylion ynglŷn â diffinio’r hyn a ystyrir yn brosiect adeiladu o flaenoriaeth neu waith cynnal a chadw hanfodol. Roedd yn teimlo bod y diffyg eglurder yn golygu nad oedd sylw’n cael ei roi i’r materion iechyd a diogelwch penodol sy’n wynebu gweithwyr yn y sector adeiladu, mewn perthynas â COVID-19.

3.4 Ychwanegodd Mike Payne fod diffyg eglurdeb hefyd mewn sectorau eraill megis gweithgynhyrchu, lle mae cwmnïau’n aros ar agor gan eu bod yn ansicr ynghylch sut i gael gafael ar gymorth gan y Llywodraeth. Roedd yn teimlo y gallai Llywodraeth Cymru chwarae rôl fwy rhagweithiol yn hyn o beth.

3.5 Ymatebodd Fliss Bennee drwy gydnabod yr heriau sy’n wynebu gweithwyr yn y sector adeiladu, gan gynnwys y perygl o weithio heb allu cadw pellter oddi wrth bobl eraill neu’r angen i bobl weithredu a chyffwrdd â’r un peiriannau’n drwy’r amser. Serch hynny, pwysleisiodd pa mor bwysig oedd cadw pellter cymdeithasol fel ffordd o atal lledaeniad y feirws.

3.6 Cododd yr Undebau Llafur gwpl o faterion eraill. Gofynnodd Tanya Palmer a fyddai’n bosibl cydnabod bod cynrychiolwyr undebau llafur yn weithwyr allweddol yn ystod yr argyfwng COVID-19. Disgrifiodd Mike Payne y dryswch yr oedd cwmnïau’n ei wynebu wrth geisio cael cymorth a cheisio gwrthbwyso effeithiau ardrethi busnes. Cynigiodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol drefnu ymchwilio i’r materion ymhellach.

3.7 Cafwyd trafodaeth wedyn ynglŷn â darparu gofal plant ar gyfer gweithwyr rheng flaen. Rhoddodd Shavanah Taj sylw i’r ansicrwydd sy’n wynebu’r rheini yn y rheng flaen a’r hyn a olygir gan y term gweithiwr allweddol at ddibenion bod yn gymwys i gael gofal plant. Disgrifiodd y sefyllfa bresennol, sef nad oedd ysgolion yn darparu gofal oni bai bod un rhiant yn weithiwr allweddol yn y GIG. Pwysleisiodd Chris Llewelyn fod darparu gofal plant yn wasanaeth newydd a gwahanol i ysgolion, a’r bwriad oedd ei ddefnyddio pan nad oedd unrhyw ddewis arall. Byddai’r angen i ddarparu gofal plant yn dwysáu wrth i’r wythnosau fynd heibio, ond byddai’n anodd datblygu canllawiau a fyddai’n addas ar gyfer pob maes gwasanaeth.

3.8 Eglurodd Huw Owen fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i geisio datblygu diffiniad cyson. Cadarnhaodd y byddai gofal plant yn cael ei ddarparu mewn modd hyblyg yng Nghymru, a hynny mewn modd cydnaws â’r canllawiau sydd eisoes ar waith yn gyhoeddus, gan weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod materion gofal lleol yn cael eu datrys yn effeithiol. Cytunodd Huw Owen i anfon y cyfarwyddyd ar y mater hwn, a oedd wedi ei gyhoeddi’r wythnos ddiwethaf, at aelodau’r Cyngor Partneriaeth.

3.9 Cadarnhaodd Shavanah Taj fod yr Undebau Llafur wedi bod wrthi’n llunio rhestr fanwl o’u pryderon ar draws y meysydd gwasanaeth cyhoeddus, ac y byddai’n sicrhau bod y rhestr honno ar gael i’r Cyngor Partneriaeth.

3.10 Gofynnodd Karen Higgins i aelodau’r Cyngor Partneriaeth e-bostio eu cwestiynau i flwch post y Cyngor (wpc.mailbox@llyw.cymru) er mwyn i’r cwestiynau gael eu casglu ynghyd a’u hanfon at yr aelodau.

3.11 Cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog y byddai cyfarfod nesaf y Cyngor yn cael ei gynnal ar 11 May, ond pwysleisiodd pa mor bwysig oedd hi bod yr aelodau’n cyfathrebu â’i gilydd yn y cyfamser.

Camau gweithredu

1. Llywodraeth Cymru i ymchwilio i faterion yn ymwneud â chydnabod bod cynrychiolwyr undebau llafur yn weithwyr allweddol, a’r sôn bod dryswch yn digwydd i fusnesau sy’n dymuno cael cymorth a gwrthbwyso effeithiau ardrethi busnes.

2. Huw Owen i anfon y canllawiau ar gyfer darparu gofal plant i weithwyr allweddol yng Nghymru at aelodau’r Cyngor Partneriaeth. Cam gweithredu: Shavanah Taj i roi rhestr lawn o bryderon undebau llafur ynghylch effeithiau COVID-19 ar weithwyr gwasanaethau cyhoeddus, i’r Cyngor Partneriaeth.

3. Aelodau’r Cyngor Partneriaeth i e-bostio’u cwestiynau o’r cyfarfod hwn i flwch post y Cyngor er mwyn i Gyd-ysgrifenyddiaeth y Cyngor eu casglu ynghyd a’u hanfon at yr holl aelodau.

Rhestr presenoldeb

Cabinet

  • Cadeirydd - Hannah Blythyn AC – Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol

Undebau Llafur

  • Tanya Palmer – UNSAIN
  • Shavanah Taj – PCS
  • Mike Payne – GMB
  • Kelly Andrews - GMB

Cyflogwyr Datganoledig

  • Richard Tompkins – Cyflogwyr GIG Cymru
  • Chris Llewelyn – CLlLC
  • Peter Kennedy – Llywodraeth Cymru

Llywodraeth Cymru

  • Reg Kilpatrick – Llywodraeth Leol
  • Helen Arthur – Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Jo Salway – Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg
  • Judith Cole - Llywodraeth Leol
  • Fliss Bennee – Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Huw Owen – Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyngor Partneriaeth y Gweithlu – Cyd-ysgrifenyddiaeth

  • Karen Higgins – Pennaeth Cyd-ysgrifenyddiaeth Cyngor Partneriaeth y Gweithlu

Sylwedyddion

  • Natalie Stewart – Llywodraeth Cymru
  • Mark Lewis – Cyd-ysgrifenyddiaeth Cyngor Partneriaeth y Gweithlu

Log camau gweithredu

1. Judith Cole, Chris Llewellyn a Mike Payne i fwrw ymlaen â’r syniad o gynnal trafodaeth dros y ffôn ar faterion sydd wedi codi ynglŷn â’r gweithlu llywodraeth leol (Aelodau’r Cyngor Partneriaeth - fel y cyfeirir atynt).

2. Cyd-ysgrifenyddiaeth Cyngor Partneriaeth y Gweithlu i anfon Datganiad Ysgrifenedig y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Cyfarpar Diogelu Personol at aelodau’r Cyngor Partneriaeth (Cyd-ysgrifenyddiaeth y Cyngor Partneriaeth).

3. Judith Cole, ar y cyd â chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru, i ymchwilio i’r sefyllfa o ran darparu tâl yn ystod absenoldeb salwch i weithwyr gofal cymdeithasol, gan roi adborth i’r Cyngor Partneriaeth (Llywodraeth Cymru).

4. Llywodraeth Cymru i ymchwilio i faterion yn ymwneud â chydnabod bod cynrychiolwyr undebau llafur yn weithwyr allweddol, a’r sôn bod dryswch yn digwydd i fusnesau sy’n dymuno cael cymorth a gwrthbwyso effeithiau ardrethi busnes (Llywodraeth Cymru).

5. Huw Owen i anfon y canllawiau ar gyfer darparu gofal plant i weithwyr allweddol yng Nghymru at aelodau’r Cyngor Partneriaeth (Llywodraeth Cymru).

6. Shavanah Taj i roi rhestr lawn o bryderon undebau llafur ynghylch effeithiau COVID-19 ar weithwyr gwasanaethau cyhoeddus, i’r Cyngor Partneriaeth (Undebau Llafur).

7. Aelodau’r Cyngor Partneriaeth i e-bostio’u cwestiynau o’r cyfarfod hwn i flwch post y Cyngor er mwyn i Gyd-ysgrifenyddiaeth y Cyngor eu casglu a’u hanfon at yr holl aelodau (Aelodau’r Cyngor Partneriaeth).