Eitem 2 ar yr agenda: Ffrwd waith 1 - Trais ac aflonyddu yn y gweithle
Diweddariad Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar drais ac aflonyddu yn y gweithle.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
1. Diben y papur hwn yw rhoi diweddariad ar waith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen a sefydlwyd i edrych ar Drais ac Aflonyddu yn y Gweithle.
Cefndir
2. Yn y cyfarfod ar 10 Chwefror, cynigiwyd y gallai Fforwm Gweithlu'r Dyfodol yn y Sector Cyhoeddus osod ystyried a chynhyrchu canllawiau ar drais ac aflonyddu yn y gwaith (amddiffyn staff) fel ffocws cychwynnol. Mae hyn yn rhywbeth sy’n cael ei brofi ym mhob agwedd ar y sector cyhoeddus gan y rhai mewn rolau sy’n ymwneud â’r cyhoedd a gall gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
- cam-drin neu fygythiadau geiriol, gan gynnwys wyneb yn wyneb, ar-lein a dros y ffôn
- ymosodiadau corfforol.
3. Yn y digwyddiad bord gron a gynhaliwyd ar 7 Ebrill, nodwyd hyn gan undebau llafur a chyflogwyr fel maes sylweddol o bryder ac fel ffrwd waith bosibl.
4. Awgrymodd y Fforwm y dylai gweithgarwch ganolbwyntio ar gwmpasu hyd a lled y broblem, adeiladu data ar arferion da a datblygu dulliau effeithiol i liniaru risgiau i weithwyr rheng flaen. Gallai hyn gynnwys asesu sut i safoni dull y gellir ei hyrwyddo ledled Cymru.
5. Cytunwyd y dylai'r grŵp gael ei gadeirio gan aelod o'r Fforwm ac y byddai aelodaeth y gweithgor yn ehangach na'r Fforwm er mwyn sicrhau'r lefel gywir o gynrychiolaeth ac arbenigedd.
6. Cytunwyd hefyd, fel Grŵp Gorchwyl a Gorffen, y dylid bwrw ymlaen â'r mater yn gyflym a chwblhau'r gwaith o fewn 6 – 12 mis.
Cynnydd hyd yma
7. Sefydlwyd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen gyda Sharon Davies, CLlLC a Nicky Hughes, RCN yn gyd-gadeiryddion. Mae'r bobl ganlynol wedi cytuno i eistedd ar y grŵp:
- Sharon Davies (Cadeirydd) - CLlLC (Undeb Llafur)
- Nicky Hughes (Cadeirydd) - RCN (Undeb Llafur)
- Gemma Southgate - TSSA (Undeb Llafur)
- Helen Johns - NASUWT (Undeb Llafur)
- Mark Roach - CWU (Undeb Llafur)
- Ceri Williams - TUC Cymru (Undeb Llafur)
- Nelly Adam - Iechyd a Gofal Digidol Cymru (Cyflogwr)
- Claire White - Iechyd a Gofal Digidol Cymru (Cyflogwr)
- Adam Leatham - Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (Cyflogwr)
- Nina Durant - Llywodraeth Cymru (Cyflogwr)
- Anne-Louise Davies - Safonau Masnach, CLlLC (Cyflogwr)
- Catherine Evans - Llywodraeth Cymru (Cyflogwr)
- Mark Lewis - Llywodraeth Cymru (Cyflogwr)
8. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf trwy Teams ar 12 Mai. Roedd y Grŵp yn cydnabod bod trais/aflonyddu yn erbyn staff rheng flaen yn broblem gynyddol a nodwyd sawl maes lle'r oedd tystiolaeth/data eisoes wedi'u casglu, gan gynnwys:
- Swyddogion Safonau Masnach ac Iechyd Anifeiliaid
- Mae’r gwasanaethau brys wedi bod yn casglu gwybodaeth ers 2020 am ymosodiadau yn erbyn gweithwyr brys yn y sector golau glas
- Roedd Grŵp Cydweithredol Gwrth-drais y GIG wedi casglu data ar gyfer y gwasanaeth iechyd
- Roedd Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu (CWU) wedi gwneud rhywfaint o waith i leihau ymosodiadau cŵn ar weithwyr post.
9. Cytunodd y Grŵp y byddai'n ddefnyddiol clywed rhagor o fanylion am y wybodaeth sydd eisoes ar gael mewn gweithdy i'w gynnal ym mis Mehefin.
Meysydd ffocws posibl
10. O ran meysydd ffocws posibl, nodwyd nad yw achosion o ymosodiadau/cam-drin yn cael eu riportio'n ddigonol a bod darn o waith posibl i annog staff i riportio ymosodiadau/cam-drin yn y gwaith.
11. Fodd bynnag, o ran canolbwyntio ar allbynnau o'r gwaith, cytunwyd y dylid cynnal y gweithdy yn y lle cyntaf er mwyn caniatáu i'r Grŵp nodi unrhyw fylchau yn y dystiolaeth bresennol a phenderfynu ble allai gael yr effaith fwyaf. Byddai penderfyniad wedyn yn cael ei wneud ynghylch a fyddai'r Grŵp yn gweithio tuag at ddatblygu canllawiau/set o egwyddorion neu becyn cymorth.
Y gweithdy
12. Cytunodd y Grŵp y dylid trefnu gweithdy wyneb yn wyneb ym mis Mehefin yn swyddfeydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn Heol Dumballs, Caerdydd.
13. Byddai'r dystiolaeth/data presennol yn cael ei rannu yn y sesiwn foreol, a sesiwn y prynhawn wedyn yn trafod meysydd ffocws y Grŵp a'r allbynnau i'w cyflawni.
14. Roedd awgrym y gallai'r Tîm Arloesi yn Trafnidiaeth Cymru (TrC) helpu i hwyluso syniadau fel rhan o sesiwn y prynhawn. Byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn cysylltu â TrC i geisio trefnu hyn.
15. Byddai arbenigwyr ychwanegol yn cael eu gwahodd i fynychu'r gweithdy gan gynnwys:
- Shelly Asquith, TUC Cymru, Undeb Llafur
- Mike Walker, USDAW, Undeb Llafur
- Jo Robinson, Cynghorydd Cenedlaethol ar gyfer trais yn erbyn Menywod, Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol, Llywodraeth Cymru
- Laura Reynolds, Y Tîm Trais yn erbyn Menywod a Cham-drin Domestig, Llywodraeth Cymru.
16. Byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn cysylltu â'r Cyd-gadeiryddion a'r aelodau i drefnu dyddiad addas a llunio agenda ar gyfer y diwrnod.
Camau i’w cymryd
17. Dim angen gweithredu; papur i'w nodi yw hwn. Bydd diweddariad pellach ar waith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn cael ei ddarparu yng nghyfarfod nesaf Fforwm Gweithlu'r Dyfodol yn y Sector Cyhoeddus.
