Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

1. Diben y papur hwn yw rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen a sefydlwyd i edrych ar rwystrau i recriwtio a dilyniant gyrfa yn y sector cyhoeddus ar gyfer grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Cefndir

2. Yn y cyfarfod ar 10 Chwefror, cynigiwyd y gallai Fforwm Gweithlu'r Dyfodol yn y Sector Cyhoeddus (y Fforwm) edrych ar sut y gallai gefnogi pennod arweinyddiaeth Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (ArWAP). Cytunodd y grŵp i ehangu cwmpas y ffrwd waith i gynnwys grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol fel pobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol, cefndiroedd economaidd-gymdeithasol is a phobl anabl ac i ganolbwyntio ar rwystrau o ran recriwtio a dilyniant.

3. Cynigiwyd y byddai'r ffrwd waith yn ystyried yn y lle cyntaf yr arferion cyfredol ar draws y sector cyhoeddus mewn perthynas â recriwtio, y rhwystrau canfyddedig, yr hyn sy'n gweithio, pa wersi y gellid eu dysgu oddi wrth ei gilydd ac awgrymu dulliau newydd neu wahanol.

Cynnydd hyd yma

4. Cynhaliwyd cyfarfod cychwynnol cyd-gadeiryddion y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cydraddoldeb ar 19 Mai.

5. Cytunodd y Cyd-gadeiryddion i sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen ac y dylid bwrw ymlaen â'r mater yn gyflym a chwblhau'r gwaith o fewn 6 – 9 mis.

6. Cytunwyd ar aelodau'r Grŵp fel a ganlyn:

  • Tom Hoyles a Siân Boyles, Cyd-gadeiryddion (Ochr yr Undebau Llafur)
  • Amarjite Singh (Ochr yr Undebau Llafur)
  • Rhianydd Williams (Ochr yr Undebau Llafur)
  • Diana Scott Brown (Ochr yr Undebau Llafur)
  • Dom Houlihan, Cyd-gadeirydd (Llywodraeth Cymru)
  • Nina Durant (Llywodraeth Cymru)
  • Jo Snaith (Llywodraeth Cymru)
  • Lenisha Wright, GIG (Cyflogwr)
  • Alyson Watkins, CLlLC (Cyflogwr)

7. Cytunodd y Cyd-gadeiryddion y dylid trefnu gweithdy yn hytrach na chynnal cyfarfod cychwynnol ar gyfer y Grŵp Gorchwyl a Gorffen, gan y byddai'n gyfle i glywed am waith/ymchwil presennol a cheisio barn pobl ar y materion a fyddai'n llywio meysydd ffocws y Grŵp Gorchwyl a Gorffen.

Meysydd ffocws posibl

8. Nodwyd bod gwaith eisoes yn cael ei wneud ar draws y sector cyhoeddus i fynd i'r afael â rhwystrau recriwtio ar gyfer grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Er enghraifft, hyfforddiant, sesiynau galw heibio gydag ysgolion etc ac roedd gwahanol sefydliadau wedi datblygu eu canllawiau eu hunain.

9. Cytunwyd ar adnodd ychwanegol gan Adnoddau Dynol Llywodraeth Cymru i gefnogi'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen a'r gweithdy.

10. Byddai'r gweithdy yn llywio meysydd ffocws, ond o ran canlyniadau, awgrymwyd y gallai'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen weithio tuag at ddatblygu llawlyfr canllawiau i gyflogwyr sy'n nodi arferion gorau. Gallai'r cynnwys ganolbwyntio ar:

  • Allgymorth: ystyried pa waith oedd wedi'i wneud a beth oedd yn gweithio'n dda.
  • Y broses recriwtio ei hun, sy'n canolbwyntio ar recriwtio wedi'i alluogi'n ddigidol ac yn edrych ar y dull h.y. recriwtio dienw, y cymwyseddau / ymddygiadau / profiad bywyd a geisir a'r broses gyfweld.
  • Adran ar gynefino/ymsefydlu staff newydd mewn amgylchedd hybrid.

Y gweithdy

11. Cytunodd y Cyd-gadeiryddion y byddai'n well cynnal gweithdy wyneb yn wyneb a chynigiwyd ystafell y bwrdd yn swyddfa Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol yn Transport House fel lleoliad posibl.

12. Cytunwyd i wahodd arweinydd cydraddoldeb y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu i'r gweithdy i rannu'r syniadau diweddaraf.

13. Nodwyd y gallai fod cynrychiolwyr undeb ychwanegol a hoffai gymryd rhan yn y gweithdy, yn dilyn y Gyngres. Byddai'r Cyd-gadeiryddion hefyd yn ystyried unrhyw bobl ychwanegol y dylid eu gwahodd i fynychu'r gweithdy.

Camau i’w cymryd

14. Er mai papur i'w nodi yw hwn yn bennaf, gofynnir i'r Fforwm ystyried unrhyw bobl ychwanegol y dylid eu gwahodd i'r gweithdy a rhoi gwybod i'r Ysgrifenyddiaeth yn unol â hynny. Cam gweithredu: Holl aelodau'r Fforwm

15. Bydd diweddariad pellach ar waith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn cael ei ddarparu yng nghyfarfod nesaf Fforwm Gweithlu'r Dyfodol yn y Sector Cyhoeddus.