Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

  1. Mae'r papur hwn yn darparu copi o'r cofnod o gyfarfod blaenorol Fforwm Gweithlu'r Dyfodol yn y Sector Cyhoeddus (y Fforwm) a gynhaliwyd ar 10 Chwefror 2026 a diweddariad ar statws y camau gweithredu sy'n codi.

2. Ar hyn o bryd mae pedwar cam gweithredu ar y gweill. Ceir manylion yn Atodiad 1 ac mae copi o gofnod blaenorol y cyfarfod ar 10 Chwefror yn Atodiad 2.

Angen penderfyniad

3. Gofynnir i'r Fforwm gytuno ar statws camau gweithredu sy'n deillio o gyfarfodydd blaenorol y Fforwm. 

Atodiad 1: Camau gweithredu'r fforwm sy'n codi

11 Tachwedd 2025

Eitem 4 ar yr agenda: Meysydd ffocws gwaith

Cam gweithredu: Y Fforwm i ystyried unrhyw opsiynau o fewn eu rhwydweithiau ar gyfer treialu canllawiau AI Cyngor Partneriaeth y Gweithlu a bwydo'r rhain yn ôl i'r Tîm Cymorth.

Arweinydd: Aelodau'r fforwm

Diweddariad: Nid yw Tîm Cymorth y Fforwm wedi derbyn unrhyw fynegiant o ddiddordeb.

Statws: Parhaus

Eitem 6 ar yr agenda: Gwefan a'r Ganolfan Adnoddau

Cam gweithredu: Aelodau'r fforwm i ystyried a oes angen tynnu unrhyw ddogfennau o'r safle maes o law. Byddai angen i'r Fforwm gytuno ar unrhyw beth a ddewisir.

Arweinydd: Aelodau'r fforwm

Diweddariad: Cam gweithredu tymor hwy i aelodau'r Fforwm ei ystyried wrth i'r Fforwm fynd rhagddo.

Statws: Parhaus

Eitem 7 ar yr agenda: Cyfathrebu

Cam gweithredu: Dom Houlihan i drafod gydag Academi Wales sut y gallent gefnogi negeseuon ac arferion gorau drwy'r sector cyhoeddus a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r fforwm.

Arweinydd: Dom Houlihan

Diweddariad: Mae swyddogion y Fforwm wedi cwrdd ag Academi Wales i drafod meysydd lle gallant gydweithio'n effeithiol, a lle gallai’r ddau hyrwyddo gwaith y tîm arall lle bo hynny'n berthnasol. Byddant yn parhau â'r trafodaethau hyn wrth i Academi Wales ddatblygu ei chynlluniau cyflawni ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Statws: Parhaus

10 Chwefror 2026

Eitem 4 ar yr agenda: Gwefan a'r Ganolfan Adnoddau

Cam gweithredu: Aelodau'r Fforwm i ddarparu unrhyw ddogfennau posibl i'w cynnwys yng Nghanolfan Adnoddau intregredig y Fforwm, trwy e-bostio psfutureworkforceforum@gov.wales

Arweinydd: Aelodau'r fforwm

Diweddariad: Mae hwn yn gam gweithredu tymor hwy i aelodau'r Fforwm ei ystyried wrth i'r Fforwm fynd rhagddo.

Statws: Parhaus

Annex 2: Public Sector Future Workforce Forum meeting - 10 February 2026