Neidio i'r prif gynnwy

Eitem 1 ar yr agenda: Cyflwyniad

1. Croesawodd y Cadeirydd aelodau i drydydd cyfarfod Fforwm Gweithlu'r Dyfodol yn y Sector Cyhoeddus (y Fforwm) gan nodi ymddiheuriadau a dirprwyon. Cyflwynwyd Alyson Watkins fel cynrychiolydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn lle Karen Higgins.

Eitem 2 ar yr agenda: Ffrwd waith 1 - Trais ac aflonyddu yn y gweithle (papur i'w drafod)

2. Cadarnhaodd y Cadeirydd fod cyfarfod cyntaf y grŵp gorchwyl a gorffen Trais ac Aflonyddu yn y Gweithle wedi'i gynnal ar 12 Mai a rhoddodd drosolwg o'r trafodaethau. Roedd y rhain yn ymdrin â'r broblem gynyddol o drais ac aflonyddu yn erbyn staff rheng flaen, pwysigrwydd deall data cyfredol ar y pwnc hwn ac archwilio meysydd ffocws posibl mewn gweithdy wyneb yn wyneb a drefnwyd ar gyfer 15 Mehefin yn CLlLC. Roedd diffyg riportio eisoes wedi'i nodi fel maes ffocws pwysig.

3. Mae'r canlynol yn cynnwys pwyntiau allweddol a godwyd gan aelodau yn dilyn y diweddariad.

  • Croesawyd cyflymder y cynnydd ond tynnwyd sylw at bwysigrwydd sicrhau bod gwaith y Fforwm yn cael ei hyrwyddo a'i weithredu'n effeithiol ar draws pob sector.
  • Pwysleisiwyd y dylid osgoi ailadrodd gwaith presennol a gweithgareddau fforymau eraill.
  • Mae’n hanfodol deall pa rwystrau oedd yn atal gweithwyr rhag codi pryderon a riportio digwyddiadau. Gwnaed y pwynt y byddai gwaith y Fforwm yn cael ei danseilio pe bai gweithwyr yn teimlo nad oedd llawer o bwynt codi pryderon yn y lle cyntaf.

Eitem 3 ar yr agenda: Ffrwd waith 2 – Cydraddoldeb: Rhwystrau o ran recriwtio yn y sector cyhoeddus (papur i'w drafod)

4. Cadarnhaodd y Cadeirydd fod ail ffrwd waith y Fforwm, a sefydlwyd i ystyried rhwystrau o ran recriwtio ar gyfer grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector cyhoeddus, hefyd wedi gwneud cynnydd a gwahoddwyd un o gyd-gadeiryddion y grŵp gorchwyl a gorffen i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau fel a ganlyn:

  • Fe wnaeth cyd-gadeiryddion y grŵp gorchwyl a gorffen gyfarfod ar 19 Mai i drafod ffordd ymlaen a phenderfynwyd y byddai gweithdy yn cael ei gynnal yn swyddfa Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol yng Nghaerdydd er mwyn helpu i ddatblygu meysydd ffocws.
  • Awgrymwyd y gallai'r grŵp gorchwyl a gorffen weithio tuag at ddatblygu llawlyfr canllawiau i gyflogwyr ar recriwtio teg. Byddai'r cynnwys yn canolbwyntio ar enghreifftiau o arferion da; y broses recriwtio, gyda ffocws ar recriwtio wedi'i alluogi'n ddigidol a recriwtio dienw; y cymwyseddau / ymddygiadau / profiad bywyd a geisir a'r broses gyfweld. Gallai hefyd gynnwys adran ar ymsefydlu staff newydd i amgylchedd hybrid.
  • Amlinellwyd aelodaeth y grŵp gorchwyl a gorffen a gofynnwyd i'r Fforwm ddarparu unrhyw enwebiadau pellach ar gyfer y grŵp neu'r gweithdy i'r ysgrifenyddiaeth.
  • Cytunwyd y byddem yn manteisio ar arbenigedd Arweinydd Cydraddoldeb CIPD a Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Hefyd, cynigiodd Llywodraeth Cymru adnodd i edrych ar ganllawiau presennol a nodi unrhyw faterion cyffredin a allai fod o ddefnydd wrth ddatblygu ffocws.

Cam gweithredu

Aelodau i ddarparu unrhyw enwebiadau pellach ar gyfer y grŵp gorchwyl a gorffen neu weithdy i Ysgrifenyddiaeth y Fforwm.

Eitem 4 ar yr Agenda: Gwefan a chanolfan adnoddau (papur i’w gytuno)

5. Cadarnhaodd y Cadeirydd fod cytundebau ac adroddiadau Cyngor Partneriaeth y Gweithlu wedi'u lanlwytho i'r Ganolfan Adnoddau ers y cyfarfod diwethaf. Atgoffwyd yr aelodau y dylid awgrymu unrhyw ddeunyddiau neu adnoddau presennol yr oeddent am eu gweld yn cael eu hychwanegu at y Ganolfan neu roi gwybod am unrhyw ddogfennau Cyngor Partneriaeth y Gweithle y gellid eu dileu nawr. Pwysleisiodd y Cadeirydd y byddai angen i'r Fforwm gymeradwyo unrhyw ddogfennau neu ddeunyddiau sy'n cael eu tynnu neu eu hychwanegu.

6. Awgrymwyd y gellid ychwanegu Siarter Gweithwyr Mudol Cyngor Caerdydd, sydd bellach wedi'i chyfieithu'n llawn, i’r Ganolfan. Hefyd, awgrymwyd y dylai'r Ganolfan Adnoddau ddod yn eitem sefydlog ar gyfer pob cyfarfod. Derbyniwyd y ddau gynnig hyn gan yr aelodau.

Camau gweithredu

Ysgrifenyddiaeth y Fforwm i drefnu lanlwytho Siarter Gweithwyr Mudol Cyngor Caerdydd i Ganolfan Adnoddau'r Fforwm, a rhoi cadarnhad i'r aelodau pan fydd yn barod.

Ysgrifenyddiaeth y Fforwm i sicrhau bod y Ganolfan Adnoddau yn eitem sefydlog ym mhob cyfarfod y Fforwm yn y dyfodol.

Eitem 5 ar yr agenda: Cyngres TUC Cymru – Blaenoriaethau'r gweithwyr (i'w trafod)

7. Fe wnaeth y Cadeirydd estyn gwahoddiad i TUC Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y blaenoriaethau allweddol a'r themâu a gododd o Gyngres Ganolog y TUC. Rhoddodd TUC Cymru ddiweddariad fel a ganlyn:

  • Roedd y Prif Weinidog wedi annerch y Gyngres yn amlinellu ei ymrwymiad i Bartneriaeth Gymdeithasol ac ymgysylltu parhaus â'r undebau llafur.
  • Yn y Gyngres, cyflwynodd undebau llafur cysylltiedig gynigion ar faterion sy'n bwysig i'w sectorau a fyddai, yn amodol ar gytundeb y Gyngres, yn dod yn flaenoriaethau TUC Cymru. Roedd y cynigion yn cynnwys y themâu canlynol:
    • Gwasanaethau cyhoeddus o'r radd flaenaf – sy'n cwmpasu swyddi sy'n talu'n dda, cyflogau yn y GIG, yn ogystal â chyllid ar gyfer addysg, llyfrgelloedd lleol a chanolfannau hamdden.
    • Cydraddoldeb i bawb – sicrhau bod cyllid parhaus a bod Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (ArWAP) yn cael ei roi ar waith ynghyd ag addasiadau rhesymol yn y gweithle ar gyfer gweithwyr niwrowahanol.
    • Llywodraethu ar gyfer y dyfodol – gan gynnwys datganoli dŵr (diogelu hawliau gweithwyr yn ystod y broses o ddiwygio’r sector dŵr yng Nghymru) yn ogystal â datganoli carchardai, yr heddlu a chyfiawnder troseddol.
    • Iechyd a diogelwch gweithwyr – edrych ar achosion o drais/aflonyddu yn erbyn staff trafnidiaeth gyhoeddus, addysg a'r GIG er mwyn datblygu ffyrdd o gynyddu eu diogelwch yn ogystal â monitro iechyd diffoddwyr tân.

8. Nododd y Cadeirydd fod llawer o'r materion hyn yn ategu gwaith y Fforwm yn uniongyrchol.

Eitem 6 ar yr agenda: Ailfeddwl gweithdrefnau disgyblu (i’w gytuno)

9. Esboniodd y Cadeirydd fod yr eitem hon yn gofyn i'r Fforwm ystyried a oedden nhw'n dymuno cefnogi a hyrwyddo'r dull a gymerwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i ddefnyddio achosion disgyblu ffurfiol mewn ffordd fwy hyblyg. Amlinellodd TUC Cymru yr eitem fel a ganlyn:

  • Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi treialu dull newydd a oedd yn trin materion disgyblu mewn ffordd llai ffurfiol (lle bo'n briodol) er mwyn lleihau'r niwed i'r rhai dan sylw.
  • Roedd y peilot bellach wedi'i ddisodli gan fod GIG Cymru wedi mabwysiadu'r dull sy'n ystyried hyd yr achos disgyblu, yr effaith seicolegol ar y rhai dan sylw, y costau a achosir i sefydliadau a'r effaith ar adnoddau pan fo staff, er enghraifft, i ffwrdd o'r gwaith am gyfnod sylweddol o amser oherwydd straen. Mae'n ystyried a allai camymddwyn fod o ganlyniad i systemau methiannus neu ddiffyg hyfforddiant, ac yn rhoi llesiant pobl wrth wraidd y broses.
  • Amlinellwyd manteision pellach y peilot gan gynnwys gostyngiad o 70% mewn ymchwiliadau, arbediad o 3,000 diwrnod o absenoldebau oherwydd salwch a gwelliant sylweddol mewn llesiant staff.
  • Cadarnhawyd bod y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu a'r Healthcare People Management Association wedi cymeradwyo'r dull hwn.
  • Eglurwyd bod un o arweinwyr y cynllun peilot wedi cynnig cyflwyno i'r Fforwm.
  • Awgrymwyd hefyd y gellid rhoi polisi disgyblu (wedi'i gyfieithu'n llawn) ar Ganolfan Adnoddau'r Fforwm i helpu gyda'i hyrwyddo.
  • Cadarnhawyd bod y tîm peilot yn mynd i ddarparu diwrnod llawn o hyfforddiant ar ddull AD Llywodraeth Cymru ac y byddai'r wybodaeth ddiweddaraf am hyn yn cael ei ddarparu yn y cyfarfod nesaf.
  • Cefnogodd y Fforwm y cynnig mewn egwyddor ond fel cam cyntaf cytunodd y byddent yn derbyn cyflwyniad gan un o'r arweinwyr peilot. Yn y cyfamser, byddai manylion y polisi disgyblu yn cael eu darparu i'r aelodau cyn gofyn a fyddent yn cytuno i'w gynnwys ar y Ganolfan Adnoddau.

Camau gweithredu

Ysgrifenyddiaeth y Fforwm i drefnu cyflwyniad i'r Fforwm ar y dull newydd a fabwysiadwyd gan y GIG gan Andrew Cooper (Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan).

Ysgrifenyddiaeth y Fforwm i rannu rhagor o wybodaeth am y dull newydd a fabwysiadwyd gan y GIG i'r aelodau. Ar y pwynt hwn, gofynnir i'r aelodau a ydyn nhw'n cytuno i'r polisi newydd gael ei ychwanegu at y Ganolfan Adnoddau.

Adnoddau Dynol Llywodraeth Cymru i roi diweddariad yng nghyfarfod nesa'r Fforwm ar y diwrnod hyfforddi a gawsant ar y dull newydd.

Eitem 7 ar yr agenda: Cofnodion a materion sy'n codi

10. Amlinellodd y Cadeirydd faterion sy'n deillio o gyfarfodydd blaenorol y Fforwm.

11. Cadarnhaodd yr undebau llafur eu bod wedi derbyn mynegiadau o ddiddordeb gan gwpl o awdurdodau lleol ynglŷn â threialu canllawiau AI Cyngor Partneriaeth y Gweithlu a byddent yn rhoi diweddariad yn y cyfarfod nesaf.

Cam gweithredu

TUC Cymru i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cyfarfod nesaf ar y posibilrwydd o dreialu canllawiau AI Cyngor Partneriaeth y Gweithlu.

Eitem 8 ar yr agenda: Unrhyw fater arall

12. Esboniodd y Cadeirydd fod y Fforwm wedi cytuno i ddatblygu Rhwydwaith Ymchwil (rhwydwaith llac o gydweithwyr o sefydliadau ymchwil ac addysg uwch perthnasol) yn ei gyfarfod cyntaf. Rhagwelwyd y byddai'n gweithredu fel cyfrwng cyfnewid gwybodaeth gyda phrifysgolion a sefydliadau ymchwil sy'n cysylltu llunwyr polisi â gweithgareddau ac arbenigedd ymchwil perthnasol. Dywedodd y Cadeirydd fod yr Ysgrifenyddiaeth wedi derbyn diddordeb mewn ymuno â'r rhwydwaith gan: Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru, Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn ogystal â phrifysgolion Aberystwyth, Caerdydd, Abertawe, Bangor a Bryste.

13. Gofynnodd y Cadeirydd i'r aelodau a oeddent yn fodlon i'r Ysgrifenyddiaeth gysylltu â'r Rhwydwaith i ganfod a oedd unrhyw ymchwil berthnasol y gallent ei rhannu â'r Fforwm i gefnogi ei ffrydiau gwaith. Cytunwyd ar hyn gan yr aelodau.

14. Eglurodd y Cadeirydd fod cwestiwn wedi'i godi ynglŷn â chywirdeb cyfieithiad Cymraeg enw'r Fforwm. Cadarnhaodd yr ysgrifenyddiaeth fod yr enw bellach wedi'i ddiwygio ac y byddai'n cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw weithgaredd brandio yn y dyfodol.

15. Cadarnhaodd cynrychiolydd y cyrff noddedig ei bod yn ymddeol. Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn ystyried enwebiad ar gyfer aelod newydd gyda'r Grŵp Gwasanaethau Datganoledig.

Camau gweithredu

Ysgrifenyddiaeth y Fforwm i gysylltu â'r Rhwydwaith Ymchwil i archwilio a oedd ymchwil bresennol y gallent ei rhannu gyda'r Fforwm i gefnogi ei ffrydiau gwaith.

Ysgrifenyddiaeth y Fforwm i ystyried cynrychiolydd arfaethedig ar gyfer y cyrff noddedig gyda'r Grŵp Gwasanaethau Datganoledig ac yna cadarnhau'r canlyniad i'r aelodau.

Presenoldeb

  • Sharon Davies (Chair) - CLlLC (Cyflogwr)
  • Alyson Watkins - CLlLC (Cyflogwr)
  • Samantha Morgan - Y GIG (Cyflogwr)
  • Alison Standfast - Cyrff Noddedig (Cyflogwr)
  • Aimee Symonds (Dirprwy Dom Houlihan) - Llywodraeth Cymru (Cyflogwrr)
  • Laura Doel - NAHT (Undeb Llafur)
  • Sian Boyles - Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (Undeb Llafur)
  • Mark Turner - Unsain (Undeb Llafur)
  • Ceri Williams (Dirprwy Tom Hoyles) - TUC Cymru (Undeb Llafur)
  • Tanya Bull (Dirprwy Nicky Hughes) - Unison (Undeb Llafur)
  • Georgina Haarhoff - Llywodraeth Cymru
  • Stephen Layne - Llywodraeth Cymru

Aelodau absennol

  • Nicky Hughes - RCN
  • Tom Hoyles - GMB
  • Dom Houlihan - Llywodraeth Cymru
  • Reg Kilpatrick - Llywodraeth Cymru
  • Helen Arthur - Llywodraeth Cymru

Arall

  • Sharon West - Llywodraeth Cymru

Tîm Cymorth

  • Mark Lewis - Llywodraeth Cymru
  • Jessica Khoshooee - Llywodraeth Cymru
  • Catherine Evans - Llywodraeth Cymru
  • Beca ap Robert - Llywodraeth Cymru