Cyfarfod Fforwm Gwydnwch Cymru 14 Mai 2025
Crynodeb o gofnodion cyfarfod Fforwm Gwydnwch Cymru a gynhaliwyd ar 14 Mai 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Croeso a chyflwyniad
Cadeiriwyd y cyfarfod cyntaf hwn o Fforwm Gwydnwch Cymru, sydd newydd ei ddiwygio, gan y Prif Weinidog, Eluned Morgan AS. Roedd yn dod ag arweinwyr o bob sector ynghyd i drafod sut y gall Cymru adeiladu dyfodol mwy diogel a gwydn. Agorodd y Prif Weinidog y cyfarfod drwy ddathlu'r ffaith bod Fframwaith Gwydnwch Cymru wedi'i gyhoeddi. Cydnabyddodd y Prif Weinidog gyfraniad y gymuned gwytnwch wrth ddatblygu'r ddogfen nodweddiadol, sy'n darparu gweledigaeth glir a rennir ar gyfer gwella'r parodrwydd am argyfyngau a'r ymateb iddynt yng Nghymru.
Fframwaith Gwydnwch Cymru a’r Cynllun Cyflawni
Darparwyd trosolwg i'r Fforwm o'r Fframwaith a'i bwysigrwydd wrth osod y weledigaeth a'r cyfeiriad strategol ar gyfer gwytnwch yng Nghymru.
Roedd y Cynllun Cyflawni cysylltiedig yn amlinellu camau penodol i'w cymryd yn y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hir. Roedd hefyd yn atgyfnerthu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ymgorffori gwytnwch ym mhob maes gwasanaeth cyhoeddus.
Croesawodd y Fforwm y cyfle i fod yn rhan o ddatblygu'r strategaeth wydnwch gyntaf i Gymru a chydnabyddodd y dull partneriaeth parhaus sydd ei angen i wella a datblygu ar y meysydd a nodwyd yn y cynllun cyflawni.
Cylch gorchwyl Fforwm Gwydnwch Cymru
Roedd yr eitem nesaf ar yr agenda yn ystyried y model llywodraethu tair haen newydd, a gyflwynwyd i gefnogi cyflawni'r Fframwaith a'i Gynllun Cyflawni. Mae'r model llywodraethu tair haen newydd yn cynnwys:
- Lefel strategol: Fforwm Gwydnwch Cymru, sy'n darparu arweinyddiaeth genedlaethol.
- Lefel cydlynu: Partneriaeth Gwydnwch Cymru, sy'n alinio ymdrechion ar draws sectorau.
- Lefel weithredol Is-grwpiau sy'n canolbwyntio ar gyflawni camau gweithredu ymarferol.
Mae'r strwythur newydd hwn yn symleiddio prosesau, yn cryfhau atebolrwydd, ac yn sicrhau bod gan bob partner rôl a llais clir.
Ystyriwyd y cylch gorchwyl diwygiedig ar gyfer y Fforwm gan yr aelodau, a oedd yn darparu pwrpas clir i'r Fforwm yn ogystal â chadarnhau ei aelodaeth newydd. Cytunodd yr aelodau i gwrdd tair gwaith y flwyddyn, gan gynnwys uwchgynhadledd flynyddol dan gadeiryddiaeth y Prif Weinidog. I sicrhau tryloywder, byddai crynodeb o bob cyfarfod yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.
Penderfyniad: Cytunwyd ar y cylch gorchwyl.
Sylfaen dystiolaeth risg Cymru
Darparwyd trosolwg o'r sylfaen dystiolaeth risg newydd a'r cynigion i sicrhau y byddai'n cael ei hadolygu a'i diweddaru yn y dyfodol. Tynnodd y cyfarfod sylw at y rôl bwysig a chwaraeodd y dogfennau hyn wrth sicrhau dealltwriaeth a rennir gan yr holl bartneriaid o'r risgiau sy'n wynebu Cymru ac wrth helpu i flaenoriaethu cynllunio ar gyfer parodrwydd a'r gallu i ymateb.
Rhaglen alluoedd
Darparwyd trosolwg o raglen alluoedd arfaethedig Llywodraeth Cymru, sy'n rhan bwysig o Fframwaith Gwydnwch Cymru, a oedd yn cynnwys cynigion i wella'r gallu i reoli ac ymateb i argyfyngau ac adfer. Mae'r rhaglen yn cynnwys (ymhlith pethau eraill):
- adolygiad ar lefel Cymru gyfan o'r angen am system rheoli gwersi i rannu arferion da ar draws sefydliadau
- calendr hyfforddi ac ymarfer Cymru gyfan i sicrhau parodrwydd cyson
- cydweithio parhaus ag Academi Gwydnwch y Deyrnas Unedig i broffesiynoli gwaith gwytnwch
Dywedodd aelodau'r Fframwaith fod y rhaglen alluoedd yn arbennig o amserol wrth i Gymru baratoi ar gyfer digwyddiadau mawr fel Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop UEFA yn 2028, a fyddai'n gofyn am seilwaith a chynllunio cadarn ar gyfer argyfyngau.
Ymarfer Pegasus
Clywodd y Fforwm am Ymarfer Pegasus, sef ymarfer parodrwydd am bandemig ledled y Deyrnas Unedig a ddatblygwyd ar y cyd gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y Deyrnas Unedig (UKHSA), yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac adrannau eraill y Llywodraeth.
Pwysleisiodd Prif Weinidog fod bod yn barod yn hanfodol i sicrhau bod Cymru yn gallu ymateb yn effeithiol i argyfyngau iechyd yn y dyfodol.
Sylwadau i gloi
Daeth y Prif Weinidog â'r cyfarfod i ben drwy ddiolch i'r aelodau am eu presenoldeb a nodi eu cyfraniadau gwerthfawr, gan ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i barhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid ar faterion gwytnwch.
