Neidio i'r prif gynnwy

Croesawodd Llywodraeth Iwerddon ymweliad gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd, Lesley Griffiths AS, a Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething AS, i Ddulyn a Chorc ar 13-14 Hydref 2022 ar gyfer ail Fforwm Cymru Iwerddon. Cynhaliwyd Fforwm cyntaf Cymru-Iwerddon cyntaf ar 22 Hydref 2021 yng Nghaerdydd.

Cynrychiolwyd Llywodraeth Iwerddon gan y Gweinidog Materion Tramor a'r Gweinidog Amddiffyn, Simon Coveney T.D., y Gweinidog Gwariant Cyhoeddus a Diwygio, Michael McGrath T.D., y Gweinidog Hyrwyddo Masnach, Dara Calleary T.D. a'r Gweinidog Datblygu Gwledig a Chymunedol, Heather Humphreys T.D.

Cyhoeddwyd bwriad i gynnull Fforwm Iwerddon-Cymru yn flynyddol yn Natganiad Ar y Cyd Iwerddon-Cymru a Chynllun Gweithredu ar y Cyd 2021-25 a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021. Nod y fforwm yw ymgysylltu â rhanddeiliaid gwleidyddol, economaidd ac ehangach er mwyn datblygu perthnasoedd, cyfnewid safbwyntiau polisi, rhannu dysgu ac adeiladu cydweithredu mewn meysydd y mae’r cyfrifoldeb amdanynt wedi’i ddatganoli i Lywodraeth Cymru a chryfhau'r berthynas ehangach rhwng Iwerddon a Chymru.

Gan adeiladu ar y fforwm agoriadol llwyddiannus yng Nghaerdydd y llynedd, cynhaliwyd fforwm y Gweinidogion eleni yng Nghorc a thrafodwyd y canlynol:

Datblygiadau gwleidyddol diweddar a chysylltiadau dwyochrog

Bu'r Gweinidog dros Faterion Tramor a'r Prif Weinidog yn trafod y datblygiadau gwleidyddol presennol, gan gynnwys heriau'n ymwneud â chostau byw, ynni a newid hinsawdd. Roedden nhw'n adlewyrchu'r uchelgeisiau a rennir ar gyfer perthynas ddwyochrog Iwerddon-Cymru gan nodi'r cynnydd cadarnhaol dros y flwyddyn ddiwethaf wrth weithredu'r Datganiad a Rennir. Yn benodol, fe groesawon nhw nifer y cyfarfodydd gwleidyddol lefel uchel, gan gynnwys rhwng y Taoiseach a'r Prif Weinidog, y cydweithrediad cryf yn y Cyngor Gwyddelig Prydeinig, yr ystod o fentrau diwylliannol pwysig a rhannu dysgu ar bolisi iaith, a secondiad un o swyddogion Llywodraeth Cymru yn yr Adran Materion Tramor i adeiladu dysgu a rennir am faterion diaspora.

Trafododd y Gweinidog McGrath a'r Gweinidog Gething yr ystod eang o brosiectau a rhwydweithiau cydweithredol oedd wedi'u sefydlu drwy'r rhaglen Iwerddon-Cymru. 

Cydweithrediad masnach a datblygu economaidd

Bu'r Gweinidog Calleary a'r Gweinidog Gething yn trafod yr heriau presennol i fusnesau ar draws y ddwy wlad. Yn benodol, buont yn trafod meysydd ar gyfer cydweithredu masnach a dulliau o ddatblygu menter ranbarthol gyda'r bwriad o gynyddu cydweithrediad rhwng Iwerddon a Chymru. Gwnaethant hefyd gwrdd ag ystod o randdeiliaid datblygu economaidd rhanbarthol wedi'u lleoli'n lleol yng Nghorc.

Datblygiadau a chyfleoedd ynni adnewyddadwy

Trafododd y Gweinidog Coveney a'r Gweinidog Griffiths heriau parhaus yn y sector ynni sy'n gysylltiedig â goresgyniad Rwsia yn Wcráin, gan gynnwys prisiau ynni cynyddol a chyfyngiadau'r gadwyn gyflenwi, a'r cyfleoedd a gyflwynwyd gan fwy o gydweithio rhwng Iwerddon a Chymru ar ddefnyddio ynni adnewyddadwy. Yn benodol, bu'r Gweinidogion yn trafod cyfleoedd cydweithredu'r dyfodol ym maes gwynt ar y môr a datblygu gridiau ar y môr, gan gynnwys rhagor o gysylltiadau trydan rhwng Iwerddon a Chymru.

Rhaglen ehangach a chyfarfodydd yn y dyfodol

Yn ogystal â'r Fforwm Gweinidogol, croesawodd Arglwydd Faer Corc, y Cyng Deirdre Forde, Brif Weinidog Cymru a'i ddirprwyaeth i Neuadd y Ddinas Corc. Roedd y rhaglen ehangach yn cynnwys ymgysylltu â Siambr Fasnach Iwerddon Brydeinig, Porthladd Dulyn, Amgueddfa Genedlaethol Iwerddon, Coleg Prifysgol Corc, MaREI, Canolfan Ymchwil SFI ar gyfer Ynni, Ymchwil Hinsawdd a Morol ac arloesi, ac aelodau o Siambr Fasnach Corc. 

Cytunwyd y byddai cyfarfod nesaf Fforwm Iwerddon-Cymru yn cael ei gynnal yng Nghymru ar ddiwedd 2023.