Neidio i'r prif gynnwy

Yn unol ag ymrwymiadau o dan y Cyd-Ddatganiad a Chynllun Gweithredu ar y Cyd Iwerddon-Cymru 2021-2025, croesawodd Llywodraeth Cymru ymweliad i Ogledd Cymru gan Lywodraeth Iwerddon a gynrychiolwyd gan Tánaiste a'r Gweinidog Materion Tramor a'r Gweinidog Amddiffyn, Micheál Martin TD, a'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Ymchwil, Arloesi a Gwyddoniaeth, Simon Harris TD, ar gyfer y trydydd Fforwm Iwerddon-Cymru blynyddol.

Cynrychiolwyd Llywodraeth Cymru gan Brif Weinidog Cymru, y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething AS a'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS.

Ailadroddodd y Fforwm ymrwymiad y ddwy weinyddiaeth ar y cyd i ddod â Chymru ac Iwerddon yn agosach at ei gilydd, gan ddyfnhau ein cydweithrediad a chryfhau cysylltiadau er budd y ddwy ochr.  Edrychodd yn ôl ar gynnydd dros y flwyddyn ddiwethaf o dan y meysydd cydweithredu a nodir yn y Cyd-Ddatganiad a Chynllun Gweithredu ar y Cyd. Eleni, canolbwyntiodd y Fforwm ar ynni adnewyddadwy, datblygu sgiliau ac iaith, yn ogystal â ffocws ehangach ar gydweithrediad economaidd a masnach. Aeth y cynrychiolwyr ar raglen o ymweliadau yng Ngogledd Cymru i edrych ar ddulliau o fynd i'r afael â heriau a chyfleoedd cyffredin yn y meysydd hyn.

Ymwelodd y Prif Weinidog a Tánaiste â phorthladd Caergybi lle buont yn trafod llif masnach a datblygiadau arfaethedig o ran porthladdoedd. Fe wnaethant bwysleisio pwysigrwydd cysylltedd masnach rhwng Iwerddon a Chymru a chytunwyd i barhau i gydweithio'n agos ar weithredu rheolaethau'r ffin yn y dyfodol.

Yna fe wnaethant ymweld â Phrosiect Ynni Môr Morlais, sy'n cynhyrchu ynni ffrwd lanw. Cawsant gyflwyniad ar brosiectau hydrogen a chyfleoedd ar gyfer Cymru ac Iwerddon.

Ymwelodd y Prif Weinidog a Tánaiste hefyd ag Ysgol Morswyn sydd â chysylltiad sefydledig â Gaelscoil Thaobh na Coille yn Dún Laoghaire, Swydd Dulyn. Yn ogystal â chwrdd â disgyblion, cawsant gyfle i ddysgu am ganolfannau trochi iaith hwyr. Fe wnaethant hefyd gwrdd â SaySomethingin sydd wedi datblygu teclyn digidol dysgu iaith sy'n canolbwyntio ar sgiliau siarad.

Ymwelodd y Gweinidog Griffiths a'r Gweinidog Harris â M-SParc lle gwnaethant gyfarfod â busnesau a chael cipolwg ar brentisiaethau a chyfleoedd gwaith medrus iawn i hwyluso cyflogaeth leol.  Fe wnaethant hefyd ymweld â Thŷ Gwyrddfai lle gwelsant sut y gellir lleoli cyfleusterau hyfforddi (gan gynnwys uwchsgilio) ar gyfer datgarboneiddio ac ôl-osod mewn cymunedau gwledig. Fe wnaethant drafod pwysigrwydd rhaglenni sgiliau er mwyn cyfrannu at anghenion y sector yn y dyfodol.

Yna cymerodd y ddau Weinidog ran mewn cyfarfod bord gron a thrafod sut y gall Iwerddon a Chymru weithio gyda'i gilydd i feithrin sgiliau yn y sector ynni adnewyddadwy.

Cyfarfodydd yn y dyfodol

Ar y cyfan, bu trydydd Fforwm Cymru Iwerddon yn myfyrio ar lwyddiant parhaus cydweithredu a dysgu o dan y Cyd-Ddatganiad a Chynllun Gweithredu ar y Cyd. Pwysleisiodd y gwerth mawr y mae'r ddwy ochr yn ei roi ar ymgysylltu a chydweithredu parhaus. Y ffocws fydd parhau i adeiladu ar yr ymgysylltu hwnnw, gan gynnwys yn y meysydd yr ymdriniwyd â hwy yn ystod Fforwm 2023.   

Cytunwyd y bydd Fforwm nesaf Iwerddon-Cymru yn Iwerddon ddiwedd 2024, ac y byddai'n edrych ar sut i gryfhau'r cydweithredu yn y dyfodol.