Neidio i'r prif gynnwy

Cynhaliwyd chweched Fforwm Gweinidogol blynyddol Cymru-Iwerddon yn Nulyn, Iwerddon ar 24 Mehefin 2026, gan ddod â Helen McEntee TD, Gweinidog Materion Tramor a Masnach Iwerddon, a Rhun ap Iorwerth AS, Prif Weinidog Cymru, ynghyd.

Caiff y Fforwm ei drefnu o dan Ddatganiad ar y Cyd Cymru-Iwerddon 2030, gan roi cyfle i adolygu'r cynnydd o dan y fframwaith newydd hwn ar gyfer cydweithredu, ac i ailddatgan ymrwymiad ac uchelgais y ddwy lywodraeth i gryfhau'r cydweithrediad ar draws y meysydd blaenoriaeth.

Adolygodd y Gweinidog a'r Prif Weinidog gydweithrediad ar draws meysydd blaenoriaeth y Datganiad ar y Cyd, gan gynnwys Ymgysylltu Gwleidyddol a Swyddogol; yr Hinsawdd, Ynni, yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd; Economi a Masnach; Addysg, Ymchwil ac Arloesedd; Diwylliant, Iaith a Threftadaeth; a Chymunedau, Cymry/Gwyddelod ar Wasgar a Chwaraeon. 

Croesawyd ehangder y gweithgarwch sy'n digwydd yn y ddwy awdurdodaeth a chydnabuwyd gwerth gwaith ymgysylltu parhaus wrth fynd i'r afael â chyfleoedd a heriau cyffredin.

Fel rhan o'r Fforwm, cyfarfu'r Gweinidog a'r Prif Weinidog â derbynwyr elfen Cymru-Iwerddon o Gynllun Grant Charlemont, a weinyddir gan yr Academi Frenhinol Wyddelig (RIA), a chlywsant gyflwyniadau ar ymchwil a gefnogir drwy'r rhaglen. Fe wnaethant groesawu cyfraniad y cynllun at gryfhau cysylltiadau academaidd ac ymchwil rhwng Cymru ac Iwerddon, cefnogi'r gwaith o gyfnewid gwybodaeth, a meithrin partneriaethau newydd rhwng ymchwilwyr sy'n dechrau ar eu gyrfa.

Croesawodd y Prif Weinidog a'r Gweinidog y cyhoeddiad am gynllun cyfatebol newydd i'w lansio gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru i gefnogi ymchwil gydweithredol a chyfnewid academaidd rhwng Cymru ac Iwerddon. Croesawyd hefyd y ffaith bod elfen Cymru-Iwerddon o Gynllun Grant Charlemont yn cael ei adnewyddu, a weinyddir gan yr RIA. Bydd y mentrau ategol hyn yn cryfhau ymhellach gysylltiadau academaidd ac ymchwil a phartneriaethau rhwng ymchwilwyr ar draws Môr Iwerddon.

Bu'r Gweinidog a'r Prif Weinidog hefyd yn bresennol mewn trafodaeth banel o'r enw "Cymru ac Iwerddon - Uchelgeisiau Byd-eang ym maes Diplomyddiaeth Chwaraeon". Cadeiriwyd y drafodaeth gan Sinéad O'Carroll (Golygydd Newyddion The Journal) ac roedd yn cynnwys cyfraniadau gan Linda Hoey (Rheolwr Rhaglen Cwpan Ryder),Tommy Bowe (cyn-chwaraewr rygbi'r undeb o Iwerddon a chyflwynydd teledu), Noel Mooney (Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Bêl-droed Cymru) a Dr Helen Williams (Cadeirydd Pêl-rwyd Cymru).

Wrth agor y digwyddiad panel, siaradodd y Gweinidogion am y cyfleoedd i Gymru ac Iwerddon rannu profiadau ac arferion gorau ar draws ystod o feysydd, gan gynnwys diplomyddiaeth chwaraeon, cynnal digwyddiadau mawr, chwaraeon menywod a chyfranogiad ar lawr gwlad. Fe wnaethant gydnabod traddodiadau chwaraeon cryf y ddwy genedl a chroesawu'r posibilrwydd o gydweithredu pellach i gefnogi eu huchelgeisiau rhyngwladol priodol.

Archwiliodd y panel rôl gynyddol chwaraeon mewn gwaith ymgysylltu rhyngwladol ac ystyriodd sut y gall Cymru ac Iwerddon ddefnyddio chwaraeon i gryfhau cysylltiadau rhyngwladol, hyrwyddo cyfnewid diwylliannol, a gwella eu proffiliau rhyngwladol drwy ddiplomyddiaeth chwaraeon.

Yn ystod gweithgareddau'r bore, ategodd y Gweinidog McEntee a'r Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth bwysigrwydd cynnal ymgysylltiad gwleidyddol agos rhwng Cymru ac Iwerddon a chroesawyd y gwaith parhaus o ddatblygu dulliau ymarferol o gydweithredu o dan Ddatganiad ar y Cyd Cymru-Iwerddon 2030.

Cytunwyd i barhau i weithio gyda'i gilydd i gryfhau cysylltiadau dwyochrog ac i hyrwyddo meysydd o ddiddordeb cyffredin er budd pobl Cymru ac Iwerddon.

Cytunwyd y bydd cyfarfod nesaf Fforwm Cymru-Iwerddon yn digwydd yng Nghymru yn 2027.