Neidio i'r prif gynnwy

Cynhaliwyd pumed Fforwm Gweinidogol blynyddol Iwerddon-Cymru yn Abertawe, Cymru ar 3 Gorffennaf 2025, gan ddod â Phrif Weinidog Cymru, y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS, a'r Tánaiste a'r Gweinidog Materion Tramor a Masnach, a'r Gweinidog Amddiffyn, Simon Harris TD at ei gilydd.

Mae'r fforwm yn cael ei drefnu o dan y Datganiad a Rennir rhwng Iwerddon a Chymru ac fe'i cynhaliwyd yn Abertawe yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Mae'r Datganiad a Rennir wedi cefnogi'r gwaith o ddatblygu cysylltiadau cydweithredol cryf rhwng Cymru ac Iwerddon ar draws sawl maes, o ynni adnewyddadwy, i gysylltiadau addysg ac ymchwil, i ddiogelu a hyrwyddo ein hieithoedd, adeiladu partneriaethau diwylliannol, a chefnogi ein cysylltiadau economaidd a masnachol.

Mae'r fforwm eleni yn nodi cyfnod arwyddocaol wrth i'r Datganiad a Rennir Iwerddon-Cymru 2021-2025 cyntaf gael ei gwblhau a lansio Datganiad a Rennir Iwerddon-Cymru 2030 nesaf – fframwaith blaengar a llawn gweithredu sy'n cynnig cyfeiriad i'n cydweithredu hyd at ddiwedd y ddegawd.

Yn eu trafodaethau, canolbwyntiodd y Prif Weinidog a'r Tánaiste ar eu huchelgeisiau cyffredin ar gyfer y berthynas ddwyochrog rhwng Iwerddon a Chymru, gan ddyfnhau cydweithrediad dros y 5 mlynedd nesaf a thu hwnt. Mae'r datganiad a rennir newydd yn cynnwys Arloesi a Masnach, ac yn cryfhau cydweithrediad mewn meysydd a rennir fel ynni adnewyddadwy ar y môr.

Fel rhan o raglen y Fforwm, ymwelodd y Prif Weinidog a'r Tánaiste â Phrifysgol Abertawe, gan glywed yn uniongyrchol gan brosiectau ymchwil Iwerddon-Cymru. Roedd y fforwm hefyd yn gyfle i ymweld ag ICON plc, sefydliad ymchwil glinigol sydd â'i bencadlys yn Iwerddon sy’n recriwtio a datblygu eu sylfaen yng Nghymru yn llwyddiannus.

Yn y flwyddyn i ddod, bydd Cymru ac Iwerddon yn canolbwyntio ar fentrau i gynnwys partneriaethau ymchwil, cefnogi partneriaethau diwylliannol ymhellach, a chyfnewid polisïau mewn ystod o feysydd, i gynnwys addysg a chynaliadwyedd. Yn y Fforwm eleni cyhoeddwyd cynllun cyllido newydd i gefnogi ymchwilwyr gyrfa gynnar sy'n cydweithio rhwng Iwerddon a Chymru, gan y Tánaiste. Bydd y Cynllun yn lansio yn hydref 2025.

Cytunwyd y bydd cyfarfod nesaf Fforwm Iwerddon-Cymru yn digwydd yng Nghymru yn 2026.