Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarfod Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Hinkley Point C - 21 Rhagfyr 2020

Aelodau oedd yn bresennol:

  • Jane Davidson (Cadeirydd)
  • Dr Rhoda Ballinger
  • Dr Huw Brunt
  • Yr Athro Roger Falconer
  • Dr Justin Gwynn
  • Dr James Robinson
  • Rachel Sharp

Hefyd yn bresennol o Lywodraeth Cymru:

  • Dan Butler, Cynghorydd Arbennig i’r Prif Weinidog
  • John Howells, Tara Doster, Jonni Tomos (Ysgrifenyddiaeth)

Cynhaliwyd chweched cyfarfod Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Hinkley Point C y Prif Weinidog ar 21 Rhagfyr. Cytunodd y Grŵp y cofnodion o’r cyfarfod blaenorol, a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd. 

Yn ystod y cyfarfod, clywodd y Grŵp gan gynrychiolwyr o Asiantaeth yr Amgylchedd (yr Asiantaeth) ac y Devon and Severn Inshore Fisheries and Conservation Authority (IFCA)

Roedd y trafodaethau gyda’r Asiantaeth yn ymdrin ag apêl trwydded amgylcheddol Hinkley Point C, y berthynas a’r trefniadau gweithio rhwng yr Asiantaeth a Chyfoeth Naturiol Cymru, a’r adolygiad strategol gan yr Asiantaeth Ynni Atomig Rhyngwladol o sector ynni niwclear y DU ym mis Hydref 2019.

Esboniodd yr IFCA i'r Grŵp eu rôl fel aelod anstatudol o fforwm technegol morol Hinkley Point C ar gyfer y prosiect. Roedd y drafodaeth yn ymdrin â meysydd arbenigedd yr IFCA a'r defnydd o'i ymchwil yn y prosiect. Rhannodd yr IFCA ei farn hefyd ar apêl trwydded amgylcheddol Hinkley Point C gyda'r Grŵp.

Myfyriodd y Grŵp ar ohebiaeth a dderbyniwyd gan y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear a Cefas a chytunwyd ar sut i fynd â nhw ymlaen gyda rhanddeiliaid eraill. Trafododd y Grŵp ei adroddiad cam 1af a’r chwe maes blaenoriaeth yr oedd wedi cytuno arnynt yn y 5ed cyfarfod. Cytunwyd ar gyfrifoldebau am baratoi penodau drafft yr adroddiad a phenderfynodd y Grŵp ddechrau drafftio’r adroddiad yn y flwyddyn newydd.

Cytunodd y Grŵp y dylai ei gyfarfod nesaf fod ar 18 Ionawr 2021, am 9.00am