Neidio i'r prif gynnwy

Presenoldeb

Y grŵp

Kevin Denman (KD)
Mark Boulton (MB*)
Sion Williams (SW)
Chris Davies (CD)
Jim Evans (JE) 
Brett Garner (BG)
Holly Kaiser (HK)
David Curtis (DC)
Simon Frobisher (SF)
Sean Jukes (SJ)
Richard Harrison (RH)
Peter Elliott (PE)
John O’Connor (JO)
Mark Owen (MO) 
Kieran Hyder (KH) 
Nadine Atchison-Balmond (NA)

Llywodraeth Cymru

Michelle Billing (MB)
Julian Bray (JB)
Seb Evans (SE)
Nathan Wyer (NW)
Matthew Sayer (MS)
Barrie John (BJ) 
Phil Wensley (PW).

Ymddiheuriadau

Richard Strudwick (RS)
Andy Davies (AD)
Hannah Rudd (HR)
Colin Charman (CC)

Nodiadau

Croeso a chyflwyniadau, diben y cyfarfod

Croesawodd JB bawb i 9fed cyfarfod y grŵp. Cyfleodd ymddiheuriadau gan Hannah Rudd (Mark Owen yn dirprwyo), Colin Charman (Nadine Atchison-Balmond yn dirprwyo), Richard Strudwick ac Andy Davies. 

Croesawodd Phil Wensley hefyd o dîm gwyddor pysgodfeydd Llywodraeth Cymru. 

Adolygu a chymeradwyo cofnodion a chamau gweithredu cyfarfodydd blaenorol 

Aeth MB drwy’r agenda a gofynnodd a oedd unrhyw sylwadau yn ymwneud â’r nodiadau drafft a’r camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol (8).

Gofynnodd sawl aelod am amser ychwanegol i adolygu’r nodiadau: cytunwyd ar hynny. 

Mae’n rhaid i’r holl sylwadau gael eu cyflwyno’n ysgrifenedig erbyn 5pm, dydd Gwener 14 Mawrth. 

Gofynnodd aelod a oes amserlen ar gyfer yr astudiaeth ynglŷn ag amcanion cywain amgen. 

Esboniodd JB ein bod yn ceisio caffael cymorth i gwblhau’r astudiaeth gan nad oes digon o gapasiti gan KH: amserlen i’w chadarnhau. 

Cam gweithredu 1: Coladu adborth ar y nodiadau drafft a’r camau gweithredu o gyfarfod 8 ar ôl eu derbyn.

Galwad am dystiolaeth: crynodeb o’r ymatebion

Cyflwynodd SE grynodeb lefel uchel o’r ymatebion i’r alwad am dystiolaeth ynglŷn â rhwydo o’r lan yng Nghymru, a gaeodd ar 28 Chwefror. 

Mae crynodeb manwl o’r ymatebion, gan gynnwys y camau nesaf ac argymhellion, yn cael ei baratoi ar gyfer y Dirprwy Brif Weinidog. Yn amodol ar gymeradwyaeth, caiff ei rannu gyda’r grŵp a’i gyhoeddi ar-lein. 

Rhoddodd PW drosolwg o’r astudiaeth sgil-ddalfa wyddonol arfaethedig o rwydo o’r lan. 

Dywedodd aelod ei fod wedi cyfarfod â Swyddfa Diogelu’r Amgylchedd ddoe ynglŷn ag astudiaeth ynglŷn â sgil-ddalfeydd a fydd yn cael ei chyhoeddi cyn hir. Awgrymodd y gallai hynny fod o gymorth.

Gofynnodd JB i’r adroddiad gael ei gylchredeg cyn gynted â’i fod ar gael.

Mynegodd aelod bryder nad yw’r alwad am dystiolaeth yn helpu i ddarparu niferoedd pysgotwyr anghyfreithlon.

Esboniodd rhwydwr o’r lan masnachol fod rhwydo o’r lan yn agored iawn ac yn hyfyw mewn ambell leoliad allweddol yn unig, sy’n golygu bod gweithgarwch anghyfreithlon yn hawdd ei ganfod a gweithredu arno. 

Rhoddodd BJ y cyfeiriad e-bost gwybodaeth am bysgodfeydd a gofynnodd i’r aelodau roi gwybod am unrhyw rwydo o’r lan anghyfreithlon a welir. 

Gofynnodd aelod a oedd y pwyllgor arbenigol ar bysgodfeydd wedi trafod rhwydo o’r lan. 

Dywedodd MS na chynhaliwyd y drafodaeth hon eto. Bydd yn adrodd yn ôl cyn gynted ag y bydd wedi digwydd. 

Astudiaeth economaidd-gymdeithasol: amlinelliad o’r fanyleb 

Mae’r gwaith cwmpasu cychwynnol wedi dechrau gyda Seafish, sy’n ymdrin â 12 o bysgodfeydd ym mharth Cymru.

Bydd yr astudiaeth yn cynnwys pedair prif elfen:

  1. Asesiad economaidd
  2. Asesiad cymdeithasol
  3. Amlygu cyfleoedd
  4. Cysylltu cyfleoedd

Bydd y dull arfaethedig yn cynnwys chwe cham:

  1. Adolygu’r llenyddiaeth bresennol a pharatoi data
  2. Datblygu methodoleg
  3. Casglu’r prif ddata
  4. Ymgysylltu â rhanddeiliaid
  5. Dadansoddi data economaidd
  6. Adrodd

Pan fydd y fethodoleg wedi’i chwblhau (tua 2 fis), cyflwynir trosolwg o’r dull arfaethedig i’r grŵp ar gyfer mewnbwn. 

Cadarnhaodd NW y bydd twristiaeth yn cael ei chynnwys yn yr astudiaeth.

Mynegodd aelodau sy’n cynrychioli genweirwyr hamdden bryderon ynglŷn â’r ffaith bod Seafish yn cynnal elfen hamdden yr ymchwil: 

  • gallu Seafish, sef corff codi ardoll a ariennir gan y diwydiant, i gynnal yr asesiad hamdden yn ddiduedd
  • fe allai rhai ystyried nad yw Seafish yn ddiduedd, a allai achosi i enweirwyr hamdden amau canlyniadau’r astudiaeth
  • diffyg arbenigedd a phrofiad i ymgysylltu â’r sector genweirio hamdden a chasglu’r data economaidd-gymdeithasol angenrheidiol
  • fe allai ymwneud Seafish â’r astudiaeth hamdden gael effaith negyddol ar y canlyniadau a dilysrwydd cyffredinol yr asesiadau 

Roedd pwyntiau cadarnhaol o’r drafodaeth yn amlygu pwysigrwydd cydfodolaeth y sectorau er mwyn gweithredu’r Cynllun Rheoli Pysgodfeydd (FMP) draenogiaid môr yn llwyddiannus a gwerth y grŵp i aelodau allu cyfathrebu’n agored ac yn onest.

Rhoddodd JB sicrwydd i’r grŵp pan fydd cwmpas y gwaith wedi’i gwblhau, y bydd bwriadau a methodoleg Seafish ar gyfer ymgysylltu â’r sector hamdden yn cael eu hadolygu’n fanwl cyn i unrhyw benderfyniadau gael eu gwneud. 

Data pysgodfeydd hamdden: camau gweithredu arfaethedig i wella casglu data ar ddalfeydd hamdden     

Yn y cyfarfod blaenorol, amlygwyd bylchau tystiolaeth yn y bysgodfa hamdden ac archwiliwyd camau gweithredu posibl i fynd i’r afael â nhw.

Cytunwyd ar dri cham gweithredu tymor byr:

  1. Llunio datganiad ynglŷn â phwysigrwydd a diben darparu data pysgota masnachol a genweirio hamdden, a’i rannu i gael mewnbwn.
  2. Hyrwyddo’r dyddiaduron genweirio môr gymaint â phosibl gyda chymorth cyfathrebu gan Bysgota yng Nghymru – mae ganddyn nhw 6000 o gysylltiadau ar hyn o bryd ac 20,000 o ddilynwyr rhwydwaith cymdeithasol cyfunol.
  3. Cadarnhau’r ffigur cyfranogiad gorau ar gyfer y dyddiaduron genweirio môr gyda KH a chydweithwyr Cefas. 

Hoffai KH weld y dyddiadur genweirio môr yn cael ei gynnal fel y grŵp cynghori ar ddraenogiaid môr, fel bod y gymuned enweirio’n gyfrifol amdano yn hytrach na’i fod yn gynnyrch Cefas. 

Roedd JB yn fodlon cyfarfod a thrafod y mater hwn ymhellach. 

Mynegodd DC ddiddordeb mewn cymryd rhan. 

Wrth drafod, nodwyd y canlynol: 

  • mae genweirwyr hamdden yn amharod i gymryd rhan mewn casglu data neu gydweithio â’r broses
  • efallai na fydd y camau gweithredu arfaethedig yn sbarduno cynnydd mewn casglu data a bod angen dull mwy ffurfiol, h.y. gofyniad i adrodd ar ddalfeydd
  • mae’r Undeb Ewropeaidd wrthi’n datblygu system orfodol adrodd am ddalfeydd ar hyn o bryd ar gyfer genweirio hamdden
  • fe allai adolygiad o enweirio hamdden sy’n debyg i’r adolygiad o rwydo o’r lan ac sy’n cynnwys galwad am dystiolaeth fod yn gyfaddawd
  • mae cyfrinachedd ynglŷn â marciau pysgota yn arwain at amharodrwydd i ddarparu data am leoliadau a dalfeydd
  • nid oes gan enweirwyr hamdden lawer o hyder mewn gwyddoniaeth, gan eu bod yn credu ei bod yn rhy araf i wneud penderfyniadau deddfwriaethol amserol
  • awgrymwyd cefnu ar y syniad o’r dyddiadur genweirio môr a sefydlu grŵp bach o bysgotwyr draenogiaid môr brwd i ddarparu data a helpu i ddatblygu perthnasoedd

Cam gweithredu: cyfarfod â KH i archwilio posibiliadau i enweirwyr gymryd rhan mewn rheoli’r dyddiadur genweirio môr.

Y camau nesaf; unrhyw fater arall; dyddiad y cyfarfod nesaf

Y datganiad Dull Strategol o fynd i’r afael â physgodfeydd a dyframaethu yng Nghymru: dywedodd aelod fod y diffyg sôn am bysgota hamdden yn y datganiad yn cyfleu neges wael i’r sector. A ellir mynd i’r afael â hyn?

Esboniodd JB nad oes cyfle bellach i newid y datganiad, ond bod sylwadau’r aelod wedi cael eu hanfon ymlaen at y tîm a luniodd y datganiad. 

Gall JO godi’r mater yng nghyfarfod nesaf Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Bysgodfeydd Cymru (MAGWF). 

Erlyn 5 capten llong dreillio o Wlad Belg yn llwyddiannus: canmolwyd camau gweithredu’r tîm gorfodi gan y grŵp. Gofynnwyd i’r bwletin newyddion gael ei gylchredeg i’r grŵp. 

Cwestiwn: a roddwyd ystyriaeth i sut gellir amrywio terfynau niferoedd? 

MB i wneud gwaith dilynol. 

Diolchodd JB i bawb am eu cyfraniad ac am drafodaeth dda arall. 

Dyddiad y cyfarfod nesaf i’w gadarnhau. 

Cam gweithredu: cylchredeg bwletin newyddion ynglŷn ag erlyn pum llong dreillio o Wlad Belg yn llwyddiannus. 

Camau gweithredu

Camau gweithredu sy’n weddill o gyfarfodydd blaenorol 

Cyfarfod 5: 17 Medi 2024

  1. Astudiaeth ddesg yn mynd i’r afael â bylchau posibl mewn tystiolaeth i allu ystyried amcanion rheoli amgen. NW: cwblhawyd 26 Awst 2025.

Cyfarfod 7: 5 Rhagfyr 2024

  1. Cael cyngor ar sut gellid amrywio terfynau niferoedd hamdden. MB: parhaus.
  2. Siarad â’r adran orfodi ynglŷn â monitro cychod draenogiaid môr hamdden yn ne Cymru. MB: parhaus.
  3. Rhannu amlinelliad o’r dull o fynd i’r afael â’r arolwg economaidd-gymdeithasol â’r grŵp cyn i’r contract gael ei osod. MB: cwblhawyd 6 Mehefin 2025.

Cyfarfod 8: 4 Chwefror 2025

  1. Paratoi datganiad ynglŷn â rôl genweirio hamdden a phwysigrwydd data hamdden wrth gyflawni’r FMP draenogiaid môr. SE/HR: parhaus.
  2. Archwilio’r posibilrwydd o ddefnyddio llysgenhadon i hyrwyddo’r dyddiaduron genweirio môr. MB: parhaus.

Camau gweithredu newydd o’r cyfarfod hwn

  1. Coladu adborth ar y nodiadau drafft a’r camau gweithredu o gyfarfod 8 ar ôl eu derbyn. SE: cwblhawyd 6 Mehefin 2025.
  2. Cyfarfod â KH i archwilio posibiliadau i enweirwyr gymryd rhan mewn rheoli’r Dyddiadur Genweirio Môr. MB/SE: parhaus
  3. Cylchredeg bwletin newyddion ynglŷn ag erlyn pum llong dreillio o Wlad Belg yn llwyddiannus. SE: cwblhawyd 6 Mehefin 2025.