Cyfarfod Grŵp Cynghori Draenogiaid y Môr: 14 Hydref 2025
Nodiadau'r cyfarfod a gynhaliwyd 14 Hydref 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Presenoldeb
Y grŵp
Colin Charman (CC)
Jim Evans (JE)
Hannah Rudd (HR)
John O’Connor (JO)
Sion Williams (SW)
Peter Elliott (PE)
James Lamb (JL)
Daisuke Goto (DG)
Ian McCarthy (IM)
David Curtis (DC)
Simon Frobisher (SF)
Grant Jones (GJ)
Kieran Hyder (KH)
Natalie Hold (NH)
Llywodraeth Cymru
Seb Evans (SE)
Matthew Sayer (MS)
Barrie John (BJ)
Michelle Fraser (MF)
Priddy Hattle (PH)
Bethan Jones (BJ)
Matthew Dawkins (MD)
Ymddiheuriadau
Michelle Billing (MB)
Holly Kaiser (HK) (James Lamb deputising)
Richard Strudwick (RS)
Julian Bray (JB)
Nodiadau
Croeso a chyflwyniadau, diben y cyfarfod
Croesawodd Bethan Jones bawb i 10fed cyfarfod y grŵp a chyflwynodd ei hun fel cadeirydd yn absenoldeb Julian. Cyfleoedd ymddiheuriadau gan Julian Bray (JB), Holly Kaiser (James Lamb yn dirprwyo), Michelle Billing (MB), a Richard Strudwick (RS).
Croesawodd Grant Jones i’r grŵp a fydd bellach yn cynrychioli’r Gymdeithas Pysgota Hamdden Genweirwyr Draenogiaid Môr, Michelle Fraser sydd wedi ymuno â thîm polisi pysgodfeydd Llywodraeth Cymru yn ddiweddar a Daisuke Goto o Brifysgol Bangor.
Amlygu bylchau mewn tystiolaeth i helpu i adolygu amcanion rheoli amgen yn y dyfodol
Crynhodd y cyflwyniad yr adroddiad a gynhyrchwyd gan Brifysgol Bangor:
- Adolygiad o lenyddiaeth ynglŷn â phedwar dull cyffredinol o reoli pysgodfeydd i amlygu amcanion rheoli amgen posibl.
- Astudiaethau achos – pysgodfeydd y gwaelod yn Rhanbarth y Môr Tawel, Canada a Gwlff Alaska, Unol Daleithiau America; a physgodfeydd dyfnddwr a dyfnder canol yn Seland Newydd.
- Gofynion data i fabwysiadu amcanion rheoli amgen ym mhysgodfeydd draenogiaid môr y Deyrnas Unedig, gan gynnwys y bylchau presennol mewn tystiolaeth ac argymhellion ar gyfer casglu data i lenwi’r bylchau hyn.
Dilynwyd hyn gan sesiwn holi ac ateb fer, adeiladol, a ddangosodd fod y grŵp yn cefnogi’r papur yn gyffredinol.
Cadarnhaodd SE fod astudiaeth ddichonoldeb yn mynd rhagddi i bennu’r adnoddau sy’n angenrheidiol i fynd i’r afael â’r bylchau a amlygwyd mewn tystiolaeth. Dywedodd fod yr adnoddau presennol yn gyfyngedig.
Adolygu a chymeradwyo nodiadau a chamau gweithredu cyfarfodydd blaenorol
Aeth SE drwy’r nodiadau a’r camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol. Nid oedd unrhyw sylwadau ychwanegol, a chytunwyd y gellid cyhoeddi’r nodiadau.
Cadarnhaodd SE fod Cefas dan gontract i gynnal y cyfrifiad pŵer.
Cam gweithredu: Cyhoeddi’r nodiadau a’r camau gweithredu o gyfarfodydd 7, 8 a 9.
Diweddariad ar rwydo o’r lan
Cyhoeddwyd y crynodeb o’r ymatebion i’r alwad am dystiolaeth ar 15 Medi, a diolchodd SE i’r cyfranwyr; ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.
Amlygodd diweddariad ar y system cofnodi dalfeydd wirfoddol oedi o ganlyniad i faterion cyfreithiol a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Cytunodd SE i roi gwybod i’r grŵp am gynnydd.
Cadarnhaodd SE fod yr astudiaeth sgil-ddalfa wyddonol wedi cael ei chynnig ar gyfer tendr ar y fframwaith System Brynu Ddeinamig (DPS) yn gynharach y diwrnod hwnnw.
Trafodaethau 2026 yr Undeb Ewropeaidd
Cyflwynodd SE Matt Sayer o dîm gwyddonol Llywodraeth Cymru.
Amlinellodd MS gyngor 2026 y Cyngor Rhyngwladol Archwilio'r Môr (ICES) a’r broses drafod, a arweiniodd at drafodaeth ynglŷn â sut y dylid cymhwyso’r cynnydd. Dadleuodd aelod fod y cynnydd 98% a 158% a gyhoeddwyd yn gorddatgan twf y stoc, gan ei fod wedi’i seilio ar gyngor o 2024 a oedd wedi’i amcangyfrif yn rhy isel. Eglurodd MS a KH na fydd ICES yn diwygio cyngor blaenorol, felly mae ffigurau 2025 yn ddilys o hyd.
Gofynnwyd cwestiynau ynglŷn â data dalfeydd hamdden. Dywedodd MS er nad oedd wedi’i gyhoeddi, y gellid casglu hyblygrwydd bras o dabl 7 y cyflwyniad.
Pwysleisiodd pysgotwyr masnachol y dylid bod yn ofalus, gan gyfeirio at brisiau isel draenogiaid môr a phryderon a rennir ymhlith cymheiriaid. Awgrymodd rhai aelodau archwilio dewisiadau amgen yn lle dull Cynnyrch Cynaliadwy Mwyaf (MSY) ICES. Esboniodd MS y byddai angen i unrhyw newid i’r dull rheoli gael ei gytuno ar draws y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd. Rhybuddiodd MS y gallai lwfansau heb eu defnyddio gael eu cymryd gan wledydd eraill.
Wrth orffen, pwysleisiodd MS yr angen am ddull rhagofalus i warchod lefelau stoc rhag cynnydd sydyn mewn defnydd.
Gwaith i ddod
Cadarnhaodd SE ei fod yn llunio adolygiad o’r system awdurdodi draenogiaid môr (Nod 2 y Cynllun Rheoli Pysgodfeydd (FMP)). Bydd hyn yn cynnwys yr adolygiad o rwydo o’r lan.
Gofynnwyd i’r aelodau ystyried materion yn ymwneud â’r system bresennol ac atebion posibl.
Astudiaeth Economaidd-Gymdeithasol
Cadarnhaodd BJ, yn dilyn pryderon a godwyd gan rai aelodau o’r grŵp, nad yw Seafish yn cynnal elfen hamdden yr astudiaeth economaidd-gymdeithasol.
Mae gwaith yn mynd rhagddo ar yr elfen fasnachol, gan gynnwys ymweliadau â phorthladdoedd a grwpiau ffocws. Mae’r cynnydd hyd yma wedi bod yn gadarnhaol.
Gofynnodd aelod am gael gweld y fanyleb ar gyfer yr astudiaeth economaidd-gymdeithasol hamdden. Esboniodd BJ na ellid rhannu’r fanyleb o ganlyniad i faterion caffael sensitif, ond rhoddodd sicrwydd i’r aelodau fod pob cam yn cael ei gymryd i benodi’r cyflenwr mwyaf addas.
Unrhyw fater arall, dyddiad y cyfarfod nesaf
Cyhoeddodd HR fod Swyddog Polisi Morol wedi’i benodi yng Nghymru a fyddai’n dechrau yng nghanol mis Tachwedd.
Holodd DC ynglŷn â hepgor y sector hamdden o’r datganiad strategol. Dywedodd JO nad oedd hynny wedi cael ei godi yng Ngrŵp Cynghori’r Gweinidog ar Bysgodfeydd Cymru (MAGWF) ond y caiff ei ychwanegu at yr agenda nesaf.
Mynegodd JE bryder bod sylwadau Cymdeithas Pysgotwyr Cymru (WFA) ar ganllawiau diwygiedig y Sefydliad Rheoli Morol (MMO) ar ddraenogiaid môr wedi cael eu heithrio heb adborth.
Cadarnhaodd SE y bydd y canllawiau’n cael eu mabwysiadu yng Nghymru er mwyn cysondeb ac y bydd yn cysylltu â Defra/MMO i gael adborth ar sylwadau WFA.
Diolchodd BJ i’r aelodau am eu cyfraniad.
Dyddiad y cyfarfod nesaf i’w gadarnhau.
Camau gweithredu
Camau gweithredu sy’n weddill o gyfarfodydd blaenorol
Cyfarfod 7: 5 Rhagfyr 2024
- Cael cyngor ar sut gellid amrywio terfynau niferoedd hamdden. MB: parhaus.
- Siarad â’r adran orfodi ynglŷn â monitro cychod draenogiaid môr hamdden yn ne Cymru. MB: parhaus.
Cyfarfod 8: 4 Chwefror 2025
- Paratoi datganiad ynglŷn â rôl genweirio hamdden a phwysigrwydd data hamdden wrth gyflawni’r FMP draenogiaid môr. SE/HR: parhaus.
- Archwilio’r posibilrwydd o ddefnyddio llysgenhadon i hyrwyddo’r dyddiaduron genweirio môr. MB: parhaus.
Cyfarfod 9: 11 Mawrth 2025
- Cyfarfod â KH i archwilio posibiliadau i enweirwyr gymryd rhan mewn rheoli’r Dyddiadur Genweirio Môr. MB/SE: parhaus.
Camau gweithredu newydd o’r cyfarfod hwn
- Cyfieithu a chyhoeddi’r nodiadau a’r camau gweithredu o gyfarfodydd 7, 8 a 9. MF: cwblhawyd 11 Tachwedd 2025.
