Cyfarfod Grŵp Cynghori Draenogiaid y Môr: 5 Rhagfyr 2024
Nodiadau'r cyfarfod a gynhaliwyd 5 Rhagfyr 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Presenoldeb
Y grŵp
Kevin Denman (KD)
Mark Boulton (MB*)
Sion Williams (SW)
Chris Davies (CD)
Jim Evans (JE)
Brett Garner (BG)
Holly Kaiser (HK)
David Curtis (DC)
Simon Frobisher (SF)
Sean Jukes (SJ)
Richard Harrison (RH)
Colin Charman (CC)
Peter Elliott (PE)
Hannah Rudd (HR)
John O’Connor (JO)
Mark Owen (MO)
Llywodraeth Cymru
Michelle Billing (MB)
Julian Bray (JB)
Seb Evans (SE)
Ymddiheuriadau
Matt Sayer (MS)
Kieran Hyder (KH)
Nathan Wyer (NW)
Nodiadau
Croeso a chyflwyniadau, diben y cyfarfod
Croesawodd JB bawb i seithfed cyfarfod y grŵp a chyfleodd ymddiheuriadau gan JB MS, KH ac NW.
Gofynnodd DC a allai ei neges e-bost cyn y cyfarfod gael ei hadlewyrchu yn yr agenda.
Cadarnhaodd JB y byddai’n mynd i’r afael â’r neges e-bost yn rhan o’r agenda ac o dan Unrhyw Fater Arall.
Adolygu a chymeradwyo nodiadau a chamau gweithredu cyfarfodydd blaenorol; gan gynnwys fersiwn derfynol yr adolygiad rhwydo o’r lan
Diolchodd MB i’r aelodau am y sylwadau a dderbyniwyd a gofynnodd a oedd y grŵp yn fodlon bod y nodiadau a’r camau gweithredu yn adlewyrchu’r cyfarfodydd blaenorol yn llawn bellach.
Gofynnodd aelod am ychydig ddiwrnodau ychwanegol i ystyried cofnodion cyfarfod 6.
Cytunwyd bod rhaid i unrhyw sylwadau ychwanegol gael eu cyflwyno’n ysgrifenedig erbyn dydd Llun 9 Rhagfyr 2024 ac y bydd yr holl nodiadau’n cael eu cyhoeddi ar y wefan cyn gynted ag y bo’n ymarferol.
Cadarnhaodd MB fod yr astudiaeth ynglŷn â strategaethau cywain amgen, a drafodwyd yn y cyfarfod blaenorol, yn cael ei chynnal yn fewnol. Mae NW wedi dechrau ar y gwaith ac yn gobeithio rhannu drafft yn y flwyddyn newydd.
Holodd aelod pam nad yw’r astudiaeth ar y cynllun gweithredu.
Esboniodd MB mai fersiwn lefel uchel o’r cynllun gweithredu oedd hon ac felly nad oedd yn manylu ar ddarnau unigol o waith.
Esboniodd MB hefyd nad yw’r sylwadau ynglŷn â dulliau rhwydo eraill yn y ddogfen adolygu rhwydo o’r lan wedi cael eu cynnwys gan ei fod yn adolygiad lefel uchel. Mae’r manylion ychwanegol a dderbyniwyd wedi cael eu cadw i gyfeirio atynt yn fewnol.
Dywedodd aelod ei fod yn fodlon ar y ddogfen adolygu ac mai adolygiad ydoedd mewn gwirionedd, nid dogfen argymhelliad.
Crybwyllodd JE fod ganddo ychydig fân awgrymiadau y bydd yn eu hanfon ar wahân.
Cam gweithredu 1: Aelodau i gyflwyno unrhyw sylwadau ychwanegol yn ysgrifenedig erbyn dydd Llun 9 Rhagfyr.
Cam gweithredu 2: Hysbysu’r aelodau pan fydd nodiadau a chamau gweithredu blaenorol yn cael eu cyhoeddi ar y wefan.
Cynllun Rheoli Pysgodfeydd (FMP) Draenogiaid Môr: Adolygiad o’r Flwyddyn
Diolchodd JB i bawb am fynychu cyfarfodydd y grŵp yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Nododd yr ymgysylltiad uchel a myfyriodd ar yr hyn a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn:
Sefydlu WSBAG
- cyfarfu gyntaf ar 23 Ionawr - seithfed cyfarfod y grŵp
- grŵp amrywiol a arweiniodd at drafodaethau agored ac adeiladol
Cynnydd hyd yma:
- cytuno ar gylch gwaith sydd ar gael ar ein gwefan
- cytuno ar drosolwg o’r FMP sy’n amlygu ein camau gweithredu blaenoriaethol
- 5 cyfarfod a ystyriodd dystiolaeth cyn cytuno ar ein blaenoriaethau ar gyfer tystiolaeth
- cynnal adolygiad o rwydo o’r lan
- gweithio gyda Defra i sicrhau y bydd Offeryn Statudol (OS) yn dod i rym ar 16 Rhagfyr i alluogi amrywio terfynau dalfa fasnachol ar gyfer draenogiaid môr trwy amodau trwydded bysgota (nid trwy ddiwygio’r OS)
- cytuno ar y cynllun gweithredu cychwynnol ar gyfer cyflawni’r camau gweithredu allweddol gyda’r Dirprwy Brif Weinidog
Gorffennodd JB drwy ddweud y bydd y cylch gwaith ac aelodaeth y grŵp yn cael eu hadolygu yn y flwyddyn newydd.
Diolchodd JE i’r grŵp hefyd ac, wrth gyfeirio at amodau trwydded trwy’r OS, dywedodd nad ydynt yn ymdrin â rhwydo o’r lan na therfynau niferoedd hamdden, dim ond amodau trwydded fasnachol.
Gofynnodd JB a oedd yn cyfeirio at sut gallem amrywio terfynau niferoedd hamdden yn y dyfodol ac a ddisgwylir i ni gynhyrchu rhywbeth i esbonio sut gellid gwneud hyn.
Dywedodd JE nad oedd yn glir sut gallai terfynau niferoedd gael eu hamrywio, h.y. byddai angen i newidiadau fod ar sail tystiolaeth, a ph’un a ellid gwneud newidiadau yn ystod y flwyddyn neu ar ôl y trafodaethau blynyddol yn unig.
Cytunodd JB i gael cyngor ynglŷn â hyn.
Roedd un aelod o’r farn mai genweirio hamdden anghyfreithlon oedd y broblem. Rhoddwyd tystiolaeth anecdotaidd o hyn ym Mae Caerfyrddin, lle honnir bod genweirwyr hamdden yn dal draenogiaid môr a’u gwerthu i fwytai.
Amlygodd aelod arall fod y sector masnachol yn cael ei fonitro gan yr ap dalfeydd, cofnodion prynwyr a gwerthwyr, iVMS a’r system awdurdodi draenogiaid môr.
Dywedodd na ellid rheoli’r bysgodfa draenogiaid môr yn briodol pan fo’r adnodd ar gael yn ddiderfyn i’r sector hamdden a bod angen data cywir am laniadau er mwyn pennu’r nifer gynaliadwy o ddraenogiaid môr y gellid eu glanio gan enweirwyr hamdden bob blwyddyn.
Cydnabu JB fod y bylchau tystiolaeth mewn genweirio hamdden wedi cael eu cydnabod ac y rhoddir blaenoriaeth i’w trafod yn y flwyddyn newydd.
O ran genweirio hamdden, gwnaed y pwyntiau canlynol:
- dywedodd aelod yr hoffai archwilio sut gellid cynyddu’r terfyn niferoedd yn ymarferol
- nid yw Adran 36 yn galluogi’r Gweinidog Pysgodfeydd i wneud newidiadau i’r ddeddfwriaeth ac eithrio am resymau cynaliadwyedd
- os caiff draenogyn môr ei werthu, menter fasnachol yw hynny ac ni all fod yn hamdden yn ôl ei ddiffiniad
- cyfeiriwyd at bysgota anrheoleiddiedig o geufadau a chychod hwylio (cychod difodur)
Eglurodd TC (gorfodi LlC) fod y rheolau ynglŷn â chychod pysgota masnachol yn llym iawn ac y byddai ceufadau/cychod hwylio yn cael eu dosbarthu’n gychod hamdden.
Cydnabu TC fod elfen o rwydo masnachol o’r lan sy’n sgil-ddalfa yn unig, ond nad oes pysgota masnachol gwialen a lein wedi’i dargedu o’r lan.
Dywedodd aelod fod angen atal pysgota anghyfreithlon ac anrheoleiddiedig nas hysbysir amdano.
Dywedodd aelod ei fod wedi gweld gweithgarwch pysgota yn ddiweddar gan 2 gwch masnachol ac 8 cwch hamdden. Honnwyd bod y cychod hamdden yn targedu draeanogiaid môr ac yn cyflenwi sefydliadau lleol (tystiolaeth anecdotaidd). Ni hysbyswyd am hyn gan nad oedd yr aelod yn credu y byddai camau wedi cael eu cymryd.
Awgrymwyd y gallai fod yn ddefnyddiol cyhoeddi diweddariadau ar gamau a gymerwyd i gynyddu hyder ynglŷn â gorfodi. Fodd bynnag, cydnabu’r aelodau y gallai datgelu data gorfodi beryglu ymchwiliadau.
Awgrymwyd hefyd y gallai ymweliadau gorfodi â thafarnau/bwytai i’w hatgoffa o’r rheolau ynglŷn â phrynu pysgod helpu i leihau achosion o bysgota anghyfreithlon ac anrheoleiddiedig nas hysbysir amdano trwy gael gwared ar y farchnad ar gyfer y pysgod.
Cyfeiriodd un aelod, sydd hefyd yn ymwybodol o geufadwyr sy’n gwerthu pysgod, at elusen yn ne-orllewin Lloegr sy’n targedu draenogiaid môr gan ddefnyddio cychod hwyliau.
Cydnabu JB fod peidio â gweld ymateb uniongyrchol gan yr adran orfodi yn rhwystredig, ond anogodd yr aelodau i barhau i hysbysu am weithgarwch o’r fath oherwydd bod gorfodi’n seiliedig ar flaenoriaeth a bydd hysbysu am bob digwyddiad yn arwain at gymryd camau.
Cytunodd JB i dderbyn hyn fel cam gweithredu a gweld pa gamau gorfodi sy’n bosibl.
Cam gweithredu 3: Cael cyngor ar sut gellid amrywio terfynau niferoedd hamdden.
Cam gweithredu 4: Siarad â’r adran orfodi ynglŷn â monitro cychod draenogiaid môr hamdden yn ne Cymru.
Cynllun gweithredu cychwynnol
Cadarnhaodd MB fod y Dirprwy Brif Weinidog wedi cymeradwyo’r llinell amser ar gyfer cyflawni, y cynllun gweithredu lefel uchel a’r ymarfer galwad am dystiolaeth.
Rhannodd MB y cynllun gweithredu ac esboniodd y canlynol:
- amcangyfrifon yw’r graddfeydd amser ac fe allent newid
- mae’r cynllun yn amlygu’r eitemau ‘mawr’ ar gyfer y 12-18 mis nesaf, ond nid yn nhrefn blaenoriaeth
- dangosir gwaith sydd wedi’i gwblhau, hefyd
Dywedodd JB er ei bod yn anarferol rhannu cynllun â rhanddeiliaid, bod hynny’n deg er mwyn i’r aelodau allu gweld y gwaith sy’n cael ei wneud.
Dywedodd aelod ei fod yn synnu gweld cynllun yn cael ei gyflwyno, ond ei fod yn gwerthfawrogi’r tryloywder.
Holodd aelod pam nad oedd yr arolwg economaidd-gymdeithasol (a gynhwyswyd yn y cynllun) ar agenda’r cyfarfod hwn a sut y dewiswyd arolwg, o ystyried bod nifer o ddulliau ar gael ar gyfer casglu data o’r fath?
Esboniodd JB y cysylltwyd â chydweithwyr o’r Gwasanaeth Gwybodaeth a Dadansoddi i gael cyngor ar y dull, ac y byddem yn cyflwyno amlinelliad o’r dull i’r grŵp cyn i’r contract gael ei osod.
Cam gweithredu 5: Rhannu amlinelliad o’r dull o fynd i’r afael â’r arolwg economaidd-gymdeithasol â’r grŵp cyn i’r contract gael ei osod.
Galwad am Dystiolaeth: cwestiynau ac amserlen
Cyflwynodd SE gwestiynau drafft yr alwad am dystiolaeth.
Amlygodd y pwyntiau canlynol:
- y cyfnod cyfeirio ar gyfer y cwestiynau yw 2021 i 2024, oherwydd dyma’r cyfnod ar ôl cyflwyno’r esemptiad sy’n caniatáu sgil-ddalfa fasnachol draenogiaid môr mewn hyd at 50 o rwydi o’r lan yng Nghymru
- lluniwyd y cwestiynau eu hunain i :
- fod yn gynhwysfawr ond nid yn llethol i’w hateb
- peidio ag achosi i’r ymatebwyr argyhuddo eu hunain
Esboniodd SE, ar y cam hwn o lunio’r ddogfen galwad am dystiolaeth, na ddisgwylid i’r wybodaeth a gesglir gael ei defnyddio at ddibenion gorfodi.
Aeth SE drwy bob cwestiwn yn ei dro a gofynnodd i’r grŵp am fewnbwn. Mae copi o’r ddogfen Galwad am dystiolaeth ar gael yma:
Sylwch fod y cwestiynau wedi cael eu hailrifo at ddibenion cyhoeddi. Mae rhifau newydd y cwestiynau yn ymddangos mewn cromfachau.
Rhestrir cwestiynau y gwnaed sylwadau arnynt isod yn unig. Roedd y pwyntiau allweddol fel a ganlyn:
- cwestiwn 1 (6): cynnwys opsiynau ar gyfer statws busnes i bysgotwyr masnachol, h.y. unig fasnachwr, partner. Ychwanegu opsiwn ‘Arsylwr rhwydo o’r lan’
- cwestiwn 3 (11): mae’n bwysig deall y lleoliadau pysgota a’r adeg o’r dydd
- cwestiwn 4 (12): awgrymwyd ei aileirio i gasglu gwybodaeth am sawl diwrnod y flwyddyn a bysgotwyd
- cwestiwn 6 (14): cynnwys cwestiwn penodol am faint o sgil-ddalfa draenogiaid môr a gymerwyd
- cwestiwn 8 (16 i 18): cynyddu’r data a gesglir am rwydi a ddefnyddiwyd i’r eithaf, h.y. hyd a maint y rhwyll, nifer y rhwydi a ddefnyddiwyd
- cwestiwn 9 (19): ehangu’r cwestiwn i gasglu gwybodaeth am wahanol ddulliau o rwydo o’r lan
- cwestiwn 10: symud i Gwestiwn 1 (C6) gyda’r math o bysgotwr masnachol
Awgrymodd aelod ofyn a oedd pysgotwyr/genweirwyr yn cofnodi eu gweithgarwch rhwydo o’r lan ac, os felly, a fyddent yn fodlon rhannu’r data â Llywodraeth Cymru. Mae cwestiynau 20-21 wedi cael eu hychwanegu.
Ychwanegwyd cwestiynau 24-25 ar gyfer ymatebwyr sy’n arsylwi gweithgarwch rhwydo o’r lan.
Dywedodd JB y byddai pob ymdrech yn cael ei gwneud i lansio’r alwad am dystiolaeth ddydd Llun 16 Rhagfyr am gyfnod o 8 wythnos.
Cam gweithredu 6: Ystyried diwygiadau i’r ddogfen galwad am dystiolaeth ddrafft.
System cofnodi dalfa wirfoddol: cynnig a meysydd gwybodaeth
Cyflwynodd MB y gwaith y mae NW wedi’i ddechrau ar ddatblygu system cofnodi dalfa wirfoddol (VCRS) ar-lein.
Mae NW wedi trafod opsiynau gyda’r tîm Systemau Digidol a Data ac wedi cadarnhau na ellir addasu’r CatchApp i adrodd am warediadau a dalfeydd rhwydo o’r lan. Mae wrthi ar hyn o bryd yn trafod addasu’r system drwyddedu ddigidol a ddefnyddir ar gyfer cregyn moch, crancod a chimychiaid, ac ati.
Esboniodd JB fod yr alwad am dystiolaeth yn gofyn am wybodaeth am yr hyn sydd wedi digwydd yn y gorffennol a bod y VCRS arfaethedig yn gofyn am ddata cyfredol. Mae’r alwad am dystiolaeth yn gofyn a fyddai pobl yn fodlon defnyddio VCRS a bydd yr ymatebion yn cael eu hystyried wrth ddatblygu’r system. Fodd bynnag, rydym yn dechrau ystyried ffurf bosibl VCRS.
Esboniodd MB ein bod wedi cyfyngu ar nifer y cwestiynau i annog cyfranogiad a’n bod eisiau defnyddio’r cyfarfod fel cyfle i gael mewnbwn yr aelodau ar y cwestiynau.
Aeth MB drwy’r cwestiynau arfaethedig a gwnaed y sylwadau canlynol:
Pryd casgloch chi eich rhwydi?
Cynghorodd aelod fod rhwydi’n gallu cael eu gadael yn eu lle am 3-5 niwrnod a’u gwirio ar bob llanw. Yn ddelfrydol, byddai’r system cofnodi dalfa yn cofnodi 2 laniad y dydd. Awgrymwyd cwestiwn amgen, sef Pryd casglwyd eich rhwydi ac am sawl diwrnod yr oedden nhw’n pysgota. Mae’r cwestiwn hwn yn un cymhleth i’r system, felly, er mwyn symlrwydd, mae’r ffurflen yn gofyn:
- pryd gosodoch chi eich rhwyd?
- pryd casgloch chi eich rhwyd?
Gofynnodd aelod sut oedd y VCRS yn bodloni ymrwymiad y Deyrnas Unedig i gyflwyno system adrodd am ddalfeydd ar gyfer rhwydwyr o’r lan (Cofnod Ysgrifenedig mis Mehefin 2012). Roedd yr aelod yn pryderu:
- Ychydig o dystiolaeth a fyddai’n cael ei chyflwyno;
- Byddai dadansoddiad cost a budd yn anodd;
- Nad oedd yr ymrwymiad i adrodd am ddalfeydd i’r Undeb Ewropeaidd yn cael ei fodloni; a
- Holodd pam nad oedd Cymru yn cyflwyno system adrodd am ddalfeydd orfodol, fel y gwnaed yn Lloegr.
Atgoffodd JB yr aelodau mai’r cytundeb â’r Undeb Ewropeaidd oedd sefydlu system ar gyfer adrodd am ddalfeydd a monitro gweithgarwch rhwydo o’r lan, ac ailadroddodd yr angen am dystiolaeth i ddeall graddfa’r gweithgarwch yn well cyn ystyried mesurau posibl.
Cadarnhaodd JB fod y system wirfoddol arfaethedig yn system adrodd am ddalfeydd ac y bydd ein dull yn cael ei gyflwyno i’r Undeb Ewropeaidd.
Nodir y pwyntiau canlynol o’r drafodaeth agored:
- cofnodion y pwyllgor arbenigol ar bysgodfeydd: nododd yr Undeb Ewropeaidd fwriad y Deyrnas Unedig i adolygu rhwydo o’r lan yn y dyfodol. Ystyriwyd bod hyn yn ddatblygiad cadarnhaol
- dywedodd aelod sy’n cynrychioli’r sector masnachol fod y sector yn croesawu’r FMP a’r ffordd y mae pethau’n symud ymlaen. Byddai’r alwad am dystiolaeth a’r VCRS yn rhoi cyfle i bysgotwyr masnachol a genweirwyr hamdden ymateb
- mae’r papur adolygu rhwydo o’r lan yn amlygu’r bylchau tystiolaeth – y flaenoriaeth bellach yw sut i gasglu data cyn gynted â phosibl i allu llywio mesurau posibl. Mae deddfwriaeth yn cymryd amser, felly mae mesurau gwirfoddol yn gyflymach ac yn gam i’r cyfeiriad iawn
- fe allai cynnig cydnabyddiaeth ffurfiol i rwydo o’r lan trwy adrodd am ddalfeydd annog pysgotwyr dilys i hysbysu am weithgarwch anghyfreithlon
- bydd angen deddfwriaeth ar gyfer system adrodd am ddalfeydd orfodol, ac mae’n rhaid i ddeddfwriaeth gael ei seilio ar dystiolaeth
- dywedodd un aelod fod pysgotwyr hamdden yn ystyried Cymru a rhwydo o’r lan fel ‘y gorllewin gwyllt’, sef pysgodfa anrheoleiddiedig gyda dalfeydd nas hysbysir amdanynt a rheolaeth wael ar bysgodfeydd
- esboniodd JB fod angen ystyried y cyd-destun. Nifer gymharol fach o bysgotwyr sy’n rhwydo o’r lan, ond mae bylchau mewn tystiolaeth y mae angen mynd i’r afael â nhw. Mae hyn yn cymharu â genweirio hamdden lle mae tua 60,000 o enweirwyr yng Nghymru y mae llai nag 1% ohonynt yn darparu data
- byddai pysgotwyr masnachol yn awyddus i gyfrannu er mwyn profi hanes blaenorol da
- mae rhwydwyr o’r lan yn ne Cymru wedi cyfrifo mai dim ond tua 7 unigolyn sy’n weithredol o bont Hafren i Aberdaugleddau. Y brif ardal rwydo yw Llwchwr a Bae Caerfyrddin, oherwydd bod rhwydo wedi’i wahardd yr holl ffordd o amgylch Gŵyr. Amcangyfrifir bod 7 yn weithredol ar unrhyw un adeg yn y brif ardal a bod gan tua hanner gychod masnachol (tystiolaeth anecdotaidd)
- gofynnodd aelod pryd bydd cyfarfod nesaf y Pwyllgor Arbenigol ar Bysgodfeydd. Bydd JB yn cael gwybod, ond mae’n debygol o gael sgwrs â’r Undeb Ewropeaidd cyn y pwyllgor nesaf
Cam gweithredu 7: Ystyried diwygiadau i’r ddogfen system cofnodi dalfeydd wirfoddol ddrafft.
Data hamdden: Cyflwyno gwaith i ddod ar ddata hamdden a bylchau tystiolaeth
Esboniodd MB y byddai gwaith i fynd i’r afael â data hamdden a bylchau tystiolaeth yn dechrau yn y flwyddyn newydd.
Yng nghyfarfod mis Medi, roedd y grŵp cynghori wedi cytuno i gyfuno’r 3 maes ar gyfer gwella ansawdd data hamdden yn un pecyn:
- cynyddu lefel y cyfranogiad mewn cofnodi data, h.y. y dyddiaduron genweirio môr
- archwilio cyfleoedd i gryfhau systemau cofnodi presennol a datblygu rhai newydd, ac
- annog ein partneriaid yn y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd i gefnogi casglu data hamdden
Crynhodd MB y wybodaeth a ddarparwyd mewn cyfarfodydd blaenorol:
- genweirio hamdden yw’r maes lle ceir y bwlch tystiolaeth mwyaf
- mae tua 60,000 o enweirwyr yng Nghymru, ac eto dim ond 433 sy’n adrodd yn y dyddiaduron genweirio môr. Mae hyn yn cynrychioli llai nag 1% o enweirwyr
- yn 2021, roedd genweirwyr yng Nghymru wedi cadw 480,000 o bysgod a rhyddhau 2.3 miliwn o bysgod
- yn ogystal, roedd genweirwyr ym Môr Iwerddon wedi cadw 50,000kg a rhyddhau 120,000kg o bysgod
Mae hyn yn lefel sylweddol o ddal gan enweirwyr hamdden, ac mae ffigurau Cefas yn awgrymu tua 30%.
Yn yr un modd â’r gwaith a wnaed hyd yma, gofynnir i’r grŵp am fewnbwn trwy eu rolau cynghori yn ogystal â’u gwybodaeth a’u harbenigedd ynglŷn â’r systemau a’r dulliau casglu data sydd ar gael ar hyn o bryd.
Amlygodd trafodaeth fer y pwyntiau canlynol y bydd y grŵp cynghori’n ceisio mynd i’r afael â nhw:
- amheuaeth ymhlith genweirwyr hamdden ynglŷn â beth fydd y data’n cael ei ddefnyddio ar ei gyfer
- canfyddiad, yn seiliedig ar brofiad blaenorol, y bydd y data’n cael ei ddefnyddio i osod cyfyngiadau
- bydd angen cyfleu gwerth y data – pam mae ei angen a’r buddion a allai ddeillio ohono i enweirwyr hamdden
- roedd rhywfaint o syndod bod ymgysylltiad mor uchel ag 1%
Y camau nesaf; unrhyw fater arall; dyddiad y cyfarfod nesaf
Gofynnodd aelod a oedd diweddariad ar gyfleoedd pysgota draenogiaid môr 2025.
Cytunodd JB i roi gwybod i’r holl aelodau pan fyddai’r wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei chyhoeddi.
Mynegodd yr aelod bryder hefyd ynglŷn â’r dull strategol o fynd i’r afael â physgodfeydd a dyframaethu yng Nghymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar ac absenoldeb unrhyw beth am bysgota hamdden. Cyfeiriodd yr aelod at neges e-bost a anfonwyd ym mis Tachwedd yn gofyn i sylwadau gael eu hystyried wrth lunio’r dull strategol.
Cadarnhaodd JB fod y rhain wedi cael eu trosglwyddo ymlaen i’r bobl sy’n gweithio ar y datganiad a dywedodd os hoffai’r aelod gyflwyno sylwadau ychwanegol yn ysgrifenedig, y byddai’r rhain yn cael eu hanfon ymlaen, hefyd.
Dywedodd JB ei bod yn debygol y byddai’r dull strategol yn cael ei drafod yng nghyfarfod nesaf Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Bysgodfeydd Cymru (MAGWF). Fe allai aelod WSBAG sy’n eistedd ar y MAGWF godi hyn i’w drafod.
Cam gweithredu 8: Rhoi gwybod i’r aelodau pan fydd gwybodaeth am gyfleoedd pysgota 2025 yn cael ei chyhoeddi.
Actions
- Aelodau i gyflwyno unrhyw sylwadau ychwanegol yn ysgrifenedig erbyn dydd Llun 9 Rhagfyr. Pawb: cwblhawyd 9 Rhagfyr 2024.
- Hysbysu’r aelodau pan fydd nodiadau a chamau gweithredu blaenorol yn cael eu cyhoeddi ar y wefan. SE: cwblhawyd 20 Ionawr 2025.
- Cael cyngor ar sut gellid amrywio terfynau niferoedd hamdden. JB: parhaus.
- Siarad â’r adran orfodi ynglŷn â monitro cychod draenogiaid môr hamdden yn ne Cymru. JB: parhaus.
- Rhannu amlinelliad o’r dull o fynd i’r afael â’r arolwg economaidd-gymdeithasol â’r grŵp cyn i’r contract gael ei osod. MB: cwblhawyd 6 Mehefin 2025.
- Ystyried diwygiadau i’r ddogfen galwad am dystiolaeth ddrafft. SE: cwblhawyd 9 Rhagfyr 2024.
- Ystyried diwygiadau i’r ddogfen system cofnodi dalfeydd wirfoddol ddrafft. NW: parhaus.
- Rhoi gwybod i’r aelodau pan fydd gwybodaeth am gyfleoedd pysgota 2025 yn cael ei chyhoeddi. SE: cwblhawyd 18 Rhagfyr 2024.
