Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Dawn Bowden, Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol.
  • Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig i'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol.
  • Cath Cleaton, PS y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol.
  • Alwyn Jones, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) Cymru (Cadeirydd).
  • Denise Moultrie, Llywodraeth Cymrut.
  • Mark Price, Llywodraeth Cymru.
  • Joseph Wilton, Llywodraeth Cymru.
  • Louise Bushell-Bauers,Arolygiaeth Gofal Cymru.
  • Jayne Newman, Gofalwr di-dâl.
  • Bobbie-Jo Haarhoff, Gofalwr di-dâl.
  • Rachel Clement, Plant yng Nghymru.
  • Kai Collins, Bwrdd Cynghori Gofalwyr Ifanc.
  • Rob Simkins, Gofalwyr Cymru.
  • Kate Cubbage, Cynghrair Gofal.
  • Jon Antoniazzi, Cynghrair Gofalwyr.
  • Beverly Davies, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
  • David Watkins, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
  • Rachel Wright, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
  • Suzanne Becquer-Moreno, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
  • Valerie Billingham, Swyddfa'r Comisiynydd Pobl Hŷn.
  • Josie Yuen, Iechyd Cyhoeddus Cymru.
  • Kim Dolphin, Rhwydwaith Dysgu a Gwella Swyddogion Gofalwyr.
  • Kathy Proudfoot, Rhwydwaith Dysgu a Gwella Swyddogion Gofalwyr.
  • Amy Hawkins, Cyngor Dinas Abertawe.
  • Alyson Hoskins, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.
  • Nick Andrews, Prifysgol Abertawe.
  • Dan Burrows, Prifysgol Caerdydd.

Ymddiheuriadau

  • Naomi Harper, Cyngor Sir y Fflint.
  • Natasha James, Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg.
  • Naheed Ashraf, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
  • Mererid Bowley, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
  • Victoria Lloyd, Age Cymru.
  • Jon Day, Gofal Cymdeithasol Cymru.
  • Taryn Stephens, Llywodraeth Cymru.

1. Croeso a chyflwyniadau

Agorodd y Cadeirydd y cyfarfod drwy groesawu pawb a oedd yn bresennol a chyhoeddi bod trefniadau cynnal y Bwrdd Gofalwyr Ifanc yn trosglwyddo o Blant yng Nghymru i Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru. 

Diolchodd i Rachel Clement am ei chefnogaeth i ofalwyr ifanc yn ystod cyfarfodydd.

Hefyd, nododd mai hwn fyddai ei gyfarfod olaf fel Cadeirydd wrth iddo ymddiswyddo i ymgymryd â swydd newydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, a diolchodd i bawb am eu cefnogaeth a'r hyn a gyflawnwyd dros y blynyddoedd.

2. Camau gweithredu o’r cyfarfod diwethaf

Cadarnhawyd bod pob cam gweithredu wedi'i gwblhau.

3. Cynllun cyflawni

Roedd papur drafft ar y cynllun cyflawni wedi ei gyhoeddi ar gyfer y grŵp, ochr yn ochr â phapurau eraill ar gyfer y cyfarfod. Cadarnhaodd Denise Moultrie fod Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar gyfer y Cynllun Cyflawni wedi'i sefydlu, ac roedd wedi cyfarfod ddwywaith i adolygu'r cynllun. Cafwyd cadarnhad bod trafodaethau blaenorol ag aelodau Grŵp Cynghori'r Gweinidog hefyd yn cael eu hadlewyrchu yn y cynllun cyflawni. Mae drafftio'r cynllun cyflawni yn cyd-fynd â chytuno ar gynlluniau gwaith 2025 i 26 gyda phartneriaid yn y trydydd sector i weithredu rhaglenni cenedlaethol Llywodraeth Cymru. Mae cyllid ar gyfer y rhain wedi'i ymestyn am flwyddyn arall.

Bydd y cynllun cyflawni yn cael ei gyhoeddi ar dudalen we Llywodraeth Cymru yn y flwyddyn ariannol newydd.

Gofynnodd cynrychiolwyr awdurdodau lleol am fwy o gyfeirio at ddyletswyddau awdurdodau lleol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Mae strategaeth genedlaethol newydd i ofalwyr di-dâl ar y gweill ar gyfer Ebrill 2026, a bydd gwaith yn dechrau ar y broses hon yn gynnar yn y flwyddyn ariannol newydd. Rhoddir diweddariad yn y cyfarfod nesaf fis Mehefin.

Roedd y camau gweithredu yn cynnwys:

  • cam gweithredu 1: Denise Moultrie i ddiwygio'r cynllun cyflawni, a'i gylchredeg i aelodau awdurdodau lleol ac Arolygiaeth Gofal Cymru er mwyn cael sylwadau terfynol

4. Diweddariad gan aelodau ymchwil

5. Diweddariad ar ofalwyr ifanc

Cafodd adnoddau eu cyhoeddi i hyrwyddo cardiau adnabod i ofalwyr ifanc mewn ysgolion a cholegau, a bydd eu defnydd yn cael ei asesu, gan nodi unrhyw rwystrau eraill. Mae cyllid wedi'i roi ar gyfer sicrhau bod athrawon yn cael y fersiynau mwyaf diweddar o adnoddau addysgol, a bydd yr adnoddau hynny ar gael ar blatfformau addysgol a ddefnyddir gan staff addysgu.

Mae grŵp aml-asiantaeth strategol yn cael ei sefydlu i wella adnabod, cydnabyddiaeth a chefnogaeth i ofalwyr ifanc. Bydd hyn yn cynnwys uwch arweinwyr o awdurdodau lleol a sefydliadau perthnasol, gydag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn gweithredu fel cyswllt at Fwrdd Cynghori Gofalwyr Ifanc Llywodraeth Cymru.

Bydd y cynllun cyflawni ar gyfer 2025 i 2026 yn sicrhau bod ffocws ar ofalwyr ifanc, gan gynnwys pwysigrwydd eu hiechyd meddwl a'u lles. Hefyd tynnwyd sylw at y Diwrnod Gweithredu ar gyfer Gofalwyr Ifanc, a'r digwyddiad a gynhaliwyd yn y Senedd i ofalwyr ifanc gael rhannu'r materion sy'n berthnasol iddynt.

Cafwyd cadarnhad bod ymgyrch cyfryngau cymdeithasol ar y gweill ar gyfer mis Ebrill i helpu gofalwyr ifanc i hunan-adnabod. Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru i sicrhau bod negeseuon sy'n ymwybodol o ofal yn cael eu cynnwys yn y fframwaith fferylliaeth newydd. Hefyd trafodwyd canllawiau ar y Lwfans Cynhaliaeth Addysg.

Mae cyllid wedi'i ddarparu ar gyfer Gŵyl Gofalwyr Ifanc a gynhelir ym mis Awst eleni.

6. Diweddariad gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen

Pwrpas y grŵp yw cefnogi gwelliannau cenedlaethol ar gyfer gofalwyr di-dâl o ran cael gwybodaeth a chyngor, a hefyd asesiadau o anghenion gofalwyr. Mae casgliadau'r gwaith ymgysylltu ag awdurdodau lleol a gofalwyr di-dâl wedi'u cyflwyno i Benaethiaid Gwasanaethau Oedolion Cymru gyfan, a byddant yn cael eu cyflwyno yn seminar gwanwyn Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol ar 31 Mawrth. Cynigir y bydd y grŵp yn trefnu gweithdai gydag uwch reolwyr awdurdodau lleol i gytuno ar egwyddorion arferion gorau a'r camau nesaf ar gyfer sicrhau gwelliannau.

Hefyd mae gwaith gyda'r byrddau iechyd yn mynd rhagddo ochr yn ochr â hyn, a bydd arolwg, sydd â chyfnod ymateb chwe wythnos, yn cael ei gyhoeddi ddiwedd mis Mawrth. Bydd hyn yn targedu lefelau uwch ac ymarfer yn y byrddau iechyd, gyda'r nod o gasglu adborth cynhwysfawr.

7. Aelodaeth

Bydd cais yn cael ei anfon at y grŵp yn gofyn am ddatganiadau o ddiddordeb ar gyfer rôl y Cadeirydd. Bydd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol yn penodi'r Cadeirydd newydd ar gyfer y cyfarfod nesaf ym mis Mehefin.

Roedd y camau gweithredu yn cynnwys:

  • cam gweithredu 2: Llywodraeth Cymru i anfon e-bost at y grŵp i wahodd datganiadau o ddiddordeb ar gyfer rôl y Cadeirydd

8. Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Diolchodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol i Alwyn Jones am ei waith fel Cadeirydd, a'i ymrwymiad a'i gyfraniad wrth yrru'r gwaith o gefnogi gofalwyr di-dâl yn ei flaen. Soniodd y Gweinidog am y £5.25 miliwn pellach i ymestyn y Cynllun Seibiant Byr a'r Gronfa Cymorth i Ofalwyr am flwyddyn arall, gan gadarnhau ein bod ar y trywydd iawn i ddarparu 30,000 o seibiannau erbyn diwedd mis Mawrth. Soniodd y Gweinidog am y cynllun cyflawni a'r rhaglenni gwaith cenedlaethol a ariennir sy'n adlewyrchu blaenoriaethau a nodwyd. Hefyd, diolchodd y Gweinidog i Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Cynllun Cyflawni am eu cyfraniad at y gwaith hwn.

Roedd y Gweinidog yn cydnabod yr heriau y mae gofalwyr yn eu hwynebu, a sut y gall yr heriau hynny effeithio ar eu hiechyd meddwl a'u lles. Siaradodd y Gweinidog am y pwysau ar ofalwyr ifanc, a phwysigrwydd codi ymwybyddiaeth o'r hyn y gallwn ni ei wneud i'w helpu a'u cefnogi. Cadarnhaodd y Gweinidog hefyd fod grŵp aml-asiantaeth yn cael ei sefydlu i ganolbwyntio ar ofalwyr ifanc yn benodol. Bydd hwn yn gweithredu o dan Grŵp Cynghori'r Gweinidog. Wrth i'r Bwrdd Cynghori Gofalwyr Ifanc drosglwyddo i Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, diolchodd y Gweinidog i Rachel Clement, Plant yng Nghymru, am ei chefnogaeth i'r gofalwr ifanc sy'n mynychu'r grŵp.

9. Cyfrifiad Gofalwyr Di-dâl

Rhoddwyd diweddariad ar waith data'r cyfrifiad a gomisiynwyd gan y grŵp hwn i sefydlu cyfrifiad a phroses casglu data newydd i awdurdodau lleol ar gyfer gofalwyr di-dâl. Disgwylir i ganllawiau gael eu cyhoeddi ar y dudalen we ar gyfer casglu data. Pwrpas y casgliad data newydd yw gwella dealltwriaeth o'r cymorth a ddarperir gan awdurdodau lleol i ofalwyr di-dâl. Bydd ffocws ar asesiadau o anghenion gofalwyr, a bydd y gwaith asesu a chasglu yn cael ei rannu'n 2 adran:

  • demograffeg
  • chanlyniadau asesu a'r gefnogaeth bellach a gafwyd

Bydd data gan awdurdodau lleol yn cael eu casglu ar gyfer y flwyddyn 2025 i 2026, a'u cyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn diwedd y flwyddyn ariannol honno.

10. Dyddiad y cyfarfod nesaf

Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 12 Mehefin 2025.