Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Dawn Bowden AS, Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol.
  • Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig i'r Gweinidog Gofal Cymdeithasol.
  • Alwyn Jones, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (Cadeirydd).
  • Denise Moultrie, Llywodraeth Cymru.
  • Mark Price, Llywodraeth Cymru.
  • Louise Bushell-Bauers, Arolygiaeth Gofal Cymru.
  • Jayne Newman, Gofalwr di-dâl.
  • Rachel Clement, Plant yng Nghymru.
  • Kai Collins, Bwrdd Cynghori Gofalwyr Ifanc.
  • Rob Simkins, Gofalwyr Cymru.
  • Kate Cubbage, Y Gynghrair Gofal.
  • Rachel Williams, Y Gynghrair Gofal.
  • Naheed Ashraf, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
  • Anna Bird, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
  • David Watkins, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
  • Tanya Tye, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
  • Mererid Bowley, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
  • Rachel Wright, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
  • Valerie Billingham, Swyddfa'r Comisiynydd Pobl Hŷn.
  • Victoria Lloyd, Age Cymru.
  • Jon Day, Gofal Cymdeithasol Cymru.
  • Josie Yuen, Iechyd Cyhoeddus Cymru.
  • Y Cynghorydd Jane Tremlett, Cyngor Sir Caerfyrddin.
  • Kim Dolphin, Rhwydwaith Dysgu a Gwella Swyddogion Gofalwyr.
  • Kathy Proudfoot, Rhwydwaith Dysgu a Gwella Swyddogion Gofalwyr.
  • Nicola Hale, Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg.
  • Amy Hawkins, Cyngor Dinas Abertawe.
  • Nick Andrews, Prifysgol Abertawe.
  • Rebecca Oatley, Prifysgol Caerdydd.

Ymddiheuriadau

  • Alyson Hoskins, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.
  • Avril Bracey, Cyngor Sir Caerfyrddin.
  • Naomi Harper, Cyngor Sir y Fflint.
  • Jon Antoniazzi, Cynghrair Gofalwyr.
  • Suzanne Becquer-Moreno, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
  • Bobbie-Jo Haarhoff, Gofalwr di-dâl.
  • Taryn Stephens, Llywodraeth Cymru.

1. Croeso

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

2. Aelodau newydd o Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Ofalwyr Di-dâl

Fe wnaeth yr aelodau newydd o'r grŵp gyflwyno'u hunain.

3. Ymchwil gyfredol: ymchwilwyr newydd ar gyfer Grŵp Cynghori'r Gweinidog

Rhoddwyd diweddariad ar raglen cyfnewid gwybodaeth gydag Insight Institute Prifysgolion yr Alban. Roedd y rhaglen yn cynnwys Cymru, yr Alban, a sawl gwlad Ewropeaidd o dan faner Gofalwyr Ewro. Roedd y meysydd ffocws yn cynnwys y methiant i roi digon o werth ar ofal (cyflogedig a di-dâl), yr angen am arfer sy'n seiliedig ar berthynas, pwysigrwydd dull perthynol o ddatblygu a gweithredu polisi, y pwyslais y dylid ei roi ar y llafur emosiynol sy'n gysylltiedig â gofalu, a'r angen i wella'r cymorth a roddir i ofalwyr cyflogedig a gofalwyr di-dâl.

Hefyd rhoddwyd diweddariad ar brosiectau ymchwil yng Nghanolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion (CARE) Prifysgol Caerdydd, gan gynnwys Asesiadau Gofalwyr, Prosiect Hunanladdiad ymysg Rhieni sy'n Ofalwyr, a rôl bwyd mewn cymorth yn y gymuned i bobl â dementia a'u gofalwyr di-dâl. Ymhlith y prosiectau eraill sy'n cael eu datblygu, mae astudiaethau o ofalwyr di-dâl mewn tai â gofal, a'r defnydd o dechnoleg glyfar i gefnogi gofalwyr di-dâl.

Roedd y camau gweithredu yn cynnwys:

  • AP1: copi o'r astudiaeth i'w ddarparu gyda'r nodyn o'r cyfarfod
  • AP2: dolen at weminar mis Ionawr parthed "deall risg hunanladdiad ymysg rhieni sy'n gofalu am blant anabl" i gael ei dosbarthu gyda'r nodyn o'r cyfarfod
  • AP3: amser i ddiweddariadau ymchwilwyr i gael ei gynnwys fel eitem ar yr agenda yn y dyfodol

4. Camau gweithredu o'r cyfarfod diwethaf ar 9 Medi 2024

Nid oes unrhyw gamau gweithredu sy'n weddill o'r cyfarfod hwn.

5. Diweddariad gan y grŵp gorchwyl a gorffen

Tynnodd Denise Moultrie sylw at y gwaith sy'n mynd rhagddo i wella asesiadau o anghenion gofalwyr a mynediad at wybodaeth, cyngor a chymorth. Mae'r gwaith a'r cynigion i awdurdodau lleol fwrw ymlaen â nhw, wedi eu hamlinellu mewn papur a anfonwyd at y Cadeirydd. Bydd hyn yn cael ei ystyried yng nghyfarfod nesaf Penaethiaid Gwasanaethau Oedolion ym mis Chwefror. Mae trafodaethau hefyd wedi cael eu cynnal gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ynghylch adnoddau ar eu tudalennau ar gyfer gofalwyr di-dâl a gweithwyr cymdeithasol. Mae gwaith gyda'r byrddau iechyd hefyd yn mynd rhagddo ochr yn ochr â hynny, a bydd arolwg pellach yn cael ei ystyried.

6. Diweddariad ar gardiau adnabod gofalwyr ifanc

Rhoddodd Mark Price wybodaeth gefndir i'r aelodau newydd, gan roi diweddariad i'r grŵp ar y gwaith a wneir i gefnogi cardiau adnabod gofalwyr ifanc. Mae adnoddau wedi cael eu datblygu i hyrwyddo'r cerdyn mewn ysgolion a cholegau. Anfonwyd y rhain ddiwedd mis Tachwedd at Benaethiaid Gwasanaethau Plant yr awdurdodau lleol er mwyn iddynt ystyried eu rhannu gydag ysgolion a cholegau yn eu hardaloedd. Cafodd y gwaith hwn ei wneud ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru sydd hefyd wedi datblygu ystod o astudiaethau achos. Yn ogystal â hynny, ystyriwyd adborth gan y Bwrdd Cynghori Gofalwyr Ifanc. Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn adnewyddu addysg sy’n cynnwys gwybodaeth gyffredinol i ofalwyr ifanc a fydd yn cael ei rhoi i ysgolion.

Bydd cylch gwaith y gweithgor bellach yn cael ei ehangu, a bydd yn dod yn weithgor parhaus yn sgil cwblhau'r tasgau hyn er mwyn dylanwadu a chefnogi'r gwaith o ddatblygu a gweithredu polisi Gofalwyr Ifanc. Bydd yr aelodaeth yn ehangu yn unol â hynny. Bydd cylch gorchwyl yn cael ei ddatblygu ar gyfer hyn.

Rydym yn parhau i chwilio am gyfleoedd i ymgysylltu â fferyllfeydd i hyrwyddo ymwybyddiaeth o ofalwyr. Cynhelir trafodaeth arall ym mis Ionawr.

7. Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Croesawodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol yr aelodau newydd i'r grŵp.

Siaradodd y Gweinidog am ei hymweliad â Chanolfan Gofalwyr Abertawe i ddathlu Diwrnod Hawliau Gofalwyr ar 21 Tachwedd, ac roedd yn croesawu'r cyfle i siarad â nifer o ofalwyr di-dâl. Soniodd y Gweinidog hefyd am fynychu digwyddiadau a drefnwyd gan Ofalwyr Cymru yn y Senedd i ddathlu Diwrnod Hawliau Gofalwyr, ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru i gydnabod y Gronfa Gymorth i Ofalwyr.

Er mwyn canolbwyntio adnoddau ar gamau gweithredu sy'n ysgogi gwelliannau'n uniongyrchol, dywedodd y Gweinidog y byddai'n fwy buddiol cyflwyno cynllun cyflawni blynyddol cadarn ar gyfer 2025 i 2026. Byddai hynny'n galluogi ffocws uniongyrchol ar feysydd o flaenoriaeth a drafodwyd yn y ddau gyfarfod blaenorol o Grŵp Cynghori’r Gweinidog. Mae helpu gofalwyr i allu cynnal bywyd cytbwys, ochr yn ochr â gofalu, yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru, yn ogystal ag ymchwilio i weld pa gymorth ychwanegol i ofalwyr ifanc y dylem ganolbwyntio arno.

Bydd strategaeth genedlaethol newydd yn dechrau cael ei datblygu ddiwedd 2025 i fod ar waith ar gyfer dechrau'r flwyddyn ariannol newydd yn 2026 i 2027. Bydd hyn yn cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus.

8. Strategaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl a’r cynllun cyflawni

Rhoddodd Denise Moultrie ddiweddariad ar y pedair blaenoriaeth gyffredinol yn y strategaeth genedlaethol bresennol. Tynnwyd sylw at y ffrydiau gwaith a chyllid Llywodraeth Cymru sy'n deillio o'r strategaeth, gan gynnwys gwaith penodol a wneir gan Ofalwyr Cymru, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, ac Age Cymru i helpu i gefnogi gofalwyr di-dâl.

Nodwyd y flaenoriaeth barhaus ar gyfer priodoli mwy o adnabyddiaeth a gwerth i ofalwyr, ynghyd â materion terminoleg ynghylch y term "gofalwr di-dâl". Nodwyd anfanteision a wynebir gan ofalwyr ifanc mewn addysg a chyflogaeth, yn ogystal â phwysau iechyd meddwl a llesiant ar ofalwyr di-dâl.

Nodwyd hefyd ein bod yn dymuno galluogi gofalwyr i gael bywydau cytbwys, gan gynnwys o ran addysg, cyflogaeth a bywyd cymdeithasol, yn ogystal â thrafod canlyniadau ac ymwybyddiaeth o ofalwyr wrth ymgysylltu â chymunedau. Maes arall a drafodwyd yn fanwl oedd gwella'r gydnabyddiaeth o ofalwyr mewn systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn ogystal â'r broses o gynllunio ar gyfer rhyddhau cleifion o'r ysbyty. Nodwyd bod angen monitro effeithiau'r Ddeddf Absenoldeb Gofalwyr.

Bydd y cynllun cyflawni blynyddol newydd yn barod erbyn mis Ebrill i ddechrau yn y flwyddyn ariannol newydd, gan weithio gyda'n partneriaid cyflawni. Bydd grŵp gorchwyl a gorffen hefyd yn cael ei sefydlu i helpu i gwblhau'r cynllun cyflawni.

Gweithred:

  • AP4: gofynnir am fynegiannau o ddiddordeb ar gyfer ymuno â'r grŵp gorchwyl a gorffen ar gyfer cyflawni

9. Defnyddio weipiau gwlyb

Rhoddodd Louise Clark yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud wrth gyflwyno cyfyngiadau ar werthu weipiau gwlyb gyda phlastig ynddynt, ac i helpu i sicrhau nad ydym yn cyfyngu ar y weipiau gwlyb sydd eu hangen at ddibenion gofalu. Mae manylion am yr ymgynghoriad wedi'u hanfon i Ofalwyr Cymru i'w dosbarthu i rwydweithiau ehangach er mwyn cael ymateb erbyn 18 Rhagfyr.

10. Unrhyw faterion eraill

"Helpu pobl hŷn ledled Cymru i leisio eu barn" - codwyd yr holiadur gan y Comisiynydd Pobl Hŷn gan ofyn i'r grŵp roi gwybod i'w rhwydweithiau. Bydd manylion pellach hefyd yn cael eu darparu gyda'r nodyn o'r cyfarfod hwn.

Gweithred:

  • AP5: manylion i gyd-fynd â nodiadau pan gânt eu cylchredeg

11. Dyddiad y cyfarfod nesaf

Anfonir gwahoddiadau ym mis Ionawr ar gyfer cyfarfodydd 2025.