Neidio i'r prif gynnwy

Ymwelwyr

Y Grŵp Cynghorol ar Drethi

  • Cadeirydd: Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
  • Andrew Evans, Partner, Geldards LLP
  • Frank Haskew, Pennaeth y Gyfadran Drethi, Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr
  • Alun Jones, Rheolwr Buddsoddi Cymdeithasol Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (yn cynrychioli Ruth Marks)
  • Janet Jones, Cadeirydd, Uned Bolisi Cymru, Ffederasiwn y Busnesau Bach
  • Robert Lloyd Griffiths, Cyfarwyddwr Rhanbarthol, Sefydliad Cyfarwyddwyr Cymru
  • David Phillips, Uwch Economegydd Ymchwil, y Sefydliad Astudiaethau Cyllid
  • Kay Powell, Cynghorydd Polisi, Cymdeithas y Cyfreithwyr
  • Warren Martin, Cyfarwyddwr Cymru, Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr

Swyddogion yn bresennol

  • Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru
  • Dyfed Alsop , Cyfarwyddwr, Rhaglen Weithredu Awdurdod Cyllid Cymru
  • Georgina Haarhoff, Pennaeth Polisi Trethi a Rheoli Deddfwriaeth, Trysorlys Cymru
  • Ed Sherriff, Pennaeth Strategaeth Gyllidol, Trysorlys Cymru
  • Jo Ryder, Rheolwr Prosiect Pobl, Awdurdod Cyllid Cymru, Trysorlys Cymru
  • Clare Blake, Arweinydd Polisi a Phrosiectau, Is-adran Polisi Cyllid Llywodraeth Leol
  • Ruth Leggett, Rheolwr Ymgysylltu Strategol a Chyfathrebu, Trysorlys Cymru
  • Lu Toscano-Davies, Swyddog Polisi a Gweithrediadau, Trysorlys Cymru (ysgrifenyddiaeth)
  • Rod Hough, Dadansoddi Cyllidol a Strategaeth, Trysorlys Cymru (sylwedydd)

Ymddiheuriadau

  • Martin Mansfield, Ysgrifennydd Cyffredinol, TUC Cymru
  • Ruth Marks, Prif Weithredwr, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
  • Ian Price, Cyfarwyddwr, CBI Cymru/Wales
  • Y Cynghorydd Aaron Shotton, Dirprwy Arweinydd, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Dr Victoria Winckler, Cyfarwyddwr, Sefydliad Bevan

Croeso gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

1. Croesawodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol y cynrychiolwyr i ddegfed cyfarfod Grŵp Cynghorol Trethi Cymru. Roedd ymddiheuriadau wedi dod i law gan Martin Mansfield, Ruth Marks, Ian Price, y Cynghorydd Aaron Shotton, a Dr Victoria Winckler.

Materion yn codi

2. Roedd nodyn y cyfarfod blaenorol (14 Tachwedd) wedi'i gylchredeg i'r aelodau cyn y cyfarfod. Roedd pob un o'r camau gweithredu wedi'u cwblhau. Cadarnhaodd y grŵp fod y nodyn yn grynodeb cywir o’r drafodaeth.

Datblygiadau diwygio cyllidol

3. Ym mis Rhagfyr, daeth Ysgrifennydd y Cabinet i gytundeb â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys ar fframwaith cyllidol i Gymru. Roedd hwn yn mynd i'r afael â’r holl faterion yr oedd Ysgrifennydd y Cabinet wedi bod yn mynd ar eu trywydd, ac yn sefydlu trefniadau a fyddai'n sicrhau bod cyllid i Gymru’n cael ei roi ar sylfaen sefydlog ar gyfer y tymor hir.

4. Crynhodd Ed Sherriff brif nodweddion y cytundeb:

  • diwygio hirdymor fformiwla Barnett
  • y fethodoleg ar gyfer cyfrifo'r gwrthbwysiad i’r grant bloc yn sgil datganoli trethi
  • dyblu terfyn benthyca cyfalaf Llywodraeth Cymru i £1 biliwn
  • Cronfa newydd i Gymru
  • rôl i gyrff sy’n annibynnol ar y Llywodraeth os ceir anghydfod.

5. Trafododd y grŵp y cytundeb, gan ganolbwyntio ar yr addasiad i'r grant bloc, gan gynnwys trin sgil-effeithiau.

6. Cadarnhaodd Ed Sherriff y byddai data am weithredu’r addasiad i fformiwla Barnett a’r gwrthbwysiad i’r grant bloc yn cael ei gyhoeddi.

Polisi trethi

7. Amlinellodd Georgina Haarhoff y cynnydd sy’n cael ei wneud tuag at ddatblygu’r dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi. Roedd Pwyllgor Cyllid y Cynulliad wrthi’n craffu ar y ddwy dreth hyn.

8. Esboniodd Georgina ac Ed Sherriff sut yr oedd y fframwaith drafft ar bolisi trethi wedi cael ei ddiwygio yn dilyn adborth y grŵp yn y cyfarfod diwethaf. Byddai’r drafft presennol o’r fframwaith polisi trethi yn cael ei gylchredeg i'r Aelodau ar gyfer sylwadau a safbwyntiau terfynol. Maent yn nodi prif nodweddion cynllun gwaith drafft i gefnogi datblygu polisi trethi yn y dyfodol. Byddai hyn yn cynnwys amcanion byr, canolig a hirdymor, gydag ymgysylltu â’r cyhoedd yn elfen bwysig. Byddai’r cynllun gwaith yn cynnwys ymrwymiadau polisi presennol ar gyfer trethi datganoledig (gan gynnwys pennu cyfraddau a bandiau) ac ar gyfer trethi Llywodraeth Leol.

9. Gwahoddwyd yr Aelodau i nodi rhannau o’r cynllun gwaith lle yr hoffent gyfrannu at ddatblygu polisi dros y misoedd nesaf. Byddai diweddariad ar y cynllun gwaith yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Grŵp Trethi.

Awdurdod Cyllid Cymru (ACC)

10. Rhoddodd Dyfed Alsop, Cyfarwyddwr Gweithredu ACC, adroddiad cynnydd ar Awdurdod Cyllid Cymru (ACC), gan gynnwys llywodraethu, lleoliad, gwasanaethau digidol a’r trefniadau trosiannol rhwng CThEM ac Awdurdod Cyllid Cymru.Rhoddodd Jo Ryder y newyddion diweddaraf ar y broses i benodi’r Cadeirydd - roedd yr ymgeisydd a ffefrir, sef Kathryn Bishop, newydd gael ei gyhoeddi, cyn gwrandawiad cyn-penodi gan y Pwyllgor Cyllid ar 16 Chwefror.

11. Trafododd yr Aelodau’r sgiliau a'r arbenigedd y byddai ar ACC eu hangen. Roedd diddordeb mewn sefydlu gwasanaeth digidol ond cydnabyddiaeth y byddai angen dewisiadau amgen mwy traddodiadol hefyd. Ystyriwyd dulliau o ddatblygu canllawiau yn Gymraeg a Saesneg.

Unrhyw Fater Arall

12. Ni chodwyd unrhyw eitemau o dan unrhyw fater arall.

13. Diolchodd Ysgrifennydd y Cabinet i’r rhai a oedd yn bresennol am eu cyfraniadau defnyddiol ac adeiladol.

14. Byddai'r cyfarfod nesaf yn digwydd yn yr haf.