Neidio i'r prif gynnwy

Ymwelwyr

Aelodau'r Grŵp Cynghori ar Drethi

  • Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth - Jane Hutt AC (Cadeirydd)
  • Andrew Evans - Geldards
  • Y Cynghorydd Aaron Shotton - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
  • David Phillips - Y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS)
  • Frank Haskew - Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW)
  • Kay Powell - Cymdeithas y Cyfreithwyr
  • Leighton Jenkins ar ran Emma Watkins - Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI) Cymru
  • Martin Warren - Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW, Cymru)
  • Martin Mansfield - Cyngres yr Undebau Llafur Cymru
  • Robert Lloyd Griffiths – Sefydliad y Cyfarwyddwyr (IoD) Cymru
  • Ruth Marks – Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA)

Yn bresennol

  • Jeff Andrews - Cynghorydd Arbenigol i'r Gweinidog Cyllid
  • Andrew Jeffreys – Cyfarwyddwr y Trysorlys
  • Bethan Davies - Cymorth Prosiect Deddfwriaeth Trethi Datganoledig
  • Beverley Morgan - Polisi a Dadansoddi, Trechu Tlodi – Llywodraeth Leol a Chymunedau
  • Gareth Morgan - Dirprwy Gyfarwyddwr, Dadansoddi a Strategaeth Ariannol
  • Georgina Haarhoff - Pennaeth Polisi a Deddfwriaeth Trethi
  • Huw Owen - Pennaeth Polisi Economaidd - Yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
  • Paul Webb - Rheolwr Prosiect Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio
  • Richard Clarke - Rheolwr Prosiectau Gweinyddu Trethi
  • Ruth Leggett - Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Strategol, Dadansoddi a Strategaeth Ariannol
  • Tom Nicholls - Cynghorydd Economaidd
  • Trudi King - Yr Ysgrifenyddiaeth

Croeso gan y Gweinidog Cyllid

1. Croesawodd y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth y rhai oedd yn bresennol i bedwaredd cyfarfod Grŵp Cynghori ar Drethi Cymru.

2. Croesawodd y Gweinidog Ruth Marks i'w chyfarfod cyntaf ers ymgymryd â swydd Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) ddechrau mis Ionawr. Diolchodd y Gweinidog i Phil Jarrold am ei gyfraniad i'r grŵp yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

3. Rhoddodd y Gweinidog amlinelliad byr o'r datblygiadau ers y cyfarfod diwethaf, gan gynnwys bod Bil Cymru wedi cael Cydsyniad Brenhinol; trafodaethau trawsbleidiol ar ddatganoli pellach; adroddiad Comisiwn Smith ar gynigion i'r Alban; a’r pecyn o fesurau ariannol a gytunwyd ar gyfer Gogledd Iwerddon.

Y diweddaraf ar Fil Cymru

4. Rhoddodd Gareth Morgan yr wybodaeth ddiweddaraf yn gryno am y datblygiadau diweddaraf ar ôl i Fil Cymru gael Cydsyniad Brenhinol, gan gynnwys diwygiadau ariannol ehangach.

Ymgynghoriad ar Gasglu a Rheoli Trethi

5.Rhoddodd Richard Clarke gyflwyniad byr ar yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar gasglu a rheoli trethi.

Treth Dirlenwi Cymru

6.Rhoddodd Bethan Davies amlinelliad o'r ddogfen ymgynghori sy'n cael ei datblygu arnewid y Dreth Dirlenwi yng Nghymru, gan ganolbwyntio'n benodol ar y Gronfa Gymunedol ar Dirlenwi.

Treth Trafodiadau Tir

7. Cynhelir yr ymgynghoriad ar y Dreth Trafodiadau Tir ar 10 Chwefror 2015 a bydd yn rhedeg am 12 wythnos. Rhoddodd Tom Nicholls drosolwg o'r ddogfen ymgynghori.

8. Pwysleisiodd y Gweinidog bwysigrwydd defnyddio'r ddau gyfnod ymgynghori i hel meddyliau a syniadau gan wahanol sectorau.

Unrhyw Fater Arall

9. Byddai aelodau'r Grŵp Cynghori ar Drethi yn datblygu ac yn treialu platfform trafod ar-lein.