Neidio i'r prif gynnwy

Ymwelwyr

Y Grŵp Cynghorol ar Drethi

  • Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol (Cadeirydd)
  • Andrew Evans, Geldards
  • Frank Haskew, Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr
  • David Phillips, Y Sefydliad Astudiaethau Cyllid
  • Robert Lloyd Griffiths, Sefydliad y Cyfarwyddwyr
  • Leighton Jenkins ar ran Emma Watkins, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru
  • Ben Cottam ar ran Janet Jones, Y Ffederasiwn Busnesau Bach
  • Kay Powell, Cymdeithas y Cyfreithwyr
  • Martin Warren, Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr
  • Ruth Marks, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC)
  • Dr Victoria Winckler, Sefydliad Bevan
  • Jon Rae ar ran Aaron Shotton, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)

Swyddogion yn bresennol

  • Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru
  • Georgina Haarhoff, Pennaeth Polisi Trethi a Rheoli Deddfwriaeth
  • Ed Sherriff, Pennaeth y Strategaeth Gyllidol
  • Jo Berry, Swyddog Ymgysylltu a Chyfathrebu Strategol
  • Ruth Leggett, Rheolwr Ymgysylltu a Chyfathrebu Strategol
  • Lu Toscano Davies (Ysgrifenyddiaeth)

Croeso gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

1. Croesawodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol y rhai oedd wedi dod i wythfed cyfarfod Grŵp Cynghorol Trethi Cymru, ei gyfarfod cyntaf yn ei swydd newydd.

Materion yn codi

2. Roedd y nodiadau ar gyfarfod blaenorol y Grŵp wedi cael eu dosbarthu i'r aelodau cyn y cyfarfod ac roedd yr holl gamau gweithredu wedi cael eu cyflawni. Cadarnhaodd y Grŵp fod y nodiadau'n grynodeb cywir o'r drafodaeth.

Y diweddaraf ar ddatganoli trethi, deddfwriaeth a blaenoriaethau diwygio cyllidol

3. Nododd Ysgrifennydd y Cabinet effaith y refferendwm ar yr UE ar gyfrifoldebau datganoledig, a allai fod yn helaeth, ond tanlinellodd bwysigrwydd parhau i ganolbwyntio ar gyflawni agenda Llywodraeth Cymru. Rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet y wybodaeth ddiweddaraf i'r grŵp am bedwar maes gwaith allweddol:

  • Awdurdod Cyllid Cymru
  • Treth Trafodiadau Tir a Threth Gwarediadau Tirlenwi
  • fframwaith cyllidol
  • strategaeth polisi trethi.

Awdurdod Cyllid Cymru

4. Yn ddiweddar roedd Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyhoeddi y byddai Awdurdod Cyllid Cymru'n casglu a rheoli'r Dreth Trafodiadau Tir a'r rhan fwyaf o'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi gyda rhywfaint o gymorth gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Pan fyddai Awdurdod Cyllid Cymru'n weithredol, byddai Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi'n parhau i ddarparu arbenigedd trwy fenthyciadau a secondiadau.

5. Hefyd byddai Dyfed Alsop yn ymgymryd â swydd Cyfarwyddwr Cyflawni Awdurdod Cyllid Cymru yn y dyfodol agos iawn. Roedd y broses o benodi'r Cadeirydd ar y gweill, a châi'r swydd ei hysbysebu ym mis Medi. Disgwylid y byddai'r Cadeirydd yn ei swydd erbyn mis Ionawr 2017. Roedd digwyddiad brecwast yn cael ei drefnu i gynorthwyo â'r gwaith o recriwtio Cadeirydd a Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru. Byddai hyn yn rhoi cyfle i'r rheiny fyddai â diddordeb ddysgu mwy am Awdurdod Cyllid Cymru.

Treth Trafodiadau Tir a Threth Gwarediadau Tirlenwi

6. Câi Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig ei gyflwyno gerbron y Cynulliad yn yr hydref. Roedd y Bil yn ddarn mawr a chymhleth o ddeddfwriaeth, ac roedd wedi cael ei gyhoeddi ar ffurf ddrafft cyn cael ei gyflwyno i roi cyfle i randdeiliaid ymgyfarwyddo â'r cynnwys cyn i'r broses craffu ddechrau.

7. Roedd ymgynghoriad technegol wedi cael ei gyhoeddi i ofyn am farn ar gyfradd uwch ar gyfer eiddo ychwanegol.

8. Câi'r Bil hwn ei gyflwyno yn ddiweddarach yn yr hydref. Fel rhan o hyn, byddai Llywodraeth Cymru'n ceisio sefydlu cynllun cymunedau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn lle'r Gronfa Cymunedau Tirlenwi bresennol.

Fframwaith cyllidol

9. Byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cyfarfod â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys cyn bo hir i gytuno ar gwmpas y trafodaethau ar fframwaith cyllidol newydd i Gymru. Roedd y meysydd i'w hystyried yn cynnwys gweithrediad hirdymor y cyllid gwaelodol a therfyn benthyca cyfalaf uwch.

10. Byddai Llywodraeth Cymru'n parhau i bwyso am i'r doll teithwyr awyr gael ei datganoli, fan lleiaf ar gyfer teithiau hir uniongyrchol, er mwyn sicrhau cydraddoldeb â Gogledd Iwerddon.

Strategaeth polisi trethi

11. Dros y misoedd i ddod, byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn datblygu strategaeth polisi trethi i Gymru. Gwahoddodd aelodau'r Grŵp i roi unrhyw feddyliau cynnar.

Blaenoriaethau'r aelodau o ran trethi

12. Bu aelodau'r Grŵp yn trafod a rhannu eu barn gydag Ysgrifennydd y Cabinet. Roedd y materion a godwyd gan yr aelodau'n cynnwys:

  • yr angen am symlrwydd, eglurder a hygyrchedd wrth ddatblygu polisi trethi datganoledig, pwysigrwydd consensws, cymuned a chyfathrebu, a sicrhau caniatáu digon o amser i baratoi ar gyfer newid
  • cynigiodd aelodau gymorth i helpu i sicrhau bod amrywiaeth fawr o bobl yn ymwybodol o'r broses ymgeisio am swyddi cadeirydd a bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru ac i annog amrywiaeth o sgiliau, profiadau a chefndiroedd
  • byddai angen i Awdurdod Cyllid Cymru roi pwyslais ar wasanaeth cwsmeriaid, gan gynnwys prosesau trethi o'r ansawdd gorau, gan ddefnyddio arbenigedd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi;
  • roedd angen i ddeddfwriaeth trethi Cymru a Lloegr gyd-fynd yn agos, gan atal cyfleoedd i ddefnyddio bylchau
  • pwysigrwydd sefydlu fframwaith cyllidol teg i Gymru.

13. Rhoddodd Dr Winckler y wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am y gwersi a ddysgwyd o adroddiad terfynol Sefydliad Bevan ar drethi datganoledig newydd posibl i Gymru, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin.

14. Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet fod cyfathrebu'n thema allweddol a chroesawodd y cynigion gan aelodau i ledu negeseuon trwy eu sianelau. Tanlinellodd yr angen i gael yr agweddau ymarferol ar y prosesau trethi'n iawn, a rôl bwysig Awdurdod Cyllid Cymru yn y gwaith o gyflawni hyn.

Unrhyw fusnes arall

15. Ni chodwyd unrhyw eitemau o dan unrhyw fusnes arall.

16. Diolchodd Ysgrifennydd y Cabinet i'r aelodau am eu cyfraniadau defnyddiol ac adeiladol. Câi'r cyfarfod nesaf ei gynnal yn yr hydref.