Neidio i'r prif gynnwy

Ymwelwyr

Aelodau'r Grŵp Cynghori ar Drethi

  • Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, Jane Hutt AC (Cadeirydd)
  • Andrew Evans – Geldards
  • Frank Haskew – Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW)
  • David Phillips – Y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS)
  • Emma Watkins – Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI) Cymru
  • Robert Lloyd Griffiths – Sefydliad y Cyfarwyddwyr (IoD) Cymru
  • Kay Powell – Cymdeithas y Cyfreithwyr
  • Phil Jarrold – Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC)
  • Rhodri Evans, ar ran Janet Jones – Ffederasiwn Busnesau Bach Y Cynghorydd
  • Aaron Shotton – Cymdeithas Llywodraeth Cymru
  • Martin Warren – Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW)

Yn bresennol

  • Jeff Andrews – Cynghorydd Arbenigol i'r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
  • Andrew Jeffrey– Cyfarwyddwr y Trysorlys
  • Gareth Morgan – Dirprwy Gyfarwyddwr Dadansoddi Cyllidol a Strategaeth
  • Paul Webb – Rheolwr Prosiectau Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, Llywodraeth Leol a Chymunedau
  • Andy Rees – Pennaeth yr Uned Strategaeth Wastraff
  • Richard Clarke – Rheolwr Prosiectau Gweinyddu Trethi
  • Sarah Tully – Rheolwr Prosiectau Polisi Treth Ddatganoledig
  • Andrew Thomas – Economegydd
  • Ruth Leggett – Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Strategol, y Trysorlys
  • Lucy Robinson – yr Ysgrifenyddiaeth

Croeso gan y Gweinidog Cyllid

1. Croesawodd y Gweinidog Cyllid y grŵp i drydydd cyfarfod Grŵp Cynghori ar Drethi (TAG) Cymru.

2. Cyflwynodd y Gweinidog ddau aelod newydd i'r Grŵp Cynghori ar Drethi – sef y Cynghorydd Aaron Shotton a fyddai'n cynrychioli Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a Martin Warren, Cyfarwyddwr Cymru yn Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr.

3. Rhoddodd y Gweinidog ddiweddariad byr ar y datblygiadau ers cyfarfod diwethaf y Grŵp Cynghori ar Drethi, gan gynnwys canlyniad y Refferendwm ar Annibyniaeth yr Alban, cyfarfod cyntaf Cyd-bwyllgor y Trysorlysoedd, a chyhoeddi'r Papur Gwyn ar gasglu a rheoli trethi.

Diweddariad ar Fil Cymru a'r cyd-destun ehangach

4. Rhoddodd Gareth Morgan ddiweddariad byr ar y datblygiadau diweddaraf o ran Bil Cymru.

Treth Dirlenwi Cymru

5. Rhoddodd Sarah Tully drosolwg o'r dystiolaeth gefndirol a'r syniadau sy'n datblygu ar dreth dirlenwi.

Treth Dir y Doll Stamp: Esemptiadau, gostyngiadau ac atal osgoi

6. Cyflwynodd Andrew Evans o Geldards drosolwg o'r gostyngiadau a'r esemptiadau sydd ar gael ar gyfer y Dreth bresennol ar Dir y Doll Stamp.

Ymgynghoriad ar Gasglu a Rheoli Trethi

7. Rhoddodd Richard Clarke gyflwyniad byr ar yr ymgynghoriad ar gasglu a rheoli trethi. Rhoddodd gyfle i'r aelodau godi materion allweddol ar ran eu sefydliadau, gan ganolbwyntio'n arbennig ar weinyddu trethi, pwerau a dyletswyddau trethu, cydymffurfio â threthi, osgoi trethi ac anghydfodau.

8. Pwysleisiodd y Gweinidog ei bod yn bwysig i’r cyfnod ymgynghori gael ei ddefnyddio i hel meddyliau a syniadau gan wahanol sectorau.

Unrhyw Fater Arall

9. Ni chodwyd unrhyw eitemau eraill o dan unrhyw fater arall.