Cyfarfod Grŵp Cynghorol Cymru ar Drethi: 5 Mawrth 2014
Cofnodion cyfarfod Grŵp Cynghorol Cymru ar Drethi ar 5 Mawrth 2014.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Aelodau’r Grŵp Cynghori ar Drethi
- Y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt AC (Cadeirydd)
- Andrew Evans - Geldards
- Frank Haskew – Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW)
- David Phillips – Y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS)
- Victoria Winckler – Sefydliad Bevan
- Emma Watkins – CBI Wales
- Janet Jones – Ffederasiwn y Busnesau Bach
- Robert Lloyd Griffiths – Sefydliad y Cyfarwyddwyr, Cymru
- Kay Powell – Cymdeithas y Cyfreithwyr
- Martin Mansfield – Cyngres Undebau Llafur Cymru
- Phil Jarrold – Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA)
Yn bresennol hefyd
- Jeff Andrews – Cynghorydd Arbenigol i’r Gweinidog Cyllid
- Andrew Jeffreys – Pennaeth Buddsoddi Strategol a Diwygio Ariannol
- Gareth Morgan – Dirprwy Gyfarwyddwr, Diwygio Ariannol
- Georgina Haarhoff – Pennaeth Polisi a Deddfwriaeth Trethi
- Emma Baff – Uwch Ysgrifennydd Preifat y Gweinidog Cyllid
- Claire McDonald – Rheolwr Rhaglen Weithredu Trysorlys Cymru
- Ruth Leggett – Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Strategol, Rhaglen Weithredu Trysorlys Cymru
- Trudi King - Ysgrifenyddiaeth y Grŵp
Cyflwyniad a chyd-destun
1. Cadeiriodd y Gweinidog Cyllid gyfarfod cyntaf y Grŵp Cynghori ar Drethi ar gyfer Cymru yn Nhŷ Hywel ddydd Mercher, 5 Mawrth 2014.
2. Croesawodd y Gweinidog y cyfranogwyr i’r cyfarfod cyntaf a diolchodd iddynt am gytuno i fod yn aelodau o’r grŵp.
3. Dywedodd y Gweinidog Cyllid ei bod yn bwysig gwneud cynnydd gyda datganoli drwy sicrhau bod pwerau’n cael eu rhoi at bwrpas ac yr hoffai weld egwyddorion clir o gyfundrefn deg, syml a sefydlog ar gyfer trethi a fyddai’n cefnogi ac yn hybu twf a swyddi yng Nghymru. Crybwyllodd aelodau o’r grŵp yr hoffent hefyd weld trafodaeth heriol yn y grŵp er mwyn helpu i hwyluso syniadau ar gyfer trethi newydd yng Nghymru.
4. Nodwyd y byddai adegau pryd y gofynnid i aelodau’r Grŵp fynd allan i’w rhwydweithiau ac ymgynghori, fel bod eu haelodau’n cael cyfle i gyfrannu at y broses.
Cylch gorchwyl
5. Trafododd yr aelodau’r Cylch Gorchwyl ar gyfer y Grŵp Cynghori ar Drethi.Cytunwyd ar y Cylch Gorchwyl, yn amodol ar fân ddiwygiad, i gynnwys yposibilrwydd y byddai’r grŵp yn ymgynghori â chynghorwyr ac arbenigwyrychwanegol, ac yn gofyn am eu barn, os byddai hynny’n briodol.
Cyflwyniadau
6. Clywodd y Grŵp Cynghori ar Drethi ddau gyflwyniad byr, y cyntaf ar gynnydd Bil Drafft Cymru, a’r ail ar gasglu a rheoli trethi.
7. Diolchodd y Gweinidog i’r Grŵp am ei gyfraniadau a dywedodd y byddai’r Grŵp yn cyfarfod nesaf ym mis Mehefin ac unwaith eto yn yr Hydref.
