Neidio i'r prif gynnwy

Attendees

Aelodau'r Grŵp Llywio

  • Fran Targett, Cadeirydd
  • Emma Willis, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
  • Helal Uddin, Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru
  • Joanna Goodwin, Y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS)
  • Katie Till, Ymddiriedolaeth Trussell
  • Matthew Evans, Grŵp Rheolwyr Refeniw a Budd-daliadau Cymru
  • Miranda Evans, Anabledd Cymru
  • Nigel Griffiths, CBS Pen-y-bont ar Ogwr
  • Simon Hatch, Cyngor ar Bopeth Cymru
  • Steffan Evans, Sefydliad Bevan

Hefyd yn bresennol

  • Adrian Devereux, Hwylusydd Llif Gwaith
  • Angela Endicott, Hwylusydd Llif Gwaith
  • David Willis, Llywodraeth Cymru
  • Emma Morales, CDPS
  • Glyn Jones, Hwylusydd Llif Gwaith
  • Launa Anderson, Llywodraeth Cymru
  • Leah Whitty, Hwylusydd Llif Gwaith
  • Mel James, Llywodraeth Cymru
  • Paul Neave, Llywodraeth Cymru
  • Sam Pidduck, Llywodraeth Cymru   

Ymddiheuriadau

Amanda Main (CBS Caerffili), Claire Germain (Llywodraeth Cymru), Jen Griffiths (Cadeirydd Grŵp Uwch-swyddogion Cyfrifol (SRO) Llywodraeth Leol), Karen McFarlane (Plant yng Nghymru), Lindsey Phillips (CLlLC), Lisa Hayward (CLlLC), Victoria Lloyd (Age Cymru)

Croeso gan y Cadeirydd

Croesawodd y Cadeirydd yr aelodau i'r cyfarfod a diolch iddynt am eu cyfraniadau i'r prosiect yn ystod y mis diwethaf.

Dywedodd y Cadeirydd wrth yr aelodau bod Anna Friend wedi symud ymlaen o'r Grŵp Llywio ac y bydd y Tîm Craidd a'r Grŵp Uwch-swyddogion Cyfrifol (SRO) yn gweithio i sicrhau cynrychiolaeth ddigonol gan Awdurdodau Lleol ar y Grŵp Llywio a'r Ffrydiau Gwaith i lenwi'r bwlch. 

Atgoffwyd yr aelodau, yn dilyn ad-drefnu'r Cabinet, mai cyfrifoldeb Jane Hutt yw'r rhaglen waith hon o hyd yn ei rôl fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip. Nodwyd cefnogaeth Jane Hutt i waith y Grŵp Llywio. Dywedodd y Cadeirydd wrth y grŵp y byddai'n ceisio cael cyfarfod gydag Ysgrifennydd y Cabinet i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd ar y gwaith hyd yma. 

Yn olaf, nododd y Cadeirydd nad oedd hi wedi gallu cwrdd â Chadeirydd Grŵp SRO Llywodraeth Leol ers cyfarfod diwethaf y grŵp llywio ond bod trefniadau i gwrdd yn cael eu gwneud. 

Pwynt gweithredu 1: Y Tîm Craidd i weithio gyda’r Grŵp SRO i lenwi'r rôl a adawyd yn wag gan ymadawiad Anna Friend o'r Grŵp Llywio a’r Ffrydiau Gwaith.

Pwynt gweithredu 2: Y Cadeirydd i gwrdd â Chadeirydd Grŵp SRO Llywodraeth Leol.

Diweddariad ffrydiau gwaith

Wrth gyflwyno'r eitem hon, cyfeiriodd EM yr aelodau at yr Adroddiad Amlygu Ffrydiau Gwaith a ddosbarthwyd i’r aelodau i'w drafod.

Dywedodd EM wrth y grŵp bod mwyafrif y Ffrydiau Gwaith wedi cynnal eu sesiwn gychwynnol a chyfarfod(ydd) dilynol. Mae'r cyfarfodydd hyn wedi canolbwyntio ar set o flaenoriaethau pob Ffrwd Waith a deall y tasgau yr oedd angen gwneud cynnydd arnynt. Mae llawer o'r gwaith yn dal i fod ar y cam cynllunio, ond mae Dylunio/data a Cham Un wedi dechrau ystyried dilyniannu eu gweithgareddau ac archwilio sut i fapio gwasanaethau Awdurdodau Lleol mewn cydweithrediad â'r Grŵp SRO.

Dywedodd EM, wrth i Ffrydiau Gwaith ddatblygu, bod lefel uchel o gyd-ddibyniaethau rhwng blaenoriaethau llif gwaith ac y trefnir cyfarfod i’r hwyluswyr Ffrydiau Gwaith i drafod sut i ymdrin â buddiannau ar y cyd er mwyn osgoi unrhyw ddyblygu.

Un rhwystr allweddol i gynnydd y Ffrydiau Gwaith yw diffyg aelodaeth o blith yr Awdurdodau Lleol. Nodwyd bod y risg hon wedi'i huwchgyfeirio i'r Grŵp SRO ac, ynghyd â'r Tîm Craidd, byddant yn parhau i annog cyfranogiad gan Lywodraeth Leol ar draws y rhaglen waith.

Cynigiodd NG siarad â'i gydweithwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac Awdurdodau Lleol eraill a gweld a fyddai gan unrhyw un ddiddordeb mewn ymuno â Ffrwd Waith. Gan ddiolch i NG am ei gynnig, gofynnodd y Cadeirydd i hyn gael ei gydlynu / ei fwydo'n ôl trwy CLlLC a’r Tîm Craidd.

Nododd DW, mewn cydweithrediad â Matthew Evans a’r Grŵp SRO, fod Ffrwd Waith Cam Un wedi cyhoeddi arolwg sylfaenol cychwynnol i bob Awdurdod Lleol yn gofyn am wybodaeth sylfaenol am eu prosesau gweinyddol yn ymwneud â’r Grant Hanfodion Ysgol, Prydau Ysgol am Ddim a Chynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor. Mae EM a chydweithwyr yn CDPS wedi gwneud dadansoddiad rhagarweiniol a byddant yn rhannu'r canlyniadau ar ôl eu cwblhau.

Pwynt gweithredu 3: y Tîm Craidd i barhau i ddod o hyd i gyfranogiad ychwanegol gan Lywodraeth Leol mewn Ffrydiau Gwaith mewn cydweithrediad â'r Grŵp SRO.

Pwynt gweithredu 4: NG i dynnu sylw CLlLC/y Tîm Craidd os oes unrhyw un yn ymwybodol o unrhyw bartïon â diddordeb a hoffai ymuno â Ffrwd Waith.

Pwynt gweithredu 5: y Tîm Craidd i rannu’r dadansoddiad o’r Arolwg Sylfaenol Cam Un cychwynnol.

Diweddariad Grŵp SRO / aelodaeth awdurdodau lleol

Dywedodd EW wrth y grŵp fod y Grŵp SRO wedi cyfarfod ar 23 Medi ac wedi croesawu PN, MJ ac EM i gyflwyno drafft cyntaf y Map Ffordd Cam Un. Cadarnhaodd EW y bydd y Grŵp SRO yn mynd ati’n ganolog i gydlynu ymateb ar y cyd gan bob un o'r 22 Awdurdod Lleol i'r ddogfen ddrafft ac yn darparu’r ymateb hwn i'r Tîm Craidd erbyn 14 Hydref 2024.

Gofynnodd GJ am eglurhad ynghylch sut mae Ffrydiau Gwaith yn cyflwyno cynigion ar gyfer ymarferion casglu gwybodaeth neu weithdai. Gofynnodd EW i GJ anfon crynodeb o’r hyn y mae’r Ffrwd Waith yn gofyn amdano gan y Grŵp SRO/Awdurdodau Lleol a bydd CLlLC/y Tîm Craidd yn cynghori ar y camau priodol.

Pwynt gweithredu 6: y Grŵp SRO i roi adborth ar y fersiwn ddrafft o Fap Ffordd Cam Un erbyn Hydref 14.

Pwynt gweithredu 7: GJ i anfon crynodeb o gynigion Dylunio/Data i EW/y Tîm Craidd a thrafod ar y cyd sut i'w datblygu.

Y cofnod risg

Rhoddodd DW drosolwg i'r aelodau o Gofnod Risg y Prosiect, gan gynnwys y newidiadau y cytunwyd arnynt yn y cyfarfod diwethaf ac, yn unol â phryderon a godwyd am gynrychiolaeth briodol gan lywodraeth leol ar ffrydiau gwaith, cynnig i gynyddu sgôr RAG y risg sy'n gysylltiedig â chyfranogiad Llywodraeth Leol.

Trafododd yr Aelodau a ddylid cynyddu sgôr RAG y risg sy'n gysylltiedig â'r rhyngddibyniaethau rhwng ffrydiau gwaith. Penderfynwyd, am y tro, y bydd y risg yn cael ei chadw fel ag y mae, ond bydd hyn yn cael ei adolygu’n barhaus. Yn y cyfamser, bydd y Tîm Craidd a'r hwyluswyr Ffrydiau Gwaith yn cwrdd i drafod y cyd-ddibyniaethau a godwyd a chytuno ar y ffordd orau o reoli'r rhain. 

Cytunodd yr Aelodau i gael gwared ar risg etholiadau'r DU o'r Cofnod Risg, gan nodi ar hyn o bryd nad oes disgwyl yr Etholiad Cyffredinol nesaf tan tua 2029.  Fodd bynnag, gan nodi y bydd etholiad nesaf y Senedd yn cael ei gynnal ymhen llai na dwy flynedd, cytunwyd i ychwanegu risg ynglŷn â hyn at y cofnod.

Cynhaliwyd trafodaeth ynglŷn â'r Ffrwd Waith Cymhwysedd a'r gallu i wneud argymhellion ar newidiadau i feini prawf cymhwysedd. Deellir nad yw cynyddu’r trothwyon ar gyfer cymhwysedd o fewn mandad y rhaglen waith hon, ond mae'n anochel y gallai trafodaethau ynghylch sicrhau bod y cymhwysedd yn cyfateb arwain at fwy o bobl yn dod yn gymwys.  Cytunwyd i dynnu sylw at hyn fel risg ar y gofrestr risg a bydd y Ffrwd Waith yn gallu gwneud argymhellion i'r Grŵp Llywio a'r Gweinidogion pan fyddant yn nodi unrhyw effeithiau yn sgil sicrhau bod meini prawf cymhwysedd yn cyfateb. 

Trafododd yr Aelodau a yw'r prosiect wedi cyrraedd cam digon aeddfed i allu datblygu Asesiad cychwynnol, ar lefel uchel, o’r Effaith ar Gydraddoldeb. Penderfynwyd y byddai'r Tîm Craidd yn bwrw ymlaen â hyn ac yn adrodd yn ôl i'r Grŵp Llywio. Yn y cyfamser, gofynnodd y grŵp i bob Ffrwd Waith ystyried yr effaith ar nodweddion gwarchodedig wrth iddynt symud ymlaen.

Pwynt gweithredu 8: y Tîm Craidd a Hwyluswyr Ffrydiau Gwaith i drafod y rhyngddibyniaethau rhwng Ffrydiau Gwaith.

Pwynt gweithredu 9: y risg yn ymwneud ag Etholiadau Cyffredinol y DU i'w dileu o'r cofnod risg a chofnod ar wahân ynghylch etholiadau nesaf y Senedd i gael ei ychwanegu.

Pwynt gweithredu 10: y Tîm Craidd i archwilio a yw'r prosiect ar gam lle gellir llunio asesiad cychwynnol o’r effaith ar gydraddoldeb.

Adolygiad o’r map ffordd drafft

Cyflwynodd MJ ddrafft i'r grŵp o Fap Ffordd Cam Un er mwyn symleiddio Budd-daliadau Cymru. Datblygwyd y drafft gan is-grŵp o'r Grŵp Llywio ac mae'n adlewyrchu blaenoriaethau pob un o'r chwe Ffrwd Waith. 

Dywedodd MJ wrth y grŵp mai'r bwriad yw cyflwyno'r map ffordd drafft i Gyngor Partneriaeth Cymru i'w gymeradwyo ym mis Tachwedd 2024. Cyn hyn, gofynnir am adborth ac awgrymiadau gan y Grŵp Llywio, y Ffrydiau Gwaith a'r Grŵp Cynghori SRO Llywodraeth Leol. 

Gwahoddwyd yr aelodau i gyflwyno eu syniadau cychwynnol ar y map ffordd drafft i'w trafod. Cytunwyd y byddai holl aelodau'r Grŵp Llywio yn rhoi adborth ysgrifenedig ar y drafft gan ateb detholiad o gwestiynau allweddol yn ogystal â rhoi eu sylwadau ac awgrymiadau am newidiadau ac ychwanegiadau.

Cytunodd yr aelodau y byddai'r map ffordd drafft yn cael ei gwblhau a'i gymeradwyo drwy weithdrefn ysgrifenedig.

Pwynt gweithredu 11: holl aelodau'r Grŵp Llywio i roi adborth ysgrifenedig ar y Map Ffordd drafft erbyn 14 Hydref 2024.

Pwynt gweithredu 12: drafft o’r Map Ffordd i'w gwblhau drwy weithdrefn ysgrifenedig.

Cofnodion y cyfarfod diwethaf

Cymeradwyodd yr aelodau gofnodion y cyfarfod diwethaf (24.07.2024).

Unrhyw faterion eraill a’r cyfarfod nesaf

Bydd y Grŵp Llywio yn cyfarfod nesaf ar 28 Tachwedd yn hybrid trwy Microsoft Teams ac yn swyddfeydd CLlLC yng Nghaerdydd.