Neidio i'r prif gynnwy

Mynychwyr

  • Fran Targett, Cadeirydd
  • Steffan Evans, Sefydliad Bevan
  • Nigel Griffiths, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
  • Amanda Main, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili 
  • Harriet Green, CDPS 
  • Simon Hatch, Cyngor ar Bopeth Cymru 
  • Claire Flint, Cyngor Sir y Fflint 
  • Sarah Price, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
  • Rachel Bowen, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
  • Matthew Evans, Cadeirydd Grŵp Uwch-swyddogion Cyfrifol (SRO)
  • Katie Till, Ymddiriedolaeth Trussell
  • Claire Germain, Llywodraeth Cymru
  • Lindsey Phillips, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Hefyd yn bresennol

  • Mabli Jones, Sefydliad Bevan 
  • Adam Hardy, Y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol CDPS 
  • Sarah Floyd, Y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol CDPS 
  • James Graham, Y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol CDPS 
  • Jo Goodwin, Y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol CDPS 
  • Lauren Grech, Y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol CDPS
  • Ben Gibbs, Llywodraeth Cymru
  • Glyn Jones, Llywodraeth Cymru
  • Launa Anderson, Llywodraeth Cymru
  • Nerys Owens, Llywodraeth Cymru
  • David Willis, Llywodraeth Cymru
  • Mel James, Llywodraeth Cymru
  • Paul Neave, Llywodraeth Cymru
  • Joanna Leek, Llywodraeth Cymru 
  • Danny Owen, Llywodraeth Cymru 
  • Alex Perry, Llywodraeth Cymru 
  • Lisa Hayward, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Emma Willis, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Aled Evans, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 
  • Michelle Schutte, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Ymddiheuriadau: 

Victoria Lloyd (Age Cymru), Sean O'Neill (Plant yng Nghymru), Rhian Davies (Anabledd Cymru), Miranda Evans (Anabledd Cymru), Helal Uddin (EYST), Jonathan Cox (Comisiynydd Plant), Claire Griffiths (Llywodraeth Cymru).

Croeso gan y Cadeirydd

Agorodd y cadeirydd y cyfarfod ac estyn croeso i Mabli Jones, y Pennaeth Polisi newydd ar gyfer Tlodi yn Sefydliad Bevan.

Tynnodd y cadeirydd sylw at bwysigrwydd trafod eitemau’r agenda yn y cyfarfod, gan nodi’r cynnydd sylweddol a wnaed. Pwysleisiodd y cadeirydd yr angen i ystyried sut i gyflwyno adroddiadau am gyflawniadau wrth i ni ddod tua diwedd cyfnod cam un. Hefyd, mae angen i aelodau ystyried beth sydd ar ôl i'w wneud er mwyn taro’r nod gwreiddiol o gyflawni’r tri budd-dâl yng ngham un yn gyson ar draws pob un o'r 22 awdurdod lleol (ALlau), yn enwedig gydag etholiad ar y gweill. Pwysleisiwyd yr angen am dryloywder wrth adrodd am y cynnydd tuag at fap llwybr cam un, gan gydnabod ei bod yn bosib na ellir cyflawni'r holl nodau yn llawn erbyn mis Ebrill, ond y bydd yr adroddiad terfynol yn dangos yn glir y cynnydd a wnaed yng ngham un tuag at wella mynediad at fudd-daliadau yng Nghymru.

Mae perygl bod y gwaith sy’n mynd rhagddo yn cael ei anwybyddu ar ôl yr etholiad, ac anogodd y cadeirydd i’r grŵp sicrhau bod y gwaith yn parhau ac yn symud ymlaen y tu hwnt i gam un. 

Arolwg Gweithlu CLlLC ac Arolwg Defnyddwyr

Cyflwynwyd prif ganfyddiadau arolwg defnyddwyr y gweithlu sy'n ymwneud â gweinyddu Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (CTRS), Prydau Ysgol Am Ddim (FSM), a'r Grant Hanfodion Ysgol (SEG). 

Cafwyd 138 ymateb i’r arolwg gan bob un o'r 22 ALl, gyda phwyslais cryf ar adborth ansoddol am brofiadau staff a heriau gweithredol. Roedd y gwaith dadansoddi’n cynnwys darllen pob sylw, nodi themâu sy’n ailadrodd, a mapio'r rhain i gael trosolwg cynhwysfawr.

Roedd y cyflwyniad yn trafod wyth thema allweddol o’r deunaw thema, gan gynnwys prinder staffio, anawsterau cael gwybodaeth gan hawlwyr, galw tymhorol uchel, prosesu â llaw, dryswch ar ran cwsmeriaid, prosesu integredig, a phroblemau gyda rhannu data Credyd Cynhwysol (UC).

Eglurwyd mai un rhan o raglen fwy yw’r arolwg, a bod gweithdai mapio prosesau parhaus ac arolwg o gysylltiadau/cwynion yn cael eu cynnal i lywio’r argymhellion terfynol.

Mynegodd aelod eu rhwystredigaeth, gan nodi bod y rhan fwyaf o'r canfyddiadau eisoes yn hysbys ac eithrio manylion am Gredyd Cynhwysol, a holodd pam mae hen broblemau’n parhau a pham nad oedd atebion yn cael eu gweithredu'n gynt. Roedd yr ymateb yn cydnabod y rhwystredigaeth, gan egluro bod yr arolwg yn cynnig gwell dealltwriaeth o’r amrywiadau rhwng Awdurdodau Lleol, a phwysleisiwyd y byddai mapio prosesau yn nodi arferion da a meysydd i'w gwella.

Tynnwyd sylw at rwystrau rheoleiddiol, yn enwedig yr anghysondeb rhwng Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Chredyd Cynhwysol, ac awgrymwyd y gallai awtomeiddio a thalu budd-daliadau addysgol yn awtomatig gynnig gwelliannau tymor byr. Nododd yr ymateb fod rhai Awdurdodau Lleol eisoes wedi moderneiddio a bod gwaith yn cael ei wneud i nodi ac i rannu arferion gorau.

Gofynnwyd cwestiwn pellach ynghylch yr amserlen ar gyfer argymhellion, a phryd y byddai'r Grŵp Llywio yn gweld canlyniadau y gellir eu gweithredu. Roedd yr ateb yn awgrymu bod y gwaith o fapio’r broses yn parhau, gydag adroddiad wedi'i dargedu ar gyfer mis Mawrth, a bod camau yn cael eu cymryd wrth i ganfyddiadau ddod i'r amlwg yn hytrach na disgwyl nes ceir adroddiad terfynol.

Galwodd yr aelodau am ganolbwyntio ar argymhellion yr oedd modd eu gweithredu a dod i ddeall y ffactorau sy’n rhwystro cynnydd. Pwysleisiwyd bod angen i'r gwaith ganolbwyntio ar brofiadau'r unigolyn sy'n hawlio'r tri budd-dal ac ar yrru gwelliannau i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn gallu hawlio’r hyn sy’n ddyledus iddynt yn unol â Siarter Budd-daliadau Cymru. 

Pwynt gweithredu 1: parhau â’r gweithdai mapio prosesau ar draws pob Awdurdod Lleol, gan gydgasglu’r canfyddiadau i un adroddiad cyffredinol gydag argymhellion erbyn diwedd mis Mawrth 2026 (gan nodi y bydd angen i ganfyddiadau drafft lywio adroddiad y Grŵp Llywio a gynigiwyd ar gyfer cyfarfod mis Mawrth). (Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru).

Diweddariad ar Brosiect Braenaru’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS)

Canolbwyntiodd y diweddariad ar y gwaith datblygu a phrofi oedd yn digwydd ar un ffurflen gais symlach ar gyfer Budd-dal Tai (HB), Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (CTRS), Prydau Ysgol Am Ddim (FSM), a'r Grant Hanfodion Ysgol (SEG).

Disgrifiwyd y trawsnewidiad o ddylunio i brofi ymarferol, gan gynnwys sesiynau "gwirio ein syniadau" gyda chwe ALl i ddilysu 28 rhagdybiaeth allweddol am y broses newydd.

Dangosodd dadansoddiad data y byddai'r ffurflen symlach yn cefnogi'r mwyafrif helaeth o hawlwyr, gydag 87% o achosion CTRS yn ymwneud â’r rhai sy’n cael Credyd Cynhwysol neu Gredyd Pensiwn (PC).

Mae profion ar y gweill gydag Awdurdodau Lleol i gymharu'r ffurflen newydd yn erbyn y broses bresennol, gan ddefnyddio achosion go iawn i asesu effeithlonrwydd, cyflawnrwydd gwybodaeth, risg, a dichonoldeb ar gyfer gweithwyr achos.

Mae dichonoldeb technegol yn cael ei wirio trwy adeiladu'r ffurflen o fewn technoleg bresennol yr Awdurdodau Lleol, a mynegodd yr Awdurdodau hynny ddiddordeb mawr mewn defnyddio'r ffurflen ar gyfer defnydd byw.

Mae profion gyda defnyddwyr meintiol yn cael eu cynnal i gymharu amseroedd cwblhau rhwng y prosesau cyfredol a’r rhai newydd, gan ddefnyddio senarios defnyddwyr cyson a data ffug. Bwriedir cynnal profion defnyddioldeb gyda defnyddwyr go iawn unwaith y bydd y ffurflen newydd wedi'i hadeiladu.

Nod y prosiect yw cyflwyno map proses, cynnwys ffurflen wedi'i ddogfennu, a phrototeip wedi'i brofi y gall Awdurdodau Lleol ei fabwysiadu. Bydd argymhellion ar gyfer y camau nesaf, sy'n debygol o gynnwys cyfnod beta, yn cael eu darparu ar ôl i'r profion ddod i ben.   

Gofynnodd aelod i ba raddau y mae'r cynllun peilot braenaru gyda’r Awdurdodau Lleol yn mynd i'r afael â'r problemau a amlinellwyd yn yr arolwg blaenorol o’r gweithlu a defnyddwyr. Roedd yr ateb yn nodi disgwyliad y bydd y ffurflen newydd yn hwyluso pethau i ddefnyddwyr ac yn fwy effeithlon i Awdurdodau Lleol, ond byddai cymhariaeth fanwl â chanfyddiadau'r arolwg gweithlu yn cael ei ddarparu ar ôl adolygiad pellach.

Dywedodd bod y prosiect braenaru yn gwella profiad y defnyddiwr ac mae ganddo'r potensial i gynyddu effeithlonrwydd mewn perthynas â chyflenwi, ond nid yw'n datrys prinder staffio na'r diffyg awtomeiddio mewn rhai Awdurdodau Lleol. Tynnwyd sylw at yr angen i ddeall safbwyntiau Awdurdodau Lleol yn ogystal â therfynau datrysiadau technegol o ystyried cyfyngiadau rheoleiddiol ac adnoddau.

Gofynnodd aelod arall i ba raddau y mae'r broses newydd yn dymchwel rhwystrau rhag awtomeiddio, a pha rwystrau sydd ar ôl. Awgrymodd yr ymateb fod y broses newydd yn cynnig llwybr byrrach tuag at awtomeiddio ar gyfer rhai Awdurdodau Lleol, ond mae angen adborth pellach ganddyn nhw i nodi'r rhwystrau sy'n weddill.

Gofynnwyd cwestiwn pellach a oedd yn ymwneud â’r mater o gynefino technegol a diogelu data ar gyfer Awdurdodau Lleol sy'n mabwysiadu'r ffurflen newydd. Roedd yr ymateb yn cydnabod pwysigrwydd dogfennu’r dyluniad technegol a chynigiodd sgwrs fanylach ar wahân i ddilyn.

Pwysleisiwyd pwysigrwydd cael o leiaf un Awdurdod Lleol i weithredu'r ffurflen gais symlach sengl, gan y byddai enghraifft fyw yn gallu argyhoeddi eraill i fabwysiadu’r ffurflen yn ehangach. 

Pwynt gweithredu 2: cwblhau’r profion defnyddioldeb, amseru a swyddfa gefn sy’n mynd rhagddynt a chyflwyno map proses, cynnwys ffurflen wedi'i ddogfennu, a phrototeip wedi'i brofi, gydag argymhellion ar gyfer cam beta a chyflwyno ymhellach erbyn mis Mawrth 2026. (Y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS))

Pwynt gweithredu 3: dilyniant i fater dogfennu dyluniad technegol a chymorth cynefino ar gyfer ALlau. (Y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) a LlC).

Pwynt gweithredu 4: cydweithio i gynhyrchu crynodeb un dudalen o'r heriau y mae'r broses newydd yn mynd i'r afael â nhw a’r rhai nad yw’n ymdrin â nhw. (CDPS a CLlLC).

Pwynt gweithredu 5: dylai’r gwaith o fapio prosesau nodi pa ALlau all elwa gyflymaf o'r allbynnau a gynhyrchwyd hyd yma. (Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru).

Pwynt gweithredu 6: mynd i'r afael â'r rhwystrau sy’n gysylltiedig â cholli cof sefydliadol pan fo staff medrus yn ymddeol a amlinellir yn Arolwg Gweithlu CLlLC / Tîm SRO i ystyried hyn.

Diweddariad: CLlLC a Grŵp SRO

Soniodd CLlLC am oblygiadau ariannol annog mwy i fanteisio ar fudd-daliadau, yn enwedig o ran Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor.

Adroddwyd bod y llwyth achosion ar gyfer Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor wedi gostwng o tua 310,000 i oddeutu 255,000 dros y degawd diwethaf, gyda gostyngiad o 14% ledled Cymru ond ag amrywiad sylweddol rhwng awdurdodau (o 6% i 24%).

Gwelwyd y gostyngiad mwyaf yn y garfan oedran pensiwn, a hyn yn cael ei briodoli i ffactorau megis pensiwn uwch y wladwriaeth a'r clo triphlyg, er bod dadansoddiad pellach yn parhau.

Mae'r cynllun yn cael £244 miliwn bob blwyddyn gan Lywodraeth Cymru, ond y gost wirioneddol ar gyfer y flwyddyn gyfredol yw £344 miliwn, gan adael diffyg o £100 miliwn i’r Awdurdodau Lleol.

Byddai cynydd o 5% mewn llwyth achosion yn ychwanegu amcangyfrif o £117 miliwn at gostau; byddai cynnydd o 10% yn ychwanegu tua £135 miliwn, gyda'r effaith yn amrywio yn ôl maint yr awdurdod.

Pwysleisiwyd pwysigrwydd deall y rhesymau dros leihau llwyth achosion a'r angen am ddadansoddiad manylach, a gwnaed ymrwymiad i ddarparu adroddiad mwy cynhwysfawr yn y cyfarfod nesaf. 

Pwynt gweithredu 7: darparu adroddiad mwy cynhwysfawr ar oblygiadau ariannol cynyddu’r nifer sy’n hawlio budd-daliadau, yn enwedig ar gyfer Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yn y cyfarfod nesaf (25 Mawrth 2026). (Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru).

Ailadroddodd cadeirydd y Grŵp Uwch-swyddogion Cyfrifol werth gweithdai mapio prosesau wrth nodi aneffeithlonrwydd a chyfleoedd ar gyfer gwella, gan ddweud bod o leiaf un Awdurdod Lleol eisoes yn gweithredu ar yr wybodaeth a ddysgwyd er mwyn integreiddio timau gweinyddu budd-daliadau.

Un o’r cyflawniadau allweddol a grybwyllwyd oedd sefydlu cytundeb rhannu data gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau i ddefnyddio data Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim a’r Grant Hanfodion Ysgol, a fydd yn cael ei arddangos mewn sesiwn dangos a dweud sydd ar y gweill (5 Chwefror). Disgwylir i hyn ddarparu templed Cais Ailddefnyddio Data y gall pob Awdurdod Lleol ei ddefnyddio. 

Pwysleisiwyd pwysigrwydd sicrhau bod dogfennau technegol a rhannu data yn cael eu cynhyrchu a'u gwneud yn hygyrch i Awdurdodau Lleol, er mwyn cefnogi etifeddiaeth allbynnau’r prosiect ac annog eu mabwysiadu.

Adroddiad Diweddaru Llywodraeth Cymru a’r Adroddiad ar y Prif Bwyntiau a'r Gofrestr Risg

Adroddiad ar y Prif Bwyntiau a’r Gofrestr Risg

Rhoddwyd diweddariad am adroddiad ar y prif bwyntiau a'r gofrestr risg. Nodwyd nad oedd y cynnydd ar eitemau unigol wedi bod mor gyflym neu strwythuredig ag y bwriadwyd yn wreiddiol, a hynny oherwydd natur ryng-ddibynnol llawer o dasgau a'r angen i rai camau gweithredu ddigwydd cyn eraill. Mae'r adroddiad ar y prif bwyntiau yn dangos bod llai o eitemau wedi'u cwblhau na'r gobaith, gyda rhai meysydd wedi'u marcio yn ambr neu goch, sy'n adlewyrchu'r elfennau dibynnol a'r heriau hyn. 

Adolygwyd y gofrestr risg, a'r prif risg a nodwyd oedd diffyg mabwysiadu posibl gan Awdurdodau Lleol, naill ai oherwydd cyfyngiadau adnoddau neu rwystrau eraill, a allai danseilio effaith gwaith y prosiect.

Adrodd ar Gam Un

Trafodwyd cynigion ar gyfer paratoi adroddiad terfynol ar gam un prosiect symleiddio budd-daliadau Cymru. Nod yr adroddiad yw dathlu cyflawniadau yn ogystal â chynnwys yr heriau sy'n weddill, ymateb i'r map llwybr, a gadael etifeddiaeth ar gyfer gwaith yn y dyfodol, yn enwedig gyda'r etholiad sydd ar ddod a’r newid o ran Ysgrifennydd y Cabinet.

Cynigwyd strwythur arfaethedig ar gyfer yr adroddiad, yn seiliedig ar brif themâu'r map llwybr, yn hytrach na dadansoddiad manwl o gamau gweithredu unigol, i roi gwell adlewyrchiad o’r cynnydd a’r heriau.

Cytunodd yr Aelodau y byddai'r Tîm Craidd yn drafftio'r adroddiad, gan fanteisio ar arbenigedd aelodau'r Grŵp Llywio yn ôl yr angen, gydag amserlen lem ar gyfer adborth ysgrifenedig a'r nod i bob aelod gyfrannu fel proses gydweithredol. Cytunwyd y dylai’r adroddiad fod yn adroddiad byr a chryno sy'n canolbwyntio ar y prif themâu a’r argymhellion. Bydd atodiad ar wahân yn cynnwys yr allbynnau technegol sylweddol. 

Mae'r amserlen ar gyfer cwblhau'r adroddiad yn fyr (diwedd Chwefror 2026), gyda'r nod o'i gyflwyno cyn diwedd tymor presennol y Senedd. 

Gwnaeth yr Aelodau argymhellion ar fformat yr adroddiad a chytunwyd y dylai wneud y canlynol:

  • Cydnabod ymreolaeth y 22 Awdurdod Lleol a'r angen i ymgysylltu â phob un fel endid ar wahân i osod yr heriau a’r cynnydd mewn cyd-destun. 
  • Mabwysiadu strwythur sy’n cyflwyno’r crynodeb a'r argymhellion yn gyntaf, gyda manylion technegol mewn atodiad ar wahân i sicrhau crynodeb a hygyrchedd i'r gynulleidfa darged. 
  • Tynnu sylw at gyflawniadau, heriau parhaus, ac argymhellion clir ar gyfer gwaith yn y dyfodol, gan dargedu llunwyr polisi a'r llywodraeth newydd.
  • Mynd i'r afael â'r angen am adnoddau parhaus ac ymgysylltu â'r sector i sicrhau mabwysiadu a chynnydd pellach.
  • Cynnwys gwerthuso’r gofrestru awtomatig a'r offeryn LIFT fel rhan o ddull system gyfan gyda chrynodeb byr a syml o'r heriau y mae'r peilot wedi mynd i'r afael â nhw
  • Cynnwys y risg nad yw Awdurdodau Lleol yn ei fabwysiadu
  • Gonestrwydd, gan gydnabod bod y nod o gael pobl i ddarparu gwybodaeth unwaith yn unig ar gyfer sawl budd-daliad ledled Cymru yn annhebygol o gael ei gyflawni'n llwyr erbyn mis Ebrill, ond mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud a sicrhau bod y llywodraeth nesaf yn deall y gwaith sy'n weddill a’u bod yn rhoi blaenoriaeth i'r maes.
  • Adlewyrchu'r realiti, y rhesymau dros fethu â chyflawni’r cwbl, ac i fod yn glir ar gyfer parhad yn y dyfodol ar ôl yr etholiad. 

Cam gweithredu 8: paratoi adroddiad drafft ar gynnydd erbyn diwedd mis Chwefror, gan gynnwys unigolion ag arbenigedd perthnasol yn ôl yr angen, a'i rannu â'r Grŵp Llywio i gael eu mewnbwn a'u cymeradwyaeth trwy weithdrefn ysgrifenedig gydag amserlen dynn ar gyfer ymatebion. (Tîm Craidd)

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Adolygwyd y cofnodion am gywirdeb (22/10/2025) a chytunwyd arnynt.

Unrhyw faterion eraill a’r cyfarfod nesaf

Bydd y cyfarfod nesaf ar 25 Mawrth 2026.