Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Cadeirydd - Phil Coates (Llywodraeth Cymru)
Rebecca Rees (Llywodraeth Cymru)
Lucie Skates (CNC)
Karen Perrow (CNC)
Lindsay Christian (Cyngor Casnewydd)
Alan Groves (LlC - Cynllunio) 
James Stewart (Awdurdod Pysgodfeydd a Chadwraeth Glannau Dyfnaint a Hafren)
Paul Watts (MOD)
Laura Nokes (MOD)
Joe Smithyman (Ystâd y Goron)
Helen Croxson (MCGA)
Nick Salter (MCGA)
Mel Nicholls (MMO)
Judith Oakley (Cyngor Abertawe)
Nathan Slater (Cyngor Bro Morgannwg)
Martin Thomas (Trinity House)
Gavin Ross (Awdurdod O&G)
Chris McMullon (Natural England)
Mark Simmonds (Porthladdoedd Prydain)
Nicola Gandy (Arfordir Sir Benfro)

Cyfarfod

  1. Diweddarwyd y Grŵp ar feysydd gwaith allweddol ers cyfarfod diwethaf yr GPCM ym mis Gorffennaf. Yn y cyfarfod diwethaf gofynnodd y rhai a oedd yn bresennol am ddogfen y gallent ei rhannu â'u hymgeiswyr ynghylch polisïau perthnasol Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru a fyddai'n berthnasol i weithgareddau effaith isel. Cynhyrchwyd ffeithlun yn ymwneud â cheisiadau bach a chynllunio tir ac fe'i rhannwyd â'r grŵp hwn yn ddiweddar. Yn ddiweddar, roedd Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at Awdurdodau Lleol, Parciau Cenedlaethol a Phorthladdoedd Cymru i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Weithredu'r Cynllun, gyda chopi at aelodau perthnasol y Grŵp hwn. Mae hyn yn dilyn y llythyr cychwynnol a oedd yn nodi bod y Cynllun bellach ar waith ac ystyriaeth berthnasol mewn penderfyniadau cynllunio. 
     
  2. Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Grŵp am rai o feysydd blaenoriaeth Llywodraeth Cymru a oedd yn cynnwys ffocws ar bob math o ynni adnewyddadwy morol o ganlyniad uniongyrchol i fentrau i fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Targed cyfreithiol Llywodraeth Cymru bellach oedd allyriadau sero net erbyn 2050. Mae hwn yn faes sy'n symud yn gyflym gyda llawer o ddatblygiadau o fewn Llywodraeth Cymru ac mewn cydweithrediad ag amrywiol adrannau llywodraeth genedlaethol, Ystâd y Goron a diwydiant. Roedd gwaith y tîm Cynllunio Morol yn cynnwys ffocws ar asesu cyfleoedd yn ofodol, rhyngweithio rhwng sectorau, blaenoriaethau'r sector, y dystiolaeth a oedd ar gael ac unrhyw fylchau, roedd hyn yn cynnwys prosiect Rheoli Adnoddau Naturiol Morol yn Gynaliadwy Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop, prosiect ar Ganllawiau Lleoliadol Sector a gwaith ehangach ar Ardaloedd Adnoddau Strategol.
     
  3. Gan fod y Canllawiau Gweithredu wedi bod ar waith ers tua naw mis gofynnwyd am adborth gan y Grŵp ynglŷn â'i gais. Cafwyd trafodaeth ehangach am y defnydd o'r Cynllun Morol gyda'r rhai a oedd yn bresennol yn rhoi enghreifftiau o'r defnydd o'r Cynllun a sut yr oeddent wedi'i ymgorffori mewn arferion gwaith a nodiadau desg. Dywedodd rhai aelodau o'r Grŵp y cyfeiriwyd at CMCC ond wrth symud ymlaen drwy gais, cafodd CMCC ei anghofio yn gynnar yn y broses. Tynnwyd sylw at y ffaith pe bai angen cyngor ynghylch dehongli ymholiad cynllunio ar y CMCC nad oedd yn glir at bwy i gysylltu ynghylch hyn. Dywedodd y tîm Cynllunio Morol eu bod yn hapus i ateb ymholiadau ar unrhyw adeg drwy'r blwch post.
     
  4. CNC wedi bod yn diweddaru eu ffurflenni cais Am Drwydded Forol i ofyn yn benodol am y CMCC ac roedd rhagor o wybodaeth yn cael ei hychwanegu at y tudalennau gwe am y Cynllun Morol gan gynnwys cymesuredd.
     
  5. Ar gyfer unrhyw aelodau o'r grŵp a oedd yn ystyried cynlluniau morol ar draws ffiniau, gofynnodd y tîm Cynllunio Morol am adborth. Byddai'n ddefnyddiol gweld pethau mewn Cynlluniau Morol eraill y gallai Llywodraeth Cymru eu cyflwyno mewn ffordd wahanol.
     
  6. Cafwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith i Fonitro ac Adrodd ar effeithiolrwydd y CMCC. Ers y cyfarfod diwethaf ym mis Gorffennaf roedd y Gweinidog wedi cymeradwyo'r Arolwg Defnyddwyr cyntaf a oedd ar agor o fis Rhagfyr ac a gaeodd yr wythnos diwethaf. Y bwriad oedd cynnwys dau Arolwg Defnyddwyr arall yn y dyfodol. Cafwyd 28 o ymatebion i'r arolwg a rhoddwyd adolygiad o'r ymatebion i'r Grŵp. Wrth edrych i'r dyfodol, roedd gwaith ar y gweill i gasglu gwybodaeth ar gyfer y dangosyddion Monitro a hefyd i barhau i ddatblygu dangosyddion ar gyfer polisïau / amcanion sy'n ymwneud ag Asedau Hanesyddol, Cydnerthedd Arfordirol a Thwristiaeth a Hamdden.

Manylion cyswllt