Neidio i'r prif gynnwy

Mae Parc Technoleg Modurol newydd Llywodraeth Cymru gwerth £100miliwn ym Mlaenau Gwent wedi symud gam yn nes heddiw wedi cyfarfod i ddatblygu'r cynlluniau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bu Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, yn cadeirio cyfarfod gyda TVR, Ford, General Dynamics ac IQE yn ogystal â chynrychiolwyr Ardal Fenter Glyn Ebwy, Cyngor Blaenau Gwent a Phrifysgol Caerydd, er mwyn datblygu cynnig mwy manwl ar gyfer Parc Technoleg Modurol yng Nglyn Ebwy. 


Fis diwethaf, cyhoeddodd Ysgrifennydd yr Economi y byddai Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £100 miliwn dros ddeng mlynedd mewn Parc Technoleg Modurol ym Mlaenau Gwent, gyda'r posibilrwydd o greu hyd at 1500 o swyddi llawnamser o fewn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.  


Roedd cyfarfod heddiw yn canolbwyntio ar gyfleoedd a allai greu nifer fwyaf o swyddi newydd a’r buddsoddiad economaidd mwyaf yn yr ardal. 


Ar ôl y cyfarfod,  dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi: 


“Mae gan ein cynlluniau i fuddsoddi £100miliwn mewn Parc Technoleg Modurol ym Mlaenau Gwent y posibilrwydd o drawsnewid yr economi leol a chreu hyd at 1500 o swyddi, ac rwy'n awyddus i fynd ymlaen â hyn cyn gynted â phosib.  


"Roedd cyfarfod heddiw yn gyfle delfrydol i ddod ag unigolion amlwg o fyd diwydiant, llywodraeth leol, y byd academaidd a'r Ardal Fenter leol at ei gilydd i  gytuno ar y ffordd ymlaen a gosod targedau a cherrig milltir fydd yn helpu i ddatblygu'r prosiect pwysig hwn.    

“Roedd yn gyfarfod cynhyrchiol iawn oedd yn cadarnhau ei nod o lunio a darparu prosiect allai adfywio'r economi leol.  

“Os bydd y prosiect yn llwyddiannus gall nid yn unig creu swyddi o safon uchel ond hefyd chwarae rhan  yn llunio dyfodol ein diwydiant modurol yma yng Nghymru." 

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi achos busnes llawn ar gyfer y Parc Technoleg Modurol yn ddiweddarach eleni.   Bydd hyn yn tynnu ar y cyngor arbenigol sydd eisoes wedi'i gael gan arbenigwyr o fewn a thu allan i Lywodraeth Cymru a bydd yn adlewyrchu barn y rhai a oedd yn bresennol heddiw ac o waith arall o gysylltu gyda prif bartneriaid.