Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol (drwy Teams)

  • Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS
  • Mick Antoniw AS (Cadeirydd)
  • Jane Hutt AS

Swyddogion Llywodraeth Cymru

  • Des Clifford, Director General, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Piers Bisson, Cyfarwyddwr y Trefniadau Pontio Ewropeaidd a Materion Cyfansoddiadol
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Cabinet
  • James Gerard, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyfiawnder a Materion Cyfansoddiadol
  • Karin Phillips, Dirprwy Gyfarwyddwr Diogelwch Cymunedol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Mitchell Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Diane Dunning, Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Andrew Felton, Pennaeth Rhanddeiliaid Cyfiawnder
  • Bethan Phillips, Polisi Cyfiawnder
  • Merisha Hunt, Polisi Cyfiawnder
  • Elizabeth Price, Polisi Cyfiawnder
  • Zuzka Hilton, Polisi Cyfiawnder

Eitem 1: Cyfrif diwedd blwyddyn ar gyfer y Rhaglen Trawsnewid Cyfiawnder

Rhan 1: Diweddariad ar y rhaglen waith

1.1 Cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol yr eitem a oedd yn rhoi diweddariad ar ddatblygiadau’r rhaglen o weithgarwch sy’n cael ei chwblhau yn unol â’r setliad datganoli presennol.

1.2 Nododd yr Is-bwyllgor gyhoeddiad adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar 9 Rhagfyr ynglŷn â thribiwnlysoedd datganoledig Cymru. Croesawyd y cydweithrediad cadarnhaol yn drawsbleidiol a chan randdeiliaid eraill gydag argymhellion yr adroddiad.

1.3 Gyda chefnogaeth ychwanegol o gyllid cyfalaf gwerth £400,000 gan Lywodraeth Cymru, nodwyd bod cynnydd da wedi’i wneud o ran sicrhau safleoedd rhoi tystiolaeth o bell er mwyn galluogi i ddioddefwyr cam-drin domestig i gymryd rhan yn y Llysoedd Ynadon. Rhannwyd bod gwaith yn parhau er mwyn ystyried a ellir ymestyn hyn i achosion llysoedd eraill.

1.4 Disgwylir am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r posibilrwydd o weithredu ar gynllun treialu llys troseddol sy’n datrys problemau yng Nghymru.

1.5 Adroddwyd bod ail gyfarfod y Cyngor Cyfraith wedi bod yn gadarnhaol yn gyffredinol, gyda chynnydd sylweddol yn cael ei wneud o ran trafodaethau ar nifer o faterion.

1.6 Adroddodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar gyfarfod diweddar gyda Victoria Atkins, Aelod o Senedd y DU a’r Gweinidog Carchardai a’r Gwasanaeth Prawf.

Dadgyfuno data cyfiawnder

1.7 Nodwyd bod gwaith ar ddadgyfuno data cyfiawnder yn mynd rhagddo gan swyddogion gyda dau o anghenion data trosfwaol wedi’u canfod. Y cyntaf oedd y data y mae adrannau polisi Llywodraeth Cymru eu hangen er mwyn cynllunio a chyflawni gwasanaethau, yn ogystal â datblygu polisïau o dan y trefniadau datganoli sy’n bodoli eisoes. Yr ail oedd y data sydd eu hangen er mwyn deall y system yn well, a galluogi i aelodau'r cyhoedd yng Nghymru, y Senedd, academyddion a chymdeithasau sifil i ddeall a phrofi’r achosion ar gyfer datganoli, neu ddiwygiadau cyfiawnder eraill.

1.8 Er mwyn cadarnhau’r union ofynion, roedd swyddogion yn cynnal ymarfer mapio a oedd yn cynnwys y ddau faes uchod, gan fod yn glir hefyd ynghylch y gwahaniaethau rhyngddynt.

1.9 Roedd y camau nesaf yn cynnwys cadarnhau llinell amser gyraeddadwy ar gyfer cyflawni’r ffrwd waith gynhwysfawr hon.

Meithrin cysylltiadau gyda Llywodraeth y DU

1.10 Cafwyd cyfarfod cynhyrchiol yn ddiweddar gyda’r Arglwydd Wolfson, yr Is-ysgrifennydd Seneddol dros Gyfiawnder. Cytunwyd ar gynnal trafodaethau pellach rhwng swyddogion er mwyn cytuno ar sut y gellid symud argymhellion y Comisiwn Thomas yn eu blaen.

Rhan 2: Materion Byw Eraill

1.11 Cyfeiriodd y Cwnsler Cyffredinol at yr ail adran o’r papur diweddaru a oedd yn cynnwys rhagor o fanylion ynglŷn â’r agenda gyfiawnder.

1.12 Un o’r pwyntiau allweddol a nodwyd oedd colli’r gynrychiolaeth o Gymru yn y Goruchaf Lys wedi ymddeoliad gorfodol yr Arglwydd Lloyd Jones. Roedd newid statudol wedi’i argymell gan y Comisiwn Thomas er mwyn sicrhau bod cynrychiolaeth o Gymru yn cael ei gynnal.

1.13 Roedd meysydd nodedig eraill yn cynnwys gweithio ar ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar y Ddeddf Hawliau Dynol. Nodwyd bod cyfraniad sylweddol wedi’i weld gan gymdeithasau dinesig yng Nghymru.

1.14 O safbwynt Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd, adroddwyd ei fod yn debygol y byddai angen rhagor o Gynigion Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol. Mae hyn gan fod ceisiadau am newidiadau pellach yn cael eu gwneud ynghylch gwersylloedd diawdurdod, yn ogystal â chyfyngu ar yr hawl i brotestio.

1.15 Meysydd gwaith nodedig eraill oedd yr heriau a fyddai’n codi yn sgil strategaethau Llywodraeth y DU ar Gyffuriau a Charchardai. Nodwyd bod ystyriaeth yn cael ei roi o ran ymateb i’r strategaethau hynny er mwyn sicrhau bod persbectif o safbwynt Cymru yn cael ei gynnwys yn y strategaethau terfynol.

1.16 Gan ddiolch i swyddogion am y papur diweddaru, cytunodd yr Is-bwyllgor y byddai’n ddefnyddiol ystyried y papur yn rheolaidd, ac i’r Cabinet ei ystyried pan ddaw y cyfle nesaf ar gael.

Eitem 2: Cyhoeddi Cynllun Cyfiawnder

2.1 Cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol y cyhoeddiad drafft a oedd yn adrodd ar y datblygiadau hyd yma o ran gwella canlyniadau’r system gyfiawnder. Roedd y cyhoeddiad yn cynnwys manylion ynghylch ehangder y gwaith sy’n cael ei gwblhau yn ogystal â dangos y cyfeiriad at waith y dyfodol.

2.2 Diolchodd yr Is-bwyllgor i’r swyddogion am eu gwaith hyd yma ar y drafft cynhwysfawr a oedd yn cynnwys ystod sylweddol o gamau gweithredu.

Eitem 3: Lleihau Aildroseddu

3.1 Gwahoddodd y Cwnsler Cyffredinol y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’i swyddogion i gyflwyno’r eitem.

3.2 Adroddwyd bod y dull cryf o weithio mewn partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu wedi bod yn allweddol i ddatblygiad a gweithrediad y Glasbrintiau cyfiawnder.

3.3 Roedd y cysylltiadau hyn wedi’u cryfhau ymhellach yn ystod y pandemig gan fod cydweithio agos â phartneriaid cyfiawnder a darparwyr gwasanaethau allweddol yng Nghymru wedi parhau.

3.4 Awgrymwyd bod datblygu’r ffrwd waith hon mewn partneriaeth â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf ei Mawrhydi yn allweddol, gan sicrhau bod y gwaith yn cynnig gwerth iddynt ac yn cydgrynhoi’r partneriaethau cryf sydd wedi’u sefydlu. Nodwyd hefyd bod angen ystyried a datblygu ar y dysgu o waith sy’n bodoli eisoes megis y Glasbrintiau ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid a Throseddwyr Benywaidd.

3.5 Roedd hyn yn gyfle i ddatblygu ar ddealltwriaeth sy’n bodoli eisoes a gwella canlyniadau ymhellach ar gyfer pobl Cymru. Cydweithio â phartneriaid arbenigol o fewn y system gyfiawnder oedd y modd gorau i gyflawni’r agenda hon.

3.6 Croesawodd yr Is-bwyllgor y dull o weithio ynghlwm â’r ffrwd waith hon.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Chwefror 2022