Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol (drwy Teams)

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS
  • Mick Antoniw AS (Cadeirydd)
  • Jane Hutt AS

Swyddogion Llywodraeth Cymru

  • Des Clifford, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Piers Bisson, Cyfarwyddwr y Trefniadau Pontio Ewropeaidd a Materion Cyfansoddiadol
  • Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran y Cabinet
  • James Gerard, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyfiawnder a Materion Cyfansoddiadol
  • Karin Phillips, Dirprwy Gyfarwyddwr Diogelwch Cymunedol
  • Ruth Meadows, Dirprwy Gyfarwyddwr – Cymunedau
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Mitchell Theaker, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Huw Llewellyn Davies (Is-adran y Cabinet)
  • Adam Turbervill, Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Paul Webb, Yr Is-adran Gymunedau
  • Andrew Felton, Pennaeth Rhanddeiliaid Cyfiawnder
  • Bethan Phillips, Polisi Cyfiawnder
  • Merisha Hunt, Uwch-reolwr Polisi Cyfiawnder

Comisiynwyr Heddlu a Throseddu - Cymru

  • Dafydd Llywelyn (Comisiynydd Heddlu a Throseddu - Dyfed-Powys)
  • Alun Michael (Comisiynydd Heddlu a Throseddu – De Cymru)
  • Andy Dunbobbin (Comisiynydd Heddlu a Throseddu – Gogledd Cymru)
  • Wayne Jones (Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu – Gogledd Cymru)
  • Jeff Cuthbert (Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent)

Eitem 1: Cyfrif diwedd blwyddyn ar gyfer y Rhaglen Trawsnewid Cyfiawnder

Gweithredu o dan y setliad presennol

1.1 Cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol yr eitem, a oedd yn rhoi diweddariad am hynt y rhaglen o weithgarwch o dan y setliad datganoli presennol.

1.2 Cafodd Cyngor Cyfraith Cymru ei sefydlu’n ffurfiol yn gynharach yn y mis, ac roedd hyn yn garreg filltir gadarnhaol. Roedd y peilot ar gyfer Llys Teulu Cyffuriau ac Alcohol bellach yn weithredol.

1.3 Nodwyd y byddai Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd yn cynnwys diwygiadau pellach, gan gynnwys rhoi cam-drin domestig a thrais rhywiol o fewn cwmpas y diffiniad o drais difrifol. Byddai dadl ar Gynigion Cydsyniad Deddfwriaethol yn cael ei chynnal yn y Senedd ddechrau mis Ionawr.

Sgyrsiau gyda Llywodraeth y DU

1.4 Adroddwyd bod y broses yn mynd rhagddi ar gyfer dechrau sgyrsiau ynghylch argymhellion Comisiwn Thomas gyda Llywodraeth y DU, a oedd wedi cael ei had-drefnu’n ddiweddar. Roedd yr Arglwydd Ganghellor wedi awgrymu cynnal cyfarfod cychwynnol rhwng y Cwnsler Cyffredinol a’r Arglwydd Wolfson yn y lle cyntaf, a byddai hwnnw’n digwydd ar 13 Rhagfyr.

1.5 Byddai Llywodraeth Cymru yn manteisio ar y cyfle i roi amlinelliad o’i safbwynt i’r Arglwydd Wolfson, er ei bod yn debygol y byddai’n bwysig cynnal cyfarfod â’r Arglwydd Ganghellor maes o law.

Adeiladu consensws ar gyfer datganoli cyfiawnder

1.6 Nodwyd bod y papur yn amlinellu datblygiadau o ran adeiladu consensws ar gyfer datganoli’r meysydd hynny lle’r oedd yr achos o blaid datganoli cyfiawnder ar ei gryfaf, fel y cytunwyd yn flaenorol gan yr Is-bwyllgor.

1.7 Roedd yn bwysig sicrhau cynnydd ym mhob un o’r meysydd, ac roedd yn bwysig hefyd sicrhau bod cydnawsedd o ran i ba raddau y dylai gwaith yn y meysydd hyn ganolbwyntio ar fodelau datganoledig ar gyfer gwasanaethau, neu a ddylid canolbwyntio ar newidiadau a oedd yn bosibl o dan y setliad datganoli presennol.

Cyhoeddi Cynllun Cyfiawnder

1.8 Nodwyd bod y camau nesaf yn cynnwys dogfen, a fyddai’n cael ei chyhoeddi yn y gwanwyn, a oedd yn amlinellu’r gweithgarwch presennol sy’n gysylltiedig â chyfiawnder, neu’r gweithgarwch y bwriedir ei gyflawni, ar draws Llywodraeth Cymru. Byddai datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol i’r Senedd yn dilyn, a byddai trafodaeth bellach ar hyn yn cael ei threfnu ar gyfer y cyfarfod nesaf yn y flwyddyn newydd.

Eitem 2: Trafodaeth gyda’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu

2.1 Croesawodd y Cwnsler Cyffredinol y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu i’w cyfarfod cyntaf o Is-bwyllgor y Cabinet ar Gyfiawnder, gan ddiolch iddynt am y cysylltiadau gweithio agos a oedd wedi datblygu rhwng partneriaid drwy gydol y pandemig.

2.2 Gwahoddodd y Cwnsler Cyffredinol Gadeirydd y grŵp Plismona yng Nghymru, Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu,  i roi’r sylwadau cychwynnol.

2.3 Dywedwyd bod yr ymgysylltu rheolaidd gyda swyddogion Llywodraeth Cymru yn ddefnyddiol iawn yng nghyd-destun y pandemig, ac yn y pen draw ar gyfer diwygio’r agenda cyfiawnder, gan y byddai’r cysylltiadau agos hynny’n hanfodol er mwyn symud yr agenda yn ei blaen.

2.4 Cydnabuwyd effeithiolrwydd Comisiynwyr wrth weithio ar draws ffiniau gwleidyddol mewn model cydweithredol, ac roedd bwriad i adeiladu ar hynny drwy’r cytundeb cydweithio.

2.5 Cytunodd y Comisiynwyr y byddai’n bwysig parhau i weithio ar sut y dylai cyfiawnder a phlismona datganoledig weithio’n ymarferol a sut y gallent sicrhau hynny. Roedd y Comisiynwyr yn fodlon bod yn rhan o’r gwaith hwn, ochr yn ochr â gweithio i wella perfformiad y system cyfiawnder troseddol o dan y setliad presennol.

2.6 Diolchodd y Cwnsler Cyffredinol i’r Comisiynwyr am eu presenoldeb gan eu gwahodd i aros ar gyfer yr eitem nesaf.

Eitem 3: Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) – Cyflwyniad gan swyddogion

3.1 Croesawodd y Cwnsler Cyffredinol y Dirprwy Gyfarwyddwr Cymunedau gan ofyn iddi roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa o ran VAWDASV.

3.2 Dywedwyd bod Llywodraeth Cymru wedi dewis dilyn dull gweithredu’r glasbrint ar gyfer creu strwythur cyflawni a chynllun gweithredu, yr oedd sefydliadau datganoledig, a sefydliadau nad oeddent yn rhai datganoledig, yn cyd-berchen arnynt, er mwyn hyrwyddo atebolrwydd yn ogystal â chymorth a herio gan gymheiriaid.

3.3 Byddai’r model hwn yn cael ei weithredu’n bennaf drwy strwythur llywodraethu cadarn, a byddai Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol newydd a arweinir gan Weinidogion, ac a oedd yn cael ei gyd-gadeirio, yn ben ar y strwythur hwnnw. Byddai’r bwrdd yn goruchwylio gwaith y byrddau rhanbarthol, a hefyd yr is-grwpiau a fyddai’n cael eu creu i fwrw ymlaen â chamau gweithredu allweddol.

3.4 Ar hyn o bryd, roedd y strategaeth ddrafft bresennol yn adlewyrchu ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu, a’r awgrym oedd y dylai’r is-grwpiau gynnwys y canlynol: cam-drin ac aflonyddu yn y stryd, cam-drin ac aflonyddu yn y gweithle, mynd i’r afael â chyflawnwyr ymddygiadau a throseddau o’r fath, comisiynu mewn modd cynaliadwy, ac ymgysylltu â defnyddwyr.

3.5 Byddai aelodaeth y bwrdd yn adlewyrchu’r cyrff hynny yr oedd dyletswyddau allweddol arnynt i fynd i’r afael â VAWDASV, a byddai’n cynnwys adrannau ar draws Llywodraeth Cymru, yr Heddlu, Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi, a CLlLC. Byddai lleisiau cynghorol o’r sector arbenigol yn cael eu cynnwys, a byddai sylw penodol i’r rheini sydd wedi cael profiad o VAWDASV yn eu bywydau eu hunain, er mwyn sicrhau bod lleisiau goroeswyr yn cael eu clywed ar y lefel uchaf.

3.6 Byddai’r gwaith â ffocws cryf ar y bygythiad i fenywod, gan fod y mwyafrif llethol o ddioddefwyr cam-drin domestig yn fenywod. Hefyd, byddai’r gwaith yn canolbwyntio ar weithredoedd y cyflawnwyr yn hytrach na gweithredoedd y dioddefwyr.

3.7 Gwahoddodd y Cwnsler Cyffredinol y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu i roi eu sylwadau, a’r farn gyffredinol oedd bod y cyllid a ddarperir gan y Comisiynwyr ar gyfer rhaglenni megis prosiect Drive i fynd i’r afael â’r troseddwyr mwyaf difrifol, a’r rhaglen IRIS i sicrhau bod mwy o drais yn erbyn menywod yn cael ei adrodd wrth yr heddlu, yn allweddol. Roedd y rhaglen Strydoedd Saffach (Safer Streets) yn enghraifft arall o gydweithredu effeithiol.

3.8 Roedd y gwaith wedi cael ei gyd-gomisiynu gan y Comisiynwyr, a chydnabuwyd y rôl hanfodol a oedd yn cael ei chwarae drwy fod addysg, tai ac iechyd i gyd yn dod at ei gilydd i sicrhau gwell ganlyniadau i ddioddefwyr.

3.9 Codwyd yr angen i roi sylw i faterion sy’n ymwneud â cham-drin o fewn ardaloedd unigol yr heddlu, a chydnabuwyd bod ymddygiadau annymunol wedi digwydd, ond yr ymdriniwyd â’r rhain yn gyflym ac roedd dull gweithredu dim goddefgarwch ar waith yn y gwasanaeth.

3.10 Cytunodd y Pwyllgor fod Cymru yn flaenllaw yn y gwaith o sicrhau bod gwasanaethau’n ymgysylltu â’i gilydd, ac â’r  rheini sy’n dioddef ac yn goroesi’r mathau hyn o gam-drin cwbl annerbyniol, a chytunwyd i barhau i weithio mewn partneriaeth i sicrhau gwelliannau yn y maes hwn.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Rhagfyr 2021