Neidio i'r prif gynnwy

Mynychwyr

Eluned Jones (Cadeirydd), John Hamer, Hishiv Shah a Sarah Bound (Llywodraeth Cymru), Adrian Judd a Charlotte Brill (Canolfan Gwyddorau'r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu), Helen Bloomfield, Karen Perrow, Lucie Skates a Lee Murray (Cyfoeth Naturiol Cymru), Dr Julian Wainwright (CBHC), Thomas Fey ac Emma Thorpe (Y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur), Tristan Bromley & Emma Harrison (Ystad y Goron), Emily Williams (RSPB), Kam Tang (Prifysgol Abertawe), John Wrottesley (ESCA), Mark Simmonds (Porthladdoedd Prydain), Chloe Wenman (MCS), Helen Croxson (Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau), Jennifer Goodwin (SUDG), Jetske Germing (PCF), Mark Russell (BMAPA), Noemi Donigiewicz (Seafish).

Ymddiheuriadau

Jim Evans (Cymdeithas Pysgotwyr Cymru)

1. Croesawu a Chyflwyno

Croesawodd Eluned yr aelodau.

2. Diben y cyfarfod

Rhoi cyfle i sectorau ddweud beth y maen nhw'n credu y byddai'n ddefnyddiol i'r maes cynlluniomorol ganolbwyntio arno, o ran cefnogi gwaith cynllunio a rheoli eu sectorau penodol yn y dyfodol. Mae hefyd yn gyfle i aelodau arddangos eu sector a/neu unrhyw fentrau penodol gan sectorau.

Cyflwynodd Eluned:

Papur 1 – Cynllunio Morol: Mapio ar gyfer Datblygu Cynaliadwy

Mae'r papur yn cyfeirio'r aelodau at Ddatganiad Ysgrifenedig Gweinidogol  a gyhoeddwyd ar 1 Mawrth 2023 ar ddatblygu cynllunio morol yn dilyn yr adolygiad tair blynedd o Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru. Mae'r Datganiad Ysgrifenedig yn myfyrio ar dair blynedd gyntaf gweithrediad Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru a'r wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau ar gyfer datblygu cynllunio morol a pharhau i weithredu’r Cynllun Morol. Mae'r rhain yn cynnwys datblygu dealltwriaeth ac adnoddau cynllunio i alluogi dull cynyddol ofodol a rhagnodol o gynllunio morol, gan daro cydbwysedd rhwng diogelu'r amgylchedd morol a chefnogi cymunedau arfordirol a diwydiannau morol sy'n ffynnu. Nod Llywodraeth Cymru yw gweithio gydag aelodau'r Grŵp i archwilio’r gwaith hwn yn fanylach.

3. Cyflwyniadau gan aelodau'r Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Cynllunio Morol ar ystyriaethau ar gyfer datblygu cynllunio morol.

Cyflwynodd aelodau'r grŵp drosolwg o'u sector/sefydliad, gan gynnwys cefndir, trosolwg o weithgarwch cyfredol, blaenoriaethau, a gweledigaethau ac anghenion y dyfodol. Ymhlith y themâu cyffredin a ddaeth i'r amlwg o gyflwyniadau'r aelodau roedd:

  • diogelu ar gyfer y dyfodol; edrych ar y tymor hir gan ddefnyddio dull cyfannol traws-sector;
  • diogelu gweithgarwch ac adnoddau presennol i'w defnyddio yn y dyfodol;
  • y sicrwydd sydd ei angen ar ddiwydiannau ar gyfer cynllunio a buddsoddi cyfalaf;
  • weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid;
  • cydnabod yr hyn sy'n gweithio eisoes ac adeiladu arno, ac ymyrryd pan fo gwir angen gwneud hynny.
  1. Amlinellodd Jennifer Godwin, sy'n cynrychioli Grŵp Defnyddwyr a Datblygwyr Gwely'r Môr (SUDG), ysgogiadau polisi'r grŵp, sef: sero net, diogelwch cenedlaethol, colli bioamrywiaeth a lefelu i fyny – gan gydnabod y rôl (a chyfle) y mae diwydiannau morol yn ei chwarae yn economi Cymru.

Awgrymodd Jennifer na all meysydd polisi cynllunio morol gael eu hystyried ar wahân na'u darparu yn y dyfodol gan un sector yn unig. Mae'n bwysig cael gweledigaeth gyfannol a hirdymor yn sail i gynllunio. Mae SUDG yn gweld gwerth mewn cael cysondeb o ran blaenoriaethu a chynllunio gofodol ledled y DU, sy'n cael ei ategu gan sail dystiolaeth gyffredin. Tynnodd Jennifer sylw at yr angen am hyblygrwydd (i ddiwallu anghenion newidiol / sectorau sy'n dod i'r amlwg), cysondeb ar draws ffiniau daearyddol a gweinyddol, cydweithrediad a dealltwriaeth ryngwladol a mynd i'r afael ag effeithiau cronnol.

Nododd Jennifer hefyd y gallai diwydiant adeiladu ar arferion da a thystiolaeth bresennol a mynd i'r afael â bylchau mewn data. Roedd hi'n cydnabod pwysigrwydd deialog agored a phragmatig rhwng holl ddefnyddwyr y gofod morol.

  1. Rhoddodd Mark Russell, sy'n cynrychioli Cymdeithas Cynhyrchwyr Agregau Morol Prydain (BMAPA), rywfaint o gefndir i'r diwydiant ac amlinellodd sut y mae gofod gweithredu diwydiant a galw'r farchnad yn newid dros amser. Nododd y bydd diwydiannau newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg, sy'n gysylltiedig â datgarboneiddio a sero net, yn gofyn am seilwaith sylweddol (ac felly deunyddiau adeiladu). 

    Pwysleisiodd Mark bwysigrwydd edrych ar y tymor hir (mynd y tu hwnt i gyfnod presennol y cynllun WNMP) a'r angen am sicrwydd ar gyfer cynllunio diwydiant a buddsoddiad cyfalaf tymor hir. Tynnodd sylw hefyd at bwysigrwydd diogelu ar gyfer y diwydiant agregau, gan gynnwys ardaloedd trwyddedig presennol, rhagolygon yn y dyfodol a meysydd o botensial ar gyfer adnoddau strategol, a nododd fod hyn yn rôl allweddol ar gyfer cynllunio morol.
  1. Tynnodd John Wrottesley, sy'n cynrychioli’r Gymdeithas Ceblau Tanfor Ewropeaidd (ESCA), sylw at arwyddocâd ceblau tanfor a'u rôl hanfodol mewn cymdeithas. Cyflwynodd John drosolwg o KIS-ORCA, sy'n dangos llwybrau cebl a safleoedd tirlenwi presennol. Tynnodd sylw hefyd at allu a llwyddiant ydiwydiant wrth gynnal rhwydwaith ceblau gwydn, amrywiol, diogel a chadarn.

Pwysleisiodd John bwysigrwydd edrych ar y tymor hir. Nododd, yn wahanol i ddefnyddiau neu Ardaloedd Morol Gwarchodedig eraill, fod angen i geblau gael llwybr llinellol o un lle i'r llall, yn aml yn croesi ffiniau a sawl awdurdodaeth. Nododd hefyd fod datblygiad ar y môr yn ehangu'n gyflym a nododd bwysigrwydd deall natur ryng-gysylltiedig pob diwydiant sy'n darparu gwasanaethau ar gyfer gwynt ar y môr, heb ystyried sectorau unigol ar wahân. Pwysleisiodd John hefyd bwysigrwydd adeiladu ar arferion da sy'n bodoli eisoes, yn hytrach na dyblygu meysydd lle mae diwydiant eisoes yn cydweithio'n dda.

  1. Amlinellodd Mark Simmonds, sy'n cynrychioli Cymdeithas Porthladdoedd Prydain (BPA), fod cynllunio a chydsynio yn allweddol ar gyfer y gystadleuaeth rhwng porthladdoedd. Mae porthladdoedd yn rhyngweithio â chynllunio tir a chynllunio morol. Mae angen eu cydnabod mewn gwaith cynllunio morol fel gwaith hanfodol yn eu rhinwedd eu hunain a hefyd fel sylfaen ar gyfer amrywiaeth o ddiwydiannau morol eraill. Mae gan awdurdodau harbwr rôl gydsynio yn ogystal â bod yn ddefnyddwyr y system cynllunio morol. Rhagwelir y bydd angen mwy o gapasiti ar borthladdoedd yn y dyfodol i wasanaethu sectorau sy'n tyfu, fel ynni ar y môr.

Ffocws allweddol i'r rhan fwyaf o borthladdoedd yng Nghymru yw sicrhau bod seilwaith ar waith i wasanaethu gwynt ar y môr; mae hyn yn gofyn am gynllunio, cydsynio ac o bosibl cymorth ariannol.

  1. Cyflwynodd Tristan Bromley, sy'n cynrychioli Ystad y Goron (TCE), eu dull 'Gwely Cyfan y Môr' a'u gallu modelu gofodol. Mae'r dull hwn yn canolbwyntio ar gymryd golwg hirdymor ar adnoddau gwely'r môr a'r gofynion arnynt hyd at 2050, gyda ffocws deublyg ar adfer natur yn ogystal â diwydiannau morol. Nod y dull hwn yw ategu a chefnogi cynllunio morol yng Nghymru drwy:
  • greu cyd-ddealltwriaeth o heriau traws-sector a thrawsffiniol;
  • dod â thystiolaeth draws-sector a thraws-ffiniol at ei gilydd i fod yn sail i wneud penderfyniadau;
  • gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid i fynd i'r afael â meysydd polisi allweddol.

Nododd Tristan mai blaenoriaethau morol Ystad y Goron yw sicrhau'r gwerth eang gorau posibl o wely'r môr, helpu i gataleiddio Sero Net a darparu amgylchedd ffyniannus.

  1. Amlinellodd Jetske Germing, sy'n cynrychioli Fforwm Arfordir Sir Benfro (PCF), eu gweledigaeth a'u cenhadaeth i ysbrydoli, cydweithredu a darparu atebion ar gyfer cymunedau arfordirol cynaliadwy. Mae'r Fforwm yn gweithio ym maes ynni adnewyddadwy morol, ymgysylltu â newid hinsawdd, addysg a sgiliau, talu am wasanaeth ecosystemau / ansawdd dŵr, iechyd awyr agored, cefnogaeth rhanddeiliaid a hamdden gyfrifol. Rhoddodd Jetske drosolwg o'r mentrau cyfredol a nododd y byddai'r Fforwm yn croesawu cyfranogiad gan aelodau'r Grŵp a chydweithio â nhw. Pwysleisiodd bwysigrwydd cynllunio morol yn seiliedig ar weledigaeth glir, gan ddarparu eglurder a mabwysiadu dull gweithredu cyson, cynllunio'n gyfannol ar draws sectorau a ffiniau gweinyddol/daearyddol, gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid a bod yn seiliedig ar dystiolaeth.
  1. Cyflwynodd Helen Bloomfield o CNC ddiweddariad ar y gwaith mapio cyfleoedd adfer ecosystemau. Diben y mapio yw:  
  • helpu i gyfleu safbwynt CNC ar ble a beth yw'r cyfleoedd mwyaf arwyddocaol i wella gwytnwch ecosystemau morol Cymru a lle mae angen tystiolaeth bellach i fod yn sail i wella ecosystemau;
  • ymgysylltu â phartneriaid i gytuno, dylanwadu a chydweithio i ddarparu gweithgareddau adfer a gwella a datblygu mecanweithiau cyllido.

Rhannodd Helen yr allbwn mapio cychwynnol, sy'n canolbwyntio ar safleoedd lle mae’n hysbys bod un neu fwy nodwedd mewn cyflwr anffafriol, yn seiliedig ar Asesiadau cyflwr dangosol nodweddion ar gyfer Safleoedd Morol Ewropeaidd, a gynhaliwyd gan CNC yn 2018. Bydd y mapio yn bwydo i mewn i argymhelliad y Rhwydweithiau Natur o'r Archwiliad Dwfn Bioamrywiaeth.

4. Cwestiynau a thrafodaeth

Cytunodd yr Aelodau fod datblygiad Ardaloedd Adnoddau Strategol yn gam cadarnhaol ymlaen. Roeddent hefyd yn teimlo bod Datganiadau Technegol Cynllunio Morol Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n arbennig o dda.

Mae'r Aelodau'n awyddus i glywed gan safbwynt pysgodfeydd mewn cyfarfod yn y dyfodol. Cynigiodd Ystad y Goron gyflwyno diweddariad ar eu rhaglen 'Gwely Cyfan y Môr' mewn cyfarfod yn y dyfodol.

Rhannodd aelodau ddolenni at:

Climate change hotspots and implications for the global subsea telecommunications network - ScienceDirect

https://www.pembrokeshirecoastalforum.org.uk/climate-adaptation-strategy/

 

5. Unrhyw fater arall a’r cyfarfod nesaf

Y cyfarfod nesaf – Medi 2023

Ymholiadau at: marineplanning@llyw.cymru