Neidio i'r prif gynnwy

Mynychwyr

Eluned Jones (Cadeirydd, Llywodraeth Cymru), Elen King, Hishiv Shah a Sharon Davies (Llywodraeth Cymru), Charlotte Brill (Cefas), Helen Bloomfield, Lucie Skates, Karen Perrow a Lee Murray (Cyfoeth Naturiol Cymru), Thomas Fey (Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur), Julian Whitewright (Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru), Emma Harrison (Ystad y Goron), Jonathan Monk (Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau), Mike Butterfield (RYA), Nick Salter (Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau), Emily Williams (Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar), Chloe Wenman (Y Gymdeithas Cadwraeth Forol), Neville Rookes (Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru), Christoph Harwood (Simply Blue), Jennifer Godwin (Grŵp Defnyddwyr a Datblygu gwely'r môr), Katie Havard-Smith (Prifysgol Caerdydd), Kam Tang (Prifysgol Abertawe), Mark Russell (Cymdeithas Cynhyrchwyr Agregau Morol Prydain), Penny Nelson (Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd), Noemi Donigiewicz (Seafish), Alys Morris (Partneriaeth Môr Hafren), Claire Stephenson (Cymdeithas Porthladdoedd Prydain), Mark Simmonds (Cymdeithas Porthladdoedd Prydain), John Wrottesley (European Subsea Cables Assocation)

Croeso a chyflwyniad

Croesawodd Eluned aelodau'r Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Cynllunio Morol a chychwynnodd rownd o gyflwyniadau. 

Yr wybodaeth ddiweddaraf am Gynllunio Morol

Tynnodd Eluned sylw at:

Rhoddodd Eluned yr wybodaeth ddiweddaraf am Ardaloedd Adnoddau Strategol (SRAau):

  • ar hyn o bryd rydym yn gweithio i gwblhau rhestr beilot gychwynnol o SRAau i fod yn destun ymgynghoriad
  • rydym yn rhagweld y bydd cwmpas unrhyw SRAau peilot yn gyfyngedig ac ar raddfa fach.  Bydd hyn yn ein galluogi i ddeall sut y gall SRAau gyflawni'r manteision gorau, a lleihau'r risg o unrhyw ganlyniadau anfwriadol cymaint ag y bo modd cyn gwneud unrhyw benderfyniadau ynghylch unrhyw SRAau arfaethedig pellach
  • ein nod yw darparu rhagor o wybodaeth am gwmpas yr SRAau peilot cychwynnol hyn yn ddiweddarach eleni neu'n gynnar yn y flwyddyn newydd

Trafodaeth: datblygu Datganiad Technegol Cynllunio Morol ar gyfer Ecosystemau Morol Cydnerth, Adfer a Gwella (Polisi ENV_01)

Rhoddodd Eluned drosolwg byr o'r syniadau cynnar ar gyfer datblygu datganiad technegol ar gyfer ecosystemau morol cydnerth, adfer a gwella. 

Gwahoddodd Eluned aelodau o'r MPSRG i rannu eu meddyliau a'u syniadau, er mwyn llywio'r ffordd o fwrw ymlaen â'r gwaith hwn. Eglurodd Eluned hefyd, ar hyn o bryd, mai ymarfer cwmpasu cychwynnol oedd hwn, ac nad oedd unrhyw sicrwydd y gellid bwrw ymlaen â phob syniad ac awgrym. 

Trafododd aelodau'r MPSRG y gwaith hwn. Roedd y prif bwyntiau yn cynnwys:

  • trafod ffyrdd o nodi'r pwynt cyfeirio neu'r llinell sylfaen ar gyfer adfer, a sut i ddiffinio llwyddiannau, gan ystyried y diffiniadau o 'wella' ac 'adfer'. Cytunodd Llywodraeth Cymru i ystyried ymhellach y diffiniadau hyn ac i ddiffinio'r llinell sylfaen ar gyfer adfer
  • dywedodd Llywodraeth Cymru yr hoffent glywed barn aelodau ynghylch 'gwrthbwyso'
  • trafododd yr Aelodau bwysigrwydd sicrhau bod terminoleg yn gwahaniaethu'n glir rhwng ymatebion 'gwirfoddol' ac ymatebion 'gorfodol' i ENV_01. Cytunodd Llywodraeth Cymru ei bod yn bwysig sicrhau ei bod yn glir pryd mae ymateb yn wirfoddol a phryd mae'n orfodol
  • cytunodd Llywodraeth Cymru i archwilio cysylltiadau â syniadaeth sy'n dod i'r amlwg sy'n ymwneud â'r Gronfa Cydnerthedd Morol a Gwella Ecosystemau Naturiol arfaethedig
  • gofynnodd yr Aelodau a oes unrhyw fwriad i ystyried blaenoriaethu er mwyn sicrhau bod angen y camau gweithredu ar yr ecosystem, wrth ar yr un pryd gydnabod yr heriau sy'n gysylltiedig â gwneud hyn. Roedd yr awgrymiadau'n cynnwys cynnal dadansoddiad o fylchau e.e. nodi polisïau nad ydynt eisoes wedi'u priodoli i ddisgrifyddion statws amgylcheddol da, neu lunio dewislen o gamau gweithredu â blaenoriaeth. Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai ganddynt ddiddordeb mewn clywed sylwadau eraill ar y mater hwn 
  • cododd yr Aelodau bwysigrwydd dysgu o brofiad blaenorol a sicrhau bod ffocws clir i unrhyw gamau gweithredu a'u bod wedi'u strwythuro o amgylch amcanion penodol, er mwyn sicrhau manteision i'r amgylchedd
  • trafododd yr Aelodau ddatblygu camau gweithredu strategol clir ac arweiniad ar gyfer datblygwyr a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau. Roedd hyn yn cynnwys ystyried yr hyn y gellir ei gyflawni ar lefel leol a'r hyn y mae angen mynd i'r afael ag ef ar lefel strategol
  • nododd yr Aelodau fod datblygwyr am wybod beth y gallant ei wneud i gyfrannu at gydnerthedd a gwella ecosystemau, a gwnaethant awgrymu y byddai rhagor o arweiniad yn hyn o beth yn ddefnyddiol. Awgrymodd yr Aelodau y gallai cynlluniau adfer cydweithredol, strategol a/neu gronfeydd gefnogi datblygwyr i wneud hyn
  • tynnodd yr Aelodau sylw at yr angen i adolygu datblygiadau ehangach yn rheolaidd i sicrhau bod y datganiad technegol ac unrhyw ganllawiau eraill yn parhau i fod yn gyfredol
  • yn dilyn trafodaeth am waith presennol a'r hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni drwy'r datganiad technegol hwn, cytunodd yr aelodau ar bwysigrwydd y canlynol: egluro beth yw'r datganiad technegol; sut mae'n cysylltu â gwaith presennol ac yn ategu'r gwaith hwnnw (heb ddyblygu); pwy y mae'n bwriadu ei gefnogi
  • dywedodd Llywodraeth Cymru y dylem ystyried y risgiau yn ogystal â'r manteision i gynyddu effeithiau'r gwaith hwn cymaint ag y bo modd

Anogodd Eluned aelodau'r MPSRG i anfon unrhyw sylwadau pellach yn uniongyrchol at y Tîm Cynllunio Morol, a thynnodd hi sylw at y bwriad i barhau i weithio gydag aelodau i ddatblygu syniadau. 

Ffermydd Gwynt Amlddefnydd: y cyfle ar gyfer dyframaeth ar y môr

Cyflwynodd Christoph Harwood, Cyfarwyddwr Polisi a Strategaeth Simply Blue Group, waith Simply Blue sy'n ymwneud ag 'Ffermydd Gwynt Amlddefnydd'. 

Roedd y prif bwyntiau yn cynnwys:

  • mae'r diffyg lle ar y tir ac ar y môr yn her i ddatblygwyr
  • mae Simply Blue yn edrych ar ffyrdd o ddefnyddio ffermydd gwynt ar gyfer gweithgareddau eraill, e.e. dyframaethu, i fynd i'r afael â'r ddiffyg lle hwn
  • mae potensial i ddefnyddio'r mannau amlddefnydd hyn i helpu i gyrraedd targedau drwy gydweithio ag asiantaethau cadwraeth a newid hinsawdd
  • gydag unrhyw fannau amlddefnydd, y fferm wynt fydd y flaenoriaeth

Trafododd aelodau'r MPSRG nifer o gwestiynau allweddol am y gwaith hwn. 

Rhannwyd y cyflwyniad ag aelodau'r MPSRG ar ôl y cyfarfod. 

Adolygiad o Esemptiadau Trwyddedu Morol

Roedd y prif bwyntiau yn cynnwys: 

  • bydd yr adolygiad yn cael ei lywio gan argymhellion ABPmer i Lywodraeth Cymru yn 2020, yn dilyn ei adolygiad cychwynnol o Orchymyn 2011. Gan adeiladu ar hyn, bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried y gweithgareddau esempt a restrir gan awdurdodau trwyddedu morol eraill y DU, er mwyn alinio esemptiadau pan fo hynny'n briodol. Bydd y gwaith hwn yn arwain at set ddrafft o gynigion i fod yn destun ymgynghoriad
  • bydd camau gwahanol i'r ymgynghoriad:
    • arbenigwyr technegol e.e. CNC, Cadw, ac awdurdodau mordwyo 
    • partïon â diddordeb e.e. porthladdoedd, prifysgolion, awdurdodau amddiffyn yr arfordir.
    • ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion terfynol
  • ar hyn o bryd nod Llywodraeth Cymru yw cynnal ymgynghoriad cyhoeddus yng ngwanwyn 2024 gyda'r bwriad o gyflwyno gorchymyn newydd yn gynnar yn 2025

Trafododd aelodau'r MPSRG nifer o gwestiynau allweddol am y gwaith hwn. Nododd Sharon yr ymgynghorir ag aelodau sydd â diddordeb mewn esemptiadau trwyddedu morol, ac anogodd hi aelodau i rannu eu barn i'w bwydo i ddatblygiad y gwaith hwn. 

Unrhyw faterion eraill a dyddiad y cyfarfod nesaf

Tynnwyd sylw at weithdy wyneb yn wyneb ar gynllunio bioddiogelwch ar gyfer rhywogaethau estron goresgynnol  trawsffiniol yn Aber Afon Hafren. Cafodd y manylion eu hanfon at aelodau'r MPSRG yn dilyn y cyfarfod. 

Cynhelir y cyfarfod nesaf ym mis Ionawr / Chwefror 2024

Ymholiadau i: marineplanning@llyw.cymru