Cyfarfod o Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Cynllunio Morol: 11 Chwefror 2026
Cofnodion cyfarfod Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Cynllunio Morol ar 11 Chwefror 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Eluned Jones (Cadeirydd, Llywodraeth Cymru), Megan Nicholas, Jonathan Bee, Morgan Commins, Rose Malleson, Karen Stothard (Llywodraeth Cymru), Karen Perrow, Katherine Griffith, Lee Murray, Paige Minahan (CNC), Nick Salter (Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau), Georgia Boston (Cymdeithas Cynhyrchwyr Agregau Morol Prydain), Julian Whitewright (Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru), Adrian Judd (Cefas), Katie Havard-Smith (Prifysgol Caerdydd), Chloe Wenman, Alex Curd (Y Gymdeithas Cadwraeth Forol), Jean-Francois Dulong (Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru), Jacques Vilemot (Rewilding Britain), Olivia Ross (JNCC), Rosie Kelly (Ystâd y Goron), Shea Buckland-Jones (WWF), Emily Williams-Slater (RSPB), Jennifer Godwin (Grŵp Defnyddwyr a Datblygu Gwely'r Môr), Claire Stephenson (Associated British Ports), Jim Evans (Cymdeithas Pysgotwyr Cymru).
1. Croeso a chyflwyniadau
Cadeirydd, Llywodraeth Cymru
Croesawodd Eluned aelodau newydd a gwesteion i'r Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Cynllunio Morol (MPSRG) a chychwyn cyflwyniadau o amgylch y bwrdd.
2. Diweddariad ar astudiaeth gwmpasu i archwilio budd net morol
Megan Nicholas, Llywodraeth Cymru
Rhoddodd Megan drosolwg o'r astudiaeth gwmpasu i archwilio budd net morol (MNB), gan nodi mai ei nod yw archwilio a ellid defnyddio dull MNB yng Nghymru, a sut y gellid gwneud hynny. Nid oes diffiniad penodol ar gyfer MNB yng Nghymru eto. Fodd bynnag, cyfeirir ato'n gyffredinol fel gadael yr amgylchedd morol mewn cyflwr gwell ar ôl datblygu, gan symud y tu hwnt i liniaru effeithiau andwyol er mwyn cefnogi adferiad a gwydnwch morol ymhellach, tra'n galluogi datblygu cynaliadwy.
Pwysleisiodd Megan nad yw'r comisiwn yn gosod cynsail i Gymru gyflwyno polisi MNB. Fodd bynnag, os yw Gweinidogion Cymru yn dymuno gwneud hynny, mae'r astudiaeth yn caniatáu i Lywodraeth Cymru ystyried ymlaen llaw sut y gellir cymhwyso cysyniad o'r fath yn ymarferol.
Adlewyrchodd Megan ar:
- amserlenni'r prosiect
- yr adolygiad llenyddiaeth a gynhaliwyd fel rhan o'r prosiect, sydd, ymhlith themâu ehangach, yn archwilio sut mae cysyniadau tebyg i MNB yn dod i'r amlwg, yn cael eu hymgorffori neu eu sefydlu o fewn fframweithiau daearol a morol awdurdodau eraill
- y broses ymgysylltu â rhanddeiliaid, a aeth ymlaen y tu hwnt i gwmpasu lefel uchel yr adolygiad llenyddiaeth i archwilio'n benodol sut y gallai MNB edrych yng Nghymru
Diolchodd Megan i'r rhanddeiliaid am eu hadborth amhrisiadwy yn ystod y broses ymgysylltu.
Tynnodd sylw at y ffaith na fydd yr adroddiad terfynol ar gyfer y prosiect yn cael ei gyhoeddi o bosib nes bod Llywodraeth newydd yn ei lle ar ôl etholiad y Senedd ym mis Mai, gyda'r cyfnod cyn etholiadol yn dechrau ym mis Ebrill 2026. Bydd cyhoeddi'r adroddiad yn amodol ar gytundeb gan y Llywodraeth newydd a'u blaenoriaethau.
3. Diweddariad ar fapio cyfleoedd gwella ecosystemau
Katherine (Kate) Griffith, CNC
Soniodd Kate am arwyddocâd Cynefinoedd a Rhywogaethau Adran 7 ar gyfer gwella bioamrywiaeth yng Nghymru. Gan gydnabod y pwysigrwydd hwn, cyflwynodd Kate gomisiwn, y mae CNC yn bwrw ymlaen ag ef ochr yn ochr ag Ystâd y Goron. Nod y comisiwn yw diweddaru'r sylfaen dystiolaeth sy'n sail i holl Gynefinoedd a Rhywogaethau Pwysig Iawn Adran 7 er mwyn cefnogi gwell dealltwriaeth o gyfleoedd i wella gwydnwch ecosystemau morol ac arfordirol ledled Cymru.
Esboniodd Kate y gwahanol becynnau gwaith sy'n gysylltiedig â'r comisiwn. Bydd cyfres o fapiau yn cael eu cynhyrchu ar gyfer Cynefinoedd a Rhywogaethau Adran 7 i amlinellu cyfleoedd ar gyfer gwella gwydnwch ecosystemau yng Nghymru. Mae'r fethodoleg wedi'i chynllunio i gefnogi dull ailadroddadwy, a all esblygu ochr yn ochr â data a blaenoriaethau.
Nododd Kate:
- fod haenau cyfleoedd peilot yn cael eu datblygu ar gyfer Morwellt Cyffredin ac Wystrys Brodorol
- bydd y comisiwn yn helpu i ddarparu mwy o eglurder ar ble mae adfer a gwella yn fwyaf ymarferol, ac yn awgrymu rhesymau dros y dosbarthiad hwn
- bydd y comisiwn yn cynhyrchu dull tryloyw a allai, ar ôl cwblhau'r gwaith hwn, gael ei ymestyn i gefnogi cynefinoedd a rhywogaethau ychwanegol
Rhybuddiodd Kate fod y gweithdai yn gyfyngedig o ran niferoedd er mwyn sicrhau bod y drafodaeth yn canolbwyntio yn llwyr ar y pwnc dan sylw, yn rheoladwy ac yn tynnu ar wybodaeth arbenigol. Gwahoddir mynychwyr y gweithdai i fyfyrio ar eu dealltwriaeth a'u profiad o ran Cynefinoedd a Rhywogaethau Pwysig Iawn Adran 7.
4. Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) a Datblygiad Targedau
Rose Malleson a Karen Stothard, Llywodraeth Cymru
Rhoddodd Karen drosolwg o Fil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth (Cymru) Llywodraeth Cymru. Nododd y canlynol am y Bil:
- ei nod yw cynnal a gwella bioamrywiaeth yng Nghymru
- mae'n gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hyrwyddo ymwybyddiaeth o bwysigrwydd bioamrywiaeth ac o'r bygythiadau y mae bioamrywiaeth yn eu hwynebu
- mae'n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ddynodi awdurdodau cyhoeddus i gymryd camau i gyfrannu at dargedau cysylltiedig a osodir mewn rheoliadau
- yn dilyn craffu, mae bellach wedi'i basio gan y Senedd, ac mae'n aros am Gydsyniad Brenhinol
- bydd yn defnyddio egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy
- mae'n cynnwys fframwaith gosod targedau, sy'n rhoi pwerau i osod targedau ac yn gorfodi dyletswydd i'w cyflawni
Nododd Rose a Karen fod y targedau hyn yn cael eu datblygu mewn cydweithrediad â JNCC, rhanddeiliaid ac arbenigwyr.
Croesawodd Rose a Karen drafodaeth bellach ynghylch y gwaith hwn.
5. Unrhyw Fater Arall
Tynnodd Jennifer Godwin sylw at y ffaith bod y SUDG, ar adeg y cyfarfod, i fod i gyhoeddi adroddiad terfynol ar enillion/budd net morol strategol.
Daeth y cyfarfod i ben.
