Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Eluned Jones (Cadeirydd, Llywodraeth Cymru), Rhys Davies a Hishiv Shah (Llywodraeth Cymru), Charlotte Brill ac Adrian Judd (Cefas), Helen Bloomfield, Lucie Skates, Karen Perrow a Lee Murray (CNC), Tristian Bromley (Ystad y Goron), Chloe Wenman (Y Gymdeithas Cadwraeth Forol), Jetske Germing (Fforwm Arfordir Sir Benfro), Hannah Phillips (Ein Haber Afon Dyfrdwy), Katie Harvard-Smith (Partneriaeth Aber Afon Hafren), Jennifer Godwin (Grŵp Defnyddwyr a Datblygwyr gwely'r Môr), Fiona Brown a James Guthrie (Associated British Ports), Rhona Macdonald (Cymdeithas Porthladdoedd Prydain), Noemi Donigiewicz (Seafish), Kam Tang (Prifysgol Abertawe), Helen Croxson a Nick Salter (Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau), Rowena Haines (RSPB), Jim Evans (Cymdeithas Pysgotwyr Cymru), Ben Smith (Ymddiriedolaeth Natur Cymru).

1. Croeso a diweddariad ar Gynllunio Morol

Croesawodd Eluned aelodau newydd i'r Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Cynllunio Morol (MPSRG) a chychwynnodd gyflwyniadau bord gron. 

Cyflwynodd Eluned Bapur 1: Dogfennau ac offerynnau cynllunio morol presennol a'r rhai sy'n cael eu datblygu a gwahoddodd gwestiynau a sylwadau arno.

Tynnodd Eluned sylw at y mapio adnoddau a chyfyngiadau sydd bellach wedi cael eu cyhoeddi ar Borthol Cynllunio Morol Cymru. Nododd nad oes diweddariad ar fapio Ardaloedd Adnoddau Strategol ar hyn o bryd, ond ei bod yn gobeithio darparu un yn fuan [nodyn ôl-gyfarfod: cyhoeddwyd  ymgynghoriad ar Ardaloedd Adnoddau Strategol arfaethedig ar 13 Mawrth].

2. Optimeiddio a chynllunio morol: manteision cytbwys ar draws nodau llesiant Cymru

Gwnaeth Eluned gyflwyno a darparu trosolwg byr o: Bapur 2: Papur Trafod – Optimeiddio a chynllunio morol: manteision cytbwys ar draws nodau llesiant Cymru.

Dywedodd Eluned fod y papur hwn yn amlinellu meddwl cam cynnar cychwynnol, i ddechrau sgwrs gydag aelodau'r MPSRG, ac nad yw'n cynrychioli unrhyw safbwynt swyddogol Llywodraeth Cymru.

Cymerodd aelodau'r Grŵp ran mewn trafodaeth agored ar Bapur 2. 

Roedd y pwyntiau allweddol a godwyd yn cynnwys y canlynol:

  • At ei gilydd roedd yr aelodau'n croesawu'r  ffocws ar 'optimeiddio' yn lle 'blaenoriaethu' oherwydd ei fod yn canolbwyntio ar integreiddio yn hytrach na chyfaddawdu, wrth fod yn ymwybodol o gymhlethdod y pwnc hwn.
  • Gofynnodd Aelodau gwestiynau ynghylch sut y gallai optimeiddio ymwneud ag ystyried cyfaddawdu. Nododd y Llywodraeth, o ystyried y brys o ran mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur, a phwysau gofodol cynyddol ar ein moroedd, y bydd angen lefel o flaenoriaethu. Fodd bynnag, nid yw'r Llywodraeth yn bwriadu gweithredu ar unwaith i gynnal trafodaethau am flaenoriaethu a chyfaddawdu, gan ei bod yn bwysig parhau i weithredu mewn ffordd integredig a chyfannol. 
  • Tynnodd yr Aelodau sylw at yr angen i ddiwydiant gael sicrwydd mewn perthynas ag unrhyw benderfyniadau ynghylch blaenoriaethu. 
  • Ystyriodd yr Aelodau bwysigrwydd ymgysylltu trawsffiniol rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau cynllunio morol eraill. Cytunodd y Llywodraeth fod hynny'n bwysig, ac amlinellodd gyswllt parhaus ag awdurdodau eraill y cynllun morol, wrth gydbwyso gwahaniaethau gwleidyddol a deddfwriaethol. 
  • Trafododd yr Aelodau flaenoriaethu sector-sector a gweithredu mewn ffordd fwy cytbwys ar draws pwysau/ysgogwyr/diddordebau ehangach. Nodwyd triongl natur, pysgodfeydd a diogelu ceblau yn enghraifft dda o'r cymhlethdodau yn y drafodaeth hon. 
  • Trafododd yr Aelodau y potensial i ddisgrifyddion ar gyfer Statws Amgylcheddol Da (GES) gefnogi'r sgyrsiau parhaus ar flaenoriaethu. 
  • Trafododd yr Aelodau sut i gysylltu optimeiddio â'r nodau llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a bylchau posibl mewn tystiolaeth mewn perthynas â pholisïau cymdeithasol Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru. Tynnodd yr Aelodau sylw at: Integrating Diverse Values into Marine Management - Sustainable Management of Marine Resources (smmr.org.uk), fel adnodd a allai fod yn ddefnyddiol i wella meddwl ynghylch y pwnc hwn. 
  • Nododd yr Aelodau bolisïau diogelu sector Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru a'r ffaith nad yw cydleoli neu gydfodoli bob amser yn bosibl. Ailadroddodd y Llywodraeth y bwriad i weithio gyda diwydiant a rhanddeiliaid ehangach mewn modd mor dryloyw â phosibl i ystyried, gyda'i gilydd, y dull gorau (ar gyfer gwahanol senarios) a sicrhau bod manteision yn cael eu cydbwyso lle bo modd. 
  • Nododd Aelodau fod y gallu i ragweld a nodi pa feysydd sydd eu hangen ar hyn o bryd neu a fydd eu hangen yn y dyfodol yn heriol ac awgrymodd edrych ar gysylltiadau rhwng cynllunio morol a Chynlluniau Rheoli Pysgodfeydd . 
  • Nododd Aelodau gwestiynau ynghylch effaith newid hinsawdd e.e. ar stociau a chynefinoedd pysgod. 

3. Ystyriaethau ar gyfer gwneud Penderfyniadau Blaenoriaethu Gofod Morol

Cyflwynodd Jennifer Godwin, Grŵp Defnyddwyr a Datblygu Gwely'r Môr (SUDG) Bapur 3: Allbwn gweithdai SUDG – ystyriaethau ar gyfer gwneud Penderfyniadau Blaenoriaethu Gofod Morol

Amlygodd Jennifer fod  allbynnau'r gweithdai hyn, sydd wedi'u curadu gan SUDG, yn lefel uchel ar hyn o bryd i gwmpasu barn amrywiol mynychwyr y gweithdai, sy'n cynrychioli amrediad o gefndiroedd. Mae'r allbynnau'n fan cychwyn ar dir cyffredin i gefnogi rheoli'r amgylchedd morol yn effeithiol (mae rhagor o fanylion yn Space for Nature and the Blue Economy - Recommendations from Industry on Principles for Marine Spatial Priorities).

4. Yr wybodaeth ddiweddaraf am Ddatblygu Datganiad Technegol Cynllunio Morol ar gyfer Ecosystemau Morol Cydnerth, Adfer a Gwella (Polisi ENV_01)

Diolchodd Eluned i aelodau'r MPSRG am eu mewnbwn ar y Datganiad Technegol Cynllunio Morol ar gyfer Ecosystemau Morol Cydnerth, Adfer a Gwella. Nododd fod y Llywodraeth yn bwriadu gweithio ar y Datganiad Technegol mewn ffordd ailadroddol. Bydd y fersiwn gyntaf yn lefel uchel a bydd yn sail ar gyfer datblygu meddwl mwy manwl a thymor hirach, mewn partneriaeth â rhanddeiliaid. 

5. Datblygu mapiau strategol o gyfleoedd ar gyfer gwella cydnerthedd ecosystemau morol ac arfordirol yng Nghymru

Trafododd Helen Bloomfield (CNC) waith CNC ar fapio cyfleoedd yn strategol ar gyfer gwella cynderthedd ecosystemau morol ac arfordirol yng Nghymru. 

Eglurodd Helen fod y gwaith hwn yn dwyn ynghyd dystiolaeth i'n symud ymlaen i gyflawni canlyniadau ar gyfer yr amgylchedd morol a phobl Cymru. Y bwriad yw i'r fframwaith tystiolaeth fod yn hawdd ei addasu i gefnogi'r gwaith o sicrhau cydnerthedd morol. 

Amlinellodd Helen dermau allweddol, a diffiniadau o'r termau hyn, e.e. adfer, adfywio a gwella.

Nododd Helen y pwyntiau allweddol canlynol:

  • Y Rhwydwaith MPAau yw conglfaen cydnerthedd. Rhaid blaenoriaethu er mwyn gwella cyflwr y rhwydwaith MPAau hwn, ond nid dyma'r unig gyfle. 
  • Yn hanfodol, mae angen tystiolaeth arnom i ategu penderfyniadau ynghylch adfer / adfywio MPAau. 
  • Mae CNC yn edrych ar fapiau a gwybodaeth ategol i gyflawni gwelliannau amgylcheddol, gan ddechrau gyda ffiniau gofodol a chyflwr nodweddion MPAau. 
  • Mae'r camau nesaf yn cynnwys:
    • Asesu'r dystiolaeth rydym yn gwybod ei bod ar gael a'r dystiolaeth sydd ei hangen arnom.
    • Ystyried sut rydym yn dod â thystiolaeth / data ynghyd i ddechrau adeiladu naratif e.e. ynghylch pwysau neu leoliadau, a sut rydym yn gwneud hyn heb orgymhlethu pethau.

6. Unrhyw faterion eraill a dyddiad y cyfarfod nesaf

Cytunodd Helen Bloomfield i wneud cyflwyniad dilynol ar waith parhaus CNC ar 'fapio cyfleoedd yn strategol er mwyn gwella cydnerthedd ecosystemau morol ac arfordirol yng Nghymru'.

Gwahoddodd Eluned aelodau i gynnig syniadau a/neu wirfoddoli i gyflwyno mewn cyfarfodydd yr MSRG yn y dyfodol.

Diwedd y cyfarfod.