Neidio i'r prif gynnwy

Mynychwyr

  • Kate Cubbage, Cynghrair Cynhalwyr Cymru a Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru (Cadeirydd)
  • Alyson Hoskins, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) Cymru a Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent – Dirprwy Gadeirydd
  • Denise Moultrie, Llywodraeth Cymru
  • Louise Bushell-Bauers Arolygiaeth Gofal Cymru
  • Jayne Newman, Gofalwr Di-dâl
  • Bobbie-Jo Haarhoff, Gofalwr Di-dâl
  • Albie Sutton, Bwrdd Cynghori Gofalwyr Ifanc
  • Rob Simkins, Cynghrair Cynhalwyr a Gofalwyr Cymru
  • Jon Antoniazzi, Cynghrair Cynhalwyr a Marie Curie
  • David Watkins, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
  • Valerie Billingham, Swyddfa'r Comisiynydd Pobl Hŷn
  • Kathy Proudfoot, Rhwydwaith Dysgu a Gwella Swyddogion Gofalwyr
  • Nick Andrews, Prifysgol Abertawe
  • Dan Burrows, Prifysgol Caerdydd
  • Kate Young, Cynghrair Cynhalwyr Cymru a Fforwm Cymru Gyfan
  • R Williams, Cynghrair Cynhalwyr a Parkinsons UK
  • Victoria Lloyd, Age Cymru
  • Tanya Tye, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
  • Rachel Wright, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  • Myfanwy Moran, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) Cymru a Cyngor Dinas Casnewydd
  • Anna Bird, Bwrdd Iechyd Hywel Dda
  • Lois Roffe, Arolygiaeth Gofal Cymru
  • Ffion Scott, Bwrdd Cynghori Gofalwyr Ifanc
  • Naheed Ashraf, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
  • Nicki Harrison, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) Cymru
  • Suzanne Becquer-Moreno, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
  • Trudy Heald, Llywodraeth Cymru
  • Amanda Phillips, Llywodraeth Cymru

Ymddiheuriadau

  • Jon Day, Gofal Cymdeithasol Cymru
  • Kim Dolphin, Rhwydwaith Dysgu a Gwella Swyddogion Gofalwyr
  • Naomi Harper, Cyngor Sir y Fflint
  • Amy Hawkins, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) Cymru a Cyngor Abertawe
  • Josie Yuen, Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Adam Frewen, Arolygiaeth Gofal Cymru

Croeso

Agorodd y Cadeirydd y cyfarfod trwy groesawu'r mynychwyr a chyflwyno cynnwys y diwrnod sydd i ddod.

Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Croesawodd y Gweinidog Albie Sutton fel y cynrychiolydd gofalwyr ifanc newydd, a chyflwynodd Alyson Hoskins fel y Dirprwy Gadeirydd newydd. 

Nododd y Gweinidog bwysigrwydd clywed yn uniongyrchol oddi wrth ofalwyr ifanc, gan sôn am ei phresenoldeb diweddar yn yr Ŵyl Gofalwyr Ifanc lle cymerodd ran yng nghyfarfod y Bwrdd Cynghori ar Ofalwyr Ifanc. Nododd ei bwriad i drafod y materion a godwyd yn y cyfarfod hwnnw gyda'i swyddogion. 

Cyfeiriodd y Gweinidog at y gwaith ymgysylltu a wnaed gyda gofalwyr di-dâl a'u cynrychiolwyr ledled Cymru i lywio'r gwaith o ddatblygu'r Strategaeth Genedlaethol newydd ar gyfer Gofalwyr Di-dâl. Cydnabu'r Gweinidog rôl y rheini a oedd yn bresennol o ran sicrhau bod amrywiaeth eang o safbwyntiau yn cael eu hystyried wrth gynhyrchu'r strategaeth.

Diolchodd  y Gweinidog i Alyson Hoskins am arwain y cynllun gweithredu ynghylch darparu gwybodaeth, cyngor, a chymorth i ofalwyr di-dâl, ac asesiadau o anghenion gofalwyr, gan ddiolch hefyd i gydweithwyr am eu cefnogaeth barhaus. 

Yn ogystal, croesawodd Denise Moultrie Ffion Scott fel cynrychiolydd y Bwrdd Cynghori ar Ofalwyr Ifanc. 

Diweddariad ar ffrwd waith ar gyfer gwella mynediad at wybodaeth, cyngor, a chymorth, ac asesiadau o anghenion gofalwyr

Nododd Alyson Hoskins yr ymgysylltu blaenorol a wnaed gydag arweinwyr gofal cymdeithasol a gofalwyr di-dâl trwy gyfres o weithdai. Mae'r ymgysylltu hwnnw wedi arwain at ddatblygu cynllun gweithredu, a'r blaenoriaethau allweddol yw: 

  • gwella dulliau o adnabod ac ymgysylltu â gofalwyr wrth 'ddrws ffrynt' gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol (gwybodaeth, cyngor, a chymorth (IAA))
  • ymarferwyr yn darparu asesiadau o anghenion gofalwyr
  • gofalwyr yn deall yr hyn y dylent ei ddisgwyl o asesiadau
  • gwella cysondeb arferion cofnodi
  • cadw mewn cysylltiad â gofalwyr a adolygiadau 

Bydd y cynllun gweithredu yn cael ei drafod yn y Grŵp Gorchwyl a Gorffen, a chroesawyd sylwadau pellach gan y grŵp.

3. Ymgysylltu mewn perthynas â'r strategaeth genedlaethol, a'r amserlen cyflawni

Rhoddodd Denise Moultrie ddiweddariad ar yr ymarfer cyn ymgynghori ar gyfer datblygu'r strategaeth ddrafft. Cafodd y themâu allweddol sy'n dod i'r amlwg wrth ymgysylltu â gofalwyr a rhanddeiliaid di-dâl eu rhannu gyda'r grŵp.

Mae'r cyfarfod heddiw yn cynnwys gweithdy i gefnogi'r gwaith o ddatblygu'r strategaeth ddrafft. Bydd hyn yn destun ymgynghoriad cyhoeddus, yn ôl pob tebyg ym mis Ionawr. Bydd y strategaeth derfynol yn cael ei chyhoeddi yn 2026, yn dilyn etholiadau'r Senedd. Bydd y grŵp llywio yn parhau i oruchwylio'r gwaith o ddatblygu'r strategaeth.

Diolchwyd i Lois Roffe, Amanda Phillps, a Trudy Heald am eu cefnogaeth gyda'r gwaith hwn.

Diweddariad gan yr aelodau ymchwil

Soniodd Nick Andrews wrth y grŵp am y cyfarfod cyntaf llwyddiannus o Gymuned Ymarfer newydd sy'n canolbwyntio ar ofalwyr di-dâl. Ymhlith y pynciau a godwyd roedd: 

  • sicrhau gwell canlyniadau iechyd meddwl
  • ymgysylltu â gofalwyr gwrywaidd
  • gwella dulliau o adnabod gofalwyr di-dâl
  • rheoli gwybodaeth, cynlluniau rhyddhau
  • cynllun seibiannau byr

Bydd y grŵp yn parhau i gyfarfod yn chwarterol.

Rhoddodd Dan Burrows ddiweddariad ar ymchwil ei dîm, a oedd yn cynnwys canfyddiadau ar iechyd meddwl, demograffeg incwm, tlodi, a risg hunanladdiad. Rhannwyd fideo a oedd yn darlunio bywyd fel rhiant gofalwr gyda'r grŵp: Mwy na rhiant - Prifysgol Birmingham.

Gwerthusiadau o'r Cynllun Seibiannau Byr a'r Gronfa Cymorth i Ofalwyr

Rhoddwyd diweddariad i'r grŵp ar y Cynllun Seibiannau Byr a'r Gronfa Cymorth i Ofalwyr, gan drafod effaith a chanlyniadau. Cytunodd yr aelodau y byddai'n ddefnyddiol cael data gwerthuso, yn ddelfrydol wedi'u dadansoddi fesul awdurdod lleol.

Cydnabuwyd bod y ddau gynllun yn cael effaith gadarnhaol ar ofalwyr, ac fe'u hystyrir yn gynlluniau gwerthfawr.

Ymgysylltu â strategaeth gofalwyr di-dâl

Derbyniodd aelodau'r grŵp bapur a oedd yn crynhoi'r prif themâu a oedd wedi dod i'r amlwg o'r ymarfer cyn-ymgynghori, dywedwyd wrthynt fod y rhain wedi llywio'r cwestiynau i'w hystyried yn y gweithgarwch gweithdy dilynol. Y  themâu oedd:

  • caledi ariannol
  • mynediad at wasanaethau
  • cefnogi grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli
  • cyflogaeth
  • iechyd meddwl a llesiant emosiynol
  • seibiant a seibiannau o ofalu
  • adnabod a chydnabod
  • gofalwyr ifanc
  • gofalwyr mewn perthynas â'r gwasanaethau ar gyfer y bobl y maent yn gofalu amdanynt

Gweithdai ar strategaeth genedlaethol

Rhannwyd yr aelodau'n ddau grŵp i drafod y themâu a nodwyd.

Roedd y trafodaethau'n ymwneud â nodi amcanion a fyddai'n ymateb i'r themâu pe baent yn cael eu cyflawni. Hefyd cafodd y camau gweithredu a'r mesurau a fyddai'n helpu i gyflawni'r amcanion arfaethedig eu trafod a'u cofnodi.

Diolchwyd i'r Aelodau am eu cyfraniadau gwerthfawr i'r ymarfer hwn, a fyddai'n llywio'r strategaeth ddrafft.

Camau gweithredu o’r cyfarfod diwethaf

Cadarnhawyd bod pob cam gweithredu wedi'i gwblhau.

Dyddiad y cyfarfod nesaf

10 Rhagfyr 2025