Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Frances Duffy, Cadeirydd
Saz Willey, Is-gadeirydd
Bev Smith, Aelod
Dianne Bevan, Aelod 
Kate Watkins, Aelod 
Shan Whitby, Ysgrifenyddiaeth
Leighton Jones, Gwasanaethau Cyhoeddus a’r Gymraeg, Polisi Llywodraeth Leol

Cyflwyniad

Cynhaliwyd cyfarfod o Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel) ddydd Mawrth 16 Ionawr 2024. 

Dyma nod cyfarfod mis Ionawr:

  • adolygu a chytuno ar nodiadau cyfarfod mis Tachwedd (nodiadau llawn a chryno), gan nodi camau gweithredu
  • adolygu datganiadau ffurflenni taliadau 2022 i 2023 ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref
  • adolygu datganiadau taliadau  2022 i 2023 Prif Gynghorau, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, ac Awdurdodau Tân ac Achub
  • adolygu Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol yr Aelodau 2023 i 2024
  • trafod adroddiad cryno o'r ymatebion i'r ymgynghoriad
  • trafod cyfarfodydd rhanddeiliaid ac ymgysylltu a gynhaliwyd ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr
  • trafod penderfyniadau
  • diweddariad ar y gyllideb
  • trafod unrhyw fater arall

Datganiadau ffurflenni taliadau 2022 i 2023 Cynghorau Cymuned a Thref 

Cyflwynwyd papur i'r Panel ar gyfer adolygu Datganiadau ffurflenni taliadau 2022 i 2023 Cynghorau Cymuned a Thref. Yn y papur, cafwyd dadansoddiad o’r ffurflenni a oedd wedi dod i law, a’r datganiadau nad oedd taliadau wedi eu gwneud, gan bob Cyngor Cymuned a Thref yng Nghymru, ac yna ddadansoddiad yn ôl Grwpiau 1, 2, 3, 4 a 5.

O'r 534 o ffurflenni a gyflwynwyd, roedd 496 o Gynghorau wedi cyflwyno eu ffurflenni erbyn y dyddiad cau, sef 30 Medi.

Datganiadau o daliadau 2022 i 2023 Prif Gynghorau, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, ac Awdurdodau Tân ac Achub 

Cyflwynwyd papur i'r Panel a oedd yn rhoi dadansoddiad o'r holl lwfansau a dalwyd i aelodau etholedig ar gyfer 2022 i 2023. Mae'r papur hefyd yn darparu cymariaethau o'r pedair blynedd ariannol ddiwethaf.

Gofynnwyd i'r Panel nodi nad oedd cymhariaeth lawn yn bosibl ar hyn o bryd gan fod dau awdurdod wedi methu â chyflwyno eu ffurflenni 2022 i 2023, ac nad oedd y naill na'r llall wedi cyhoeddi'r wybodaeth ar eu gwefannau.

Adolygu Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol yr Aelodau 2023 i 2024

Cyflwynwyd papur i'r Panel i ddangos rhestr cydnabyddiaeth ariannol flynyddol yr aelodau ar gyfer y Prif Gynghorau, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub Cymru. Nid oedd yn cynnwys Cynghorau Cymuned a Thref.

Cyhoeddodd cyfanswm o 20 o Awdurdodau eu Rhestrau Cydnabyddiaeth Ariannol ar eu gwefannau, gan anfon copi i'r Ysgrifenyddiaeth erbyn y dyddiad cau, sef 31 Gorffennaf 2023. Daeth rhestrau cydnabyddiaeth ariannol i law oddi wrth bob awdurdod, ac eithrio un Awdurdod Parc Cenedlaethol ac un Awdurdod Tân ac Achub.

Crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad

Hefyd cyfarfu'r Panel â phob Awdurdod Parc Cenedlaethol, dau o'r tri Awdurdod Tân ac Achub, a chynrychiolwyr Prif Gynghorau a Chynghorau Cymuned a Thref yn ystod y cyfnod ymgynghori i gael eu sylwadau ar y penderfyniadau arfaethedig. 

Ar ôl ystyried yr adborth o'r cyfarfodydd ymgysylltu, ymgynghori ar yr adroddiad drafft, ystyried y dystiolaeth o'r Datganiadau Taliadau blynyddol, y Rhestrau Cydnabyddiaeth Ariannol a'r ymatebion ysgrifenedig a ddaeth i law drwy e-bost, cytunodd y Panel na fyddai unrhyw newid i'r penderfyniadau a oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad blynyddol drafft a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2023. Bydd yr Ysgrifenyddiaeth nawr yn drafftio'r Adroddiad terfynol i'w gymeradwyo gan y Panel cyn ei gyhoeddi ddiwedd mis Chwefror.

Penderfyniadau 

Trafododd y Panel faterion yn ymwneud â fformat a chyhoeddi Penderfyniadau 2024 i 2025, a gaiff eu cyhoeddi erbyn diwedd mis Chwefror 2024.

Camau gweithredu

Cytunodd y Panel ar y cofnodion a'r crynodeb o gyfarfod mis Tachwedd. 

Adolygodd y Panel ei gyllideb yn fanylach, a bydd yn cael trafodaethau pellach yn y cyfarfod nesaf.

Bu'r panel yn trafod presenoldeb a nawdd ar gyfer cynhadledd Gwobrau Cenedlaethol Un Llais Cymru ar 27 Mawrth 2024.

Y cyfarfod nesaf

Bydd cyfarfod nesaf Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn cael ei gynnal ar 13 Chwefror 2024. 

Os oes gennych unrhyw faterion yr hoffech eu codi gyda'r Panel, mae croeso ichi gysylltu â'r Ysgrifenyddiaeth drwy e-bostio IRPMailbox@llyw.cymru.