Cyfarfod Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol: 18 Hydref 2022
Crynodeb o funudau’r cyfarfod a chynhaliwyd ar 18 Hydref 2022.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
Ar y dudalen hon
Mynychwyr
Frances Duffy, Cadeirydd
Saz Willey, Is-gadeirydd
Ruth Glazzard
Bev Smith
Leighton Jones, Ysgrifenyddiaeth y Panel
Tom Smithson, Swyddog Llywodraeth Cymru (i drafod un eitem ar yr agenda)
Cyflwyniad
Gwnaeth Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel) gyfarfod ar 18 Hydref.
Nod y cyfarfod oedd adolygu'r amcanion a osodwyd yn eu llythyr cylch gwaith 2022 i 2023, paratoi ar gyfer digwyddiad Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr a thrafod y Papur Gwyn ar weinyddu a diwygio etholiadol.
Rhannodd Tom Smithson y wybodaeth ddiweddaraf â'r Panel am ei adolygiad effeithiolrwydd o'r Panel.
Yn y bore, gwnaeth y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd hefyd gwrdd â Chymdeithas Clercod Cynghorau Lleol i drafod y cynigion yn adroddiad blynyddol drafft 2023, fel rhan o'r gwaith o ymgysylltu â'u rhanddeiliaid.
Y cyfarfod hwn hefyd oedd yr olaf i Ruth Glazzard, sydd am adael ei swydd fel Aelod i ddechrau rôl newydd. Diolchwyd i Ruth am ei hamser a'i gwaith ar y Panel.
Mae crynodeb isod o drafodaethau a phenderfyniadau'r Panel.
Llythyr cylch gwaith 2022 i 2023
Adolygodd y Panel bob amcan o'r llythyr cylch gwaith ar gyfer 2022 i 2023 a osodwyd ym mis Mawrth 2022. Ystyriodd y Panel pa waith a gyflawnwyd a'r hyn oedd ei angen er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw faterion nad oedd wedi'u cwblhau eto.
Adolygiad o Effeithiolrwydd
Cafodd y Panel y wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad o effeithiolrwydd gan Tom Smithson. Cyflwynodd Tom ei ganfyddiadau cychwynnol ac yn dilyn y casgliadau hyn bydd yn llunio adroddiad ysgrifenedig i'w gytuno â'r Panel yn eu cyfarfod ym mis Tachwedd.
Papur Gwyn ar weinyddu a diwygio etholiadol
Ystyriodd y Panel y cwestiynau ymgynghori oedd yn y papur gwyn gan roi eu meddyliau cychwynnol ar y cynnwys. Cytunodd y Panel i ddrafftio atebion i'r cwestiynau a oedd yn ymwneud â'u gwaith. Bydd yr atebion hyn yn cael eu cyflwyno a'u cwblhau yn eu cyfarfod ym mis Tachwedd cyn y dyddiad cau ar 10 Ionawr.
Unrhyw fater arall
Gwnaeth y Panel drafod a chytuno ar ymateb i ymholiad a gafwyd gan brif gyngor. Roedd yr ymholiad hwn yn gofyn i'r Panel am gyngor ac eglurhad ynghylch taliadau a wnaed i aelodau cyfetholedig o'r prif gynghorau. Cafodd y Panel wahoddiad hefyd i gyfarfod pwyllgor cyswllt Cyngor Tref a Chymuned ym mis Tachwedd.
Y cyfarfod nesaf
Bydd cyfarfod nesaf Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn cael ei gynnal ddydd Mercher 30 Tachwedd.
Cafodd adroddiad blynyddol drafft 2023 ei gyhoeddi ar 6 Hydref. Mae'r dyddiad cau ar gyfer cyfnod ymgynghori yn dod i ben ar 1 Rhagfyr 2022. Mae'r adroddiad blynyddol drafft i'w weld yma.
Byddai'r Panel yn croesawu adborth ar yr Adroddiad drafft hwn ac rydym wedi cynnwys rhai cwestiynau ychwanegol lle byddem yn gwerthfawrogi eich barn.
Os oes gennych unrhyw faterion yr hoffech eu codi gyda'r Panel, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy'r Ysgrifenyddiaeth gan e-bostio IRPMailbox@gov.wales.