Neidio i'r prif gynnwy

Attendees

  • Frances Duffy
  • Saz Willey
  • Ruth Glazzard
  • Bev Smith
  • Leighton Jones
  • Elaina Chamberlain
  • Lisa James

Cyflwyniad

Cyfarfu Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel) ddydd Mawrth 19 Gorffennaf. Hwn oedd cyfarfod cyntaf y Cadeirydd newydd, Frances Duffy, a benodwyd yn uniongyrchol i'r Panel yn ddiweddar.

Roedd y cyfarfod yn canolbwyntio ar drafod yr argymhellion ar yr Adolygiad Deng Mlynedd o'r Panel, cytuno ar yr opsiynau ar gyfer lefelau cyflog yn adroddiad blynyddol drafft 2023 ac ystyried blaengynllun ar gyfer 2022 i 2023.

Adolygiad deng mlynedd

Ystyriodd y Panel bob un o'r saith argymhelliad ac amlinellodd sut y byddai'r rhain yn cael eu datblygu. Cytunodd y Panel i gynnal trafodaethau pellach yn ei gyfarfod ym mis Awst.

Adroddiad blynyddol drafft 2023: opsiynau ar gyfer codiadau

Cynhaliodd y Panel drafodaeth lawn i benderfynu ar y taliadau cyflog sylfaenol ac uwch ar gyfer prif gynghorau, awdurdodau parciau cenedlaethol ac awdurdodau tân ac achub, a fyddai'n rhan o adroddiad blynyddol drafft 2023. Bu'r Panel hefyd yn ystyried taliadau aelodau cyfetholedig, ac ad-daliadau ar gyfer gofal a theithio a chynhaliaeth.

Cytunodd y Panel i gyflwyno ei gynigion i randdeiliaid yn eu cyfarfod ym mis Awst.

Blaengynllunio

Bu'r Panel yn trafod blaengynllunio ar gyfer 2022 i 2023 yn fyr. Cytunwyd y byddai’r cyfarfod ym mis Awst yn cynnwys edrych ar ddatblygiad a strategaeth y Panel, ynghyd â'r cynllun gwaith ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Unrhyw fater arall

Bu'r Panel yn trafod ac yn cytuno ar ymatebion i ymholiadau a gafwyd gan Brif Gyngor a dau Gyngor Cymuned a Thref. Roedd yr ymholiadau hyn yn gofyn i'r Panel am gyngor ac eglurhad ar benderfyniadau yn adroddiad blynyddol 2022.

Y cyfarfod nesaf

Cynhelir cyfarfod nesaf Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ddydd Mawrth 16 Awst 2022 a dydd Mercher 17 Awst 2022. Cynhelir y diwrnod cyntaf wyneb yn wyneb, y tro cyntaf ers mis Chwefror 2020 a chaiff ei gynnal yng Nghomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.

Bydd y Panel yn trafod y strategaeth datblygu a chyfathrebu yn y dyfodol yn dilyn yr argymhellion yn adroddiad yr Adolygiad Deng Mlynedd.

Gwahoddir cynrychiolwyr y prif randdeiliaid i'r cyfarfod i fwydo i gynigion y Panel ar gyfer adroddiad blynyddol drafft 2023.