Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Frances Duffy, Cadeirydd.
  • Saz Willey, Is-gadeirydd.
  • Bev Smith.
  • Leighton Jones, Yr Ysgrifenyddiaeth.

Cyflwyniad

Cynhaliwyd cyfarfod o Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel) ddydd Iau 19 Ionawr.

Nod y cyfarfod oedd trafod a chytuno ar yr argymhellion a gynigiwyd mewn sawl papur yn ymwneud â’r ymatebion a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad ar yr adroddiad blynyddol drafft ar gyfer 2023. Roedd y papurau hyn yn cwmpasu’r cymharydd ASHE, taliadau i aelodau cyfetholedig, y gydnabyddiaeth ariannol ar gyfer cynghorwyr cymuned a thref a’r gofyniad statudol i gynghorau fabwysiadu penderfyniadau’r Panel.

Mae crynodeb o drafodaethau a phenderfyniadau’r Panel i’w weld isod.

Yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE)

Adolygodd y Panel bapur ar yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion. Roedd y papur hwn yn nodi’r cymaryddion ASHE arfaethedig y mae’r Panel yn eu defnyddio fel sail i’r taliadau i aelodau etholedig mewn prif gynghorau. Bydd y Panel yn defnyddio data ASHE wrth ddatblygu’r strategaeth ar gyfer 2024 i 2025.

Taliadau i aelodau cydetholedig

Trafododd y Panel daliadau i aelodau cydetholedig. Cyflwynodd y papur hwn opsiynau i’r Panel o ran talu aelodau cydetholedig, yn dilyn ymatebion i’r adroddiad blynyddol drafft. Bydd diweddariad yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad terfynol a fydd yn cael ei gyhoeddi ddiwedd mis Chwefror.

Cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer cynghorau cymuned a thref

Ystyriodd y Panel yr argymhellion yn y papur sy’n ymwneud â chynghorau cymuned a thref. Bydd diweddariad ar drefniadau trethu treuliau, a’r opsiwn i optio allan o dderbyn lwfansau, yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad terfynol a gaiff ei gyhoeddi ddiwedd mis Chwefror.

Y gofyniad statudol i gydymffurfio â phenderfyniadau’r Panel

Adolygodd y Panel sut mae awdurdodau’n cydymffurfio â phenderfyniadau’r Panel pan fydd adroddiadau drafft a therfynol yn cael eu cyhoeddi. Ceir crynodeb o hyn yn yr adroddiad terfynol.

Unrhyw fusnes arall

Trafododd y Panel bedwar ymholiad a chytuno arnynt. Daeth yr ymholiadau oddi wrth brif gyngor, cyngor cymuned a thref a dau unigolyn, drwy’r Ysgrifenyddiaeth. Roedd yr ymholiadau hyn yn ceisio cyngor ac eglurhad gan y Panel ynglŷn â thaliadau i aelodau o bwyllgorau, prosesu taliadau i gynghorwyr a thaliadau ôl-weithredol i gynghorwyr.

Y cyfarfod nesaf

Bydd cyfarfod nesaf Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn cael ei gynnal ddydd Gwener 10 Chwefror.

Os oes gennych unrhyw faterion yr hoffech eu codi gyda’r Panel, mae croeso ichi gysylltu drwy’r Ysgrifenyddiaeth drwy anfon e-bost i IRPMailbox@llyw.cymru.