Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Frances Duffy, Cadeirydd
Saz Willey, Is-gadeirydd
Bev Smith, Aelod
Leighton Jones, Ysgrifenyddiaeth
Sara Rees, Ysgrifenyddiaeth
Dianne Bevan, Aelod newydd o’r Panel (Sylwedydd)
Kathryn Watkins, Aelod newydd o’r Panel (Sylwedydd)

Cyflwyniad

Cyfarfu Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel) ddydd Mercher 24 Mai.

Nod y cyfarfod oedd:

  • adolygu nodiadau cyfarfod (llawn a chryno) mis Ebrill a chytuno arnynt, a nodi camau gweithredu a diweddariadau gan yr ysgrifenyddiaeth
  • diweddaru cynllun gwaith a chyllideb 2023 i  2024
  • ystyried y Strategaeth Ymchwil a Thystiolaeth a’r Cynllun Cyfathrebu
  • trafod unrhyw fater arall

Hwn oedd cyfarfod cyntaf aelodau mwyaf newydd y Panel, Kathryn Watkins a Dianne Bevan.

Isod, ceir crynodeb o drafodaethau a phenderfyniadau’r Panel:

Camau Gweithredu a Diweddariadau gan yr Ysgrifenyddiaeth

Cytunodd y Panel ar gofnodion cyfarfod mis Ebrill, gan nodi wrth symud ymlaen, y dylai crynodebau fod yn llai trwm ac yn fwy o gylchlythyr yn hytrach na dogfen ffurfiol.

Nododd y Panel y daflen gyllideb fel y trafodwyd.

Yn dilyn cyfarfod y Panel ym mis Ebrill, cytunodd y Panel i sicrhau cydymffurfiaeth â Pholisi Hygyrchedd Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod dogfennau ar gyfer cyfarfodydd y Panel yn gwbl hygyrch.

Trethi Cynghorau Cymuned a Thref

Mae’r Panel yn nodi bod rhai cynghorau cymuned yn dal i holi sut mae cymhwyso rheolau’r cynllun Talu Wrth Ennill i daliadau a wneir i aelodau. Trafodwyd y mater hwn gydag Un Llais Cymru a’r Gymdeithas Clercod Cynghorau Lleol yng nghyfarfod y Panel ym mis Ebrill, pan gynghorwyd y ddau i gyfeirio at ganllawiau CThEF a hawlio lwfans.

Mae’r Panel mewn cysylltiad â Thrysorlys Cymru i ystyried mynd i’r afael â’r mater gyda CThEF.

Ffurflenni Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau Cynghorau Cymuned a Thref

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i Gynghorau Cymuned a Thref gyhoeddi, yn ardal eu hawdurdod, y gydnabyddiaeth ariannol y mae aelodau yn ei chael erbyn 30 Medi, ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol flaenorol. Rhaid anfon yr wybodaeth hon hefyd at y Panel erbyn yr un dyddiad.

Rhoddodd Swyddfa Archwilio Cymru wybod i bob Cyngor Cymuned a Thref, y dylid cyflwyno datganiadau o lwfansau ar gyfer aelodau Cynghorau Cymuned a Thref i Ysgrifenyddiaeth y Panel erbyn mis Medi 2023. O ganlyniad, nododd y Panel gynnydd yn nifer y ffurflenni cyn mis Medi.

Rhyngweithiadau’r Panel ag Awdurdodau Tân ac Achub ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol

Ym mis Mai, cyfarfu Cadeirydd y Panel â swyddogion Llywodraeth Cymru i drafod amrywiaeth cynrychiolaeth a rhwystr canfyddedig i uwch gynghorwyr ymgymryd â swyddi ar yr Awdurdodau oherwydd y rheolau yn erbyn cydnabyddiaeth ariannol ddwbl.

Nododd y Panel fod y mater hwn wedi cael ei adolygu’n gymharol ddiweddar, ac mae’n parhau o’r farn, gan fod cyflogau uwch gynghorwyr yn seiliedig ar ragdybiaeth eu bod yn gweithio’n llawn amser, na fyddai’n briodol eu talu ddwywaith o’r pwrs cyhoeddus. Mae safbwynt y Panel ar beidio â thalu’r aelodau uwch ddwywaith yn deg ac yn gywir. Mae hyn yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru. Er enghraifft, ni thelir aelodau o’r Byrddau Iechyd os yw eu cyflogaeth amser llawn yn cael ei hariannu’n gyhoeddus.

Nododd y Panel fod taliadau ar gyfer aelodau Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub yn gysylltiedig â’r Cyflog Sylfaenol. Ymrwymiad amser cyfartalog aelodau Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub yw 44 a 22 o ddiwrnodau yn y drefn honno. Dylid cwblhau adolygiad o’r ymrwymiad amser, y taliadau uwch, a’r cysylltiad â’r Cyflog Sylfaenol cyn neu erbyn Adroddiad Blynyddol 2027.

Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Cytunodd y Panel i lofnodi’r Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu yn y cyfarfod ym mis Mehefin.

Ar ôl cytuno ar hyn, bydd y Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Panel.

Ymchwil a Thystiolaeth

Trafododd y Panel bapur a gyflwynwyd gan aelod o’r Panel. Roedd y papur hwn yn darparu opsiynau ar gyfer pennu lwfansau aelodau prif gynghorau ac yn cytuno i ychwanegu taliadau i aelodau etholedig Llywodraeth Leol yr Alban at y set o gymaryddion a meincnodau y mae’n eu defnyddio i benderfynu a ddylid defnyddio Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion ar gyfer penderfyniadau 2024 i 2025 ai peidio.

Pennu Lwfans Aelodau Uwch

Nododd y Panel fod arweinydd Prif Awdurdod Band A, yn y model presennol, yn cael ei dalu 3.75 gwaith enillion gros canolrifol cyflogeion amser llawn yng Nghymru fel y’u nodwyd yn yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion. Mae’r holl rolau uwch eraill yn lluosyddion wedi’u pwysoli ac yn wahaniaethau penodol. Mae’r rhain wedi cael eu meincnodi’n gyfnodol yn erbyn cyflogau uwch a gwahaniaethau eraill. Roedd yr adolygiad llawn diwethaf yn 2021 i lywio Adroddiad Blynyddol 2022.

Ni chynigiodd y Panel unrhyw ddiwygiad i’r gyfradd, sef 3.75, gan gytuno i adolygu cymhlethdod rolau ac oriau gwaith. Bydd y Panel yn ychwanegu cwestiynau ynghylch rolau uwch ar Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn yr arolwg nesaf, a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Mehefin.

Cytunodd y Panel i ystyried cynnal adolygiad bwrdd gwaith o fesurau amgen wrth ystyried gwerthusiad allanol llawn o rolau uwch, gan gynnwys ymrwymiad amser, cyfrifoldeb, a lefel taliadau’r farchnad.

Taliadau i aelodau cyfetholedig Prif Gynghorau

Mae’r Panel yn gyfrifol am gytuno ar opsiynau talu ar gyfer aelodau cyfetholedig prif gynghorau, awdurdodau parciau cenedlaethol ac awdurdodau tân ac achub a bydd yn trafod y trefniadau presennol, yr adborth a gafwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori ar adroddiad blynyddol drafft 2023 a’r opsiynau ar gyfer y flwyddyn nesaf yn y cyfarfod nesaf.

Teithio

Cytunodd y Panel i ystyried gwaith awdurdodau lleol i hyrwyddo a chyflawni’r agenda werdd. Bydd y pwnc yn cael ei gynnwys yn ymgynghoriad nesaf y Panel.

Taliadau Nawdd Cymdeithasol Aelodau

Mae’r Panel yn cydnabod nad yw materion sy’n ymwneud â thaliadau ar fudd-daliadau nawdd cymdeithasol aelodau wedi’u datganoli a’u bod yn gymhleth. Mae’r Panel wedi cytuno bod angen iddo gael gwell dealltwriaeth drwy gael mynediad at wybodaeth arbenigol ac o bosibl hyfforddiant sylfaenol ar y materion hyn. Awgrymodd y Panel y dylid cynnig hyfforddiant gan yr Adran Gwaith a Phensiynau i’r Gymdeithas Clercod Cynghorau Lleol hefyd i hysbysu aelodau Cynghorau Cymuned a Thref yn well.

Taliadau Cynghorau Cymuned a Thref

Mae gan y Panel fframwaith ar wahân ar gyfer taliadau Cynghorau Cymuned a Thref. Prif ddiben hyn yw sicrhau bod aelodau’n cael eu had-dalu am eu gwariant wrth gyflawni eu dyletswyddau. Mae gan aelodau â chyfrifoldebau ychwanegol hawl i daliad uwch.

Nododd y Panel fod Un Llais Cymru, yn y sesiynau ymgysylltu fel rhan o’r adolygiad o dystiolaeth ‘Cydnabyddiaeth ariannol i gynghorwyr ac ymgysylltu â dinasyddion yng Nghymru’, wedi nodi mai ymrwymiad gwaith cyfartalog aelodau Cynghorau Cymuned a Thref yw un diwrnod y mis, gan gwestiynu a ddylid adlewyrchu hyn yn nhaliad y Cynghorau ac a ddylid cysylltu’r taliad hefyd â’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion, neu unrhyw ddangosydd etifeddol.

Roedd y Panel yn cydnabod bod hyn yn haeddu ymchwiliad. Oherwydd cymhlethdod y mater, cytunodd y Panel y byddai angen i ymchwil bellach edrych ar sut y byddai cynnig yn cael ei ariannu ac nad yw’n debygol y bydd hyn yn cael sylw cyn etholiadau 2027.

Unrhyw fater arall

Trafododd y Panel ymatebion i wyth ymholiad a gafwyd gan bum Cyngor Cymuned a Thref a thri Phrif Gyngor drwy’r Ysgrifenyddiaeth, a chytunwyd arnynt. Gofynnodd yr ymholiadau hyn i’r Panel am gyngor ac eglurhad ynghylch prosesu taliadau i Gynghorwyr. Bydd Cwestiynau Cyffredin y Panel yn cael eu diweddaru i egluro’r geiriad mewn perthynas ag ymholiadau penodol.

Y cyfarfod nesaf

Bydd cyfarfod nesaf y Panel yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 20 Mehefin, pan fydd y Panel yn cwblhau ei strategaeth gyfathrebu ac ymgysylltu, yn trafod cyfethol aelodau ac yn adolygu ei gofrestr risgiau.

Mae cynrychiolwyr o dri awdurdod lleol wedi cael gwahoddiad i ymuno â’r cyfarfod i drafod y broses o dalu aelodau cyfetholedig.

Os oes gennych unrhyw faterion yr hoffech eu codi gyda’r Panel, mae croeso ichi gysylltu â ni drwy’r Ysgrifenyddiaeth gan e-bostio IRPMailbox@llyw.cymru.