Cyfarfod Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol: 25 Mehefin 2024
Crynodeb o funudau’r cyfarfod a chynhaliwyd ar 25 Mehefin 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Frances Duffy, Cadeirydd
Saz Willey, Is-gadeirydd
Bev Smith, aelod
Dianne Bevan, aelod
Sara Rees, ysgrifenyddiaeth
Shan Whitby, ysgrifenyddiaeth
Ymddiheuriadau
Kate Watkins, aelod
Cyflwyniad
Nod y cyfarfod oedd:
- trafod cyfarfod y Cadeirydd gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio a gynhaliwyd ar 24 Mehefin
- adolygu a chytuno ar gofnodion a chrynodeb o gyfarfod mis Mai, nodi diweddariadau'r Ysgrifenyddiaeth a'r gyllideb, ac adolygu a diweddaru'r cynllun gweithredol ar gyfer 2024 i 2025
- trafod ac ystyried cydnabyddiaeth ariannol i aelodau cyfetholedig (lleyg) cydbwyllgorau corfforedig
- trafod ac ystyried fframwaith a methodoleg ar gyfer cydnabyddiaeth ariannol i rolau uwch
- adolygu a diweddaru'r gofrestr risgiau
- adolygu gofynion adrodd Cynghorau Cymuned a Thref
Eitemau'r cadeirydd
Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad i'r Panel ar nifer o faterion, a chadarnhaodd y bu'r cyfarfod gydag Ysgrifennydd y Cabinet yn un adeiladol ac addysgiadol. Roedd y drafodaeth yn cynnwys y canlynol:
- diweddariad ar y materion y mae'r Panel yn gweithio arnynt ar hyn o bryd
- yr heriau sy'n gysylltiedig â'r gwaith pontio cyn trosglwyddo ei swyddogaethau i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (a gaiff i ailenwi'n Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru) yn amodol ar basio'r ddeddfwriaeth ofynnol
- datblygu cynllun etifeddiaeth a fydd yn cael ei baratoi i gefnogi'r gwaith pontio
Camau gweithredu a diweddariadau'r ysgrifenyddiaeth a'r gyllideb
Cytunodd y Panel ar y cofnodion a'r crynodeb o gyfarfod mis Mai, gan nodi'r diweddariad cyllidebol.
Adolygodd a thrafododd y Panel yr ohebiaeth a gafwyd oddi wrth dri Phrif Gyngor, a'i ymateb i bob un. Hefyd bu'n ystyried erthygl newyddion diweddar y South Wales Argus yn ymwneud ag uwch rôl mewn Prif Gyngor. Cytunodd y Panel i gysylltu â'r Cyngor dan sylw i ofyn am ragor o wybodaeth.
Cydnabyddiaeth ariannol i aelodau cyfetholedig (lleyg) cydbwyllgorau corfforedig
Bu'r Panel yn ystyried cydnabyddiaeth ariannol i aelodau cyfetholedig (lleyg) cydbwyllgorau corfforedig.
Cytunodd y Panel i gyhoeddi adroddiad atodol drafft (ymgynghoriad) er mwyn ceisio sylwadau ynghylch alinio'r dull gweithredu a ddefnyddir i roi cydnabyddiaeth ariannol i aelodau lleyg cydbwyllgorau corfforedig gyda'r gydnabyddiaeth ariannol a roddir i aelodau cyfetholedig ar draws awdurdodau perthnasol yn y teulu llywodraeth leol.
Bydd y Panel yn ystyried canlyniadau'r ymgynghoriad.
Fframwaith a methodoleg ar gyfer cydnabyddiaeth ariannol i rolau uwch
Ystyriodd y Panel bapur ar yr adolygiad o'r fframwaith a'r fethodoleg ar gyfer cydnabyddiaeth ariannol i rolau uwch mewn Prif Gynghorau, Cynghorau Cymuned a Thref, Awdurdodau Tân ac Achub, ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, a Chyd-bwyllgorau Corfforedig.
Er mwyn deall y sefyllfa bresennol o ran cydnabyddiaeth ariannol a llwyth gwaith uwch rolau, trafododd y Panel y penderfyniadau presennol, y dystiolaeth sy'n bodoli ar hyn o bryd, a'r bylchau yn y dystiolaeth honno.
Cytunodd y Panel i ddatblygu cwmpas manylach ar gyfer y gwaith hwn yn yr hydref 2024, ymgymryd ag ymchwil bellach, a nodi gwybodaeth a chamau posibl i'w cynnwys yn yr adroddiad etifeddiaeth i'w ystyried yn y dyfodol gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.
Y gofrestr risgiau
Adolygodd y Panel y gofrestr risgiau, gan gytuno i wneud rhai diwygiadau iddi.
Adolygu gofynion adrodd Cynghorau Cymuned a Thref
Cytunodd y Panel ar dempled pro forma diwygiedig ar gyfer casglu gwybodaeth am y lwfansau a delir i Gynghorwyr Cymuned a Thref. Mae'n ofynnol i gynghorau gwblhau, cyflwyno a chyhoeddi'r ddogfen hon, sy'n cael ei gweld gan y Panel fel rhan o'i asesiad o gydymffurfiaeth â'i benderfyniadau.
Cytunodd y Panel i rannu dogfen y templed newydd a'r nodyn cyngor cysylltiedig gyda Chlercod Cynghorau Cymuned a Thref, Un Llais Cymru, Cymdeithas Clercod Cynghorau Lleol, a Chymdeithas Cynghorau Lleol Gogledd Cymru.
Unrhyw fater arall
Nododd y Panel fod Cyfnod 3 y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) arfaethedig wedi ei ohirio tan 2 Gorffennaf.
Y cyfarfod nesaf
Bydd cyfarfod nesaf Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn cael ei gynnal ar 23 Gorffennaf 2024.
Os bydd gennych unrhyw faterion yr hoffech eu codi gyda’r Panel, mae croeso ichi gysylltu drwy'r Ysgrifenyddiaeth, cyfeiriad e-bost: IRPMailbox@llyw.cymru.
