Neidio i'r prif gynnwy

Mynychwyr

Frances Duffy, Cadeirydd
Saz Willey, Is-gadeirydd
Bev Smith,  Aelod
Leighton Jones, Ysgrifenyddiaeth
Sara Rees, Polisi Llywodraeth Leol (arsylwi)
Shan Whitby, Polisi Llywodraeth Leol (arsylwi)
Kevin Griffiths, Pennaeth Polisi Partneriaethau Llywodraeth Leol
Lyn Cadwallader, Prif Weithredwr, Un Llais Cymru
Paul Egan, Dirprwy Brif Weithredwr, Un Llais Cymru
Mark Galbraith, Swyddog Cyswllt Polisïau Cymru, Cymdeithas Clercod Cynghorau Lleol

Cyflwyniad

Cyfarfu Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel) ddydd Mercher 26 Ebrill.

Nod y cyfarfod oedd llofnodi'r gofrestr risgiau chwarterol, trafod cydymffurfiaeth Cynghorau Cymuned a Thref ac adolygu'r Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu drafft. Bu'r Panel hefyd yn ystyried ymholiadau a gafwyd ers y cyfarfod diwethaf.   

Mae crynodeb isod o drafodaethau a phenderfyniadau'r Panel.

Cydymffurfiaeth Cynghorau Cymuned a thref

Ystyriodd y Panel newid gofynion cydymffurfio Cynghorau Cymuned a Thref mewn perthynas â ffurflenni datganiadau o daliadau.

Gwahoddodd y Panel gynrychiolwyr o Un Llais Cymru a'r Gymdeithas Clercod Cynghorau Lleol i drafod y cynigion a gofyn am eu barn.

Bydd y cynigion yn cael eu hamlinellu yn yr adroddiad blynyddol drafft nesaf, a fydd yn cael ei gyhoeddi'n ddiweddarach yn y flwyddyn.

Cofrestr risgiau

Llofnododd y Panel y gofrestr risgiau ddiwygiedig. Bydd hon yn cael ei hadolygu a'i diweddaru bob chwarter.

Cyfathrebu ac ymgysylltu

Trafododd y Panel y Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu drafft a chytunwyd i ddiweddaru'r ddogfen er mwyn ei llofnodi yng nghyfarfod mis Mai.

Ar ôl cytuno ar hyn, bydd y Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Panel.

Unrhyw fater arall

Trafododd y Panel bedwar ymholiad a gafwyd gan ddau Gyngor Cymuned a Thref, un Prif Gyngor ac un unigolyn, drwy'r Ysgrifenyddiaeth, a chytunwyd arnynt. Gofynnodd yr ymholiadau hyn i'r Panel am gyngor ac eglurhad ynghylch prosesu taliadau i Gynghorwyr.

Y cyfarfod nesaf

Bydd cyfarfod nesaf Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn cael ei gynnal ddydd Mercher 24 Mai, pan fydd y Panel yn cwblhau ei strategaeth gyfathrebu ac ymgysylltu ac yn trafod ei Gynllun Ymchwil a Thystiolaeth.

Os oes gennych unrhyw faterion yr hoffech eu codi gyda'r Panel, mae croeso ichi gysylltu â ni drwy'r Ysgrifenyddiaeth gan e-bostio IRPMailbox@llyw.cymru.